Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Women 't-orkers' Series.-No. 1. "I d R 1 h I C ?? ? ? /??'/ ??? ?c?fo ?6n?pv? <2? 1m a little I** ]\7f Y husband has taken eoe-oa. for years, and I used to laugh at him a httle m )| because he set such store by it. He's a big t 1 strong rnan, and I did not think he needed cocos,. never struck me that his good health might have something to do with the 't cocoa. But when I went into the factory I began myself to feel the strain. "Take a I f cup," he said to me one day when I was making his cocoa, "it will do you a power | f/j. f/ of good." I did—and I felt a warm glow all over Ole. It put new life and strength /? !-? ?7/? ?   -——————— ?- all over me. It into me. I wasn't nearly so tired when I £ f £$y GqZ got to bed that light; and next day I started with another cup of cocoa; and the work 9 seemed far lighter than before. I don't £ TdQ4MHmJmdjr&Pjm laugh at iny husband any more-we have ?)Cf???!?at?i???SM???'??%?? ? our cocoa regularly together. Ud tècca rnaAiM a SM m* mtrn# fa Sm a meal/t — hip I n "•lilllllilraiirlifa^^
TREWYDDEL.i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREWYDDEL. Y Diweddar Mr Morris Williams.—Gwaith anodd ydyw i ardal ac eglwys i ollwng gafael ar hen gymeriadau annwyl, gwreiddiol a duwiol, oblegid mae'r cyfryw mor brin heddyw hyd yn oed mewn eglwysi yn y cylchoedd gwledig. Ond gorfu ar eglwys Bethel, Tre wyddel, wneud hynny Ag un o'r cyfryw ar adeg ac awr hapus yn ei hanes, set gollwng gafael o'r hen dad a phen-blaenor Morris Williams. Mae atgofion gan lawer o weision Duw fa'n traethu'r Gair ym Mothel am gynhprthwy cadarn y gwr hwn oedd mor lion ei ysbryd a llaith ei lygad a chynnes ei galon wrth wrando arnynt. Mor fyw ydoedd i wirionedd yr Bfengyl, ac mor barod ei gydnabyddiaeth mewn Ie, Wel, wel,' ac I Amen'! Yr oedd yn un o gewri yr Ysgol Sabothol ar hyd ei oes, ac O fel mae plant mawr yr eglwyaheddyw yn cofio am dano pan yn blant bach ag yntau yn athro arnynt. Ganwyd ef i fod yn athro. Yr oedd ganddo ffordd i ddenu plant i baratoi eu gwers ar gyfer yr Ysgol Sabothol. Ac nid gyda'r plant a'r ieuanc 31m unig y rhagorai yn y dawn hwn, ond gyda phawb fel holwr y bennodi Ond cael Morris i holi, a'r hen frawd James Williams (pan oedd of byw) i ateb yn y cwrdd athrawon cyn yr ysgol, yr oedd pawb yn barod i waith wedi hynny-yr oedd y wers yn ddigon goleu. Dyna warogaeth yr ardal iddo heddyw, II acy mae'n well na'r anthydedd daearol uahal. Gan ei fod yn gymeriad mor gyfan, anodd oedd gw.ybod gyda pha ran o waith y cysegr y rhagorai yr hen dad. Ba yn nychu am hir amser. Collodd holl freintiau cyhoeddus ty yr Arglwydd, am y rhai y meddyliai ddydd a nos. Un o'r rhai hynny feddyliai am Ei "enw Ef ydoedd. Meddyliai gymaint am yr achos, nes y dywedodd pan yts ei wendid mawr y cawsai fyw i weld cyfarfodydd sefydlu y gweinidog newydd; a gwir fu ei air a'i ddymuniad yn ddiau. Yr oedd dwy oedfa o'r cyfarfodydd wedi mynd heibio, a dwy arall ar ol, a phawb mewn prysurdeb Hon ar gyfer y pethau oedd. i ddod, pan dorrwyd y newydd fod 4 Morris Williams wedi marw!' Rhyfedd i bethau ddigwydd felly. Dyma arweinydd y bobl yn y cysegr, pan yn iach ei gorff-yr archoffeiriad, megis-yn mynd i fewn i'r nef, y tuhwnt i'r Hen, fel pe i wneud yn sicr fod sylw'r net i fod ar y cyfarfodydd sefydlu y prynhawn hwnnw, a bendith Duw ar yr undeb. Cyd-darawiad hapus o drist ydoedd y ffaith i'n meddwl. Bore Llan, Medi 4ydd, ymgasglodd illiaws ynghyd o bob cwr o'r wlad, a rhoddwyd ei weddillion marwol ym mynwent y Llan yn Nhrewyddel. Cafodd barch dyn Duw. Gwasanaethwyd gan y gweinidog, y Parch T. E. Jones, ac ar lan y bedd cafwyd, sylwadau pwrpasol iawn gan y Parch W. H. Jones (B), Gerazim. Magodd doula sydd yn addurn i'r eglwys a'r wlad. Gadawodd weddw a naw 0 blant i hiraethu ar ei ol. Cydymdeimlir yn fawr & hwynt, yn neilltuol a'r weddw sydd wedi ei chyfyngn i'w thy ers llawer blwyddyn Nodded y net tyddo arnynt yn ddiddanwch didrai, ac a fendithio eglwys Bethel phlaut teilwng o'r tadau fu yn golofnau iddi.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRYNCAWS —Cynhaliodd yr eglwys uchod ei gwyl flynyddol y Sul a'r Llun, Hydref laf a'r 2il, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn D. M. Davies, Waunarlwydd, a T. H. Thomas, Taibach. Oafwyd cynulliadau da a phregethau grymus ac effeithiol. BIRMINGHAM.—Y Parchn D. Adams, B.A., Lerpwl, a J. L. Williams, M A,, B.Sc., Aber- ystwyth, fu yn gwasanaethu yng nghymanfa Wheeler-street eleni. Cafodd y cenhadon wrandawiad astud i'w cenadwri amserol.