Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Hyn a'r Liall o Babilon Fawr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hyn a'r Liall o Babilon Fawr. GAN EYNON. Mae'r Prifweinidog yn drigain a phedair oed, ae yn dal yn anghyffredin o gadarn. Dyna'r gair sydd yn ei iawn ddarlunio-Cadernid! 0 bryd i'w gilydd y mae holl alluoedd y fagddu wedi bod yn ymosod arno, ond y mae'n dal ei dir yn ardderchog, ac yn sefyll fel craig yn wyneb cynddaredd pob ton. Bu'r Times yn taranu yn ol ei allu gyda'r amcan o anfon Asquith ar ol Balfour i'w ffordd; ond y mae Northcliffe wedi darganfod bellach mai'r doethaf peth yw iddo dewi a son. Yn y cyfamser y lUae'r Prifweinidog yn ymdaith yn amlder ei rym. Bin rhesymol wasanaeth ninnau, pan y mae dyn o alluoedd aruthrol yn cysegru pob dawn sydd ganddo i wasanaeth ei wlad—ein dyledswydd ni fel dineswyr yw dal ei freichiau i fyny yn y cyfwng ofnadwy mae'n sefyll ynddo ar hyn o bryd. Mr. Lloyd George, yn ol addefiad pawb, ydyw genius y Llywodraeth bresennol. Creadur prin iawn ydyw'r political genius. Rhyw un neu ddau bob can mlynedd y mae'r Brenin Mawr yn ganiatau i'r byd. Ac y mae pobl fawr y Cyfandir, fel ein pobl fawr ninnau, yn cyfaddef bellach fod y Cymro hwn yn rhywfath o lestr etholedig. Wrth reswm, nid yw'r Tori a'r Radical yn edrych arno gyda'r un teimladau. Bydd y Tori yn llawn ofnau, a'r Hall yn llawn gobeithion ond pob un o'r ddau yn credu fod Prydain Fawr y dyfodol yn aros am arweiniad Lloyd George. Gweddiwn ninnau sydd yn credu yn Lloyd George, ac yn credu mewn gweddi hefyd, ar iddo gael arweiniad y golofn yn y blynyddoedd sydd o'n blaen. Mae Syr Joseph Compton Rickett yn ysgrif- ennu i'r Christian World y dyddiau hyn gyfres o erthyglau ar Congregationalism and Modern Life.' Y mae gan Syr Joseph wybodaeth eang o'r pwnc. Ei hobby fawr yw pregethu, ac y mae'n pregethu rhywle bob Sul ymron, ac yn ami iawn yn y pentrefi, lie y mae hi mor anodd i gynnal yr achos mewn dyddiau blin fel y dydd- iau presennol. Dengys yn blaen wendidau'r drefn Annibynnol—ac y mae ynddi hi, fel ymhob cyfuudrefn ddynol arall, fannau gwan. Os na cheir dynion da i'w gweithio, system arswydus yw'r system Annibynnol. Dyna'r City Temple fel enghraifft ddiweddar. Dyma ddyrnaid o bersonavi penderfyiiol yn gallu troi cwrdd eglwys a'i wyneb i waered, a gyrru galwad i frawd dinod o'r Amerig-heb fawr son am dano, heb fod yn Annibynnwr na dim o'r fatli, ac eto'n ethol- edig' y City Temple Nid yw wedi ateb eto. Os yw'n ddoeth, fe etyb yn nacaol. Mae Esgob Iylundaiu y dyddiau hyn—a'i reporter o hyd gerllaw—yn pregethu yn yr awyr agored yn y Brifddinas mewn cysylltiad a'r Genhadaeth Eglwysig. Gelwir hi'n Genhadaeth Edifeirwch a Gobaith, a'r bwriad yw eael gafael ar y bobl. Cynygiwyd. gan yr Eglwysi Rhyddion fod y rhengoedd crefyddol yn y wlad yma i gael eu cau am y tro, ac fod pawb sydd ar enw Crist yn cyduno—Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr fel ei gilydd. Ni roddwyd fawr croesaw i'r awgrym, ac felly syrthiodd y peth i'r llawr. Nid oes gennym ond dymuno'n dda i bob ymgais i wella'r byd, a chael y byd i fewn i'r Bglwys. Ac eto, pa fath Eglwys yw houno sydd mor anfrawdol a hon sydd yn gwadu ysbrydolrwydd yr Eglwysi Rhyddion ? Sut y gall yr Ysbryd Glan wenu ar grefydd mor gul, a beudithio ysbryd mor enwadol ? Yn ystod y rhyfel y mae'r Eglwys Wladol wedi gorfod eistedd yn un o'r ol-seddau,' a'r Y.M.C.A. sydd wedi achub y blaen. Mae'n ofid blin i galon y Canon Adderley (Uchel Eglwyswr) fod crefydd semi efengylaidd y Y.M.C.A. mer boblogaidd, ac y mae'n gofyn yn syn i'w gyd- Eglwyswyr beth ddaw ohonynt ar ol y rhyfel ? Bydd crefydd ffurfiol, seremoiuol, y Llyfr Gweddi Cyffredin yn rhy gaeth ar ol crefydd rydd, frawdol y tent. Cyngor y Canon yw fod yn rhaid i'r Eglwys ymeangu, a niyned hanner y ffordd i gyfarfod a'r ysbryd newydd yma. Mae y bechgyn sydd yn cyd-addoli ar faes y gwaed yn darganfocl nad oes dim yn hanfodol mewn ffurf na seremoni-dim yn hanfodol mewn bedydd a ffurf-lywodraetli eglwysig. Dim ond cael gafael ar wreiddyn y mater, gall y pethau hyn aros eu tro Yn y cyfamser dysged yr holl eglwysi i roddi'r pethau pennaf yn y ffrynt. Newid ymadrodd mae yna berygl i Churchill droi yn nuisance. Pan ail-drefmvyd y Weinydd- iaeth collodd ei hen swydd yn y Morlys, a chy- 11ygiwyd iddo un arall yn llai ei hurddas. Peth rhyfedd iawn iddo gael cynnyg swydd o'r fath yn y byd ar ol blunder ofnadwy Gallipoli. Y cam nesaf oedd iddo adael y Weinyddiaetli gyda'r bwriad o droi yn filwr ond yn fuan, buan, blinodd ar hyimy hefyd, a'i job ar hyn o bryd yw bod yn fath o freelancc--rhyw feirniad eyftredinol i gael allan ffaeleddau'r bobl sydd mewn awdurdod. Ofni heddyw y bydd i'r Germans suddo llongau Syr John Jellicoe utganu drannoetli nad oes berygl yn y byd- Y mae fel ci mewn flair—yma ac acw a phob man--a'r oil sydd yn eglur yw ei fod yn erbyn y Llywodraeth. Bu Churchill unwaith o fewn ychydig i'r brif gadair, ond bellach nid oes sou am dano yn y cysylltiad hwnnw. Synnwu i fawr na welir ef yn Dori eyii diwedd y bennod. Creaduriaid talentog ddigon yw olafiaid Sarah Churchill, ond y mae'r hen wendid o hyd yn aros yn y teulu. Gwelais yn ddiweddar fod hen gyfaill anuwyl i iiii-eyfaill bore oes-sef Morris Williams o Drewyddel, wedi cyrraedd pen y daitli. Creadur annwyl iawn oedd Morris Williams—un o gol- ofnau cedyrn yr achos goreu yn ei ardal-cyfaill calon i'r anfarwol William Jones, Trewyddel— canwr melys yn ei ddydd. Nis gwn faint o'r wyddor oedd ganddo, ond yr oedd ganddo lais peraidd dros ben, ac yr oedd ei ddull yn canu'r emyu arweiniol yn rlioddi'r cyweirnod melysaf i lawer seiat a chwrdd gweddi. Ddeugain a phiiinp a deugain mlynedd yn ol cawsom lawer ysgol gan felys wrth y tan yng Nghwmconell. Yr oedd Morris Williams y pryd hwnnw yn wynebu'r tua'r wlad, ac y mae bellach wedi cyrraedd Canaan. Erbyn hyn dichon ei fod ef a'i hen weinidog, William Jones, a'i hen ffrindiau, Daniel J ameo; ac Evan Phillips, wedi cael ami i ymgoni felys ar lan afon bywyd am helyntion yr achos tua Threwyddel a Bryn Salem. Coffa da am yr hen anwyliaid. Fagodd Cymru erioed loywach saint. Gwyn eu byd

NODION 0 GAERFYRDDIN.

Bryn Seion, Cwmbach.