Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Aberhonddu. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Aberhonddu. I YMADAWIAD Y PARCH. T. GWYN THOMAS. I Nos Sul, Awst 13eg, bu'r Parch. T. Gwyn Thomas Y11 ffarwelio ag eglwys Annibynnol .Seisnig Glamorgan-street, Aberhonddu, ac a'r (lref a'r cylch lie y llafuriodd gyda chymerad- wyaeth mawr yn ystod y naw nilyiiedd diweddaf, cyn ymadael ohono am ei gylch newydd fel gweinidog eglwys Annibynnol Seisnig Briton Ferry. Cymerodd aelodau a chynulleidfa Glamorgan-street fantais ar yr achlysur i anrhegu Mr. Thomas a chyfrolau yr Hen Destament o'r Century Bible, wedi eu rhwymo'n hardd. Hefyd anrhegodd boneddigesau'r dosbarth gwnio Mrs. Thomas a silver cake dish hardd fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i gwasanaeth ffyddlon, ac fel datganiad o'u teimladau da. Cynhaliwyd y cwrdd ffarwelio ar derfyn y gwasanaeth nos Sul, a daeth Yllghyd gynrych- iolaeth dda o aelodau Eglwysi Rhyddion y dref i ymuno gyda chyfeilliol1 Glamorgan-street mewn datgan eu gwerthfawrogiad o waith a gwasan- aeth a chymeriad Mr. Thomas, ac i ddymuno'n dda iddo gogyfer a'r dyfodol. Cymerwyd y gadair gan Faer y dref (Cynghorwr G. T. Jones). Dar- llenwyd nifer o lythyrau yu datgan gofid oher- wydd absenoldeb o'r cyfarfod. yn cynnwys rhai oddiwrth y Prifathro Lewis a'r Athro John Evans (dau o ddiaconiaid yr eglwys) yn talu teyrnged uchel i Mr. Thomas fel pregethwr a bugail, ac i'r gwaith mawr a wnaeth yn y dref a'r sir ynglvn a gwahanol fudiadau a chym- deithasau Enwadol a chyhoeddus. Mr. R A. Watts (ysgrifennydd yr eglwys) a ddywedodd, pe cofid am y swyddi lluosog a lanwyd mor effeithiol gan Mr. Thomas, y buasai hynny'n ddigon i gadw ei goffadwriaeth yn wyrddlas am flynyddoedd lawer. Mr. H. T. Jones a siarad- odd ar ran yr Ysgol Sul ac Undeb Ysgolion Sul y cylch, gan bwysleisio gwasanaeth amhrisiadwy Mr. Thomas i'r sefydliadau hyn. Siaradwyd ar ran Eglwysi Rhyddion y drei gan y Parch. D. 0. Griffith (B.), eglwys Porthydwr, yr liwn a dalodd deyrnged uchel i Mr. Thomas fel gwir gyfaill a bonheddwr Cristionogol. Cyflwymwyd yr anrhegion i Mr. Thomas gan Mr. B. T. Lloyd, un o ddiaconiaid yr eglwys, ac i Mrs. Thomas, ar ran y dosbarth gwnio, gan Mrs. Corbett, yr hon a bwysleisiai'r un edmygedd mawr a'r serch cynnes a enillodd Mrs. Thomas iddi ei hun trwy ei charedigrwydd a'i chymwynasgarwch tryloyw. Dywedai'r Maer y byddai ymadawiad Mr. Thomas o'u plith yn golled ddirfawr i Ymneill- tuaeth yn Aberhonddu, a hynny mewn adeg pan nad allent yn hawdd hepgor un o brif golofnau yr Eglwysi Rhyddion yn y cylch. Yna cafwyd ychydig eiriau tyner a phwrpasol iawn gan y Parch. T. Gwyn Thomas, yn diolch i'w gyfeillion llnosog am eu geiriau caredig a'u teimladau da. Ni chafodd neb, meddai, gynorth- wywyr mwy egniol, teyrngarol a ffyddlon nag a gafodd ef yn Glamorgan-street. Hyd yn oed pan demtid ef i ddigaloimi, yr oedd ffyddlondeb a sirioldeb y gweithwyr goreu yn yr eglwys yn gerydd i bob digalondid. Gobeithiai y byddai i'r aelodau ymroddi'n fwy cyffredinol i gynorth- wyo a chynnal breichiau'r ffyddloniaid hyn. Ofnai fod llawer yn eglwysi Aberhonddu yn dioddef oddiwrth Sabbathitis: Byddai atgofion am y caredigrwydd a gafodd yu eu plith yn ysbrydiaeth iddo yn ei gylch newydd. Siaradwyd ymliellach gan y Parchn. R. J. Williams, eglwys y Plough; Joseph James, Llundain ac R. G. Thomas (B.). Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. T. G. Davies (M.C.). Heblaw y cyfarfod uchod, cynhaliodd gwein- idogion Ymneilltuol Aberhonddu gyfarfod ar- bennig i ddymuno'n dda i Mr. Thomas nos Wener, Gorffenuaf 28aiii, yng ngwesty dirwestol y Ddraig Las. Cyfarfod i'w hir gofio ydoedd hwn. Yr oedd hwyl a bias ar yr holl weithred- iadau ac er fod pawb o'r gwyddfodolion yn mawr ofidio oherwydd ymadawiad Mr. Thomas o'u plith, teimlent oil yn falch o'r cyfleustra a gawsant i ymgydnabyddu A'ii brawd caredig a hynaws, a dymunent yn dda iddo am y dyfodol. Llywyddwyd gan y Prifathro T. Lewis, yr hwn a wnaethai ymdrech arbennig i fod yn bresennol, ac efe'r bore hwnnw ymhell ocldi- cartref. Talodd y Prifathro warogaeth uchel i Mr. Thomas fel gweinidog, fel dyn ac fel cyfaill, a chyfeiriodd gydag edmygedd at ei wasanaeth amlochrog ac amrywiol i fudiadau Enwadol a chyhoeddus. Siaradodd y Parsli. D. O. Griffith am dano fel cyfaill personol a gwr brawdol, caredig, unplyg a chanddo gynneddf lenyddol uwchlaw'r cyffredin. Yr Athro Joseph Jones < a gyfeiriodd at ei ddoniau amrywiol fel preg- ethwr coeth a gorffetiedig, llenor medrus, a chyfaill tryloyw. Yr Athro D. Miall Edwards a gyfeiriodd at ei wasanaeth hael i'w Enwad yn y sir, yn arbeunig fel un a lanwodd am flyn- yddoedd y swydd o olygydd i gylchgrawu misol Anuibynwyr Brycheiniog a Maesyfed, ac ysgrif- ennydd Undeb Ysgolion Annibyimol y ddwy sir. Teimlai'11 sicr y buasai'u dra llwyddiannus fel journalist .a lienor pe wedi gwueuthur hynny'n waith ei fywyd; ond cysegrodd ei hunan i waith nwch. Cafwyd allerchiadau pwrpasol a doniol ymhellach gan y Parchn. R. J. Williams a C. A. Harries. Ar ol i'r cwtuni fwynhau'r danteithion a bara- toisid, traddododd Mr. Gwyn Thomas araith faith, yn llawn arabedd a ffraethineb a sylwadau doeth a thyner. Adolygodd mewn inodd didd- orol y naw mlynedd a dreuliodd. yn Aberhonddu, gaii gyfeirio nid Y11 uuig at ei waith uniongyrchol ei hun yn y cyfnod hwnnw, ond at y gwaith a gyflawiiwvd gan aelodau eraill y fraw.doliaeth, yn arbennig eu cyfraniadau i leuyddiaeth gref- yddol y clydd. Edrychai ymlaen yn aiddgar at ei waith yn ei gylch newydd. Tybiai fod yna gyfleusterau cyfoethog i wasanaethu'r Meistr a'i Deyrnas yn ei aros yn Briton Ferry. Penderfynwyd anion cenadwri i Briton Ferry yn enw Cyfarfod Gweinidogion Aberhonddu yn datgan eu gwerthfawrogiad o Mr. Thomas a'i lafur. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Llywydd. Afraid dywedyd fod. y Parch. T. Gwyn Thomas yn fab i'r diweddar Barch. W. Thomas, Gwynfe, yr hwn oedd dra adnabyddus fel gweinidog eang ei ddylanwad a mawr ei ddoniau. Ni chaniata J gofod i nodi'r swyddi lluosog a lanwodd a'r gwaith a gyflawnodd gyda medr ac urddas yn ystod ei arhosiad yn Aberhonddu. Eiddunwn iddo ef a Mrs. Thomas, ac i'r ferch a'r ddau fab taleutog a gobeithiol, hir oes a phob dedwydd- wch. CYFAII,

LLYTHYRAU AT FY NGHYD-WLADWYR.

IYmadawiad y Parch T. Thomas,…

Advertising