Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

t-<><>-<>-<>-<><>-<>-<><->+…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

t-<><>-<>-<>-<><>-<>-<><->+ t Y WERS SABOTHOL. I I Y WERS RYNGWLADWR!AETHOL | ó Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. X Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., $ Treffynnon. } HvdrEF 8fed.—Paul gerbron Ffelix.- -Actau I xxiv. 10-21. Y TusTYN EURAIDD. Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddirwystr tuagat Dduw a dynion, yn wastadol.Actau xxiv. 16. Rhagarweixiol. DVGWVD Paul i Cesarea gan y gwyr meirch, a rhoddasant lythyr Lysias i'r rhaglaw, a gosod- asant Paul ger ei fron. Wedi darllen y llythyr a chael gwybod o ba dalaith ydoedd, pender- fynodd y rhaglaw wrando ar yr achwynion yn erbyn Paul ar ol i'w gyhuddwyr gyrraedd Cesarea, a gorchmynnodd gadw Paul yn nadl- eudy Herod-palas a adeiladwyd gan Herod yn Cesarea, yr hwn a breswylid ar y pryd gan y rhaglaw Rhufeinig. Ymhen pum niwrnod daeth cyhuddwyr Paul i Cesarea. Cyflogasant un Ter- tullus, areithiwr (pleader), i ddwyn yn eu henw y cuhuddiadau yn ei erbyn. Dechreua ei araith trwy ganmol y rhaglaw Ffelix am roddi heddwch i'r genedl ag y gosodwyd ef yn llywydd arni. Yna ymdrecha brofi fod Paul yn bla oherwydd ei fod yn derfvsgwr-yn hau hadau gwrthryfel ymysg y bobl. Ei fod yn ben ar sect y Nazar- eniaid. Dyma'r unig dro y gelwir y Cristionog- ion wrth yr enw hwn. Ei fod wedi amcanu halogi'r deml. Yna terfyna trwy sicrhau fod ganddo dystion yn barod i brofi ei gyhuddiadau. 'A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddy- wedyd fod y pethau hyn felly.' Esboniadol. Adnod 10.—'A Phaul a atebodd, wedi i'r rhag- law amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i'r genedl hon ers llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.' Cyf. Diw., Yr ydwyf yn galon- nog yn gwneuthur fy amddiffyniad.' A Phaul a atebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddy- wedyd. Yr oedd amnaid y rhaglaw yn rhoddi caniatad iddo lefaru. Nid oedd arno ef angen am areithiwr cyflogedig i ddadleu d achos. Ga-n i mi wybod dy fod di yn farnwr i'r genedl hon ers llawer 0 flynyddoedd. Gwna Paul ddefnydd o'r ffaith fod Ffelix yn farnwr ers llawer blwyddyn. Tybir ei fod yn ei seithfed flwyddyn o'i raglaw- iaeth, ac yr oedd hynny'n dymor hir mewn oes aflonydd, pan y newidid y swyddogion Rhuf- einig yn fynych. Felly yr oedd wedi cael digon o amser i ymgydnabyddu a chymeriad ac amgylchiadau'r Iddewon a'u penaethiaid. Fel y cyfryw anercha'r Apostol ef yn barchus, heb ddim gweniaith fel Tertullus. Yr ydwyf yn fwy cysurus. Neu yn fwy calonnog yn gwneuthur fy amddiffyniad. Yr oedd yn annerch un oedd yn gwybod trwy brofiad am arferion yr Iddewon, ac felly'n alluog i ddeall y rhesymau y bwriadai Paul eu defnyddio. Adnod 1 1 Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerusalem.' Cyf. Diw, Fr pan euthum i fyny i addoli.' Bros ddeuddeg diwrnod. Gan ei fod yn gwybod am arferioh yr Iddewon, yr oedd yri alluog i farnu o barth y trosedd a gyflawnwyd mewn cylch mor fychan a deu- ddeg diwrnod. Gwna Meyer y deuddeg diwr- nod allan yn y drefn ganlynol :—Y cyntaf, ei ddyfodiad i Jerusalem (xxi. 15-17) yr ail, ei ymgynghoriad a Iago (xxi. 18) y trydydd, yn uno a'r Nazareniaid yn eu hadduned (xxi. 26) y pedwerydd, y pumed, y chweched a'r seith- fed, amser parhad yr adduned a'r offrymau, yr hyn a ataliwyd trwy ddal Paul yn y deml (xxi. 27) yr wythfed, yr Apostol o flaen y Sanhedrim (xxii. 30) y nawfed, cydfwriad yr Iddewon i'w ladd (xxiii. 12), ac ymadawiad Paul o Jerusalem (xxiii. 23) y degfed, yr unfed-ar ddeg a'r deuddegfed, yn Cesarea (xxiv. 1). Ar y trydydd ar ddeg yr oedd ei brawf. I addoli yn jey-ttsalem. Aethai i fyny i Jerusalem mewn ysbryd defosiynol, ac nid oedd yn debygol y buasai yn halogi'r deml. Adnod 12. Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadleu a neb, nac yn gwneutkur terfysg i'r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas.' Cyf. Diw., 'Nac yn cyffroi tyrfa.' Ac ni chazv- sant fi yn y deml. Addoli yr oedd yn y deml, ac nid yn ymddadleu a neb, nac yn ymdrechu cyffroi'r bobl yn y synagogau, nac yn y ddinas. I. Adnod 13.Ac ni allant brofi'r pethau y maent yn awr yn achwyn aruaf. o'u plegid.' A c ni allant brofi. Hwyrach fod yr Iddewon yn gobeithio y buasai'r rhaglaw yn condemnio Paul, heb fyned i fewn i'r profion, yn unig Sir eu tystiolaeth hwy. Ond yr oedd Paul yn ddin- esydd Rhufeinig, a rhaid cydnabod ei hawliau. Adnod I4. Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ol y ffordcl y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau gan gredu yr holl bethau sydd ysgrif- enedig yn y ddeddf a'r proffwydi.' Cyf. Diw., Ond hyn yr wyf yn ei addef i ti, mai yn ol y ffordd a alwant hwy yn sect, felly yr wyf fi yn gwasanaethu Duw ein tadau, gan gredu'r hon bethau sydd yn ol y ddeddf, ac sydd wedi eu hysgrifennu yn y proffwydi.' Cyfeiria Paul at yr ail gyhuddiad, sef ei fod yn ben ar sect y Nazareniaicl. Addefa ei fod yn perthyn i'r sect hon. Yr oedd yn un o bobl y Ffordd, a elwid. gan ei elynion yn sect neu yn heresi; onn ar yr un pryd honna nad oedd wedi troi ei gefn ar grefydd ei dadau. Yr oedd yn addoli Duw ei dadau, ac nid oedd yr hyn a alwai ei gyhuddwyr yn sect, neu yn heresi, ond parhad a helaethiad Iddewaeth. Dywed Dr. Brown fod y geiriau'n cynnwys dwy ddadl: (i) Y mae ein cenedl ni yn cael ei rhannu i sectau—sect y Phariseaid a sect y Saduceaid. Yr holl wahan- iaeth rhyngddynt a myfi ydyw, nad wyf fi yn perthyn i'r naill na'r llall, ond i ffordd arall wahanol i'r ddwy, yr hon, oddiwrth ei Syl- faenydd, a alwant hwy yn Nazareniaid oher- wydd hyn, a hyn yn unig, yr wyf yn cael fy nghashau. (2) Mae cyfraith Rhufain yn can- iatau i bob cenedl addoli ei duw ei hun yr ydwyf finnau yn hawlio nawdd dan y gyfraith honno, yr hwn wyf yn addoli Duw fy nhadau, oddieithr yn unig fy mod yn Ei addoli mewn ffordd wahanol iddynt hwy. Yr unig wahan- iaeth rhyngom yw, fod y sect yn wahanol; y mae'r grefydd yr un.' Yr oedd yn honni ei fod yn addoli'r un Duw a'r Iddewon, gan gredu, fel hwythau, yn yr holl bethau oedd ysgrifenedig yn y ddeddf a'r proffwydi. Yn ol ei syniad ef, nid oedd Cristionogaeth yn grefydd wahanol i Iddewaeth, ond ei datblygiad a'i pherffeithiad. Yr oedd hwn yn wirionedd y rhoddai Paul arbenigrwydd arno. Gwna'r Apostol wahan- iaeth rhyngddo ei hun a'r genedl: nid yn y mater o grediniaeth, ond yn natur y grediniaeth ei hun. Crediniaeth y galon ydyw'r naill; coel neu gydsyniad oer a diddylanwad ydyw'r llall.' Adnod 15.—'A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae y rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd adgyfodiad y meirw, i'r cyfiawnion ac i'r anghyfiawnion.' Cyf. Diw., Yn ei ddisgwyl, y bydd adgyfodiad i'r cyfiawnion a'r anghyf- iawnion hefyd.' A chennyf obaith ar Dduw. Yr oedd ei grediniaeth o'r ddeddf a'r proffwydi yn rhoddi iddo obaith ar Dduw—gobaith am adgyf- odiad a bywyd tragwyddol. Y rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl. Gallai fod yr Apostol yn cyfeirio at y Phariseaid oedd yn bresennol. Y bydd adgyfodiad. Y mae'r syniad o fywyd ar ol marw yn perthyn i'r meddwl Hebreig. Diau nad ydoedd yn glir iawn, eto cawn gyfeiriadau ato yn ysgrythyrau yr Hen Destament. Yr oedd y syniad yn sail cysur i Job (xix. 25-27), rhag- hysbysir ef gan Esaiah (xxvi. 19), a dygir tyst- iolaeth iddo gan Daniel (xii. 2) ond trwy adgyf- odiad Crist y daeth bywyd ac anllygredigaeth i oleuni, ac yn ddylanwad clyrchafol ar fywyd. Cyfiawnion ac anghyfiawnion. Hynny yw, adgyf- odiad cyffredinol; pawb—y drwg a'r da. Adnod 16.—'Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddirwystr tuagat Dduw a dynion, yn wastadol.' Cyf. Diw., 'Ac yn hyn yr ydwyf finnau hefyd yn ymarfer i gael cydwybod,' &c. Ac yn hyn. Y grediniaeth o adgyfodiad. Yr oedd yn ymdrechu byw bywyd cymeradwy yngolwg Duw, gan gofio fod barn i fod. Yr ydwyf finnau. Dyma fy ymdrech i, beth bynnag ydyw barn fy ngwrthwynebwyr. Cydwybod ddirwystr tuagat Dduw a dynion. Tuagat Dduw, mewn ffydd ac addoliad tuagat ddynion, mewn bywj^d rhinweddol a chyson. Yr oedd ffydd yr Apostol yn allu i'w symbylu i fyw bywyd pur a da. Adnod 17.—'Ac ar ol llawer o flynyddoedd y deuthum i wneuthur elusenau i'm cenedl, ac offrymau.' Ac ar ol UaweV 0 flynyddoedd. Yr oedd wedi bod yn absennol am lawer o flynydd- oedd o Jerusalem, o bedair i bum mlynedd, yn pregethu ac yn casglu i gyfreidiau'r saint yno elusenau i'r tlodion, ac offrymau i'r deml. Adnod 18.Ar hynnT rhai o'r Iddewon o Asia a'm cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfvsg.' Cyf. Diw.) Ar ganol hyn y cawsant fi wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thwrf, na therfysg chwaith; ond yr oedd yno rai Iddewon o Asia.' Ar ganol hyn. Neu, wrth gyflwyno hyn. Wedi /y nglan- hau. Wedi myned dan ddeddf puredigaeth, fel un dan adduned. Nid wedi dyfod yno gyda'r amcan i derfysgu. Iddewon 0 Asia. Iddewon 0 Asia Leiaf wedi clyfod i Jerusalem (xxi. 27). Adnod 19. Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.' Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di. Gan mai h wy oedd wedi codi terfysg yn erbyn Paul, dylasent fod yn bresennol i achwyn, os oedd ganddynt gwyn y gallasent brofi yn ei erbyn. Adnod 20. Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim caniwedd ynof, tra fum i yn sefyll o flaen y cyngor.' Cyf. Diw., Neu, bydded i'r dynion hyn eu hunain ddy- wedyd pa gamwedd a gawsant, pan y sefais o flaen y cyngor.' Dynion hyn. Iddewon oedd wedi dyfod o Jerusalem i'w gyhuddo. Y mae Paul yn eu beiddio i ddwyn un cyhuddiad yn ei erbyn pan y safodd o flaen y cyngor. Adnod 21.—' Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith Am adgyf- odiad y meirw y'm bernir heddyw gennych.' Oddieithr yr un lief hon. Nid y llef ei hun, ond yr hyn oedd wedi ei ddywedyd am adgyfodiad y meirw. Hyn oedd yr unig beth y gallasent gael esgus i ddywedyd ei fod wedi troseddu. Yr oedd wedi profi ei fod yn ddieuog o'r cyhudd- iadau eraill. Felly y mae'n sefyll ei brawf am ei fod wedi hysbysu ei grediniaeth yn adgyf- odiad y meirw. GOFYNIADAU AR Y WERS. I. Pa fodd y daeth Paulo Jerusalem i Cesarea? 2. Beth oedd ystyr llytliyr y pen-capten at y rhaglaw ? Beth wnaeth y rhaglaw a Phaul ? 3. Pwy oedd ei gyhuddwyr ? Pwy a gyflog- asant fel dadleuydd drostynt ? 4. Pa gyhuddiadau a ddygwyd yn erbyn Paul ? 5. Pa fodd y mae Paul yn esbonio ei fynediad i Jerusalem a'i ymddygiad yno ? 6. Pa fodd y cyfarfyddodd a'r cyhuddiadau ddygwyd yn ei erbyn ? 7. Beth ddywed am yr Iddewon o Asia a'r Iddewon oedd wedi dyfod o Jerusalem ? 8. Pahain y mae'n cyfeirio at y lief o flaen y cyngor ? 9. Pa ddylanwad gafodd amddiffyniad Paul ar feddwl Ffelix ?

Marwolaeth Cenhadwr leuanc.

GALWADAU.

Advertising