Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
You Can Rely on Clarke'. B.tl Pills as a Safe and Sure Remedy in either Sex, for all Acquired or Constitutional Dis- charges from Urinary Organs, Gravel, Pains in the Back and kindred complaints. Over 50 Year's Success. Of all Chemists, n 1 1 4/6 per box, or sent direct, post C I 3L F K'6 ?S free for Sixty Penny Stamps by the ?roprietors-The Lincoln & B 41 P II a Midland Counties Drngd Co., B41 Pills Ltd., Linooln, (PBDB vaommaitcuicr)
Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Own y bydd yn llawenydd gan gyfeillionnir Gwilym G. Thomas, Maesteg, ddeall ei fod wedi derbyn galwad unfrydol o eglwys Rhyd- yceisiaid, St. Clears, a deallwn ei fod wedi ei hateb yn gadarnhaol. Bwriada ddochreu ar ei waith gweinidogaethol cyn diwedd y mis hwn. Llongyfarchwu yr eglwys ar ei dewisiad doeth, a dymunwn i'n cyfaiil ffyddlon a gweithgar lwyddiant mawr yn ei gylch newydd.
- '-.-._-__..__-___-__- -…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FACHENDREF, PENFRO. Ty i'r Gweinidog.-Mae'r eglwys uchod a'r fam eglwys yn Nhyrhos wedi pryuu ty at was- anaeth eu gweinidog. TeimSid angeri am dy mewn man cyfleus ers blynyddoadd. Ond wedi dyfodiad y gweinidog presennol y mentrwyd cymeryd y cam pwysig. Sicrhawyd ty yn y Boncath, rhwng y ddwy eglwys; ac yn ystod ychydig dros flwyddyn o amser maent wedi symud dros ddwy lan o dair o'r gost, a bwriad- ant gasglu y gweddill angenrheidiol ar unwaitb. Cyfeiriad y gweinidog yw Aneddle, Boncath. Urddiad.—Dydd Saboth, Awst 20fed, daeth torf ynghyd i gyfarfodydd urddo y brawd David James, Cefn, Boncath. Mae y brawd annwyl yma wedi bod yn bregethwr cynorth- wyol am flynyddoodd, a theimlai yr eglwys y dylai ddangos ei pharch tuagato drwy ei wneud yn weinidog cynorthwyol. Neilltuwyd y Saboth a nodwyd at y gwaith. Dechreuwyd odta'r bore gan Mr Phillip Jones, B.A, Bon- cath, a phregethwyd gan y Parch T. J. Raes, Saron, Maesteg (cynwoiuidog Tyrhos a, Fachen- dref). Cynhaliwyd y cyfarfod ordeinio am 2 o'r gloch. Llywyddai y Parch R. H Williams, gweieidog y lie Dechreuwyd yr odfa gan y Parch E. J. Lloyd, Llandudoch, yr hwn hefyd a holodd yr urddedig. Atebodd y brawd y cwestiynau yn gryno ac i'r pwynt. OfErymodd y Parch T J. Rees yr urdd-weddi, a phregeth- wyd gan y Parch Myddfai Thomas, Penygroes. Cafwyd cyfarfod rhagorol. Dymunwn i'r Parch David James hir oes i fod o wasanaeth mawr yng ngwinllan yp Arglwydd. Mae ynddo gymwysterau lawer i wneud gwas da i lesa Grist Yn yr hwyr progethwyd gan Mr Phillip Jones, B A (mytyriwr gyda'r Methodistiaid yng Nghaerdydd brawd ieuanc o Boncath yw, ac un ddechrouodd bregethu yn Fachendref), a'r Parch T. J. Rees. Cafwyd dwy bregeth fedd ylgar ac amserol. Arosed bendith ar waith y dydd R H. W.
LLANFAL R CA EREIN ION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANFAL R CA EREIN ION. Cyfarfodydd Ysgolion.—Y Sal di.veddif cyn- hahodd ysgoiion Ebenezer a Siloh eu cyfarfod ydd rheolaidd yn Siloh y tro hwn, a daeth nifer dda ynghyd, a'r holl ddosbarthaadaa wedi gwneud eu gwaith yn wych iawn, gan ddangos llafur dibrin yn ystod y tri Illis diweddaf. Llywyddwyd cyfarfod y prynhawn gan ein gweinidog llafurus, y Parch W. Thomas Wedi mynd trwy y rhanaati arweinio) gan Mr David Evans, Siloh, holwyd y plant yn banes Elias gan Mrs Morris, o ysgol Ebenezer. Hefyd adroddasant gyda.'i gilydd ol Bren. yn bwyllog a chywir c&n gan baiti o b!ant dan arweiniad Mrs D Thomas, Lhmtair-' M::J,e'r byd i gyd yn brydferth.' llolwyd y dosbarfch dan 16 oedar Destyn pregeth yr holl fyd (loan xL), a chydadroddwyd rhatnaa o'r bennod gan blaat Siloh ac Ebenezer. Holwyd hwy yn fauwl a buddiol iawn gan y brawd ieuaoc Mr Evan Watkins, Siloh Darlienwyd papur fhagorol gan Mr D. J. Tudor ar 4 Y BeibL' Yr oedd hwn yn gynnyrch meddwl gwerthfawr, a'r darlleniad yn bopeth dymunol. Da yw gweled ein dynion iauainc yn ymbleserll gyda materion syiweddol fydd yn fantais fawr iddynt trwy ymchwil a darllen i gymhwyso eu himein at waith cyhoeddus y gwahanol eglwysi. Adrodd wyd o 2 Sam. gan y dosbarthiadau o dan 21 oed yn ganmoladwy iawn. Hefyd ar ddiwedd y cyfarfod bywiog hwn cafwyd adroddiad pwrpasol gan Miss Mary Watkin, Siloh, Tor- fynodd y llywydd trwy weddi. Daeth cynuil- iad llawn ynghyd i gyfarfod yr hwyr, a phawb yn barod at waith. Llywydd, Mr D. Tuomas (Llwydiarth Mou). Wedi mynd trwy y rhannau arweiniol gan frawd o ysgol Ebenezer, cafwyd can beraidd gan Miss Maggie Evans, a chln hefyd gan barti o Lanfair, Y Weddi Fwyn,' dan atweiniad Mrs D. Thomas. Yna dechreuwyd ar brif waith y cyfarfod, sef holi Phil. i., gan ein gweinidog, yr hyn a wnaeth mewn modd meistroigar a gwir fuddioJ, ac yr oedd yr ateb- ion yn fyw a ehyffredlnol-y dynion ieuainc a hen yn cydymryson i ddatgan eu gwahanol farnau, a hynny mewn ysbryd cydnaws &'r gwaith. Terfynwyd y cyfarfod wedi cael gair i bwrpas gan un o ddiaconiaid Sitoh-Mr John Watkin
ICapel Cwmbwrla.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Capel Cwmbwrla. Marwolaeth Mr W. Evans, Wauitweii.-Sait y lie yma tua milltir i fyny i gyfeiriad Cwm- bwrla. Yr oedd yr ardal yn hollol Gymreig 40 mlynedd yn ol, ond erbyn heddyw y mae yn Seisnigaidd iawn, ac ychydig o Gymry yno a siaradant y Gymraeg, a phlant yr hen Gymry wedi troi yn Sae«on. Ond y mae teula parchus yr ymadawedig yn dal ya ffyddlon i'r hen iaith. Bu farw y brawd ffyddlon uchod dydd Mercher, Awst 16eg, a chladdwyd ei weddillion y Sadwrn, y 19eg, ym mynwent y Babel!. Daeth lliaws o gyfeillion o bob rhan o'r ardal a'r dref i'w gynhebrwng Dioddefodd ya amyueddgar yn ei gystudd fel milwr da i Iesu Grist. Bu yn glaf am tua phum mis, ond wythnos y bu yn cadw ei wely cyn i'w yabryd ehedeg at yr Hwn a'i rhoes. Dioddefai ers blynyddoedd oddiwrth y crydcymalau. Cawsom fel eglwys golled fawr ar ei ol, oblegid yr oodd yn un o hedd- ychol ffyddloniaid Seion ac yn gyfrannwt rhagorol; yr achos gai ei sylw blaenaf. Gweithiwr distaw ydoedd, athraw diwylliedig, cyfatwyddwr doeth, a chymeriad diogel i'w ddilyn. Y Beibl, Taith y Pererin,' a I Bannau Diwinyddol Hodge' oedd cylch penoaf ei fyfyrdod. Ochr ysbrydol bywyd oedd ei hyfrydwch pennaf. Yr oedd yn selog dros yr eglwys a'i sefydliadau, a'i wyneb bob amser ttialr wawr. Hynod weithgar yw'r teulu yn y lie gyda'r Gobeithlu, yr Ysgol Sal, cwtdd gweddi a'r seiat. Bydded i'n chwaer a'r plant sydd ar ol gymeryd cysur o rodiad ein brawd ymadawedig. Gwnaeth yr hyn a allodd. Diddaned a chysured yr Ysbryd Glan y teulu yn y storm sydd wedi en goddiweddyd. Cyd- ymdeimla'r eglwys â'r weddw a'r amddifaid yn eu trallod. Yr oadd trefniadan yr angIadd yng ngofal ein parchus weinidog, y Parch E. J. "Edwards. GOHEBYDD.
I Y Caplan J. Edwards, B A.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Y Caplan J. Edwards, B A. Dydd Mawrth, Awst 15fed, gadawodd y Caplan J. Edwards, cyn-weinidog Capel Coffa, Porthmadog, am dir Ffrainc, a deallwn ei fod wedi cyrraedd yno yn ddiogel wedi mordaith gynhyrfus. Wedi ei benodi yn Gaplan gan yr awdurdodau, rhoes i fyny yr eglwys ym Mhorthmadog, gan roddi ei wasanaeth yn llwyr i'r Fyddin. Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser ym Medford-tref John Bunyan, y breuddwydiwr an- farwol—yn gwasanaethu y 2nd a'r 3rd Monmouths. Cafodd lawer iawn o fwynhad ymhlith y bechgyn, a meddylient hwytbau yn uchel ohono. Mae y Caplan Edwards ya wr ieuanc o ddysg a dawn, ac anturiaeth lond ei waed. Ni wyr beth yw ofn, ac ni chydnebydd anhawsterau, a phrofasai y milwyr a'r swyddogion ym Medford ei gymdeithas yn iechyd rhag pob pryder ac yn atalfa rhag llawer temtasiwn. Nid rhyfedd fod ganddynt syniad uchel a pharchus ohono. Yr oedd ers misoedd wedi mynegi ei barodrwydd i fynd allan i Ffraine at Fyddin Gymreig neu Seisnig, pryd bynnag y byddai yr awdurdodau yn y Swyddfa Ryfel mewn angen am Gaplan i fynd. Daeth angen am Gaplan ar y 7th Suffolk Regiment, a dewiswyd ef i'w gwasanaethu. Mae eisoes wedi dechreu profi o bethau cynhyrfus maes y rhyfel, ac wedi bod droion o fewn cyrraedd ergydion y gelyn. Disgwyliwn y bydd ganddo ef, fel eraill sydd wedi myned allan, ystori raruantus i'w hadrodd pan ddychwel i'w fro gynefln. Hyd hynny, dymunwn iddo nodded yr Arglwydd a'i nerth i gyflawni ei ddyledswyddau yn nhir Ffrainc, gan obeithio fod dydd y fuddugoliaeth a'r ymwared yn prysur agoshau.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DAVIES'S COUGH MIXTURE PESWCH I PESWCH I Ni raid i neb ofni canlyniadau Anwyd a Pheswcb ond gofalu fod potelaid o Davies's Cough Mixture yn y t £ Bydd pob dyn yn feddyg i'w denlu at holl anhwyl- deran y Gwddf a'r Frest, os bydd Davies's Cough Mixture wrth law. Y mae miloedd lawer wedi cael iachad ao yn gwneud eu goren i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid cymeryd ond UN dobb er profi ei ddylanwad union- gyrohol ere rhyddhan y Phlegm, yn olirio y Llais, yn oynhesu ao yn oryfhau y Freat, gan weithio pob Anwyd a Ohrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ANWYD4 DAVIES'S COUGH MIXTURE at ASTHMA. 08 gwyddoch am rywun yn dioddef oddiwrth Beswoh a Bronchitis, aurhegwoh ef a photelaid o COUGH Mtx. Truz Hugh Davibs, ao fe'oh bendithio ryw ddydd. Is lie a 28 90 y botel. HUQH DAVIES, OHEMIST, MAOHYNLLETH.
CWMERFYN. !
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CWMERFYN. JIWBILI YR ANNIBYNWYR A'R METHODISTIAlD I CALFINAIDD. Cofir yn hir ddyddian Awst 8fed a'r 9ted gan ardalwyr y lie uchod a'r cyffiniau fel yr adeg y cynhaliwyd Jiwbili da a achoscretyddol y lie. Cychwynwyd yr achosion yr un flwyddyn, ac unwyd i gynnal Jiwbili ar ban yr hanner canrif. Cychwynwyd yr achos yn Siloa gan yr Annibynwyr yn ystod gweinidogaeth yr hyawdl a'r enwog y Parch W. Jansen Davies, trwy i nifer o aelodau y fam eglwys yn Salem, Coedgruffydd, gael eu gollwng yn rheolaidd i ff arflo'n eglwys, Cyfnod blodeuog yn hanes y gwahanol achosion crefyddol ydoedd hwn, pan oedd y gweithfeydd mwn yn llewyrchus iawn. O'r cewri fu'n gwasanaethu yng nghyfarfodydd agoriadol Siloa, nid oes yn aros ar dir y byw ond y gwr cadarn o Droedrhiwdalar—y Parch D A. Griffith. Penodwyd y personau canlynol gan y ddau enwad i roi ychydig o hanes yr achosion yn ystod y cyfnod a nodwyd. Cynrychiolwyd yr Annibynwyr gan Mr J. Nuttall, Llundain, a Mr J. R. Jones, Salem, a'r Methodistiaid gan Mr W. Evans, Ponterwyd. Diolchwyd yn gynnes i'r brodyr da hyn am eu gwasanaeth gwerth- fawr—gwasanaeth cariad Dichon y carai plant Siloa yn arbennig, oblegid y mae nifer luosog ohonynt ar wasgar, i weld enwau y gwyr da hynny fuont yn ffydd- Ion i ddal y goleu i oleno am banner canrif, ac y mae ffyddloniaid yn olynwyr iddynt ynglyn a'r achos heddyw. Rhoddwn i ddechren enwau y diaconiaid o gychwyniad yr achos. Mr Silfanus Silfanus, yr hwn hefyd oedd yn bregethwr cynorthwyol —dyn sydd a'i ddylanwad da yn berarogl yn y cylch hyd heddyw; Mr John Powell; Mr James Lewis, Moelbren-yn ei dy ef y cychwynwyd yr achos pan oedd yn byw yn y pentref, ac mae'r weddw yn aros hyd heddyw yn fam yn Israel; Mr Evan Evans; Capten W. Jones-gwr aberthodd lawer dros yr achos, ac mae'r plant yn teimlo'n annwyl tnag at yr achos yn y lie hyd heddyw, er wedi eu gwasgar i wahanol ranbarthau o'r byd; Mr James Davies; Mr John James; Mr Lewis Jones; Mr J. Ll. Nuttall; Mr D. Davies; Mr Lewis Thomas Mr John Morgan Mr Richard Evans Mr John Thomas Mr James Davies; Mr Joha James; a Mr William Edwards. Arweiowyr y canu Mri Evan Evans, D Thomas, Capten W. Jones, John James, Robert ——, Tom Jones, John James, a John James (ieu.), yr hwn hefyd ydyw ysgrifennydd yr eglwys. Codwyd i bregethu y Parch Merfyn Lewis, Moelbren. Llwyddwyd i gael dau o weinidogion enwog i wasanaethu yn yr wyl, sef y Parchn J. J. Williams, Treforris, a W. Ll. Lloyd, sir Fon. Yr oedd y brodyr ar en huchelfannau yn traet.hu'r genadwri i dyrfaoedd lluosog. Arweiniwyd yn y cyfarfodydd gan y Parchn Ll. Morgan, gweinidog Salem a Siloa, a J. Jones (M O), Penygarn, Bow Street, yn absenoideb y Parch Griffiths, y gweinidog, yr hwn sy'n wael ei iechyd ers tro beliaeh Pasiwyd pleidlais o gydyradeimlad âg ef yn ei waeledd, gyda dy- muniad am adferiad buan iddo. Arwe'niwyd y canu gan Mr John James, Lletyspence. Cyf- eiliwyd gan Misses Edwards a Williams a Mr James Davies, Ty'rcapel. Dechreuwyd y wasandeth y noson olaf gan Mr Owen James, Pencoed, un o blant Salem, yr hwn oedd ar y pryd yn treulio ei wyliau yn yr ardal. Gwelwyd nifer luosog o blant yr ardal yn bresennol wedi trefnu eu gwyliau er gallix bod yn yr wyJ arbennig hon. Cafwyd hin ddymunol i gynnal y cyfarfodydd ar y maes agored. Yr oedd nef a daear yn gwenu, a naws hyfryd i'w deimlo trwy yr boll gyfarfodydd. Cafwyd nerth, melyster, a hyawdledd gan y cenhadon. Hyderwn y ca'r genadwri ei lie priodol ym mywyd y torfeydd wrandawent mor astud. LL. Ai. I