Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

I Y WERS SABOTHOL. Ó

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I Y WERS SABOTHOL. Ó   i Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. I A Õ A Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., A J TreSynnon. | Y HYDREE Isfed.Yr Apel at Cesar. Actau xxv. 1-12. Y TESJrYN Ll URAIDD. Digon i'r disgybl fod fel ei athraw, a'r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y ty yn Beelzebub, pa iaitit mwy ei dylwyth ef ? 'Matt. x. 25. PHAGARWUINIOL. I YN y Wers cawn hanes y tnodd y trefnodd Rhag- luniaeth i Paul gael myned i Rufain. Er fod Ffelix yii argyhoeddedig o ddiniweidrwydd Paul, cadwodd ef yn y carchar er mwyn bodloni'r Iddewon. Daeth Porcius Ffestus yn rhaglaw yn lie Ffelix. Wedi i Ffestus ymgymeryd a'r rhaglawiaeth, ar ol tri diwrnod aeth o Cesarea i Jerusalem er mwyn talu gwarogaeth i'r Idd- ewon a dyfod yn gydnabyddus a'r ddinas fwyaf pwysig yn ei dalaith. Erbyn hyn yr oedd Ismael wedi cymryd lie Ananias fel archoffeiriad, ond yr oedd yr hen elyniaeth yn erbyn Paul mor fyw ag erioed. Ymddanghosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon gerbron y rhaglaw newydd, ac wedi talu gwarogaeth iddo, gosod- asant ger ei fron eu cwynion yn erbyn Paul, a. gofynasant iddo ei ddwyn i Jerusalem i'w brofi, ',an wneuthur cynllwyn i'w ladd ar y ffordd.' Gwrthododd Ffestus eu cais hyd nes y cawsai gyfleustra i wybod ychwaneg am yr achos. Dvwedodd wrthynt ei fod yn dychwelyd i Ces- area yn fuan, ac y gallasent hwy ddyfod gydag ef, a gosod eu hachos yn erbyn Paul o'i flaen yno. Ymhen wyth neu ddeg diwrnod dych- welodd Ffestus i Cesarea, ac yn ol ei addewid, eisteddodd drannoeth ar yr orsedd farnol, ac a archodd ddwyn Paul ato.' Gwrandawodd ar y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn gan yr Iddewon ond nid oedd Ffestus yn deall yr achos. a chynygiodd i Paul gel ei farnu o flaen y Sanhedrim yn Jerusalem. Gwrthododd Paul y cynygiad ar unwaith. 'Apelio yr wyf/ meddai, at Cesar.' Yr oedd ganddo hawl i hyn fel diaesydd Rhufeinig. Yna Ffestus, wedi ymddiddan a'r cyngor, a atebodd, .At Cesar y cai di fyned.' HSBONIADOI,. Adnod i.~—' Ffestus gan hymvy, wedi dyfod i'r dalaith, at ol tri diwrnod a aeth i fyny i Jerusalem o Cesarea.' Ffestus, Y rhaglaw a osodwyd yn lie Ffelix. Y mae'n ymddangos yn well cymeriad na Ffelix. Wedi dyfod i'r dalaith. Neu, wedi dyfod i mewn i'w dalaith cymryd gafael yn ei swydd. A r ol tri diwrnod, a aeth i fyny 0 Cesarea i Jerusalem. Prysurodd. i ym- gydiiabyddu a phrifddinas y dalaith. Adnod 2.-—* Yna yr ymddanghosodd yr arch- offeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef.' Cyf. Diw., 'A'r archoffeiriad a phenaethiaid yr Idd- ewon a achwynasant wrtho yn erbyn Paul.' Ismael oedd yr archoffeiriad y pryd hwn, yr hwn a osodwycl gan Ffelix yn He Ananias. A pheTl- aethiaid yr I ddewon, Nid yn unig aelodau y Sanhedrim, ond heiyd prif ddynion 3' genedl. A achwynasant wrtho yn erbyn Paul. Y mae'r' ferf yn awgrymu eu bod wedi dwyn cyhuddiadau pendant yn ei erbyn. Adnod 3.—' Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrchai efe ef i Jerusalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.' Gan geisio ffafr yn ei erbyn. Fglurir nad y ffafr a geisient yn yr ymadrodd liesaf. Fel y cyrchai efe ef i Jerusalem, gan wneuthur, &c. Gofynnent i Ffestus ddwyn Paul i Jerusalem i gael ei brofi, ond eu gwir amcan ydoedd cael cyfle i ladd Paul ar y ffordd. Nid oedd dwy flynedd wedi oeri dim ar eu cynddaredd. Adnod 4.—' A Ffestus a atebodd, y cedwid Paul yn Cesarea, ac yr ai efe ei hun yno ar fyrder.' Cyf. Diw., Ond Ffestus a atebodd fod Paul mewn cadwraeth yn Cesarea, a'i fod efe ei hun ar fyned yno ar fyrder.' Y mae'n debygol fod Ffestus yn drwgdybio eu hamcan, ac felly gwrthododd eu cais. Dywed wrthynt fod Paul mewn cadwraeth yn Cesarea, os os oedd angen am brawf pellach, mai yno y dylasai gael ei gynnal. Yr oedd ef ei hun yn dychwelyd yno ar fyrder. Adnod 5.—' Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg, eb efe, deuant i waered gyda mi, ac od oes dim drwg yn y gwr hwn, cyhuddant ef.' Cyf. Diw., Bydded gan hynny, meddai, i'r rhai sydd o awdurdod yn eich mysg,' &c. Gwahodda y rhai oedd mewn awdurdod swyddogol i ddyfod gydag ef i Cesarea, a gwneud eu cwynion. Od oes dim drwg yn y gwr hwn, cyhuddant ct. Rhydd gyfleustra iddynt eu gyhuddo o flaen y frawdle briodol. Adnod 6.—' A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato.' Cyf. Diw., Dros wyth neu ddeng niwrnod.' Nid arhosodd y rhaglaw yn Jerusalem ond rhyw wyth neu ddeng niwrnod. Yna aeth i waered i Cesarea. A thrannoeth. Wedi dyfod i Cesarea. Ete a eisteddodd yn yr orsedd. Neu, ar y frawdfainc, a gorchmynnodd ddwyn Paul ger ei fron i'w brofi. Adnod 7.-Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerusalem i waered, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi.' Cyf. Diw., Gan ddwyn yn ei erbyn ef gyhuddiadau lawer a thrymion, y rhai nis gall- ent eu profi.' Safodd y cyhuddwyr o amgylch Paul mewn dull bygythiol, gyda'r amcan o godi arswyd arno. Cyhuddent ef o droseddu y gyf- raith ac o halogi'r deml, a chwanegant ei fod yn fradwr yn erbyn Cesar ond barnai Ffestus nad oedd ganddynt ddigon o brofion i gadarn- hau'r cyhuddiadau. Adnod 8, Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar.' Cyf. Diw., Tra y dywedai Paul yn ei amddiffyniad, Ni phechais i,' &c. Gwadodd yn bendant ei fod wedi troseddu deddf Moses, ond ei fod wedi dangos pob parch iddi. Yr oedd wedi parchu'r deml trwy addoli ynddi, ac ni ddygodd y Cenhedloedd iddi. Gwada ei fod ef erioed wedi terfysgu nac annog neb arall i der- fysgu. Adnod 9.—' ijithr Ffestus, yn chwennych dangos ffafr i'r Iddewon, a atebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fyny i Jeru- salem, i'th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn ? Eithr Ffestus, yn chwennych dangos ffafr i'y I ddewon. Fel rhaglaw newydd yr oedd am ctlni11 ffafr yr Iddewon. A atebodd Paul. Gofyn- nodd iddo a fynnai efe gael ei farnu yn Jeru- salem gan y Sanhedrim. Sicrha wrtho y buasai efe yno yn gwylio gweithrediadau'r llys. Hwyr- ach ei fod yn disgwyl atebiad nacaol, ond fel barnwr nid oedd ganddo hawl i ofyn y fath beth. Adnod 1 o.—' A Phaul a ddywedodd, 0 flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lie y mae yn rhaid fy marnu ni wneuthum i ddim cam a'r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda.' Cyf. Diw., Ond Paul a ddywedodd 'Yr ydwyf fi yn sefyll, lie y dylid fy marnu.' Gwrthoda Paul y cynygiad am mai gorseddfainc Cesar oedd y fan briodol i'w farnu. Honna nad oedd wedi gwneuthur dim cam a'r Iddewon. Megis y gwyddost ti yn dda. Darllena rhai, Megis y gwyddost yn well,' sef yn well nag wyt ti'n cymryd arnat wybod.' Adnod ix.—' Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angeu, nid wyf yn gwrthod marw eithr onid oes dim o'r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Apelio yr wyf at Cesar.' Cyf. Diw., Os ydwyf gan hynny yn ddrwgweithredwr, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angen, nid wyf yn gwrthod marw eithr os nad oes dim o'r pethau hynny yn wirionedd, o ba rai y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon un dyn fy rlioddi i fyny iddynt. Yr wyf yn apelio at Cesar,' Dadleua Paul fod yn rhaid i'r cwestiwn o'i euogrwydd gael ei ben- derfynu gan y llys gwladol, ac nid gan y llys eglwysig yn Jerusalem. Nid oedd yn erbyn dioddef cosbedigaeth hyd at angen os gellid ei brofi'n euog, ond yr oedd yn berffaith ymwyb- odol o'i ddiniweidrwydd. Nid oedd dim o'r cyhuddiadau yn wirionedd. Gwyddai Paul beth oedd ei hawliau fel dinesydd Rhufeinig. Yr oedd ganddo hawl i gael ei brofi gerbron Cesar yn Rhufain. Dywed Yr wyf yn apelio at Cesar.' Adnod 12.—' Yna Ffestus, wedi ymddiddan a'r cyngor, a atebodd, A apeliaist ti at Cesar ? at Cesar y cei di fyned.' Cyf. Diw., Ti a apel- iaist at Cesar at Cesar y cei di fyned.' 1 Ffestus, wedi ymddiddan a'r cyngor. Yr oedd Ffestus yn rhwym o ystyried apel Paul. Ym- gynghora a swyddogion y llys. Wedi'r ymgyng- horiad daeth i'r penderfyniad nad oedd ffordd arall ond caniatau cais y carcharor. Dywed wrtho.: Ti a apeliaist at Cesar: at Cesar y cei di fyned.' Gwyddai Paul fod cwrs ei daith Fw ddwyn i Rufain. Chwenychai yntau weled Rhufain, ac yma y mae dichellion a malais ei elynion yn cydweithredu a gwendid y barnwr i ryddhau ei ffordd tuag yno. Olwynioti Rhag- luniaeth ddwyfol sydd yn ysgogi popeth, ac y mae dynion yn gorfod cynorthwyo heb wybod hynny. Meddyliant mai hwyr eu hunain sydd yn gwneuthur y cwbl.' GOPYNIADAU AR Y WERS. i. Paham y cadwodd Ffelix Paul yn y carchar ? 2. Pwy oedd Ffestus ? Beth oedd ei amcan wrth fyned i Jerusalem ? 3. Pwy a dclygodcl y cyhuddiadau yn erbyn Paul ? 4. Beth a ddymunent i Ffestus wneuthur, a beth oedd eu hamcan ? 5. Pa fodd yr atebodd Ffestus hwynt ? 6. Pa fesurau pellach a gymerwyd i brofi Paul ? 7. Pa gyhuddiadau newycldion a ddygwyd Y11 ei er byn ? 8. Beth oedd cynyiad Ffestus i Paul ? iCg. Pa fodd yr atebodd Paul Ffestus ? Beth fu'r canlyniad ?

Family Notices

Gydag Un Llais.