Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB CYMREIG rYNWY.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB CYMREIG rYNWY. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod nos Fawrth a dydd Mercher, Medi 26ain a'r 27ain, yng nghapel Golle Crug, Abertileri. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parch. J. R. Pritchard, B.A., Casnewydd. Bore'r ail ddydd am 10.30 cynhaliwyd y Gyn- hadledd o dan lywyddiaeth Mr. T. E. Thomas, Blaeiiaion, y cadeirydd presennol. Dechreuwyd y cyfarfocl yn y dull arferol. Wedi darllen a chadarnhau'r cofnodion, penderfynwvd— i. l,od -v eyfarfod nesaf i'iN, gylli:iil Ym Aletli- lehem, Blaenaf on. 2. Pod y Parchn. E. B. Powell, Maesycwmwr, a Rhys D. Jenkins, Rhymni, i bregethu ar y pYllciau-y blaellaf ar bwnc y Gynhadledd, a Mr. Jenkins ar fater ddewisir gan eglwys Beth- lehem. 3. Dewiswyd y Parch. J. R. Pritchard i ddar- llen papur yn y Gynhadledd nesaf ar fater o'i ddewisiad ei huu. 4. Apwyntiwyd Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cyfundeb i'n cynrychioli fel Cyfundeb yng nghyf- arfod blynyddol Cymanfa Ddirwestol y Deheudir a gynhelir ym Merthyr ddechreu mis Hydref. 5. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Alfred Pritchard, pregethwr ieuanc godwyd yn Sardis, Vnysddu, yr hwn sydd yn bresennol yn y Fyddin, a cheisiwyd gan yr Ysgrifennydd i yrru gair ato yn datgan teimlad da y frawdoliaeth tuagato. Y mae Mr. Pritchard yn frawd ieuanc rhagorol a phregethwr gobeithiol. 6. Mewn atebiad i gais ddoeth oddiwrth Gym- deithas yr laith Gymraeg drwy law ei hysgrif- ennydd brwdfrydig, penodwyd y Parch. Fred Jones, B.A., B.D., Rhymni, a Mr. B. T.Williams, ysgolfeistr, Abertileri, i gynrychioli'r Cyfundeb mewn cynhadledd a gynhelir o dan nawdd y Gymdeithas ym Mhontypridd prynhawn dydd Sadwrn, Hydref 2iain. 7.^Cymeradwywyd y penderfyniad canlynol; Fod y cyfarfod hwn o Bwyllgor Gweithiol Coleg Aberhonddu yn dymuno apelio at Gyfar- fodydd Chwarterol y gwahanol Gyfnndebau i fod ar eu gwyliadwriaeth yugly 11 a'r cynygiad i sefydlu Cadeiriau mewn Diwinyddiaeth yn y Colegaii Cenedlaethol, ac i ymdrechu creu sYl1- iadau iach ynglyn a'r mater.' 8. Pasiwyd pleidlais yn llongA-farcii y Parch. T. J. Hughes, Maesycwmwr, ar ei waith yn cyrraedd pen ei 80 mlwydd oed. Y mae Mr. Ilughes wedi bod yn wasallaethgar iawn yng Xghyfundeb Cymreig Mynwy, i'r hwn y bu yn ysgrlfellnydcl am lawer o flynyddoedd, ac hefyd mewn cylchoedd eraill yn yr Enwad. Fel y inae'11 hysbys i lawer, y mae wedi ymddeol o'i ofal eglwysig ers rhai biynyddoedd, ond y mac yn parhau i bregethu llawer eto ar y Sabothau. ac yn dal 3-n hoyw iawn ag ystyried y pedwar ugain mlynedd sydd yn pwyso arno. Bu ei gartref clyd ef a'i ddiweddar briod ragorol yn llety'r fforddolion i dyrfa luosog yn ystod y tymor maith y buont yn byw yn ddedwydd gyda'u gilydd yn Cefncrib Villa, Maesycwmwr, ac nid oedd byth brinder ar en croesaw. Yr oedd Mrs. Hughes yn ferch i'r diweddar weinidog adnab- yddus iawn gynt, ac i lawer eto, y Parch. Herbert Daniel, Cefncrib—a dyna sydd yn esbonio enw'r Villa. Caffed ein haiiinvj-l frawd heulwen deg hyd y diwedd, a chartref yn y nef pan ddel pen y daith. 9. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r cyf- eillion canlynol:—Teulu'r diweddar Barchu. J. Ossian Davies a J. Tertius Phillips a'r Parch. J. Morgan Jones yn wyneb marwolaeth sydyn ei annwyl briod ac a theulu y diweddar Mr. Thomas Jones, un o ddiaconiaid rhagorol yr eglwys yn Abertileri, yr hwn a fu farw'n sydyn yn ymyl dyddiau'r Cwrdd Chwarter. Rhoddwyd derbyniad calonnog i'r Parch. D. Hendy Davies, B.A., fel aelod newydd o'r Cyf- undeb ar ei waith yn cymryd gofal hen eglwys enwog a chref Rehoboth, Brynmawr. Cafwyd yn ystod y Gynhadledd anerchiad grvnius gan y Parch. Jacob Jones, Cadeirydd yr Undeb, ar ran y Drysorfa Gynorthwyol' ac addawodd roddi pob cymorth fedrai i'r mudiad yn y Cyfundeb. Y mae'r cynllun i fynd at y gwaith wedi ei lunio, ac y mae'r Gynhadledd wedi derbyn cyunyg Mr. Jones, ac i'w wahodd atom i annerch cyfarfodydd mewn gwahanol fannau yn ein plith. Gan nad oedd amser i'w gael yn y Gynhadledd, ceisiwyd gan Mr. D. Davies, Emporium, Ebbw Vale, i ddarllen ei bapur ar Ffynonellau cysur crefyddol mewn adeg fel yr un bresennol' yng nghyfarfod y prynhawn. Cafwyd papur gwir werthfawr gan Mr. Davies, ac ar ei ol pregetli- wyd ar Demtiad Crist gan y Parch. D. W. Edwards, B.A., Penmaiu. Y11 yr hwyr pregethwyd gan y Parchn. E. B. Powell, Maesycwmwr, a L. T. Jones, New Tre- degar-yr olaf ar fater ddewiswyd gan yr eglwys. Yn ystod y cyfarfod diolchwyd yn galonnog am y papur i Mr. Davies, ac hefyd i Mri. Edwards a Jones am eu pregethau cyfoethog ar y pynciau. Cafwyd cynulliadau Iluosog, a chroesaw mawr gall yr eglwys. R. E. PEREGRINE, Ysg.

CYFUNDEB CYMREIG PENFRO.I

Siloh, Pontardulais.

[No title]

POB OCHR PR HEOL.