Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Peidiwch a Gadael Merthyr…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Peidiwch a Gadael Merthyr Tydfil I chwilota am brawf. Chwi a'i cewch yn ymyl cartref. Preswylia Mr. M. Lewis yn 23 Dan-y-Parc, ac y mae'r sicrwydd cymdogol yn llawer mwy o werth i chwi na thystiolaeth oddiwrth bobl a breswyliant mewn trefydd anghysbell. Gallwch yn hawdd roddi prawf ar dystiolaeth cymydog. Mai 27ain, 1913, dywedai Mr. Lewis :—' Pa bryd bynnag y cawn annwyd effeithiai bron bob amser ar fy arennau, ac ar ol plygu teimlwn hi yn anodd iawn i ymuniawnu drachefn. Oddeutu blwyddyn yn ol cefais ymosodiad llym, a chan i mi glywed cymaint am Doan's Backache Kidney Pills mi a roddais brawf arnynt. Llawen gennyf ddweyd iddynt fy iachau o'm anhwylder, ac yr wyf wedi mwyn- hau yr iechyd goreu er hynny. (Arwyddwyd) M. Lewis.' Ebrill 7fed, 1916--yn agos i dair blynedd yn ddiweddarach—dywed Mr. Lewis: G well haodd pelennau Doan fi yn sicr ddigon rai blynyddau yn ol, ac yr wyf bob amser yn eu cymeradwyo. Cadwant fi yn rhydd rhag unrhyw ddychweliad peryglus o'r anhwylder.' Teifl annwyd a chryndod faich trwm ar yr arennau, gan eu bod yn cau i fyny y chwys- dyllan, ac felly gorfodir yr amhuredd a ddylai gael ei basio trwy }? croen gael ei daflu ymaith gan yr arennau. Felly, y mae annwyd yn un o'r achosion mwTyaf cyffredin mewn anhwylderau peryglus o'r arennau a'r bledren, a dymunol yw cymryd cwrs o Doan's Backache Kidney Pills pan yn gwella oddiwrth yr annwyd neu'r anwyd- wst. Cynorthwya hyn yr arennau yn y gwaith ychwanegol a deflir arnynt, a diogelir chwi rhag dolur y cefn, crydcymalau, dyfrglwyf, grafel ac anhwylderau troethol poenus. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster -McClella-i Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. Peid- iwch a gofyn am belennau at ddolur y cefn neu'r arennau, ond gofynnwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Lewis. 4
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BETHANIA, LLANTARNAMCynbaliodd yr eglwys hon eictayfarfod diolchgarwch dydd SuI a nos Lun, pryd y pregetbwyd yn ry us gan y Parchn T. Eli Evans, Aberdar, a W. E. Daniels, BA., Casnewydd.
CYFARFODYDD CHWARTEROL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFLTNDBB^DWYRAIN CAERFYRDDIN. i. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yng Nghapel y Groes, Cilycwm, nos Fawrth a dydd Mercher, Awst 2gain a'r 3oain. Cynhadledd bore Mercher, am 11 o'r gloch, dan lywyddiaeth Mr. David Harries, 70 New-road, Llanelli. Dechreuodd y Parch. T. M. Price, trwy weddi. feriDarllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf. Penderfynwyd cynnal y cwrdd nesaf yn Salem, Llandeilo, yn ol y gylchres, a bod y Parchn. S. Harries, Cilycwm, i bregethu ar fater i'w ben- derfynu gan Salem, a T. Jones, Pwll, Llanelli, i bregethu ar Salm xlvi. 1, a D. J. Davies, B.A., Capel Als, i bregethu ar y Cymundeb. Pasiwyd Ein bod yn derbyn y brawd ieuanc y Parch. D. J. Davies, B.A., Capel Als, Llanelli, yn aelod o'r Cyfundeb i fod yn gyfrannog yn ein breintiau a'n cyfrifoldeb, gan ddymuno iddo ef a'r eglwys dan ei ofal lwyddiant ysbrydol mawr yn eu cylch eang a phwysig. Wedi siarad brwdfrydig gan y Parchn. W. Davies, Llandeilo, J. Evans, Bryn, a Mr. J. Nicholas, Llanymddyfri, pasiwyd yn unfrydol. a rhoddodd y Cadeirydd i'r gweinidog ieuanc ddeheulaw cymdeithas y Cyfundeb. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn gweled y Parch. Rowland Evans, Walsall, yn bresennol, a'i fod yn cyflwyno iddo ddymuniadau da a chroesaw y Gynhadledd. Cyflwynodd y Parch. Joseph Harry, Llanym- ddyfri, Mr. D. Hopkins, Penrock, Llanymddyfri, fel un oedd wedi ei godi i bregethu yn rheol- aidd yn Salem, Llanymddyfri. Penderfynodd y Gynhadledd ei dderbyn a'i gydnabod fel un o bregethwyr cynorthwyol y Cyfundeb. Penodwyd y Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion, yn Ysgrifennydd Ystadegol y Cyf- undeb. Penderfynwyd eiu bod yn dymuno ar eglwysi r Cyfuncleh drefnu Saboth cyn diwedd y flwyddyn i wneuthur casgliad at y Drysorfa Gynortliwyol, a'n bod yn gwerthfawrogi ymdrech egniol ein Cadeirydd dros y mudiad yn y Cyfundeb. Fod y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd, a'r Parch. W. Davies, Llandeilo, yn cael eu dewis i beii- derfynu'r swm o arian a ddylem dalu i Gapel y Groes i'w cynorthwyo i dalu treuliau'r Cwrdd Chwarter. Pasiwyd Ein bod fel Cyiihfidledd o weii-iict- ogion a chynrychiolwyr o'r gwahanol eglwysi yn dymuno datgan ein llawenydd, ynghyda chyflwyno ein llongyfarchiadau i'r Parch. D. Lewis (Dewi Medi), Dock. Llanelli, ar ddiwedd llwyddiannus ei hanner can mlynedd yn y wein- idogaeth. Ein bod yn dymuno datgan ein hed- mygedd o'i gymeriad disglair, ei alluoedd uwch- raddol, ei weinidogaeth feddylgar ac efengyl- aidd, ac hefyd o'i wasanaeth fel llenor a bardd i'w Enwad a'i genedl am gynifer o flynyddoedd. Tra yn diolch i'r Arglwydd am ei wasanaeth yn v gorffennol, gweddiwn am iddo ef a'i briod hawddgar a ffyddlawn. gael blynyddoedd lawer eto o gysur ac o ddefilyddioldel) er bendith i'r eglwys, er llawenydd i gylch eang o gyfeillion ac er gogoniant i Dduw.' Penodwyd y brodyr canlynol i ffurfio penderfyniad llongyfarchiadol, sef y Parchn. W. Davies, Ilandeil) J. Volander Jones, Pentretygwyn D. Rhydderch, B.A. Cadeirvdd ac Ysgrifellnydcl y Cyfundeb. Pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad a r ieuluoedd oedd mewn galar, cyfyngder a thrallod oblegid y rhyfel mawr hwn, a'n bod yn dymuno ar Dduw i'w ddwyn i derfyniad buan. Penderfynwyd cyflwyno'r mater o gyhoeddi Adroddiady Cyfundeb eleni i ystyriaeth y Pwyll- gor Cyllidol. I z"1 Terfynwyd trwy wedeli gan y Parch. W. Davies Llandeilo. Yr oedd yn bresennol y Parchn. W. Davies, Llandeilo D. Richards, Myddfai D. Bowen, Hermon W. Bowen, Penygroes D. Rhydderch, B.A., Capel Seion D. J. Davies, B.A., Capel Als, a J. Evans, Bryn, Llanelli; Joseph Harry, Llanymddyfri; D. Richards, Crugybar; D. J. Moses, B.A., Tycroes T. Davies, Llangennech G. G. Williams, Gwynfe; J. Volander Jones, Pentretygwyn S. Harris, Cynghordy; T. M. Price, Llanon E. G. Rees, Abergorlech; J. Davies, Tabor G. Jones, Capel Newydd Hendy Mri. D. Harries, Llanelli; J. Nicholas ac E. Williams, Llanymddyfri, ac eraill. Pregethodd y Parch. D. J. Davies, Capel Als, nos Fawrth. Drwg gennyf nad ydyw enw r brawd arall bregethodd yn' fy meddiant. Am 2 prynhawn Mercher dechreuwyd yr odfa gan y Parch. J. Davies, Tabor, a phregethodd y Parchn. T. Davies, Llangennech, ar Ddirwest, a D. B. Richards, Crugybar, ar Cloffion y Pyrth,' ar gais y Gynhadledd. Pasiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch iddynt am eu pregethau da a'u ffyddlondeb i ddyfod a'u traddodi. Dechreuodd y Parch. D. Bowen, Hermon, odfa'r hwyr, a phregethodd y Parchn. D. J. Moses, B.A., Tycroes, a T. M. Price, Llanon. Cawsom gyfarfodydd da iawn, cynulliadau lluosog, astud a hawddgar, a phregethodd y gweinidogiou gyda nerth. Yr oedd yr eglwys a'r gweinidog caredig wedi gwneuthur trefiliadau lielaeth ar ein cyfer. Mwynhasom ein hunain yn fawr. Pasiwyd pleidlais gynnes o ddiolch i'r chwiorydd siriol am weini arnom, ac i'r frawd- oliaeth am drefnu cerbydau i gario ymwelwyr a gweinidogioli yn ol a blaen o'r orsaf. Da gennym gyfarfod a'r Parch. S. Harries, y gweinidog ffyddlawn, ymhlith pobl ei of al, y rhai hefyd ydynt bobl ei gysur. Mae Mr. Harries yn bregethwr ardderchog iawn, ac yn llawn doethineb a gras Duw. Llawenydd ganddo ydoedd y cvfleustra i groesawu Cwrdd Chwarter y Cyfundeb, i'r hwn y mae efe yn ffyddlon. Dymunwn iddo ddyfodol inwy llwyddiannus hyd yn oed na'i orffeniiol disglair. Rhodded yr Arglwydd iddo wrth fodd ei galon, a cliyflawned 11i lioll gyngor.' Gobeithio fod ymweliad y Cwrdd Chwarter wedi gadael arogl esmwyth ar ei ol. JOHN EVANS, Ysg.
CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol diweddaf y Cyfundeb uchod yn Horeb, Mynytho, Llun a Mawrth, Medi'r 4ydd a'r 5ed. Cyfarfu'r Gyn- hadledd am 1.30 prynhawn y dydd cyntaf, o dan lywyddiaeth Mr. D. R. O. Prydderch, M.A., Penygroes, y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gau y Parch. John Ellis Williams, Pendref, Bangor. Treuliwyd yr awr gyntaf yn Gyfeillach, pryd yr arweiniwyd mewn siarad ar y mater a rodd- wyd, sef Cvfle'r Eglwys heddyw ac yfory,' gan Mr. O. W. Jones, Penygroes, yr hyn a wnaeth yn liynod bwrpasol ac effeithiol. Siaradodd nifer o frodyr eraill, a diolchwyd i Mr. Jones am ei wasanaeth. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion Cyn- hadledd cyfarfod Capel Helyg. Pasiwyd mai yng Ngosen y cynhelir y cyfar- fod nesaf, Llun a Mawrth, Rhagfyr y 4ydd a'r 5ed. Yno ceir anerchiad y Cadeirydd am y flwyddyn, a phasiwyd fod y Parch. J. W. Edwards, Tabor, i bregethu yno yn un o'r odfeuon ar y pwnc, sef Yr Eglwys Filwriaethus.' Y Parchn. J. M. Williams, E. T. Evans, J. Mostyn, Mri. Owen Hughes, Samuel Roberts a Richard Roberts a ddewiswyd yn bwyllgor i ddwyn i'r cyfarfod nesaf enwau rhai i fod yn swyddogion ac ar bwyllgorau'r Cyfundeb am y flwyddyn 1917. Darllenodd yr Henadur J. Jones-Morris adroddiad o waith y pwyllgor a benodwyd ynglyn a chapel Aberdaron. Ar ei gynygiad, ac eiliad y Parch. W. Ross Hughes, pasiodd y Gynhadledd yn unfrydol i dderbyn yr adrodd- iad. Ar gynygiad Mr. J. R. Owen, ac eiliad Mr. E. T. Jones, pasiwyd fod yr Ysgrifennydd yn anfon at y frawdoliaeth yno, yn wyneb sefyllfa beryglns y capel, i beidio C)-nnal%gwas- anaeth yno ar hyn o bryd. Diolchwyd i Mr. J. H. Roberts, Pwllheli, am yr help a roes i'r pwyllgor i Mr. Griffith Williams, Pwllcrwn, am ei ofal am yr achos ar hyd y blynyddoedd ac i Mr. Richard Roberts, Pwllheli, am bob llafur j a thraul yr aeth iddo ynglyn ag ychwanegu nifer ymddiriedolwyr yr eiddo yn Aberdaron, yu gystal ag i holl aelodau'r pwyllgor am yr hyn a wnaethant ar gais y Gynhadledd. Sylwodd Mr. J. R. Owen, Y.H., fod cryn nifer o eglwysi yn ein Cyfundeb heb ddiogelu'r eiddo rhag tan. Cymhellai y cyfryw yn daer i symud yn y cyfeiriad hwn yn ddiymdroi, ac addawai roi pol) cyfarwyddyd i'r rhai a ddeuai ar ei ofyn ar hyn. Cvfeiriwyd at Gyfarfod Diolchgarweh am y Cynhaeaf a fwriedir ei gynnal fel arfer y trydydd Llun yn Hydref. Cyfeiriodd y Cadeirydd at bresenoldeb y Parch
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BRIGHTEN YOUR Ho E By getting your Electro-Plated articles Silver-Plated as new-at Small Cost. WRITE FOR FREE PRICE UST TO TOWNSHEND'S LTD., ERNEST STREET, KBIRMINGHAM. Ij
GLOYWI'R GYMRAEG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
who owns nen who owns ? Hynny ydyw, y mae'r gair yn cymiwys y ferf, ac hefyd y rhagenw perthynasol. (Gan fod yr ystyr ofyn- iadol (who owns ?) allan o arfer mewn Cymraeg diwedclar, gellir gadael hwnnw.) Felly, chwi welwch fod dywedyd Gwelaf mai Dafydd a biau yn ail-adroddiad o'r rhagenw perthynasol. Hynny yw, fe'i ceir yn a, ac fe'i ceir yn pi yn y gair pian.' Y ffurf gywir ar y frawddeg ydyw, Gwelaf mai Dafydd bian.' Yllglyn a'r fflirfiar, sydd biau,' oedd biau,' fydd biau,' anffurfio'r iaitli ydyw eu hysgrif- ennu. Yn y trydydd person yn unig y defn- yddir y gair mewn Cymraeg diweddar, a hynny yn yr amser presennol piau dyfodol, piau- fydd gorffennol, pioedd.' Fe'i defnyddir yn yr amser presennol a gorffennol heddyw yn y tafodieithoedd; ac nid oes un anhawster i'w defnyddio'n eu lie a'u hamser priodol gan Gymry llygad-agored. Fel hyn amser presennol, Efe biau'r gadair amser gorffennol, Fe ddywed- odd mai efe bioedd y gadair amser dyfodol, Os doi di yma, ti bieufydd y gadair.' Efallai fod pieufydd yn ffurf braidd yn ddieithr i Gymry diweddar, eto y mae'n ffurf gain ac yn werth ei harfer. Yr wyf yn cofio i mi glywed yr Athro J. Morris Jones yn cywiro gramadeg llinell y Dr. Parry Williams, sef- 1. 'Foty heb ofid ti a bieufydd.' Er mwyn rhoddi lie i'r a anghywir, gorfu iddo ysgrifennu hafoty yn 'foty.' 0 gywiro'r gramadeg fe ddaw'r llinell hefyd yn fwy cyfan-- Hafoty heb ofid ti bieufydd.' The happy summer-house shall be thine.' Y mae sycld piau,' oedd piau,' fydd piau heb eu swyn ac heb eu hangen. F.J.