Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

? Y WERS SABOTHOL. \ Y WERS…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

? Y WERS SABOTHOL. Y WERS SABOTHOL. 9 9 9 I Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. 9 A A y y X Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., A 9 Treffynnon. 9 HYDREE 22aiti.—Amddiffyniad Paul gerbron Agrippa.—Actau xxvi. 24-32. Y TESTYN EURAIDD. Am ba achos, 0 frenin Agrippa, ni bum anufudd i'r weledigaeth nefol.' -Act au xxvi. ig. i I RIIAGARWEINIOI,. TYBIR fod cyfnod o ddwy flyiiedd rhwng ym- ddanghosiad Paul o flaen Ffelix a'i ymddang- hosiad o flaen Agrippa—cyfnod o ddistawrwydd mor bell ag y mae ein gwybodaeth ni yn mynd am Paul. Dygwyd Paul o flaen y rhaglaw newydd, Ffestus. Pel dinesydd Rhufeinig apel- iodd Paul at Cesar Yna Ffestus, wedi ym- ddiddan a'r Cyngor, a atebodd, At Cesar y cei di fyned.' Ymhen ychydig ddyddiau daeth Herod Agrippa II., mab Agrippa I., a Bernice, i Cesarea i longyfarch y rhaglaw newydd. Gan fod Agrippa yn deall arferion yr Iddewon yn dda, cymerodd Ffestus y cyfleustra i ofyn ei farn am achos Paul. Wedi clywed gan Ffestus yr holl amgylchiadau, danghosodd Agrippa awydd i wrandaw ar Paul. Dygwyd Paul ger ei fron drannoeth. Yn y bennod cawn araith Paul o flaen Agrippa. Y mae'n debygol fod Luc yn bresennol, a'i fod wedi rhoddi cofnodiad manwl o'r araith. Wedi rhoddi hanes ei droed- igaeth, a darluniad byw o'r weledigaeth a'r alwad neilltuol a gafodd, a ymlaen i ddangos i Agrippa mai dyma'r achos o'i droedigaeth oddi- wrth ei ragfarn yn erbyn athrawiaeth Crist. Dywed na bu yn anufudd i'r weledigaeth nefol, ond ufuddhaodd i'r hyn a orchmynnwyd iddo. Y mae rhydd-ewyllysiad y dyn yn ddolen yng nghadwyn bwriad Duw. Yr oedd yn rhaid i Paul ewyllysio cyn y gallasai fod yn ddisgybl ac yn apostol. Hithr mi a bregethais i'r rhai yn Damascus ynghyntaf, ac yn Jerusalem, a thros holl wlad Judea, ac i'r Cenhedloedd.' Gwnaeth hyn wedi ei ddychweliad o Arabia. Y mae'n ymddangos iddo ymneilltuo i anialwch Arabia yn union ar oi ei droedigaeth, a bu yno gryn amser mewn unigedd yn dal cymundeb a'r lesu (Galat. i. 16, 17). 0 achos y pethau hyn, Sef am fy mod yn pregethu'r angenrheidrwydd o edifeirwch, a dychweliad at Dduw mewn ffydd, a ffrwythau neu weithredoedd teilwng o edi- feirwch, i Iddewon a Chenhedloedd, ymosododd yr Iddewon arnaf, gan fwriadu fy lladd. Ond trwy gyfryngiad neilltuol Rhagluniaeth Duw, yr wyf yn aros heb fy niweidio, ac yn parhau i gyflawni gwaith fy swydd, gan dystiolaethu mai lesu oedd y Messiah, a'i fod wedi adgyfodi oddi- wrth y meirw. Dysgai Paul dri gwirionedd arben- nig, y rhai a fynegid gan y proffwydi a Moses, sef y dioddefai'r Messiah y byddai Efe'r cyntaf a gyfodai oddiwrth y meirw i beidio marw mwy y byddai Ei Efengyl yn gyffredinol--yn oleuni i'r Cenhedloedd yn gystal ag yn ogoniant i bobl Israel. ESBONIADOL. Adnod 24.Ae fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd a llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu llawer o ddysg sydd yu dy yrnt di yn ynfyd.' Cyf. Diw., 'Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn drosto ei hun, Ffestus a ddywedodd a llef uchel, Paul, yr wyt ti yn wallgof dy fawr ddysg sydd yn dy droi i wallgofrwydd.' Y pethau hyn, Y pethau yughylch y weledigaeth, a Christ,|a'i adgyfodiad. Ymddanghosai'r cwbl yn ynfyd- rwydd i feddwl bydol Ffestus, a thynnodd y casgliad fod Paul yn wallgof. Torodd ar draws ei anerchiad, a dywedodd a llef uchel Paul, yr wyt yn wallgof.' Yr oedd wedi blino gwrando, ac yr oedd am roddi terfyn ar yr araith. Cyd- nabydda ei ddysg, ond fod ei fawr ddysg wedi ei wallgofi. Adnod zS. Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfy.du, O ardderchocaf Ffestus eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd.' Cyf. Diw., Ond Paul a ddywedodd, Nid wyf yn wallgof,' &c. Ateba Paul Ffestus yn barchus, eto yn benderfynol, a dywed nad oedd wedi gwallgofi, ond, iiiai geiriau gwirionedd a sobrwydd yr oedd yn eu llefaru. Adnod 26.—' Canys y brenin a wyr oddiwrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hyf oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.' Cyf. Diw., Canys y brenin a wyr am y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf y 11. llefaru yn rhydd oherwydd yr wyf yn argyhoeddedig nad oes dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.' Apelia Paul at Agrippa fel un oedd yn hyddysg yn y proffwydi. Gwydclai hefyd, yn ddiau, am farwolaeth ac adgyfodiad Crist, a'r nerthoedd oedd yn cydfyned a phreg- ethiad yr Efengyl. Canys nid mewn congl y gwnaed hyn. Yr oeddynt yn ffeithiau cyhoeddus. Adnod 27.—' 0 frenin Agrippa, A wyt ti yn credu. i'r proffyvvdi ? Mi a wn dy fod yn credu.' Cyf. Diw., 'A wyt ti yn credu y proffwydi ? Apelia Paul at galon a chydwybod Agrippa 'A wyt ti yn credu y proffwydi ? Vila I', ddi- atreg rhagflaena ei atebiad, a dywed Mi a wn dy fod yn credu.' Am dy fod yn credu'r proff- wydi, a'm bod innau wedi profi. fod y proffwydi yn llefaru am Grist fel un yn dioddef ac yn ymorfoleddu ar angeu, a bod y cwbl a ddywed- asant hwy am y Messiah wedi cael ei gyflawni yn lesu o Nazareth, yna rhaid i ti gydnabod fod fy athrawiaeth i yn wir. Adnod 28.—'Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion.' Cyf. Diw., 'Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Gydag ond ychydig ddar- bwylliad (peysltasion) ti a fynnit fy ngwneuthur i yn Gristion.' Y mae'n anodd penderfynu i sicrwydd ymha ystyr y mae i ni gymryd ateb- iad Agrippa. Yr hen syniad ydyw fod apel Paul at wybodaeth Agrippa o'r gyfraith a'r proffwydi wedi deffro ei deimladau goreu, a dywed Yr wyt o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion.' Ond os cymerwn ni ddarlleniad y Cyf. Diw., y mae'n ymddangos ei fod yn llefaru mewn gwawd. Gydag ond ychydig ddarbwylliad, ti a fynnit fy ngwnexithur yn Gristion. Ond nid peth mor hawdd ydyw ag yr wyt ti yn ei feddwl.' Adnod 29.— A Phaul a ddywedodd, Mi a ddy- munwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oil, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrandaw heddyw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.' Cyf. Diw., A Phaul a ddywedodd, Mi a ddymunwn gan Dduw, pa un bynnag ai gydag ychydig ynte gyda llawer,' &c. Dymuna Paul eu bod oil yn Grist- ionogion dedwydd fel efe, ond nid yn Gristion- ogion erlidiedig fod iddynt brofi cynifer ag yntau o'r bendithion cysylltiedig a Christionog- aeth, ond nid cynifer o'r croesau. Y mae geiriau Paul yn arddangos y meddwl mwyaf meistrolgar a'r galon fwyaf sanctaidd. Adnod 30. Ac wedi iddo ddywedodd hyn cyfododd y brenin, a'r rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt.' Cyf. Diw., 'A chyfododd y brenin i fyny, a'r rhaglaw,' &c. Gadewir allan ac wedi iddo ddywedyd hyn.' Cyfodasant i fyny i ystyried yr hyn oeddynt wedi glywed, a pha beth a allasent ei ysgrifennu gydag ef i Rufain fel cwyn ag yr oedd i gael ei brofi am dano. Adnod 31.—Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid yw y dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angeu, neu rwymau.' Nid yw y dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angeu. Yr oedd Agrippa a Ffestus yn argyhoeddedig o hyn Adnod 32.—' Yna y elywedoelel, Agrippa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, oni buasai iddo apelio at Cesar.' Yiict y dywed- odd Agrippa wrth Ffestus. Y mae'n ymddangos fod Ffestus yn disgwyl i Agrippa lunio rhywbeth fel cwyn i'w anfon gyda Phaul i Rufain. Gall- asid gollwng y dyn yma yn rhydd, onibai ei fod wedi apelio at Cesar.' Nid oedd modd galw apeliad fel hyn yn ol: yr oedd yn rhaid ei gario allan. Yr oedd Paul wedi arfaethu myned i Rufain, a Duw wedi trefnu iddo fyned. Aeth yno fel carcharor, ond heb un cyhueleliacl i'w erbyn. Cafodd fantais i dystiolaethu dros ei Arglwydd. GOEYNIADAU AR Y WERS. 1. Pwy oedd Agrippa. 2. Pwy oedd y rhai a anerchwyd gan Paul ? 3. Beth ddywed Paul am wybodaeth Agrippa ? 4. Beth a ddywed am ei fywyd boreuol ei hun ? 5. Pa gyfnewidiad a gyinerodd le yn ei hanes ? Pa fodd y daeth yn bregethwr ? 6. Paham yr oedd yn garcharor ? 7. Pa effaith gafodd ei anerchiad ar Ffestus ? "8. Pa effaith gafodd ei Anerchiad ar Agrippa ? 9. Paham nas gellid rhyddhau Paul ?

Tysteb GenediaethoJ !'r Prifardd…