Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y GRONFA. YNHELIR y Pwyllgor nesaf yng nghapel ) yr Annibynwyr, Llandrindod, dydd Mercher, Hydref y i8fed, am 2.30. Dylai pob cais fed yn Haw yr Ysgrifenyddion ar neu cyn Hydtef y 4vdd. H. M. HUGHES, y?" W. G. OWEN? f _11 For Sale, suitable for Lighting Large Building, ACETYLENE GAS PLANT IN good working order, with Double JL Generators 30 inches by 6t inches, suitable for continuous working; one Gasometer 42 inches by 30 inches; one Purifier 30 inches by 9 inches, including all connections for supplying 32 Lights.—Apply to-DANIEL, REES. Bancyreithin, Gorseinou.
Dychweliad Dyfnallt.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dychweliad Dyfnallt. Ar ol bod yn gwasanaethu'r Y.M.C.A. yn Ffrainc, a chael profiad tanllyd ar faes y gad, da gennym fod y Parch J. Dyfnallt Owen, Heol Awst, Caerfyrddin, wedi cyrraedd garfcref yn ddiogel. Ymddengys ysgrifau diddorol yn darlunio yr hyn a welodd ac y glywodd yn ein rhifynnau nesaf.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. APEL NEWYDD. w i. Gwelir fod ein gofod yn dra phrin oher- wydd gorfod ohonom gwtogi a cliynilo ein papur. Erfyniwn gan hynny ar i bob gohebiaeth a newyddion gael eu cyfleu mor fyr a chryno ag y bo modd. Mae'r adroddiadau meithion o gyfarfodydd ordeinio, sefydlu, ac ymadawiad gweinidogion yn hollol afresymol, a byddent oil ar eu hennill heb ddweyd fod pob siaradwr wedi mynegi fod yn dda ganddo fod yno,' &c. Ac nid yw manion am wyliau te, cyfarfodydd preg- ethu, priodasau, angladdau, &c., o fudd na diddordeb cyffredinol. Mesur byr yw'r unig un fedrwn dderbyn am gryn dro. 2. Nac ysgrifenner y ddau tu i'r ddalen. I'r fasged yr a popeth o'r fath, oblegid ni allwn ail-ysgrifennu'r ysgrif, ac ni feiddiwn orfodi ein cysodwyr i gwympo oddiwrth ras. 3. Nid ydym yn cadw cyfieitliydd, felly ofer yw anfon gohebiaeth Saesneg i ni, gan ofyn i ni ei chyfieithu, &c. 4. Ni allwn ychwaith ufuddhau i'r cyfeillion sy'n anfon atom—-yn Saesneg, fel rheol-i wneud crybwylliad am y peth yma neu arall yn eu lie hwy. Nid oes gennym hamdden nac awvdd i fod yn glerc i neb. Parod ydym i dderbyn pob awgrym a chymorth caredig, ac nid at hynny y cyfeiriwn, eithr at y cais digywilydd i ni ysgrifennu eu neges a'u cais er mwyn eu harbed hwy. Ysgrifenned pob un ei ohebiaeth ei hun, ac yna caiff ymddangos, os yn gymeradwy. 5. Anfoner pob advertisement, enwadol a chyff- redinol, i'r Swyddfa ac nid i ni. 6. Anfoner newyddion a gohebiaethau lleol hefyd i'r Swyddfa, ond pob 'llythyr at y Gol- ygydd neu ysgrif fo'n trafod unrhyw fater, i ni i'n cyfeiriad personol, sef-17 GLYNRHONDDA STREET, CAERDYDD. Y GOL YGYDD. Mewn Llaw.—Salem, Llallymddyfri-Rhymni --Abertileri-Cyfarfodyclcl Chwarterol Cyfundeb Meirion, Cyfundeb Mynwy, a Chyfundeb Arfon —Saboth wrth Byrth Gehenna-Rhanbarth Penybont-Peniel, Pontlliw-Caerdydd-Eglwys Killay-Caergybi-Lladd Byddin Cymru-Tab- ernacl, Pontycymer—Noddfa, Senghenllydd- Bethania, Dowlais Fochriw-—Marwolaethau— Cyfarfodydd, &c. I 1' } ".oJ', -i
YR YSGOL SUL A'R LLEIHAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR YSGOL SUL A'R LLEIHAD. GAN Y PARCH. EDWARD OWEN, B.A., BONTNEWYDD. Y MAE'R si ar led fod Undeb yr Annibyn- wyr Cymreig yn dechreu anesinwvtho oherwydd sefyllfa anfoddhaol yr Ysgol Sul trwy'r wlad. Eithriad yw cael eglwys nad yw ei Hysgol yn lleihau mewn rhif, llafur a ffyddlondeb. Teifl yr ystadegau oleu clir ar y sefyllfa ers blynyddoedd, ac o'r diwedd y mae swn ymysgwyd ac ymholi nid yn rhy gynnar, bid sicr, nac yn rhy hwvr, ni obeithiwn. Ynihlith arweinwyr y Cyfundeb yn Arfon, nid dechreu anesmwytho sydd y mae erbyn hyn wedi cymryd y cam pellach o symud a gwneud rhywbeth i atal y dirywiad. Ceisiwn daflu trem ar y mudiad hwn er gweled ymhle mae'r bai, a beth ellir wneud. Rhai misoedd cyn bod son am y rhyfel yn y wlad, daeth y mater hwn gerbron, a gwelwyd y rhaid wynebu'r sefyllfa o ddifrif. Caed pwyllgor cryf o ddynion aiddgar eu sel dros yr Ysgol Sul i drefnu campaign, a gwnaed darpariadau ar gyfer cael cyfres o gyfarfodydd yng nghyrraedd yr holl eglwysi ac ysgolion (58 ohonynt), a chael darlithiau poblogaidd ar yr Ysgol a'i gwaith gan athrawon Coleg Bangor, gweinidogion a lleygwyr. Yr oedd popeth yn barod ar gyfer yr Hydref yn 1914, ond dyryswyd y cynllun gan y rhyfel, a bu hwnnw farw cyn esgor ohono. Ni fu'r ysbryd farw, serch hynny, roesai fod i'r symudiad. Er fod y rhyfel ddvrysodd y cynllun cyntaf yn para yn ei rwysg difaol, rhaid fu codi cri drachefn a thrachefn fod ein Hysgolion Sul yn hawlio'n sylw cyntaf, ac mai dyma bwnc y dydd i'r eglwysi os am scirhau eu dyfodol. Ni flinir son am ryw fyd newydd, na welwyd o'r blaen ei debyg, y bydd y rhai oroesant y cymelrhi hwn yn cael eu hunain yn ddeiliaid ohono. A fydd i'r Ysgol Sul le yn hwnnw ? Os y pery'r rhyfel cyhyd ag y tybia'rhai, ac i'r Ysgol ddal i wan- ychu, go brin erbyn hynny y teilynga fawr o le. Nid felly y dylai fod. Ein gwaith pennaf ni yw ei gwneud yn anhep- gor, a'i throi 0 fod yn side show yn yr Eglwys i fod y sefydliad mwyaf byw a feddwn. Dyma'r dyhead sydd yn peri'r symud hwn o'i phlaid yn Arfon, a'r argy- hoeddiad o'i gwerth i'r oes newycld gyf- rifa am yr awydd i'w hadgyfodi i'w bri drachefn. Bu adeg yng Nghymru y gwyddai pob aelod eglwysig fod i'r Ysgol Sul cystal hawl ag odfa'r Cymundeb ar ei ffyddlon- deb. Ceid dosbarthiadau o hen bobl a chanol oed mor Iluosog a dosbarthiadau'r plant. I fJ (7 Y datguddiad barodd gynnwrf yma yw fod dau 0 bob tri o'n haelodau eglwysig yn absennol bob Sul o'r Ysgol, a bod y sef- ydliad hwn yn colli gafael ar ein pobl ieuainc wedi iddynt gyrraedd yr 16 oed. Beth i'w wneud yn wyneb hyn fu pwnc yr ymdrafod mewn hanner dwsin o gy- nadleddau diweddar yng nghyleh y Cyf- undeb. Y mae'n rhy gynnar i ddarogan beth fydd ffrwyth y cynadleddu. Un arwydd obeithiol yw hon nid ydynt wedi gwario en nerth ar basio penderfyniadau, argraffu'r rheiny, a'u hanfon yma a thraw i'wataflu o'r-neilltu'n ddisylw. Yn hytrach y mae wedi adgyfodi'r hen ffasiwn o roi ysbrydiaeth a phenderfyniad yn aelodau'r gynhadledd a'u gwnant yn genhadon car- trefol. Bu'r pwyllgor ddewiswyd gyntaf i ym- holi pa gynllun geid i wella'r sefyllfa yn ffodus iawn yn ei ddewisiad o vsgrifen- nydd. Gwr prysur, a chyfrifoldeb ysgol luosog arno yw Mr. W. J. Roberts, Pen- maenmawr ond y dyn prysuraf fynychaf yw'r dyn goreu i ymddiried mwy o waith iddo. Er pan ddewiswyd ef, ni pheidiodd a blino arolygwyr ac ysgrifenyddion yr Ysgolion am bob manylion posibl, ac nid arbedodd draul na thrafferth er cyflawni gofynion ei swydd. Mewn cyfarfod o gynrvchiolwvr v Cvf- undeb gynhaliwyd yng Nghaernarfon ar Medi 28ain, rhoddodd gyfrif o waith tair cynhadledd arall alwyd ynghyd yn y tri chylch lie ceir Undeb Ysgolion, a chaed profion (meddai ef) fod awydd ymroi i godi'r Ysgol yn eiddo cyffredin i bob un ddaeth yno, a phenderfyniad i droi yn genhadon cartrefol oedd rhodd bennaf y cynhadleddau hyn i'w mynychwyr. Bydd yn syn clywed fod unrhyw eglwys heb deimlo oddiwrth ddylanwad y rhai fu'n bresennol yn y cyfarfodydd. Gyda hyn o hanes y mudiad, ceisiwn bellach osod i lawr gynnwys y weledigaeth gaed trwy'r ymdriniaeth fu ar sefyllfa yr Ysgol Sul. J1. Rhan o'r goresgyniad Seisnig yw y lleihad yn nifer ei mynychwyr, a ieueng- rwydd y rheiny. Wrth roi mynegiad i'r gwirionedd hwn dywedai'r Parch. Stanley Jones fod yr Ysgol Gymreig yn un y byddai pawb yn dod iddi, a phawb yn cymryd rhan ynddi. Yn Lloegr sefydliad i'r plant ydyw, a chyll yr eglwys naw o bob deg o'r plant hynny ni cheir ond ychydig yn meddwl ymaelodi yn yr eglwys er bod, pan yn blant, yn aelodau o'r ysgol. Rhaid i ni gadw nodwedd Gymreig yr Ysgol, os am waredu'n plant rhag mynd ar goll, a chael y bobl mewn oed i mewn eto hyd y gellir. 2. Rhaid i'r Eglwys ei hun wrth yr Ysgol Sul. Nid adran ddi-eisiau o'r Eglwys mohoni. Ni all, o safle a lies ei hunan, edrych arni yn colli ei gafael ar y bobl, a gweled, yn ddidaro, ddwy ran o dair o'r aelodau yn ei diystyrru. Ni feiddia'r pul- pud chwaeth ymfodloni ar odfa lawn ac Ysgol wag ar lond capel o wrandawyr pregeth, a'r festri'n hanner llawn o ddeil- iaid yr Ysgol Sul. Hyd yn hyn gall y gweinidog dybio cryn swm o wybodaeth Ysgrythyrol ym meddiant ei wrandawyr —ffrwyth mynychu'r Ysgol am flynydd- oedd ond nid hir y pery hynny os gad i'r Ysgol leihau yn ei rhif a'i llafur. Pa gysondeb, hefyd, sydd mewn tanysgrifio'n hael at roi addysg uwchraddol i weinid- ogion y dyfodol, ac esgeuluso'r Ysgol Sul ? —y sefydliad gododd wrandawyr hawl- iant wybodaeth helaethach y pregethwr. 3. Y dosbarth uchaf ei gri am sylw yw hwnnw sy'n cefnu ar blentyndod—o'r 16 oed i'r 25. Dyma'r dosbarth y metha'r Ysgol ddal gafael arno—y metha hefyd ddarpar yn briodol ar ei gyfer. Nid yw eto wedi deall ei ofynion. Y mae'r llaw- lyfrau ddarperir ar gyfer y rhai o dan 21 sydd wedi gadael y Safonau-yn gwbl