Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DRWG fydd gan bawb o'n darllenwvr ddeall fod v Prifardd Pedrog a Golygydd Newydd ein Barddoniaeih, J. J. Williams. Pedrog, golygydd medrus a hynaws barddoiliaeth y TYST, wedi bod yn wael iawn, ond dywenydd gen- Uyrn ychwanegu ei fod yn llawer gwell, ac fod pob argoel yn awr fod y gwaethaf wedi myned heibio, ac y caiff adferiad llwyr a buan. Blin oedd gennym dderbyn ei ymddiswyddiad fel ein golygydd bardd- oniaeth, wedi iddo ddal y swydd am gynifer o Jiynyddoedd gyda'r fath lwydd a lies i'n beirdd ieuainc, ond dan yr amgylchiadau nid oedd dim arall i'w wneud. Ni bu anwylach a liynawsach prifardd erioed na Phedrog, a theimlir chwithdod wrth gofio 11a cheir ei sylwadau clifyr a chraff ar gynhyrehion y beirdd ar ein tudalennau mwy. Diolchwn iddo o galon gynnes a diffuant am ei lafur a'i wasanaeth gwerthfawr, am ei ffyddlondeb i ni yn bersoiiol ar hyd tymor ein golyg- iaeth, ac am ei amynedd a'i sirioldeb mawr dan ambell demtasiwn go gref i wylltio a digio wrthym ni a'r holl staff. Prynliawn da, ein hen gyfaill hoff, a Duw fo'n dirion wrthych yn eich nychdod a'ch gwendid, gan adfer ohono chwi yn fuan i'r cylchoedd pwysig ydych yn lanw mewn byd ac Eglwys, gwasg ac eisteddfod, Hen a clian. Da gennym hysbysu e i n bod wedi llwyddo i gael olynydd teilwng i Pedrog yng ngolygiaeth y farddoniaeth ym mher- son y Prifardd addfwyn a galluog, y Parch J. J. Williams, Treforris. Ilyderwn y ca bob cymorth gan y beirdd, ac y ca bleser a mwynhad wrth gloriannu eu gwaith. Yn ei law ef y mae pob gallu a berthyn i iarddas y TYST, ac felly anfoned y beirdd eu caniadau yn uniongyrehol iddo ef, i'w gyfeiriad personol— Tabernaci, Morris- ton, Glam. Diolchwn Yllgynnes iawn iddo am ei barodrwydd yn ymgymeryd ar gorchwyl trafferthus ond hyfryd hwn. Wele lythyr ymadawol Pedrog, ond teg hysbysu iddo ei ysgrifennu beth amser yn ol, a chyn gwybod ohono am ei olynydd. NID oes' angen ond ychydig eiriau ond buasai braidd yn anfoesgar ynof i gilio Gair o'r neilltu heb gyflwyno fy niolch Ymadawol. i'r gohebwyr ffyddlon ac amynedd- gar a gefnogodd Golofn Farddonol y TYST yn ystod y blynyddoedd y bum yn ceisio ei ,o l v, ei golygu—yn ddigon diffygiol, ond cystal ag y gallwn i tan yr arngylchiadau. Pel y sylwodd y darllenwyr, gwnaethum gais ar ol cais am gefnogaeth beirdd cyfarwydd, am lai o gyfan- soddiadau meithion a cbyffrediu yn y ffurf o farwnadau, yn gystal ag ar aclilysuron o sef- ydliad, ymadawiad a thystebiad, &c. Fel y gofelais sylwi, yr oedd yr aclilysuron hyn yn golygu gwir deilyngdod, fel rheol, ac yn cynnwys cymeriadau disglair a llafur ffyddlon uwchlaw pob pris daearol ond yr liyn a'm gofidiai oedd nieithder a chyffredinedd y cyfansoddiadau, a'r dirwasgiad roddid arnaf gan hysbysiadau iliegis, 'Amlygodd y cyfarfod awydd cryf am i'r cyfan- soddiadau hyn gael yinddangos yn y Tyst Mae'r perthyna'sau'n dderbynwyr cyson o'r TYST, ac yn disgwyl am weled y llinellau amgae- edig ynddo "Roedel yr ymadawedig yn un o brif golofnau Annibyniaeth yn y cylch, ac yn ddarllenydd cyson o'r TYST Danghosais y llinellau i amryw feirdd, ac yr oeddynt yn fy ngliynghori i'w danfon i'r TYST,' &c. Fe wel y craff, ac fe gydnebydd y cyfiawn-farn, nad yw hyn oil yn cyffwrdd a'r pwnc, sef teilyngdod y cyfansoddiadau. Pwy sy'n ddigou mawrfrydig i ganiatau fod pregeth yn un deilwng am yr unig reswm fod y testyn yn un da ? Gwaeth na'r cyfan, bu rhai yn sgrifennu i ymosod arnaf am wrthod cyhoeddi cynhyrchion ag y gwyddwn yn dda 11a fuasai neb yn eu darllen—o ran dim gwerth oedd yncldynt-ac yn bygwth rhot'r TYST i fyny. Wel, mi ddychwelais o Undeb Brynaman tan annwyd trwm, a dywed y meddyg am imi ofalu rhag draff Ha u. Yr wyf am geisio gwneuthur hynny ac un o'r mathau gwaethaf ar ddrafft- iau i mi yw sylwadau ac ymddygiadau sydd yn ceisio dirwasgu ar fy marn, ac ymosod arnaf am ymddwyn yn ol fy marn gydwybodol. Gofid i mi oedd siomi neb, a'm prif amcan fu ceisio sicrhau Colofn Farddonol deilwng o'r Enwad, ac yn agos i gyfartal a theilyngdod llenyddol y TYST yn gyffredinol tan law ei Olygydd galluog presennol. Gyda llaw, mae llythyrau'r Parch. Fred Jones, B.A., B.D., ar I/oywi'r Gymraeg,' o werth mawr. Y gresyn yw fod cynifer yn rliaffu prydyddu heb astudio dim ar elfennau symlaf iaith, a hynny pan mae helaethrwydd o fanteision yn eu cyrraedd. Yn awr, gobeithiaf bob llwydd i'r Golofn Farddonol. Gall y llwydda'r Golygydd nesaf i sicrhau cefnogaeth beirdd cyfarwydd ein Hen- wad. Gall y bydd ganddo fwy o wroldeb na mi i fynnu ei ewyllys ynglyn a'r math ar bryd- yddiaeth yr achwynais o'i phlegid. Ac mae'n ddiamheuol gennyf y gall gyfleu mwy o addysg i'w ohebwyr. Ond ni all ei lwydd fod yn fwy na'm dymuniad i. Yr eiddoch yn gywir, PEDROG. I

Advertising

Y Parch. Robert Griffith a'r…

Advertising

Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.