Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

I%POB OCHR PR HEOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I POB OCHR PR HEOL. (I) Ar ol blynyddoedd mawrion o gystudd a neilltuaeth bu farw'r Parch. J. Ossian Davies. Gan mai yn y Tabernacl, Llanelli, yr ordein- iwyd ef, ac iddo dreulio tymor cyntaf ei weinid- ogaeth yn yr un maes a minnau, gallaf gyfeirio ato, er yn ddiau y bydd eraill yn gwneud hefyd. Ychydig mewn cymhariaeth yw'r bobl sydd yn aros yn y Tabernacl o'r rhai oedd dan ei weinid- ogaeth ef. Y mae er hynny rai o hyd, a melys yw eu hatgofion am dano. Ni fu yma'n hir iawn, ond hon oedd ei unig weinidogaeth Gymraeg. Pregethai gydag angerddoldeb oedd yn ysu popeth, meddir, er fod ei ddull o draddodi'n lied galed, ac yn dweyd arno. Yr oedd tyrfa gref yn y Tabernacl y pryd hwnnw fel sydd eto. Eglwys newydd ydoedd pan ddaeth Ossian iddi, ac yr oedd tair o leiaf o eglwysi presennol y dref heb eu ffurfio o gwbl ar y pryd. Y Tabernacl oedd yr unig gapel yn rhan uchaf y dref ar wahan i'r fam-eglwys. Yr oedd personoliaeth ddeniadol Ossian yn llawn cymaint o help iddo ag oedd ei bregethu hyawdl, meddir. Swynai bobl i'r capel yn ddiarwybod iddo ymron, gan mor siriol a llawen a diwenwyn ydoedd gyda phawb. Sonnir am dano hyd heddyw fel anwylyn cyffredinol, yn llawn chware ac ysmaldod a ffraethineb. Adroddir ystraeon am ei ddull hoffns, cyfeillgar, cartrefol gyda'r gweithwyr, a rhyw atgof peraidd sydd am dano ymhob man. Mae'n amheus a fu unrhyw weinidog yn y dref hon adawodd argraff mwy dymunol ar ei ol yn y cyfeiriadau hyn. Bachgen ffein oedd Ossian —dyna'r ymadrodd ystrydebol am dano. (2) Ymysg eraill sydd yn ymweled a maes y rhyfel i weithio law yn llaw a mudiad Cym- deithas Gristionogol y Gwyr Ieuainc, y mae gweinidog newydd eglwys Saesneg y Pare, Llanelli-y Parch. Rhys Griffiths, M.A. Nid oes ond rhyw flwyddyn er pan yr ymsefydlodd yma, ond y mae'n profi'n wr ieuanc gofalus a doeth yn ogystal a llafurus a galluog. Nid llawer a gaiff y Y.M.C.A. yn fwy cyfaddas i'r gwaith sydd mewn llaw nag efe, a bydd yn cychwyn cyn hir, trwy gydsyniad ei eglwys, am tua thri mis i'r cyleh a neilltuir iddo. Bu efe o'r blaen yn un o'r gwersylloedd yn helpu'r Gymdeithas, a gwyr felly beth i'w wneud. Y mae ei bersonol- iaetli, ei bwyll, ei ddiwylliant a'i brofiad a phob peth yn siwr o fod yn gymwysterau tra eithr- iadol ynddo. Teimla hefyd ei fod yn sengI, ac o oedran milwrol, ac y carai yntau allu gwneud rhyw help i'w wlad a'i chrefydd yn y cyfwng hwn. Dyna'n bennaf, efallai, a'i tuedda i fynd, er iddo dderbyii apel oddiwrth y Y.M.C.A. am ei gymorth. (3) Daeth sicrwydd o'r diwedd i Mr. T. Millward, y Ton, am farwolaeth ei fab, Pte. W. Selwyn Millward, er na chadarnhawyd y newydd trist yn swyddogol eto. Ofni'r gwaethaf yr oedd ei dad o'r cychwyn. Pertliynai Selwyn a'i frawd, Staff-Sergt. J. Horatio Millward, i'r Canadian Expeditionary Force. Daeth y ddau i ymladd dros eu gwlad, ac wele'r ieuengaf eisoes wedi cwympo. Fel a llawer tad arall sydd yn ing i gyd am ei fab, cydymdeimlwn a Mr. Millward. Hefyd, er yn lied ddiweddar, a Mr. Jones, ysgolfeistr Brynteg-un o swyddogion eglwysig anwylaf y cylch—yn ei ofid dwys am ei ddau fachgen sydd wedi cwympo. Newydd- ion drwg sydd yn gorddiwes teuluoedd ar bob llaw ers misoedd. Cynhalied Duw hwy yn y bylchau. (4) Helbul ryfedd sydd wedi dod i hanes capeli'r wlad yw helbul y gorchuddio'r ffenestri. Wele wawch sydyn o gyfeiriad y Weinyddiaeth, ymhen dwy flynedd wedi dechreu'r rhyfel, fod yn rhaid i bob bwthyn a chaban, a chapel a chuddigl, ac eglwys a mynachlog, gael llenni dros eu ffenestri, a thros eu drysau hefyd, os bydd perygl eu hagor yn rhy fynych yn yr hwyr Llenni duon, llenni trwchus, llenni Iluosog-rhai na fedr pelydryn o oleuni weithio ei ffordd drwyddynt nac heibio iddynt na thanynt na dim. Och ni y fath gryndodau anghyson sy'n gorddiwes yr awdurdodau. Mae gweithfeydd dur a haearn ac alcam y De yn fflamio'n ddiwahardd o'n cylch bob nos yr awyr yn wen gan oleuni'r ffwrneisiau aruthrol- ac ni feiddia neb eu hatal na diffodd y tan. Ond os bydd cannwyll frwyn mewn bwthyn, neu'r gas salaf a phylaf mewn capel, rhaid cuddio'r cwbl, fel pe mai oddeutu'r cartref a'r cysegr y mae'r ysbryd drwg yn byw. (5) Y mae panic y Llywodraeth wastraffus ac annhrefnus a dyryslyd hon yn ddigon i beri i bost llidiart' chwerthin. Nid ymyrra a phrisiau bwyd pan y mae te a siwgr a llaeth a bara a ymenyn wedi dyblu yn eu pris, heb son am foethau. Ni symuda ond gydag arafwch gwar- adwyddus i godi tipyn ar Bensiwn yr Hen Bobl Ni chyfyd ei Haw i atal miliwn o bunnau yn y dydd rhag cael eu hafradu yng ngweithfeydd y cadnwyddau a lleoedd o'r fath. Ond cyfyd ei llaw at ei phen niwliog, a rhytha i bob eyfeiriad gyda dychryn pan wel lygedyn o oleu yn dod o ffenestr y caban neu'r capel, a gwaedda am guddio'r gwydr, a chuddio'r drysau, a diffodd y lampau yn yr heolydd, bagled a fynno, syrthied a syrthio. Rhued y gweithfeydd, tywynned y chwareudai, fflachied peiriannau o bob math, a gwnaed y ffwrneisiau'r awyr yn glaerwen danlli —dim o bwys Ond y chwi sydd yn y cotai bychain, a chwi sydd yn y maeldai beilchion, a chwi sydd yn y capeli—ewch i'ch gwelyau heb oleuni, ac ewch i'ch tyIlau duon fel llygod. Lights out (6) Nis gallaf ymatal rhag cyfeirio at farwol- aeth y cenedlgarwr ieuanc, Mr. T. Mathews, M.A., Llandebie, yr hwn a gladdwyd ym myn- went eglwys ei ardal ei hun prynhawn Linn, Medi'r IIeg. Syrthiodd llawer dyn mawr i'r bedd yn ystod blynyddoedd y rhyfel hwn ac oherwydd fod trychineb mor eang yn llenwi meddwl y byd, ychydig sylw gafodd eu marw- olaeth hwy. Diau y talesid mwy o sylw i farw- olaeth y Cymro gwladgar hwn pe y digwyddasai ar adeg o heddwch yn hanes y wlad. Mab i ysgolfeistr Llandebie ydoedd. Daeth yn ysgol- haig da ei hunan. Yr oedd yn niwedd ei oes yn athraw mewn ysgol ym Mhengain, Mynwy Bu adref yn glaf am rai wythnosau, ac fel petai nychtod wedi ei ddal. Ysgrifennodd a chy- hoeddodd amryw lyfrau yn Saesneg a Chym- raeg. Diau ei fod yn fwy medrus yn Saesneg nag yn Gymraeg-nid oedd ei feistrolaeth ar y Gymraeg yn berffaith o dipyn, mor bell ag y clywais ef yn siarad. Eithr yr oedd yn bybyr yn ei ysbryd cenedlgarol, ac yn dra eiddigeddus dros ei wlad o bob cyfeiriad. (7) Ni wyddai llawer ohonom pa bryd y cy- merai'r angladd le, tiac ymha fan, onite aethai tyrfa tuag yno, yn ddiau. Gwasanaethai dau neu dri o weinidogion Eglwys Loegr, ac awd drwy'r cwbl yn dawel a gweddus fel arfer. Ond ni wnaed sylw o safle na gwasanaeth na gwlad- garweh Mr. Tom Mathews ar wahan i'r gwas- anaeth claddu arferol. Yr oedd rhai enwogion a llenorion yn bresennol yn yr angladd dau Lydawr llengar a galluog wedi dod yno; rhai yn dal perthynas a llyfrgelloedd Cymru hefyd; un Aelod Seneddol sydd wedi arfer bod ar dan gan wladgarwch, a gweinidogion Ymneilltuol o'r cylch. Ond ni roed cyfle i neb ddweyd dim, hyd yn oed ar l'àn y bedd. Credaf mai o ddiffvg meddwl yn hytrach na dim arall y bu felly, eithr gresyn na chawsid dweyd gair yn y fyn- went neu rywle am wr ieuanc mor lafurus a brwd a blaenllaw gyda phethau Cymru. Prin y deallodd Llandebie fod disgleiried talent wedi codi yno, meddir. (8) Cyhoeddiad a groesawn o fis i fis yw'r Welsh Outlook. Y mae llawer o ysgrifau gwir werthfawr wedi ymddangos ynddo o'r cychwyn, ac nid gan ysgrifenwyr dibrofiad ac anwybodus ynghylch eu pynciau. Weithiau, er hynny, byddwn yn holi ein hunain pam y gelwir ef yn WELSH Outlook ? Cymerer y rhifyn am Fedi, er enghraifft. Gwneir ef i fyny o bethau na ddaliant y berthynas leiaf a Chymru, gan mwyaf. Nid yw ysgrifau ar Spaen a Belgium a Bernard Shaw a George Henfrey yn dal perthynas a'r Outlook GYMREIG, yn sicr. Ac nid am dro y gwelir hyn, ond y mae wedi dod yn dra nod- weddiadol o'r cyhoeddiad rhagorol. Pan yn son am weithwyr ac addysg a sefydliadau Cymru, y mae'n aniheuthun darllen yr ysgrifau, a gallant arwain i ddaioni mawr; ac hyd yn oed pan yn udganu clodydd rhyw ddau neu dri o feirdd Cymreig diweddar, y mae'n werth ei ddarllen, pe er mwyn dim ond difyrrwcli. Gresyn fyddai i gyhoeddiad fel hyn golli'r cyfle mawr a fedd i helpu Cymru, a gall wneud hynny drwy gadw yn agos at y genedl a'r wlad, a thrafod ei chwest- iynau hi. Ceir digon am y byd o'r tuallan yn llyfrau Lloegr. (9) Y mae Cwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig (Caernarfon) yn dal i droi allan lyfrau bychain. Dyma lyfr swllt o waith y Parch. T. Mardy Rees, Castellnedd—gweithiwr diwyd iawn. Difyrrwch Gwyr Morgannwg yw ei deitl. Tybiais ar y cychwyn mai gydag un o'r alawon Cymreig yr oeddwn ond y difyrrwch sydd yng nghymeriad glowyr Morgannwg yw'r maes sydd gan Mardy. Ystraeon ffraeth a chellweirus yn dangos yr elfen chwareus a digrif sydd ym mywyd y gweithiwr glo ydynt, ac y mae'r darlun cyntaf yn y llyfr yn ddigon i beri i un chwerthin yn ddiarwybod iddo, heb son am y gweddill sydd drwy'r llyfr. Cefais oriau diddan yn darllen y penodau yn y llyfr hwn, ac ni chwarddais fwy ers llawer dydd. Llafar gwlad Morgannwg yn ei doniolwch sydd gan yr awdur, ond gydag ychydig ofal gallsai fod wedi ysgoi ambell frycheuyn. Mae manager, maniger a manijer, excursion a sgyrshon i'w cael yma, a geiriau fel delicates am deligates. Pam 11a fuasid wedi eu Cymreigio—delicSts com- mittee—comiti bloke—bloc, &c. ? Diffyg gofal fel hyn yw'r unig beth sy'il anafu ychydig ar y llyfr. Ond ar wahan iddynt y mae defnydd mwynhad diniwed ynddo sydd yn well nag wythnos yn nwr y mor. Prawf y llyfr hwn fod gan Mr. Mardy Rees ddoniau lawer, ac y gall wasanaethu ei wlad yn helaeth. (10) Llyfr bychan chweeheiniog ar Tom. Ellis yw'r llall gan O. Llew Owain. Math o amlinelliad o fywyd y gwladgarwr a'r gwyl- iedydd yw, ac y mae'n werth ei gael, er yn rhy fyr a bratiog o lawer. Syndod na chawsid byw- graffiad iawn i Tom Ellis ymhell cyn hyn, a

0 FRYN I FRYN.I