Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
GALWADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALWADAU. HBN GAPEL, LLANYBRI, A BBTAESDA, LLAN- GYNOG -Y mae'r eglwysi hyn wedi estyn galwad daer ac unfrydol i'r Parch W. H. Cassam, Niwbwrch, sir Fon, i ddod i'w gwein- idogaethu. Mawr hyderwn ygwna ei hateb yn gadarnhaol.S. Jones, Ysg.
CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. CARMEL, PENRHIWCEIBR.—Y Parchn Rhys M. Rhys, Ystradgynlais, a S. Roberts, Llanbrynmair, fu'n gwasanaethu yn uchel-wyl yr eglwys uchod Sal a Llun, Medi lOfed a'r lleg. Cafwyd pregethau grymus i gynulliadau mawr. Dilyned bendith y Pen Bagail, a chaffed yr had da ddyfnder daear yng nghalonnau y torfeydd ddaeth ynghyd i wrando'r Gair. Y TABERNACL, AMWYTHIG.—Y Sul cyntaf ym Medi y cynhaliodd yr eglwys hon ei chyf- arfod biynyddot eleni, pryd y gwasanaethwyd ar hyd y dydd gan y Parch Dr R. Gwylfa Roberts, Llanelli. Oafwyd cynalliadau rhag- orol ac odfeuon llewyrchus iawn. ABERAFON Pregethwyd yng nghryddau blynyddol y Wern, Medi lOfed a'r lleg, gan y Parchn D. J. Griffiths, M.A., Bristol, ac R. T. Williams, Pant-teg, Caerfyrddin. Cafwyd odfeuon braf yr Efengyl yn hyfryd a nerthol i'wgwrando, a'r cynulleidfaoedd yn dra Iluosog. Casglwyd at drysorfa y ddyled. Gwelwyd amryw weinidogion o'r cylch yn bresennol, a llywyddwyd gan weinidog parchus y lie, set y Parch John Griffiths.. TYNYCOED.—Cynhaliwyd cwrdd blynyddol yr eglwys yn y lie uchod Saboth, Medi 13eg. Gweinyddwyd gan y Parchn J. Evans Jones, Sciwen, a D. Hughson Jones, Berea, Penfro. Cafwyd hin ddymnnol a cbynulliadau llawnion a gwenau nef a daear trwy yr holl wasanaeth. SARON, BRYNCOCH.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol y Saboth a'r Llun, Medi lOfed a'r lleg, pryd y gwasanaeth- wyd gan y Parch D. M. Davies, Waunarlwydd. Nos Lun, traddodwyd ganddo ei ddarlith ar 4 Un o Wroniaid y Pebyll' i lond capel o bobl. Cymerwyd y gadair gan Mr Gwilym Davies, Bryncoch. LIBANUS, CWMGWILI.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod hanner-blynyddol ar y Sul, Medi lOfed, pryd y pregethwyd gan y Parch J T. Gregory, Peniel, Caerfyrddin. Cafwyd pregethau grymus, ac yr oedd y cynull- iadau yn lluosog.
Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
wahanol i'r un bresennol. A cliredwn, hefyd, y ceid ambell athrylith o fyfyriwr a welai ei Iwybr a'i gyfle o Brifysgol yn gynt nag y gall yn awr. (4) Ac onid yw'n rhyfedd meddwl yr addysgir bron bopeth yn ein Colegau Cenedlaethol oddigerth yr hyn sy fwyaf nodweddiadol o Gymru a mwyaf cydnaws ag anianawd y Cymro crefyddol ? Pulpud a chrefydd a lien Cymru sydd wedi ei gwneud yn hollol, ac eto nid adlewyrchir ei harbenigrwydd pennaf-ei llinell fedd- iylol amlycaf-—yn ei Phrifysgol i'r graddau lleiaf. Caeir y drws yn hollol yn ei herbyn. Mae hyn yn golled genedlaethol, a gall yn wir fod yn tlodi'r byd i gyd yn y pen draw trwy ei amddifadu o'r cyf- raniad disglair allasai Cymrn estyn i Ddiwinyddiaeth. (5) Gwelsom brotest un cyfaill dysgedig a galluog yn erbyn rhoi unrhyw gangen o Ddiwinyddiaeth i'w haddysgu gan 3r Colegau a'r Brifysgol am eu bod yn sef- ydliadau hollol dymhorol a secularaidd, ac 11a ddylid yniddiried i'r bobl sy'n eu lh-wio ran na chyfran yn y gwaith o gyf- Iwyno addysg mewn peth mor gysegredig. Ond ai nid yw'n hen bryd i ddod a Chol- egau a Phrifysgol Cymrn i nes cysylltiad a p h e t h a u cysegredig ac ysbrydol ? Addefwn fod y Brifysgol fel y mae yn awr yn hollol anghyson a bywyd uchaf y genedl—yn anomaly perffaith mewn gwlad mor grefyddol a Chymru. Ac onid dadl gref yw hon dros newid pethau ? Mantais aruthrol i'r Brifysgol fyddai fod ganddi bulpud rhydd, lie gallai prif bregethwyr Y byd o bob enwad gael drws ago red i bregethu i'w haelodau weithiau. A newid- iai gryn lawer ar awvrgylcll secularaidd y Colegau i gael y canghennau a nodwyd i gwrs eu haddysg. Mae cau y drws fel y gwneir yn awr yn erbyn pob astudiaeth o faterion ysbrydo1 a diwinyddol yn secular- eiddio mwy ar 3r tnvlyrwyr a'r athrawon nag a dybia neb sydd heb fod mewn cyfie i wybod. (6) Sonnir llawer am fwy o undeb a chydweithrediad rhwng enwadau Cymru, ac yn sicr nid heb angen. Ofnwn nad oes dim wedi llesteirio dynesiad a chydym- deimlad yr enwadau at ei gilydd yn fwy na'r system. bresennol o Colegau Diwin- yddol Enwadol. Pe ceid y myfyrwyr i gymysgu mwy a'i gilydd yn yr un dos- barthiadau, ac yn arbennig ped astudient yr un meysydd diwinyddol dan arweiniad gwr o fri yn ei faes a'i gylch fel vsgolor, a chyda'r holl ffiniau enwadol wedi eu dileu, lyddai'r holl enwadau a holl Gymru ar eu hennill yn ol llaw. Mae pethau yn llawer gwell heddyw nag oeddynt chwarter canrif yn ol, am fod hyn yn cymryd lie ar radd fechan ymysg myfyrwyr sy'n graddio. Ond byddai'n ganmil mwy pe byddent yn cydysgolia a chydefrydu yn y meysydd sydd" i fod o werth union- gyrchol iddynt yn eu gwaith fel gweinid- ogion y Gair. Byddent oil ymron yn paratoi ar gyferyrnn am can mewn bywyd, a cheid gweled yn fuan yn eu mysg ryw gyfeillgarwch a chymrodaeth gyftelyd; i'r hyn geir ymysg myfyrwyr meddygol. A mantais amhrisiadwy fyddai hyn pan ddeuent i gydweinidogaethn yn yr un dref neu ardal. Wrth ganfod agosrwydd eu gweinidogion, toddai ambell hen fiaenor ac aelod cut o'r rhew a'r ia enwadol sydd heddyw yn eu gwneud mor stiff a chyrfT marw, ac yn analluog i godi eu golygon dros wrych yr enwad. A beiddiwn ychwan- egu- fod yy rhyfel' erchyll presennol yn sicr o esgor ar broblemau fydd yn ei gwneud yn amhosibl i ni eu hwynebu heb uno'n galluoedd a chydsymud yn frawdol. Os gwir y si, daw llawer Cymro dewr 311 ol o'r gad wedi diosg plisgyn ei enwadaeth i beidio magu un arall byth mwy. Pell- hau oddiwrth bob arwydd o sectariaeth a wna am ei fod wediscael cyfle i weled nad yw'r gwir i gyd gan yr un sect, ac mai digon prin fydd ei gymesuredd a'i swyn a'i nerth hyd yn oed wedi i'r cwbl o'r sectau ddod i garu ei gilydd, a pharchu ac anrhydeddu ei gilydd mewn gair a gweithred, yr hyn yn fyiiyeh sy'n ganmil anos na charu yn yr abstract. Credwn yn I ddisigl mai o ystafelloedd a dosbarthiadau yr un Colegau, lie megir gweinidogion yr oes newydd yn rhydd oddiwrth y miasma enwadol, y mae ein prif obaith am unol- iaeth yr enwadau mewn gwaith ac ysbryd ac amcan, os nad am eu huniad ffurfiol ac agored ryw ddydd a ddaw. Gofidus gan boll gyfeillion y Parch. Ben Ymddiswyddiad y Parch. Ben Evans, Barry. iwans oedd deall ei tod, oherwydd cvflwr anfodd- haol ei iechyd, ac yn unol a chyngor ei feddygon, wedi rhoi i fyny ofal Qweinirlmyaethol eplwvs v O O" -0 V J Tabernacl, He y bu mor ddeciwydd a llwyddiannus am dymor mor faith. Ond llawenydd i'n calon yw hysbysu ei fod, er pan y mae wedi ymddeol d'i ofal eglwysig, eisoes yn teimlo'n llawer gwell, ac yn cryfhau'n gyllym. Ac mae'r meddyg yn caniatau iddo bregethu ar y Sabothau mor ami ag y dynuma, a gwna yntau liyiiny lie bynnag y gelwir am ei wasan- aeth. A gwyr pawb a'i hedwyn gymaint o hyfrydwch a sirioldeb ydyw hyn iddo, canys y mae ei galon yn y pulpud, a'i hoff waith yw pregethu. Treth drom ar y corff cryfaf yw gweinidogaeth setydlog mewn trefi ac ardaloedd poblog a gweith- faol y dyddiau hyn, a'r syndod ydyw na bai mwy yn torri i lawr dani. Dyna fu rhan ein brawd ar hyd ei oes weinidog- aethol, ac mae'r ffaith ei fod yn cryfhau ar ol ymryddhau yn myned ymhell i brofi mai gorwaith oedd achos ei afieclyd. Hyderwn y ca ychwaneg o adferrad, a llawer o fiynyddoedd i wasanaethu ei Feistr a'r eglwysi mewn gweinidogaeth achlysurol, fel y bo'r galw am ei was- anaeth. DIOI,CHWN yn Personal. gynnes i'r llu o gyfeillion sydd wedi anfon eu cofion a'u cydymdeimlad atom yn ystod ein Jianechyd y mis- oedd diweddaf. Ni thybiasom fod eisiau gwneud unrhyw grybwylliad cyhoeddus am y peth, gan nad ystyriwn fod lynny o fawr diddordeb i neb tuallan in teulu a'n heglwys. Ond mae'r llythyrau a'r ymholiadau caredig dderbyniasom wedi ein llonni yn fawr, a pheri i ni deimlo fod gennym nifer luosog o garedigion sydd yn gwerthfawrogi ein tipyn gwasanaeth, ac yn barod i ddweyd hynny hefyd. Eithr dymunem fynegi, yr un pryd, ein bod ymhell o fod yn iach, er ein bod yti llawer gwell nag y buom. Cymer gryn amser ac amynedd mae'n dra thebyg cyn y byddwn, os caniata'r Meistr, yn holliach. Diolch eto i'r ffrindiau hofi mae adeg fel hyn yn rhoi cyfle i ddyn eu nabod—yn gystal a'r lleill. CYFLWYNWN ein cofion a'n cydymdeimlad Cofion a Chydymdeimlad. llwyraf i'r brodyr claf- Pedrog, Rhys J. Huws, T. L. Davies, Cwmparc, R. G. Berry, Tegryn Phillips, Hebron, a D. M. Davies, Waunarlwydd. Da gennym ddeall eu bod oil yn gwella. —Bin cydymdeimlad llwyraf hefyd a'r cyfreithiwr-bregethwr enwog o'r Pentre, Mr. T. Millward, yn ei ofid a'i bryder blin ynghylch ei annwyl fab Selwyn, yr hwn sydd ar goll ar y ffrynt ers rhai wyth- nosau. Milwr dewr o Canada oedd Selwyn, a chawsom y fraint o'i dderbyn yn aelod eglw3rsig pan yn fachgen ieuanc. Deallwn fod pob ymholiad wedi ei wneud, ond heb fawr cysur, ac ofnir y gwaethaf. Diddaned y Meistr y tad a'r teulu yn eu disgwyl pryderus am rhyw newydd. —Mae Lieut. D. J. Evans, llys-fab y Parch O. Lloyd Owen, Pontypridd, wedi ei anafu yn dost ar faes y gwaed, ond dywenydd gennym glywed ei fod yn gwella yn dda. —Chwith oedd gennyn glywed pan ar fynd i'r wasg am farwolaeth yr hen ddiacon ffyddlon, Mr. W. A. Lloyd, ysgrifennydd medrus eglwys Great Mersey-st., Lerpwl, am lawer blwyddyn. Un o'r swyddogion mwynaf, un o'r dynion crefyddolaf a dcethaf, ac un o'r cymdogion caredicaf adnabuom erioed oedd Mr. Lloyd, a chwith yw meddwl am Lerpwl hebddo-