Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

R H I G 0 S -I

CAPEL ISAAC.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL ISAAC. I Marwolaeth Diacon.-Gyda gofid a galar y'n gorfodir i groniclo marwolaeth y brawd ffydd- Ion ac annwyl Thomas Evans, Penybanc, yr hyn gymerodd le dydd Mercher, Gorffennaf 19eg, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd yn un o aelodau hynat yr eglwys uchod ac yn ddiacon ffyddlawn, yn wr parchus yn yr holl ardal, yo frawd annwyl, cymydog caredig, parod ei gymwynas i bawb. Daeth torf luosog o wyr bucheddol o bell acagos i dala'r gymwynas olaf i'w weddillion marwol y Llun canlynol. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn D. Curwen Davies, Pontargothi, a W. Davies, Llandeilo; yn y capel, gan y Parchn J. Davies, y gweinidog; W. Harris, Penrheol; a'r Proff. Oliver, Llanfynydd; ac ar lkn y bedd gan y Parchn T. Thomas (B), Carmel a Llandebie, ac E. L. Hamer, fleer St. John, Maesteilo. Gad- awa'r ymadawedig weddw a thri o blant i alaru ar ei ol. Y mab ydyw Mr D. T. Evans, B Sc., Whitland, ond sydd yn bresennol rhywle yn Ffrainc, ac o ganlyniad methodd ddod i angladd ei dad. Y merched ydynt Miss A. M. Evans, B.A., Gowerton, a Miss Blodwen Evans, Yogol y Cynghor, Pont henry. Gwelir fod yr ymadawedig a'i briod wedi eu bendithio a phlant talentog a galluog teg hefyd yw nodi fod cymeriadau y plant lawn mor ddisglaer a'u talentau, ac y mae'r tri yn addurn ac yn urddas i hen ardal enwog Capel Isaac. Cydymdeimlwn yn ddwys a Mrs Evans ar ol priod mor hoff ac anuwyl, ac A'r plant wrth golli tad mor dyner a gofalus, a gweddiwn ar i'n Tad Nefol daenu Ei aden gysgodfawr drostynt, a'u nerthu i ddwyn eu croea yn ddirwgnach. Llanwed hefyd y bylchau ami wneir yn Seion y dyddiau hyn a dynion o gyffelyb nodweddion i'r ymadawedig.

Advertising

IST. CL E A RS.I

G L Y N A R T H E N -I

Rhymni, Mynwy.

Achos i'r Pwyntyn Nhroedyrhiw.