Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

POB OCHR PR HEOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

POB OCHR PR HEOL. (1.) Mae Mr. Kvan Thomas, o'r Westfa, ger- llaw Llanelli, wedi dangos haelioni tarawiadol y dyddiau hyn. Hynafgwr pedwar ugain oed yw Mr. Thomas, wedi bod yn ddiacon ac yn drys- orydd yn eglwys y Tabernacl yn hir. Cododd o fod yn blentyn amddifad tlawd a diswcwr i fod Y11 wr cyfoethog yn berchen ffermydd niawrion a thai lawer, ac yn breswylydd un o'r palasdai noblaf yn y cylch hwn. Rhoddodd yn lied hael at lawer achos y blynyddoedd diweddaf a'r dyddiau hyn daeth i'w fecldwl roddi pum punt i bob capel ae eglwys yn yr holl gynidogaethau hyn, o bob enwad a phlaid yn ddiwahaniaeth.— Iddewon a Phabyddion yn ogystal ag Ymneill tiivvyr ac Eglwyswyr y cylch. Bydd y swm iddo yn agos i £ 500 i gyd, a math o gydnabyddiaeth i bob eglwys yw am eu bod oil wedi dangos caredigrwydd i ffoaduriaid Belgium. T (2) Cymerodd Mr. Thomas yn rhyfedd at y Belgiaid, ac y mae llawer ohonynt yn bywr yn y rhannau goreu o'i balasdy, y Westfa, ers hir amser bellach, heb na rhent 11a dim arall: ond pob tiriondeb tuag atynt oddiar law Mr. Thomas a'i deulu. Cyfrannodd tuagat eu cynhaliaeth ei hun, a gwerthfawrogai yn helaeth y rhoddion a ddelai o bob eglwys i'r un perwyl. Dyna, meddai ef, a'i cymhellodd yn awr i gofio am y gwahanol achosion a rhoddi'r anrheg hon iddynt. Byddai cael hanes Yswain y Westfa wedi ei ysgrifennu'n lied fanwl yn un o'r pethau mwyaf diddorol i'w ddarllen. Crwydrodd, lawer yn ystod ei oes. BU'll forwr am flynyddoedd. Yna ymsefydlodd mewn masnach yn y dref hon, a dringodcl o radd i radd nes dod yn un o gyfoeth- ogion y sir. (3) A yw yn wir fod myfyrwyr ein Colegau Diwinyddol yn cael eu gwasgu i'r fyddin eto- oil ond y rhai oedd yn y Colegau cyu i'r rhyfel dorri allan ? Tair blynedd yw tymor myfyriwr yng Nghaerfyrddin. Y mae yno fyfyrwyr ar eu blwyddyn olaf eleni, ond a ddaethant i'r Coleg ymhen rhyw ddeulis wedi i'r rhyfel ddechreu. Ofnir y bydd i'r brodyr ieuainc hyn gael eu gorfodi i fynd, a hynny drwy fath o drais. Petaent yn y Coleg yn yr haf cyn dechreu y rhyfel, neu wedi eu derbyn i'r Athrofa ym Mehefin neu Gorffennaf, yn ol yr hen arfer, yn hytrach. nag ym Medi,.buasent yn cael eu rhydd- hau yn ddilol Oherwydd nad oeddynt yn fyfyrwyr athrofaol ychydig wythnosau, neu hyd yn oed ddyddiau cyn Awst 4yeld, 1914, ystyrrir nad ydynt in immediate preparation for the ministry.' Beth olygir wrth baratoad union- gyrchol ar gyfer y weinidogaeth, os nad yw bod ar eu blwyddyn olaf yn y coleg diwinyddol yn golygu hynny ? Dylid edrych i'r mater hwn yn ddioed, ac yn ddiysgog hefyd. Prin y credwn y daliai Mr. Lloyd George ar ryw flewiach o resymau difudd o'r fath yma. Y mae Mr. George yn Ymneilltuwr Cymreig, yn deall colegau a bywyd eglwysig Cymru yn ddigon da i wybod beth olygir wrth amgylchiadau'r myfyrwyr hyn, ac i estyn iddynt yr ym wared ag y methant ei gael mewn man lysoedd. (4) Ofnwn y bydd siomiautau hefyd wedi creu teimladau chwerwou ar hyd a lied y deyrnas ynghylch y dulliau o wasgu i'r fyddin. Nid nad yw dynion ieuainc y wlad yn ddigon parod i fynd a gwneud eu rhan, os oes gwir angen am hynny, ond y ftordd y rhyddheir ambell un gyda rhwyddineb, tra y gwcsgir ar y Hall i fynd er yn ymddangos yn fwv teilwng o ollyngdod, os oes peth felly i fod o gwbl. Tri a phedwar a phump o feibion o ambell denlu wedi mynd nes llwyr glirio'r aelwyd, ac yn nhai eu eyilldogioli Iafnan 0 fechgyn cryflon, cyhyrrog wedi en gadael ar ol am eu bod wedi digwydd disgyn i gylchoedd gweithfaol sydd yn eu gwneud yn anhepgorol.' A oes rhywun yn anhepgorol ar adeg fel hon sydd gwestiwn yn wir—cwestiwn a gyfyd i feddwl dynion beunydd wrth glywed galw, galw am fllwyr o hyd. Mewn rhai lleoedd cesglir bechgyn deunaw oed, gan ddweyd nad anfonir hwy allan o'r wlad hon nes byddont yn bedair ar bymtheg oed. Gadewir eraill heb eu galw i fyny o gwbl nes dod ohonynt yn llawn bedair ar bymtheg. Y mae gorfodi gwyr priod a llu o blant ganddynt i fynd i'r fyddin am nad oes feistradoedd i apelio drostynt, yn edrych yn ofer a didrefn a dialed, a llu o wyr sengI, am eu bod yn enwau o beirianwyr a glowyr a siopwyr o fathau neilltuol yn cael eu gadael adref.-yn unig am fod y rhai olaf hyn wedi bod yn ffodus yn eu gwaith. (5) Mae'r cynrychiolwyr milwrol yn rhyfeddol o fympwyol hefyd, a gofynnant gwestiynau sydd yn creu atgasedd, ac ni ddanghosant y parch dyladwy i bobl yn y llysoedd. Bydd llu ohonynt wedi magu llid bythol tuag atynt. Wrth gwrs, eu gwaith arbennig hwy yw gofalu nad oes neb a ddylai fod. yn y fyddin yn dianc eto i gyd gallant fod yn annhraethol fwy boneddigaidd a moesgar a theg nag ydynt. Ilaerllugrwydd anesgusodol yw nodwedd amryw ohonynt. Y maent hwy eu hunain weithiau yn ddynion ieu- aint cryfion a graenus, a chanddynt deitlau milwrol, a moddion hefyd i fyw yn dda. Amhosibl deall paham nad aiff dynion o'r fath i'r firynt eu hunain, yn hytrach na blingo pobl ddiniwed mewn man lysoedd yn y pentrefi a'r treilannau. Mae pobl ystyriol yn laru'n deg ar ddarllen am eiriau bryntion a chyfarchiadau coeglyd, an- foesgar y boblach hyn sydd wedi cael ymddir- iedaeth nad ydynt deilwng ohoni. (6) Meddylier drachefn am ardal fel Penmaell- mawr. Dwy chwarel sydd yn y cylch hwn. O'r chwarelwyr y rnae'r dosbarth mwyaf o lawer wedi mynd.. Erys rhyw gant a hanner eto ar ol, meddir, o wyr o oedran milwrol, er nad oes yn yr holl le ond prin ddigon i arbed y chwareli rhag cael eu cau i fyny. Hawliodd yr awdur- dodau milwrol fod 30 arall yn mynd ymhen y mis, a 30 drachefn cyn diwedd y flwyddyn, a 30 wedyn tua dechreu Mawrth. Eithr gwaeth na dim, caniatawyd i feistri a chyfarwyddwyr y gwaith benderfynu pwy o'r dynion sydd i fynd Dyma'r hyn nas gellir ei alw ond yn annhegweh. Ni ddylid caniatau'r fath beth i swyddogaeth unrhyw waith, ac ni buasai gweithwyr y De yn ei wneud am eiliad ac ni buasai swyddogion unrhyw waith yn y cylchoedd hyn, o leiaf, yn ymgymeryd a chwynnu eu gweithwyr allan fel hyn, a setlo eu tynged, a dweyd pwy sydd i'w fwrw i bair y rhyfel a phwy ddim. Ai caethion yw chwarelwyr Penmaenmawr ? Ai dynion a'u hawliau oil yn nwylaw eu cyflogwyr ? Duw a'u helpo, os mai e. Nid wyf yn dweyd y gwna'r meistri yno gam a'u gweithwyr, ac na byddant yn gydwybodol wrth ddewis pwy, sydd i fynd i'r fyddin a phwy sydd i aros ar ol. Ond y ma^'r egwyddor yn hollol annheg. Rhydd gyfle i lawer peth annheilwng. (7) I ba beth y penodwyd y tribiwnal lleol ? Paham y rhoes efe o'i law y gwaith o ystyried pob achos ar ei deilyngdod ei hun ? Ofer dweyd y caiff y chwarelwyr a ddewisir apelio wedyn ar dir teuluol ac amgylchiadol, os mynnont. Bydd y lloriau wedi mynd o dan eu traed pan ym- ddanghosant gerbron y llys lleol. Bydd y ffaith fod y meistri wedi eu nodi allan fel rhai y gellir eu hepgor o'r gwaith yn eu gosod o dan anfan- tais ar unwaith, ac yn magu rhagfarn yn eu herbyn ar bob tir arall, os na bydd hwnnw yn eithriadol gryf. Mae Undeb y Chwarelwyr yn y Gogledd ymhob man yn wan. Nid oes ddigon o gryfder ynddo, ac o adnoddau gan y dynion hyn i sefyll brwydr ac i amddiffyn eu hawliau. Oherwydd hynny gwneir yn hyf arnynt yn bar- haus, a thrinir hwy yn hollol fel y myn y cyflog- wyr. Dyma hwy eto, drueiniaid diamddiffyn, tua Phenmaenmawr, yn gorfod ymostwng i drin- iaeth na freuddwydiai glowyr y De a'r gweith- wyr dur ac alcam am ei goddef am eiliad. Ni ddylai cyflogwyr Penmaenmawr ymgymeryd a dweyd o gwbl pwy sydd i fynd ac 0 na chyf- odai rhyw Poses i arwain y rhai diuiwed sydd danynt o grafangau eu cyfyngder. (8) Ac wedyn, beth am fater cydwybod.' ? Yr oedd yn Birkenhead yr wythnos ddiweddaf lys milwrol a saith o ddynion ynddo ar eu treial am wrthod plygu i orchmynion eu huchafiaid swyddogol, a gwrthod mynd drwy'r ymarferion milwrol—gwyr o gydwybod bob uii. Yn ol eu tystiolaeth hwy eu hunain yn y llys, yr hon a ymddanghosodd yn y Manchester Guardian, yr oeddynt wedi eu caindrin yn warthus a'u darostwng i bob math o sarhad gan gymdeithion o filwyr eraill-eu lluchio dros glwydi, eu cicio, eu hamharchu yn ol a blaen (un ohonynt yngolwg ei wraig ei hun), nes yr oeddynt yn rhy wein- iaid i sefyll a gwrtliwynebu yn rhagor. Dyweder a fynner am beryglon ein gwlad, ac am degweh y rhyfel, ac am y ddyledswydd o aberthu a gwneud ein goren, ac am wamalwch y gwrth- wynebiad cydwybodol, &c., y mae meddwl fod dynion gonest, llariaidd ac unplyg ym Mhrydain yn cael eu trin fel hyn yn nechreu'r ugeinfed ganrif, eu hymbygio gan giwgd ddiras, yn ddigon i beri meddwl fod Prydain cyu belled o'i lie a Phrwsia. (9) Y mae pregetliwr ieuanc o gymdogaeth Llanrwst wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar gyda llafur caled am fod ganddo gyd- wybod.' Yr wyf wedi ysgrifennu digon i ddangos nad oes gennyf gysgod o barch i'r bobl hynny sydd am y tro cyntaf erioed wedi dar- ganfod yn ddiweddar fod y fath ibeth a chyd- wybod.' Mae digon o rai fel hyn wedi poeni'r llysoedd. Yr un pryd, rhaid i ni gydnabod fod yn bosibl cael o hyd i gydwybod yn rhywle yn y wlad yma, onite i ba beth y pregethwyd iddi ar hyd y blynyddoedd ? A phaham y gelwir hi yn wlad Gristionogol, os nad oes cydwybod wedi ei magu ynddi ? Ofer yn wir fu ein hefengyl ni oil, ac ofer hollol yw'r son am (Hglwys y Duw byw,' os nad oes gan neb yn y wlad yma gydwybod. Ac a yw'r Ymneilltnwyr sydd a'u holl ogoniant yn sylfaenedig ar gydwybod, yn mynd i ddilorni'r gwrthwynebwyr cydwybodol,' ac i ddweyd mai iawn eu carcharu, ac nad oes ddim arall i'w wneud a. hwy ? Oni chwyd pob gweinidog crefyddol yn y deyrnas hon ei lais o blaid cydwybod, tybed ? Os na wna, yn enw Duw, pa beth arall sydd ganddo i sefyll arno a throsto ? Ac y mae meddwl ein bod ni yn awr yn mynd i fychanu cydwybod mewn un- rhyw ffordd, ac i ddifrio'r peth cysegredicaf sydd ymhob dyn, yn gollfarn ar ein holl weinidog- aeth ac ar Eglwys y Duw byw yn ein gwlad. Dyma'r prawf mwyaf di&igl fod pydredd yn rhywle yn ein hargyhoeddiadau. (10) Ni ddywed hyn o gwbl na fawrygwn ebyrth ein brodyr ardderchog ar y maes. Nis gwyddom am ddim sydd yn rhy dda iddynt hwy, ac yn ormod i'w wneud erddynt, cofier. Y gwir yw, deddf dyllog ryfeddol yw'r Ddeddf Filwrol cldiweddar-yn honno y mae'r diffyg. Petai'r Weinyddiaeth wedi gadael allan yn llwyr adran cydwybod ar y cychwyn, gallem ddeall