Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

R H I G 0 S -I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

R H I G 0 S I Y Ddiweddar Miss Lizzie M orgrtn. Merch ydoedd i Mr W. T. Morgan (Gwilym Alaw) a Mrs Morgan, y Castell, Rhigos, a hi ydoedd yr ieuengaf o'r plant. Hunodd yn dawel ym mynwes yr lesu fore dydd Mawrth, Gorffennaf lleg, yn 18 mlwydd oed, ar ol cystudd byr. Yr oedd yn un o ffyddloniaid yr Ysgol Sabothol till yn faban. Derbyniwyd hi yn gyflawn aelod o eglwys Calfaria yn gyunar yn ei hoes. Trysor- odd lawer o Air Duw yn ei chof, ac adroddodd lawer ohono yn y cyfeillachau ar nos Suliau. Cawsid hi law a chalon gyda phob rhan o was- anaeth y oysegr a phob mudiad daionus. Cafodd fanteision addysg gureu y cylch, a gwnaeth hithau y goreu o'i chyflausterau. Meddai ar got da, meddwl craff a diwylliedig, anian grefyddol, ysbryd siriol a ohalon lawen, ao yn naturiol felly meddai ar lu o gyfeillion. Ni ohai pruddglwyf ddod byth i'w chwmni hi, ond gostyngwyd ei nerth ar y ffoidd, a rhyfedd yw meddwl ei bod hi mown arall fyd, a ninnau yn edryoh ymlaen am ddyfodol maith a disglaor iddi yng ngwinllan Daw ar y ddaear. Nid Fy meddyliau I yw eich meddyliau chwi,' &c Dydd Sadwrn, Gorffennaf 15fed, gosodwyd ei gweddillion i orffwys hyd ei ddyfodiad Ef ym mynwent Penderyn—Machpelah gysegredig y teulu. Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai lluosocaf a welwyd yn Rhigos, ac yn cael ei wneud i fyny gan mwyaf 0 bobi ieuainc. Tystiai dagrau y dorf fod i Lizzie le cynnes iawn yn eu calonnau. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch E. Wern Williams, Hirwaun. Cy- merwyd rhan gan y Parch T. J. Evans, Capel- yglyn, a Rheithor Penderyn. Derbyniodd y teulu lawer iawn o lythyrau oddiwrth weinid- ogion ac eraill sydd wedi bod yn gysur mawr iddynt yn nydd yr ystorm, a theimlant yn ddiolchgar i bawb am eu cydymdeimlad. Ymgysured teulu y Castell yn y ffaith mai I dros brynhawn yr erys wylofain; erbyn y bore y bydd gorfoledd.' Nid yw'r bore ymhell pan y cAnt eto gwrdd 4'u hannwyl Lizzie i beidio ymadael mwy.

CAPEL ISAAC.I

Advertising

IST. CL E A RS.I

G L Y N A R T H E N -I

Rhymni, Mynwy.

Achos i'r Pwyntyn Nhroedyrhiw.