Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

| Y WERS SABOTHOL. t i Y WERS…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

| Y WERS SABOTHOL. t i Y WERS SABOTHOL. i ? Y WERS RYNGWWRIAETHOL. <}> A t — 1 X Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., $ ? TreSynnon. ? 6 6 f J <v> HVDREF iaf Y Brad a fu yn Fethiai-it.Actau xxiii. 14-24. Y TESTYIn EURAIDD. Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni'th orchiYgent canys Myfi sydd gyda thi i'th ymwared, medd yr Ai-glwvdd, Jer. i. 19. RHAGARWEINIOXV. DrANIvOETh dygodd. Lysias, y pen-capten, Paul gerbron y Sanhedrim a'r archoffeiriad er cael gwybod am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon. Tybiai fod yn rhaid ei fod wedi tros- eddu yn erbyn eu crefydd. Yr oedd Dysias eisoes wedi darganfod nad Iddew cyfEredin oedd, a'i fod yn ddinesydd Rhufeinig. Diau ei fod yn awyddus gwybod beth oedd yr achos o'r fath gythrwfl yn ei erbyn. Safodd Paul yn hyf, fel un yn ymwybodol o'i ddiniweidrwydd, o flaen y Cyngor, ac anerchodd ef, gan honni ei fod wedi byw yn Iddew ffyddlon a theyrngarol. Cynhyrfodd ei eiriau ysbryd Ananias, yr arch- offeiriad, a gorchmynnodd i'r rhai oedd yn ymyl Paul ei daro ar ei enau er mwyn ei ddistewi. Yr oedd hyn yn ymddygiad gwaradwyddus mewn barnwr, a dengys Paul hefyd ei fod yntau wedi ei gynhyrfu o ran ei dynier. Dywed wrtho Duw a'th dery di, bared wedi ei wyn-galchu canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ol y ddeddf, a chan droseddu y ddeddf yn peri fy nharo i ? Defnyddia Paul ddiareb i ddat- gan ei argyhoeddiad na adawai Duw i'r hth weithred annynol ddianc yn ddigosb. Viiiddaiig- hosai Ananias yn urddasol oddiallan, ond yr oedd yn llawn malais, anghyfiawnder a gormes. Deng mlynedd ar ol hyn llofruddiwyd Ananias gan ddirgel-lofrudd. Pan gyhuddwyd Paul o ymddwyn yn anfoesgar at yr archoffeiriad, cyd- nebydd nad oedd yn gwybod mai efe oedd yr archoffeiriad, ac mewn ysbryd boneddigaidd dywed ei fod yn cydnabod gofynion y gyfraith i barchu'r archoffeiriad fel pennaeth y bobl. Yna rhydd iddynt ychydig o'i hanes a'i gredo, yr hyn a barodd i'r ddwy blaid oedd yn gwneud i fyny aelodau'r Sanhedrim ynirafaelio. Y can- lyniad fu i derfysg mawr gyfodi, ac yr oedd Paul mewn perygl i gael ei ddryllio ganddynt. Yr oedd y Phariseaid yn ei bleidio, a'r Saduceaid yn benderfynol yn ei wrthwynebu. Gyrrodd y pen-capten am filwyr i'w amddiffyn rhag eu cyn- ddaredd, a dygwyd ef i'r castell. Y noson honno ymddanghosodd yr Arglwydd i Paul mewn gwel- edigaeth i'w galonogi, gan ei sicrhau y cawsai'r hyn oedd wedi fawr ddymuno, sef tystiolaethu am yr Arglwydd yn Rhufain. Y bore wedi y weledigaeth cawn fod deugain o Iddewon yn myned dan lw y lladdent Paul. Credent ei bod yn iawn i ladd gwrthgiliwr oddiwrth y grefydd Iddewig. Yr oeddynt mor benderfynol o'i ladd fel y rhwymasant eu hunain mewn diofryd. ESBONIADOL. Adnod 14. A hwy a ddaethant at yr arch- offeiriaid a'r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymasoni ein hunain a diofryd, na ar- chwaethem ddini hyd oni laddem Paul.' Cyf. Diw., Ni a'n rhwymasom ein hynain dan felltith fawr.' A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid, a'r henuriaid. Tebygol ydyw mai perthyn i'r blaid Saduceaidd oeddynt oil. Yr oedd Ananias' eisoes wedi dangos ei 3rsbryd. creulawn a digofus at Paul, a diau fod y lleill yn debyg iddo. Ni a'n, rhwymasom. Yr ydym wedi gwneud ein hunain yn anathema-y llw mwyaf difrifol ellid wneud. Oni laddem Paul. Yr oedd llofrudd- iaeth o'r natur yma yn cael ei ganiatau yn ol addysg rhai o arweinwyr y blaid Saduceaidd. Adnod 15.—Yn awr gan hynny hysbyswch gyda'r cyngor i'r pen-capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylaeh ei hanes ef a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.' Cyf. Diw., gadawer allan yfory.' Fel pe byddech am farnu ei achos yn fanylach.' Yn ol y cynllun, yr oedd yr archoffeiriaid a'r henuriaid i gynnyg yn y cyngor ar fod i'r cyngor ddanfon cais at Lysias i ddwyn Paul gerbron er mwyn barnu ei achos yn fanylach. A ninnau. Yn arbenigol. Cyn y delo efe yn agos. Yr oeddynt wedi penderfynu ei ladd cyn iddo ddyfod yn agos at y cyngor, fel na buasai neb yn eu drwg- dybio hwy. Adnod 16.—' Bithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.' Cyf. Diw., 'Ond mab chwaer Paul a glywodd eu bod yn cyn- llwyn, ac efe a ddaeth, ac a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.' Dyma'r unig gyf- eiriad. sydd gennym at deulu Paul yn y llyfr hwn. Hwyrach fod y mab hwn wedi ei ddanfon i Jerusalem am addysg, fel y danfonwyd ei ewythr. Pan glybu y cynllwyn. Darllenir ar ymyl y ddalen, Gan ei fod wedi dyfod ar eu gwarthaf.' Trwy ffordd ddamweiniol clywodd y gwr ieuanc hwn y cynllun yn cael ei drin, heb fod neb yn tybio ei fod wedi clywed. Aeth ar unwaith i gastell Antonia i hysbysu Paul. Pel dinesydd Rhufeinig, er ei fod yn garcharor, yr oedd Paul yn mwynhau cryn ryddid. Caniateid iddo weled ei gyfeillion. Adnod 17.—'A Phaul a alwodd un o'r canwr- iaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gwr ieuanc hwn at y pen-capten canys y mae ganddo beth i'w fynegi iddo.' A Phaul a alwodd un o'r can- wriaid. Dtywydd ar gant o wyr yn y fyddin Rufeinig ydoedd canwriad. Y mae'n debygol fod gan Lysias ddeg o ganwriaid dano. Dwg y gwr ieuanc hwn at y pen-capten. Br fod Paul wedi cael sicrwydd o'i ddiogelwch gan yr Ar- glwydd, ac felly yn gwybod nas gallasai eu cynllwyti i'w ladd lwyddo, eto nid ydyw yn esgeuluso arfer pob moddion i ddiogelu ei hun. Gweithreda fel pe buasai ei fywyd yn. ymddi- bynnu ar ei fedrusrwydd i gyfarfod y gelynion. Dengys Paul nad oedd ei grediniaeth ym mwr- iadau ac addewidion Duw yn diddymu dim ar ei rwymedigaeth ef i ddyledswydd. Mae ganddo beth. Nid ydyw yn hysbysu'r peth hyd yn oed i'r canwriad. Adnod 18.—'Ac efe a'i cymerth ef, ac a'i dug at y pen-capten ac a ddywedodd, Paul y carch- aror a'm galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gwr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthyt.' Ac efe a'i cymerth ef. Sef y canwriad. Y mae parodrwydd y canwriad i gydsynio a chais Paul, a pharod- rwydd y pen-capten i dderbyn y gwr ieuanc, yn profi fod Paul wedi ennill eu parch. Paul y car char or. The one bound. Tybir ei fod yn rhwym wrth filwr. Yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthyt. Sef ei hysbysu am y cynllwyn i ladd Paul Adnod -ig. A'r pen-capten a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw yr hyn sydd gennyt i'w fynegi i mi ? Cyf. Diw., 'A chan fynecl o'r neilltu, efe a ofynnodd iddo yn ddirgel.' .(J'i cymerodd et erbyn ei law. Hyn yn awgrymu lhai bachgen ieuanc iawn ydoedd, ac hefyd mai civil o deimladau. tyner a charedig oedd Lysias. Diau ei fod yn teimlo dipyn o bryder gyda golwg ar ddiogelwch Paul, gan ei fod yn ddinesydd Rhuf- einig. Wedi cyrnryd y llanc o'r neilltu, gofvn- nodd iddo beth oedd ganddo i'w draethu. Adnod 20.Ae efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i' waered yfory i'r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.' Cyf. Diw., Pel pe ewyllysient ymof3'-n/ &c. Yr Iddewon a gydfwriadasant. Yr oedd y cynllwyn wedi ei wneud rhwng yr Iddewon a.'r rhai oedd wedi ymrwymo i ladd Paul. Yr unig beth oedd yn angenrheidiol yn awr oedd cael y pen-capten i weithredu, ac eto rliaid oedd cadw'r cynllwyn lieb ei ddatguddio iddo. Yr oedd i roddi cyn- horthwy anymwybodol iddynt. Adnod Ond na chytuna di a hwynti; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roisant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti.' Cyf. Diw., 'Am hynny yn lie ond.' Y rhai a rwymasant eu hunain, dan felltith, i beidio bwyta nac yfed nes ei ladd ef.' Y mae yn llefaru fel perthynas i Paul, ac fel un oedd yn teimlo anwyldeb ato. Ac yn awr y maent hwy yn barod. Dim ond cael dy gydweithrediad di. Nid oedd ymwared wedi ei drefnu hyd yrawr olaf, pan y teimlai'r gelynion sicrwydd o lwycld- iant eu cynllwyn. Adnod 22. Y pen-capten gan hynny a ollyngodd y gwr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef.' Cyf. Diw., Felly y pen-capten a adawodd i'r gwr ieuanc fyned, gan orchymyn iddo, Na ddywed i un dyn dy fod wedi hysbysu y pethau hyn i mi.' Gwelodd Lysias y perygl ar unwaith, a phenderfynodd weithredu. Rhaid ydoedd iddo ddiogelu bywyd dinesydd Rhuf- I dilig. Y mae'n debygal hefyd fod ei gydym- Cic.ii?l,a yn fwy gyda Phaul na'r Iddewon (adnod 27). Trefnodd ar unwaith ei ddanfon i Cesarea, at Ffelix. Adnod 2.).1\C \vedi galw ato ryw ddau gan- wriad, efe a dd vwedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned Inxl yn Cesarea, a deg a thri ugain o wyr meirch, a deucant o fiyn-wewyr, ar y dryd6dd awr o'r nos.' Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad. Nid oedd dim ainser i'w golli. Gwyddai fod gelynion Paul wedi penderlynu gweithredu ar unwaith, felly rhaid ydoedd ei ddwyn allan o'u cyrraedcl. Trefnodd fod y guard yn ddigon cryf i allu gvvrthsefyll ymosod- iad oddiwrth y gelynion—deucant o filwyr, deg a thrigain o wýr meirch, a deucant o ffyn-wewyr (light-armed soldiers). Cesarea. Ar lan M6r y Canoldir, tua thrigain milltir o Jerusalem. Yma yr-oedd y rhaglaw Ffelix yn byw. Ar y drydedd awr o'r nos. Tua naw o'r gloch. Adnod 24. -A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i'w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw.' A pharatowch ysgrubliaid. Anifeiliaid gweithiol, fel meirch a chamelod. I'w ddwyn yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw. Ffelix ydoedd rhaglaw (procurator) Judea, ac yr oedd Lysias yn gyfrifol iddo ef. Danfonodd hefyd lythyr yn egluro iddo'r ffeithiau 3naglyn a'r modd yr oedd wedi gwaredd Paul rhag cael ei ladd gan yr Iddewon, ac eglurodd ymhellach y cynllwyn i'w ladd ef. Dygwyn Paul o hyd nos i Antipatris. Dychwelodd y milwyr oddiyma i'r castell; aeth y gwyr meirch gydag ef i Cesarea. Goeyniadau AR Y WERS. i. Pa fodd yr atebodd Paul Ananias pan y gorchmynnocld ei daro ar ei enau ? 2. Pa fodd yr anerchodd Paul y cyngor ? Pa ddylanwad gafodd ei anerchiad ? 3. Pa fodd y daeth yn garcharor yn y castell ? 4. Pa weledigaeth a gafodd yn y carchar ? Beth ddywedwyd: wrtho ? 5. Pa gynllun a wnaed i ladd Paul ? Pw3r oedd awdwyr y cynllun ? 6. Pa fodd y datguddiwyd y cynllwyn i I^ysias, a pha beth a wnaeth mewn canlyniad ? 7. Pa orchymyn a roddodd Lysias i'r gwr ieuanc ? Paham ? 8. Paham y danfonodd Lysias Paul i Cesarea ? g. Pa le yr oedd Cesarea ?

————.———— Arteithiau Traed…