Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Papur a ddarllenwyd yng Nghwrdd Chwarter Arfon. rhai ohonoch chwi all roi sicrwydd o hynny i ni ? Os nad oes, maddeuer i ni am fod yn ddrwgdybus o'r fargen; a hynny'n fvvy pan y cotlwn fod gennym ragorach cynllun i siwtio Cymru, sef Dewisiad Feol. Ffurfio Plaid Gyni- reig ddylid, genedlaethol i'r earn—plaid wrtli- odai gymryd ei rhwymo wrth unrhyw blaid yn y byd 11a fodlonai i ni yng Nghymru gael gweitliio allan ein hiachawdwriaeth ein hunain yn ein ffordd ein hunain. Pe baem wedi bod mor selog gyda Dirwest ag ydym wedi bod gyda Datgy- sylltiad, buasai Dewisiad Leol yn ffaith ers llawer dydd Yn awr, a fyddai cenedlaetholi yn hyrwyddo'r ffordd i'r diwedd hwn ? Neu a beidiai a bod yn atalfa ychwanegol ? A ddygai'r 'ddaear newydd,' yn yr hon y teyrnasa cyfiawnder a sobrwydd,' yn nes atom ? Ynte a beidiai a thragwyddoli'r pethau sydd ? Nid yn unig a fyddai pethau cystal ag-y maent ? oblegid pamy lluchiwn ddau neu dri chan miliwn o arian am y fraint o gadw pethau fel y maent ? Dylem gael diwygiad yn ad-daliad am brynedigaeth mor ddrud. Beth fyddai effeitliiau tebygol cenedlaetholi ar chances Prohibition ? Dyna gnewyllyn y cwestiwn i ni. Os ydyw yn debyg o fod yn atalfa ar ei ffordd, nid oes ond un petli rhesyniol i wneud, sef ei wrthod. A sylwer ar hyn mai fel atalfa yn ffordd Gwaharddiad y dadleuir o'i blaid gan rai o'i hyrwyddwyr pennaf. Ond ebych, Edrychwch ar Rwsia. Caed Gwahardd- iad yno yn llwybr cenedlaetholiad. Gan mai dyna gaed yno, dyna geid yma.' Post hoc, ergo propter hoc.' Yn bendifaddeu, mae Gwaharddiad yn Rwsia wedi gwneud gwyrth. Clywais areithiwr hyawdl y nos o'r blaen yn gwneud case da mai i Wahardd- iad yn Rwsia yr ydym i clcliolch na fai'r Germau- iaid, ym misoedd cyntaf y rhyfel, wedi cymryd Paris a llawer yn rhagor. Wedi cyrraedd y Marne, a Paris o fewn ergyd ymron i fyddin- oedd buddngoliaethus y Kaiser, dyma air i'w glust fod byddinoedd y Czar wedi croesi drosodd i Prwsia. Rhaid troi cyfran o'r byddinoedd buddugoliaethus ruthrent ar Paris yn cl i wrth- sefyll y Rwsiaid, y rhai, yn ol program William, nid oeddynt i gyrraedd am dair wythnos yn hwy. Buasai'r program hwnnw yn sefyll onibai i'r Czar wahardd y fasnach feddwol yn ystod y mobilisation. Y tair wythnos hynny gadwodd Paris-a thair wythnos o Waharddiad oeddynt. Gwir mai dan genedlaetlioliad y caed y diwyg- iad ond nid oedd hynny ond damwain. Buasai mor hawdd i'w gaelyn Rwsia dan unrhyw gyfun- drefn arall. Yn wir, buasai'n hawddach. Pe bai'r Fasnach yn eiddo preifat, ni chollai'r Llyw- odraeth wrth ei chau ond y tollau yn unig ond bu raid iddi aberthu cyfalaf hefyd ynghyda'r enillion. Ac onid hawddach tynnu cnau o'r tan os gellwcli wthio bysedd rhywrai eraill iddo ac arbed yr eiddych ticli liun ? Ond ystyriwyd amgy lchiadau eithriadol y rhyfel yn ddigon i gyfreithloni'r aberth driphlyg hon. Yn awr, a ddisgwyliwn alanastra cyffelyb i gymryd lie eto yn y dyfodol er mwyn i Brydain, wedi iddi genedlaetholi'r Fasnach, gael cymhelliad digon cryf dros ei gwahardd ? Na ato Duw Ac na anghofxer fod yr hyn sy'n bosibl yn Rwsia dan rai amgylchiadau yn gwbl amhosibl ym Mhrydain dan bob amgylchiad. Cwbl wahanol yw'r ddwy ymerodraeth, yn ysbryd eu llywodraeth a chymeriad eu deiliaid. Unben- aethol yw Llywodraeth Rwsia. Gall y Czar wneud pethau na freuddwydiai George V. eu gwneud. A gair o'i enau, heb dalu ceiniog goch, gallodd y Czar genedlaetholi'r Fasnach. Ni all Brenin Lloegr wneud hyn—ie, hyd yn oed pe yr at'egid ef gan y Prifweinidog galluocaf Nid ydym ninnau ym Mhrydain yn llai argyhoedd- edig na fai Gwaharddiad yn llesol yn ystod y rhyfel: 'does neb wedi traethu mor groyw a Mr. Lloyd George ar hyn. Pani na fai ein Llyw- odraeth yn symud i'r cyfeiriad. ? 'Roedd Cyfalaf, yn y ffurf o brif feistriaid y deyrnas, yn barod i roi help llaw 'roedd y Wasg fwyaf dylanwadol o'i du 'roedd hefyd ddigon o arian wrth law i dalu i'r Fasnach am y fraint o'i hatal am ysbaid. Pam, ynte,. na bai'r gwaith wedi ei wneud ? Ofn gweithwyr y deyrnas sydd wedi bod ar y ffordd. Ond ni wyydai y Czar ddim am yr ofn hwn. Gan hynny, dyma factor dieithr y rhaid i ni ym Mhrydain wneud cyfrif ohono pan yn delio a'r Fasnach, wedi, fel cyn, cenedlaetholiad. Ac wedi cenedlaetholiad dygir i mewn com- plications newyddion. At flys y meddwon, chwi ddeffrowch gri'r trethdalwyr—a chri anaele yw. Yr ydych yn mynd i brynu'r Fasnach am ryw ddau neu dri chan llliliWll. Gellir gwneud enill- ion o £ 50,000,000 yn rliwydd pan y daw yn eiddo i'r wlad—enillion ychwanegol at ddiiii geir drwyddi heddyw, cofier. Dyna amcan- gyfrif Syr T. P. Whittaker, ac nid fel business speculation y cynghora ef ni i fynd i mewn iddi. WTedi pryuu buwch fydd yn godro inor dda, a thalu mor ddrud am dani, a fydd hynny'n gymhelliad i'w throi i'r mynydd i lwgu a mynd yn hesp er mwyn cael esgus dros ei lladd a'i llosgi, heb arbed cymaint a gwerth y croen ? Onid yw'r peth yn ynfyd ar ei wyneb ? Dian y buasai nifer fechan o ddirwestwyr yn barod i wneud hynny. Ond penboethiaid dall ydynt hwv Pwy a'u dilynai ? Pie mae'r votes sydd i gario drwodd y cyfryw ddiwygiad hunan- golledus ? Dadl y cenedlaetholwr yw, ond prynu'r Fasnach y cai sentiment moesol ffordd rydd i symud ymaith y felltith. Eiii dadl ni yw, mai mygu'r sentiment hwnllW wuaecli, a gwneud yr almighty dollar yn fwy dieflig nag erioed.

Buasai yn Anesboniadwy.

COLOFN YR EGLWYS.