Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Glandwr Taf. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Glandwr Taf. I Cynlialiwyd cyfarfodydd sefydlu y Parah Jenkin Jones, B.A., yn weinidog ar yr eglwys uchod Gorffennaf 13eg. Fel y gwyr y rhan fwyaf o ddarllenwyr y TVST, bu Mr. Jones am flynyddoedd 3-11 cyimal ysgol ragbaratoawl ym Mhontypridd, a chymhwysodd lu o fyfyrwyr i'r gwahanol golegau yng Nhgymru a Lloegr. Meddai Mr. Jones ar briod ddawn yr athraw-gwybod- aeth, gallu i gyfrannu gwybodaeth, cyclym- deimlad a'i ddisgybl, ac, fel yr hen broffwyd Ezeciel gynt, yn eistedd lle'r oeddent hwy yn eistedd. Pregethai hefyd yn gyson, a hynny gyda chymeradwyaeth uchel yr lioll eglwysi. Ond credai pawb a adwaenai Mr. Jones yn dda mai dyn ydoedd i gysegrn ei holl alluoedd i'r weinidogaeth, ac ni bu llawer ohonom yn ol o'i atgofio a'i gymell i ymsefydln mewn eglwys. Ond wele'r rhyfel hwn, nen efallai yn gywiracli, Rhagluniaeth drwy'r rhyfel, yn agor y drws iddo i'r weinidogaeth. Daeth tyrfa o'i gyfeillion a'i edmygwyr ar y dyddiad uchod i Landwr. Llywyddwyd y cyf- arfod sefydlu gan y Parch. C. Tawelfn-n Thomas, Groes Wen. Wedi i'r Parch. L, D. Evans, Pont- ypridd, ddarllen a gweddio, traddododd y Llyw- ydd araith bwrpasol. Yna cafwyd anerchiad gan y Parch. D. Stanley Morgan, Mountain Ash, cyn-weinidog yr eglwys. Testyn Mr. Morgan oedd Gwaith yr Eglwys yn ?waith -?,r Eglw)7s yil ac ar ol y Rhyfel.' Pwysleisiodd mai gwaith yr Eglwys yw, ac a fydd, cael dynion i Grist a'u cadw yng Nghrist. Siaradwyd hefyd gan y Parch. 0. IJoycl Owen, Sardis (gweinidog yr eglwys lle'r oedd Mr. Jones yn aelod gweithgar). Traethai Mr. Owen ar y pregethwr. Dywedai mai dyn wedi ei lanw gan Dduw yw'r gwir bregethwr, ac mae mor amhosibl rhwystro un felly i lefaru ac yw rhwystro afon lifo wedi i'r cymyl ei llanw. Siaradai Mr. Owen o dan gryn anfantais, oherwydd derbyniad y newydd ychydig cyn hynny fod ei fab wedi ei glwyfo'11 ddrwg yn y ffosydd yn Ffrainc. Yr oedd ei anerchiad, fel arfer, yn lan, yn fyw, ac i'r pwynt. Yna cafwyd gair gan yr hen frawd diddan Mr. Isaac Thomas dros Glandwr. Dywedodd. eu bod wedi gofyn iddo Ef am weinidog, gan y credent os buasai yn ei fodloni ef y byddai'n sicr o'u bodloni liwy. Siaradwyd gan y Parch. D. W. Edwards, B.A., Peumain, dros yr hen fyfyrwyr. Tarawodd ef nodyn newydd pan ddywedai nad oedd athrawon fel Mr. Jones wedi cael digonosylw a clilod mewn cyrddau ordeinio a sefydlu. Onid hwynt-hwy, yn anad neb, sydd wedi torri'r garw yn hanes ami i fyfyriwr, a'i osod ar ben y llwybr ? Cafwyd ychydig eiriau hefyd gan y Parchn. D. G. Rees, EgIwysnewydcl, ac R. G. Berry fel cymdogion Parch. J. Evans, Gideon, fel gwein- idog mam-eglwys Mr. Jones; a Dr. Davies, Emlyn, fel un o hen weinidogion Glandwr-un sydd yn dal yn iraidd o hyd, ac yn sefyll ar uchelfannau'r maes. Yna cafwyd gair gan Mr. Jones yn diolch i'w gyfeillion ac i'r siaradwyr, ac yn enwedig i eglwys Sardis am y cyfrolau gwerthfawr gyf- lwynwyd iddo. Yr oedd yno In o weinidogion a myfyrwyr ac eraill yn bresennol heblaw a ennwyd. Diwedd- wyd y cwrdd hapus a bendithiol hwn gan y Parch. Rowland Hughes, B.D., Tylorstown. Yn yr hwyr dechreuwyd gan y Parch. Daniel Davies, Penrhiwceibr, a phregethwyd gan y Parch. Edward Jones, M.A., B.D. (brawd. i Mr. Jenkin Jones), yr hwn sydd yn awr yn gaplan yn Kinmel Park. Cafwyd ganddo un o'r preg- ethau goreu wrandawsom erioed. Yr oedd ei arddull, ei fater a'i ysbryd yn odidog. Mewn gair, hoffem bopeth ynddo ond y wisg filwrol. Pregethwyd. ar ei ol gan Dr. Davies. Digon yw dweyd fod y Doctor fel arfer. Yr oedd y chwiorydd wedi darparu cyflawil- der o luniaeth ar gyfer y dieithriaid. Mae ein cyfaill wedi ymsefydlu mewn ardal dlos, ac hefyd ardal gynhyddol a phrysur, ac mewn eglwys sydd a llawer o wres ysbrydol yn llosgi'n anni- ffodd ynddi. Boed iddynt gael eu harwain i diriogaetliau uwch ac i weledigaethau godi- docach. CYMYDOG.

Advertising

Angladd y Parch. John Tertius…

Sefydliad Ymneilltuol y Milwyr…

Advertising