Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Hyn a'r Llall o Babilon Fawr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hyn a'r Llall o Babilon Fawr. i. GAN EYNON. Dymnnaf eich caniatad caredig, Mr. Golygydd, i roddi diolch cynnes drosom oil fel teulu am yr holl barch a ddanghoswyd gan wahanol eglwysi a hen gyfeillion i goffadwriaeth fy mrawd enwog ac annwyl^sydd bellach wedi newid y groes am y goron. F Mae'r wasg wedi bod yn garedig dros ben, ac yy TYST am yr wythnos cyn hon melys iawn oedd darllen yn yr erthygl olygyddol ac yn yr erthyglau galluog eraill nad oedd y blyn- yddoedd wrth fynd heibio wedi oeri dim ar anwyldeb ei frodyr sydd yn cofio heddyw am dano gynt pan yn ymdaith yn amlder ei rym drwy addoldai a chymanfaoedd Cymru. A-thrayn-diolch fel-h n i bawb, goddefer i mi ychwanegu yn onest nad oes yr un ohonynt wedi bod yn euog o ormodiaith. Bu fyw, bu farw yn odidog. Am tua phymtheg mlynedd cafodd ei shuntio i'r siding, a chariodd ei groes drom fel gwron. Ni chlywyd o'i enau yr un V gair gwrthryfelgar, ond plygodd yn ufudd ac yn dawel i ewyllys fawr y nefoedd. Rai blynydd- oedd yn ol dywedai wrth hen gyfaill iddo yng Nghasnewydd Twenty-five years ago God said to me, Ossian Davies, go and preach My Gos- pel and I went and preached with all my soul. Later on God said to me in my prime, Ossian Davies, go and suffer"; and now (meddai) I am trying to do that.' Maddeuer i mi am fod mor bersonol am y tro, ond gwn y bydd yn dda gan ei hen ffrindiau gael gair neu ddau o'i hanes yn cyrraedd pen y daith. Ym mis Awst fe aeth am bythefnos i Yarmouth, lie y mae yr unig ferch yn byw, a chafodd yno amser wrth ei fodd. Dychwelodd i Shortlands wedi ymfywhau. Tua dydd Mawrth daeth arwyddion pneumonia i'r golwg, ond nid oedd neb yn ofni'r diwedd. Anfonwyd i mi neges fore Sadwrn, a ffwrdd a mi rhag blaen-oild yr oedd»yn rhy ddiweddar. Nid oedd yn adnabod neb ohonom. Prynhawn Sadwrn cefais yr olwg olaf arno. Ar fore Sul—pan yr oedd y Zeppelins yn hofran uwchben ein dinas, a'r magnelau yn rhuo wrth eu tân-belenllu-daeth yr alwad, ac fe ehedodd yr enaid anfarwol o swn stormydd a rhyfeloedd daear i fewn i dragwyddol hedd. >I< Nid oedd wedi amlygu yr un dymuniad ynghylch man fechan ei fedd, ac felly mewn llecyn tlws gerllaw y Palas Grisial dodasom ei weddillion cysegredig i gadw hyd y bore mawr. Yno mae'r corff ond am yr enaid, fe aeth hwnnw i dy mwy gogoneddus na'r un palas grisial welodd ein daear ni erioed. Cymerodd ei hen gyfeillion, Elwyn Thomas, Justin Evans a J. D. Jones, eu rhan yn y gwasanaeth yn fy hen gapel yn Beckenham; ac ar lan y bedd siaradodd Morgan Gibbon, a diweddwyd gyda gweddi Gymraeg felys odiaeth gan Elfed. Bydd y ddaear hon yn wacach i filoedd ohonom ar ol ei ymadawiad. Gwyn ei fyd.' Nid oes llawer o hwyl ar hyn o bryd i newid ymadrodd, ac eto wiw i ni aros yn rhy hir ar lan y bedd. Y mae gofynion bywyd yn galw arnom i gario ein gwaith ymlaen. Nid oes fawr newyddion anghyffredin o faes y frwydr, eto mae'r arwyddion yn dod yn fwy-fwy eglur fod y Kaiser gwaedlyd a'i luoedd yn sylweddoli o'r diwedd fod trychineb yn eu haros. Y dydd o'r blaen traddododd ei Brifweinidog araith arall llawn bombast a chelwyddau. Yr oedd y si ai- led hefyd ei fod ar hyn o bryd yn ceisio gan America a'r Ysbaen, heb son am y Pab o Rufain, i gyfryngu ond dacw Lloyd George yn gollwng taranfollt allan, ac yn dweyd wrthiy ffrindiau hyn oil, Hands off! Y pwnc mawr ar hyn o bryd yw gorchfygu'r gelyn-ac wedi hynny son am delerau. Pe bai America a'r lleill wedi cyfryngu, fel y dylasent wneud, ym mis Awst, 1914, gallasent fod wedi gwneud gwasanaeth amhKWLadwy i'r byd yn gyfan. Dewisasant gadw draw pan oedd Ger- mani yn sarnu'r holl ddeddfau rhyngwladwr- iaethol dan ei thraed. Bellach y mae'n rhy ddiweddar. Rhaid cael y bwli mawr German- aidd i'r llwch a'r lludw, a'i osod mewn cad- wynau, fel nas gall aflonyddu byth mwy ar heddwch plant dynion. Lloyd George, ar hyn o bryd, yw dyn mawr y teyrnasoedd. Cyd- nebydd pawb ei nerth, ac y mae Hands off Lloyd George wedi gwefreiddlo'r byd. Ac eto y mae pawb ohonom yn gweddio am heddwch— heddwch fel afon, ond ar ol i ni sicrhau cyf- iawnder fel tonnau'r mor. Mae'r Parch. R. J. Campbell wedi cyhoeddi llyfr saith a chwech yn esbonio paham y mae hen weinidog y City Temple wedi troi yn gurad yn Eglwys Loegr. Mae'r wasg wedi pwffio'r gyfrol yn anghyffredin ac os gall pwffio werthu y gyfrol, daw i'r awdur gryn godaid o elw. Nid wyf yn bwriadu talu saith ceiniog a dimai, heb son am saith swllt a chwech, am y wybodaeth hon. Nonsense oedd gwneud cymaint o fuss ynghylch ymadawiad ein brawd pan y croesodd y clawdd ffin. Ni fu erioed yn wirioneddol yn un ohonom ni, ac nid oes fawr alar (ond gan outsiders y wasg) am ei fod wedi cefnu. Fly 11 yddoedd lawer yn ol, pan yn aros o dan ei gronglwyd yn Brighton, cyffesodd wrthyf fod swyn anghyffredin iddo ef yn yr Offeren Bab- aidd (High Mass), ac nad oedd ein gwasanaeth Cymundeb ni yn apelio ato ef o gwbl. Conr wedi hynny iddo ddwywaith awgrymu fod i'r eglwysi Prydeinig o bob lliw a llun (yn Sefydledig ac yn Yinneilltuol) yrru apel at y Pab o Rufain i erfyn arno ef fel pennaeth y byd Cristionogol' i. gyfryngu rhwng y teyrnasoedd sydd yn rhyfela ar hyn o bryd. le'n sicr—gweinidog y City Temple yn apelio at y Pab fel the head of the Christian world' Wrth reswm, wnaed yr un sylw ohono. Y mae talu saith a chwech am hanes rhyw anwadalwch fel hyn yn wastraff ar I.gregyil. heddwch.' Mae'r reviewer newyddiad- urol yn fwy na digon ar fater mor ddibwys ac anniddorol. Synnwn i ddim na cheir cyfrol arall ymhen deg mlynedd yn esbonio ei symud- iad i Eglwys Rhufain. Yn y cyfamser, beth ddaw o'r New Theology?

GLOYWI'R GYMRAEG.