Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
University College of South Wales and Monmouthshire, Cardiff. (Coleg Prifathrofaol Deheudir Cymru a Mynwy). LKCXURIVS ON MIDWIFERY, COMPULSORY IN ME THEORETIC AT. TRAINING OF MIOWIVES A COURSE of iustructim for the Theoretical Training of Midwives, under the Midwives Act, 1902, will be held at the College Buildiags, Newport-road, Cardiff, in the OcLob-r Te:m,of Session 1916-17. The Courses include tweuty-fjur lectures, twelve tutorial demonstrations and a class of examinations for certificates. The first lecture in the Michaelmas Term will be held o;i F.i lay, October 6th, 1916, at 3.15 p.m. The fee for the Course will be £2 2s. but in the case of students from the contributing counties of Glamorgan and Cardiff, a reduction of 10s. 6d. will be made in the fee. The Education Committee of the Glamorgan County Council grant twenty-one free student- ships each year (seven each term) and pay the fees of twenty-four students each year (eight each term). The Cardiff City Council Educati m Committee grant twelve free studentships (four each term). The railway fares of the Glamorgan Free Students are paid by the County Council. Further particulars of the Glamorgan Free Studentships may be obtained from the Clork to the Glamorgan County Council, County 'Hall, Cardiff, and further particulars of the Cardiff Free Studentships may be obtained from the Director of Education, City Hall, Cardiff. August, 1916. D. J. A. BROWN, Registrar. Y GRONFA. CYNHELIR y Pwyllgor nesaf yng nghapel yr Annibynwyr, Llandrindod, dydd Mercher, Hydref y 18fed, am 2.30. Dylai pob cais fod yn llaw yr Ysgrifenyddion ar neu cyn Hydref y 4ydd. H M. HUGHES,1 W. G. OWEN, f —S?. For Sale, suitable for Lighting Large Building, ACETYLENE GAS PLANT IN good working order, with Double -L Generators 30 inches by inches, suitable for continuous working; one Gasometer 42 inches by 30 inches; one Purifier 30 inches by 9 inches, including all connections for supplying 32 lights.-Apply to—DANIEL REUS, Bancyreithin, Gorseinon.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-—-Pob Ochr i'r Heol—Hyu a'r Llall o Babilon Fawr-Seranton, Pa.—Cynhadl- edd Genhadol Cyniru—-Pontardulais—Glandwr, Abertawe—-Bodf an — O'r Ffosydd—-Llanelli— Cyfarfodydd.
Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y BRIFYSGOL A DIWINYDD- IAETH. YR OCHR ARALL. WEDI dangos geudeb y gwrthddadleuon ymarferol ddygir yn erbyn y mudiad i ddysgu Diwinyddiaeth yn y Colegau Cen- edlaethol dan arweiniad ac arolygiaeth y Brifysgol, awn ymlaen i nodi'r ystyr- iaethau uwch y cyfeiriasom atynt yn ein hysgrif ddiweddaf a ddylai fod yn help i ni ffurfio barn ar y mater. Ond cyn gwneud hynny, dymunem atgofio ein dar- llenwyr fod y Brifysgol yn awr yn torri allan feysydd diwinyddol y mae'n rhaid i'r Colegau Enwadol gadw o'u mewn os am ennill a chadw cydnabyddiaeth y Brif- ysgol ohonynt fel sefydliadau diwinyddol, ac yr arholir eu myfyrwyr am raddau diwinyddol yn awr gan arholwyr a delir yn gwbl o incwm y Brifysgol—hynny yw, o'r wladwriaeth. Hefyd, anfonir o bryd i bryd gan y Brifysgol gviirychiolwyr i edrych i mewn i drefn a chymhwyster y Colegau Enwadol, o ran llyfrgell, &c., i gario ymlaen yn effeithiol eu gwaith o gyfrannu addysg ddiwinyddol er bodlon- rwydd Elys y Brifysgol ac i'r Llys hwnnw yn unig y cyflwyriant eu hadroddiad, a'r Llys hwnnw yn unig sy'n eu talu am eu gwaith. 0 ran egwyddor, gan hynny, ofer yw'r ddadl ein bod yn anghyson a/n tradd- odiad Ymneilltuol wrth bleidio addysg ddiwinyddol yn y Colegau Cenedlaethol, canys yr ydym eisoes trwy ddysgu Heb- raeg a'r Hen Destament yn y Colegau, ac arolygiaeth ac arholiadau'r Brifysgol, yn manteisio ar y wladwriaeth ym mharatoad ein myfyrwyr ar gyfer y weinidogaeth. Nid oes dim yn groes i'r hyn wneir eisoes yn y cynnyg newydd am ychwaneg o'r un peth. (1) Ond wedi'r cwbl yr hyn ddylai ben- derfynu'r holl gwestiwn ydyw budd uchaf crefyddol ac ysbrydol Cymru, yn unol ag egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb cenedlaethol. Gwrthwynebwn gysylltiad crefydd a'r wladwriaeth ar y tir hwn— credwn ei fed yn anwdyol i grefydd ysbrydol am ei fod yn groes hollol i ryddid a chydraddoldeb. Ond a ydyw dysgu canghennau o Ddiwinyddiaeth nad oes y perygl lleiaf i'w gwneud yn enwadol a sectaraidd, cattghennau -sy' ii hanfodol i ddiwylliant unrhyw un a gymer arno arwain mewn pethau ysbrydol a chref- yddol, yn niweidiol i grefydd a rhyddid ? Ai nid yw cael gweinidogaeth oleuedig, uchelddysg, a thrwyadl ddiwylliedig yn un o anhepgorion ffyniant uchaf ysbrydol Cymru ? A ydyw'r Alban ac America wedi bod ar eu colled ysbrydol am fod Diwinyddiaeth yn eu prifysgolion ? Dy- wedir fod Germani yn enghraifft o hynny ond beiddiwn ateb fod cyflwr crefyddol Germani i'w briodoli i rvwbeth dyfnach a gwaeth na hyn, ac y buasai yn yr un cytlwr yn union pe mai mewn colegau enwadol diwinyddol yn unig yr addysgid ei gweinidogioii. Nid ar y lie na'r dull y cyfrennid yr addysg yr oedd y bai, ond ar nodwedd anffyddol yddiwinyclcliaeth ei hun, neu'r bobl a'i cyfrannent. A thra m a i milwriaeth unbenaethol oedd egwyddor lywodraethol y wladwriaeth, a chrefydd (nid Diwinyddiaeth) yn sefydl- iad gwladol, gyda'r Kaiser yn deyrn hollol anghyfrifol yn yr Eglwys fel yn y wlad- wriaeth, nid anodd canfod fel yr oedd popeth mewn byd ac Eglwys yn gorfod plygu i lywod-ddysg yr Ymerodraeth. Mantais aruthrol i grefydd raid fod gwein- idogaeth drwyadl ddysgedig, os sicrheir yr haitfodion eraill i ysbrydolrwydd per- sonol yr un pryd. A chan na throseddir ar ryddid a chydwybod neb wrth addysgu'r canghennau grybwyllwyd yn. y Colegau Cenedlaethol, mwy .nag y gwneir wrth ddysgu Hebraeg yn awr, dylem ar bob cyfrif fod yn ddigon rhydd ac agored i roi prawf arnynt. Mae'n bosibl cam- ddefnyddio'r cri am ryddid a chydraddol- deb nes ei wneud yr ormes a'r caethiwed mwvaf niweidiol i unrhyw ryddid effeith- iol gwerth yr enw. (2) Eithr onid yw'r drefn bresennol o addysgu gweinidogion yn un hollol fodd- haol ac effeithiol ? Mae wedi gwneud gwaith rhagorol yn y gorffennol, a phan gofir ei hanfaiiteision pwysig mae'n syn ei bod yn llwyddo cystal yn y presennol. Ac onibai fod athrawon medrus, a addysg- wyd dan system hollol wahanol, sef system y Prifysgolion a awgrymir ei dwyn yn rhannol i Gymru yn awr, yn gweithio yn galed i'w gwneud mor effeithiol ag sydd bosibl dan yr amgylchiadau, buasai wedi trengu ers rhai blynyddoedd. Pe mai'r un dosbarth o athrawon fuasai wrth y llyw yn awr ag oedd chwarter canrif yn ol-ac yr oeddynt oil yn ddynion gwych, diwylliedig—buasai wedi torri i lawr yn anobeithiol ers cryn dro. Nid am fod bai ar yr hen athrawon—parch byth i'w henw, a buasai lie i rai ohonynt dan unrhyw gyfundrefn—ond yr amseroedd a'r anghen- ion sydd wedi newid, a rhaid newid y system i gyfarfod a hwynt, onide llethir ein hathrawon presennol a chwtogir effeith- iolrwydd y to newydd o weinidogion. Bycld rhaicl yn fuan talu mwy o sylw i Ddiwinyddiaeth gyfundrefnol neu athraw- iaethol, a Diwinyddiaeth Feiblaidd, yn gystal ag i esboniadaeth a beirniadaeth deg a dofn a phaham nad astudir hanes a cliyffesion enwadol yn llawer mwy effeithiol nag y gwneir ? (A ddysgir hyn o gwbl yn awr ?) Daw cymhwysiad yr Efengyl a Christionogaeth at gwestiynau cymdeithasol ac addysgol a threfnidol hefyd yn fuan yn rhan hanfodol o barat- oad gweinidog. A beth am Ddiwinydd- iaetl-i rii-eiliol, sef gwaith arbennig y gweinidog fel gweinidog ? Mae'n hen bryd codi'r cwestiwn olaf hwn i fwy o sylw, ac mae'n syn fod y Colegau Diwin- yddol wedi llwyddo cyhyd i ddysgu tipyn o bopeth i bregethwr ond ei grefft. Dy- wedwn hyn gyda phob gwerthfawrogiad o'r tipynnach wneir ynddynt yn awr. Y gwir yw, bydd mwy o angen y Colegau Diwinyddol Enwadol nag erioed, a chyf- lawnant eu gwaith yn llawer effeithiolach wedi ehangu eu maes a'u cylch a gellir gwneucl hynny pan ysgafnheir eu baich trwy'r cyfnewidiad a gynygir. (3) Ac mae mwy na hyn yn y glorian o gyfeiriad Diwinyddiaeth ei hun. Addefir fod y myfyriwr Cymreig, fel rheol, yn wr crvf deallol, ac mae llawer un wedi dis- gleirio yn llachar yn eu gyrfa a'u harol- iadau. Ond lie mae Diwinyddiaeth arben- nig Cymru ? Mae gan yr Alban ei lie yn y byd diwinyddol, a pherthyn iddi fath ar A'Sgol o Ddiwinyddiaeth. Mae wedi cvnhvrchu diwinvddion. Paham ? Am fod ei meib goreu wedi cael y fantais aruthrol o ddiwylliant prifathrofaol gar- tref ac oddicartref. Ant i brifysgolion eu gwlad, a rhai Lloegr a'r Cyfandir, a deu- ant yn ol i gyfoethogi lien ddiwinyddol eu gwlad eu hunain. A sylwer mai o'r prif- ysgolion y daw'r diwinyddion ymhob gwlad, ac nid o'r Colegau Enwadol. Yno y ceir yr ehangder a'r brwdfrydedd a'r hyfforddiant gofynnol i gyrraedd tiroedd uchaf y wyddor, fel yn wir y ceir gyda phob gwyddor. Ac o'r Prifysgolion y gofala Cymru ers cryn dro am dynnu ei hathrawon diwinyddol. Pob parch i'r B.D. Gymreig, ond nid mater o radd, eithr mater o training wrth draed mawr- ion y byd diwinyddol ac mewn amgylch- oedd lletach eu gorwel nag a geir mewn coleg enwadol y megir athrawon. Credwn y byddai gan ein hathrawon presennol fwy o amser at dorri tir newydd, a mwy o chwaeth ac awydd ato, pe disgwylid wrthvnt hyfforddi'r bechgyn mewn trefn