Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
ILLADD BYDDIN CYMRU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLADD BYDDIN CYMRU. LLETHU Til H YMNEILIyTTT AETII. GAN BIVRIAH. Cyfiawnodd gwerin Cymru wronwaith yuglYIL a'r rhyfel. Cyfrannodd. Cymru fwy o'i meibion i'r Fyddin mewn cyfartaledd i'w phoblogaeth nag a wnaeth unrhyw ran arall o'r devrnas lia'r ymerodraeth. Gwnaeth ei bechgyn ar faes y gad wrhydri na churwyd niohono gan eiddo unrhy w genedl dan haul. Gwnaed hyn oil dan gymhelliad ysbryd gwladgarwch a theyriigarwch. Addawyd iddi Fyddin Gymreig, gyda swyddog- ion Cymreig, yn meddu'r hawl i ddatblygn holl nodweddion cenedl y Cymry mewn ymarferion cymdeithasol a chrefyddol. Eithr pa fodd y cyf- lawnwyd yr addewid ac y cydnabyddwyd aberth Cymru ? I(I(ADD Y FYDDIN. Lladdwyd Byddln Cymru. Gyrrwyd degau o filoedd o fecligyn Cymru, pan ymunasant gyntaf a'r Fyddin, i gatrodau Seisnig, Ysgotaidd a Gwydclelig yn groes i'w hewyllvs. Ni cha Cymru dditn o'r clod am yr hyn a wnaeth y dewrion hyn. Rhoddir llawryf eu dewrder hwy i genhedloedd eraill. Gwaeth na. hyn. Wedi i'r Cadfridog Cyinreig Owen Thomas, yn wyneb llawer o rwystrau swyddogol diraid, ffurfio Bataliynau Cymreig, difodwyd hwynt gan y svvyddogaeth filwrol. Nodaf ddwy englrraifft arbellnig-Bataliynau 20 a 22 o'r Royal Welsh Fusiliers. Adnabyddir yr olaf yn well wrth yr enw Gwynedd Battalion. Yr oedd y rhai hyn mor nodweddiadol Gyiureig fel y rhaid eu drilio yn Gymraeg-peth na bu o'r blaen er dyddiau Owen Glyndwr Heddyw mae'r ddwy Fataliwll wedi difiaiiuu Lla ddwy d hwynt—nid gan y gelyn, ond gan swyddogaeth filwrol Lloegr Gwasgarwyd y dynion a'u cyfan- soddent ymhlith Bataliynau eraill-estrouol o ran gwlad, iaith, arferion a chrefydd.. Yno gwawdir eu gwlad, gwaherddir eu hiaith, ac anwybyddir eu crefydd Paham ? Nid anghen- raid milwrol, ond mympwy swyddogol a alwodd am hyn. Gallasai Byddin Cymru fod mewn bod heddyw ar faes y gad pe yr ewyllysiai'r awdur- dodau milwrol i hynny fod. Cymerer Canada mewn cyffelybia.eth. Can mil (100,000) o wyr a gyfrannodd Canada i Fyddin Prvdain. Cedwir Catrodau Canada ar wah an yn y Fyddin hyd heddyw. Ileinw Canada y bylchau yn en rhengoedd wrth raid. Cyfran- nodd Cymru yn agos i gymaint deirgwaith ag a wnaeth Canada. Gallasai fod wedi llanw pob bwlch yn y rhengoedd wrth raid, eithr difod- wyd ei Bataliynau mwyaf arbennig cenedlaethol. Yr hyn 11a feiddiasid byth ei wneud a'r Canad- wyr a wnaed a'r CN-iiiry. rLETlIU YMXIiirj/l'IIAE'rH Y FYDDIN. Casglwyd Bataliynau Cymreig i Bare Kininel. Cymraeg oedd eu hiaith Ymneilltuaeth oedd crefydd y mwyafrif inawr ohonynt. I gyfarfod a'u hanghenion casglodd enwadau Ymneilltuol Cymru filoedd o bunnau i godi Neuadd Ymneill- tuol yno. Ar y cyntaf gwenodd yr awdurdodau ar y mudiad. Gwnaethant lawer i'w ln-rwyddo. Caniatasant iddo ffafrau. Rhoddasant iddo eu nawdd. Ond—daeth tro ar fyd. Daeth dylau- wadau gwrth-Gymreig, gwrth-Ymneilltuol i'r maes. Erbyn heddyw mae'r addewidion a wnaed mewn ysgrifen gau yr awdurdodau inil- wrol i awdurdodau y Neuadd Ymtieilltuol-wedi cael eu torri. Mae'r breintiau a ganiateid gynt wedi cael eu tynnu yn ol. Hyd oedd yng ngallu rhai o'r sawl a feddent ddylanwad gwnaed, a gwneir eto, Neuadd Ymneilltuol Kinmel yn feth- innt. Gyrrwyd y Bataliynau mwyaf Cymreig a rnwyai cryf eu Hymneilltuaeth ar wasgar i FataliYllBU Seisnig ac estronol. Cadwyd yn Kinmel y Bataliynau mwyaf Seisnigaidd, a'r rhai a gynhwysent leiaf o Ymneilltuwyr. Gor- ymdeithia'r rhai hyn bob Saboth i sain pob offeryn cerdd i wasanaeth Eglwys Loegr--yn brawf i'r anwybodus mai gwir ddywedodd Esgob Llaiielwy fod tri o bob pedwar o filwyr Cymru yn Eglwyswyr A'r Ymneilltuwyr Cymreig yng ngwlad yr estron yn dwevd Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?'
iCYDNABOD CYDYMDEIMLAD. I…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. j At Olygydd y Tyst. SYR,—Buasai'n llawenydd mawr gennyf i ateb y llythyrau lluosog a dderbyniais oddiwrth gyf- eillion annwyl ac eglwysi yn awr fy mhrofedig- aeth oud gaii nas gallaf eu hateb yn un ag un, caniatewch i mi yn y modd mwyaf diffuant, trwy gyfrwng y TYST, gydnabod yu ddiolchgar y cyfeillion, a'r eglwysi amgylchynol (ac yn eu plith Sardis, Trimsaran, a Charway, Caerfyrddin) a Cliynadleddau Cyfarfodydd Chwarterol Gog- ledd Morgannwg a Mynwy, am eu cydymdeimlad a mi a'r plant yn wyneb ein trallod mawr drwy farwolaeth ddisymwth fy annwyl briod. Y mae'r cydymdeimlad cyffredinol a gefais wedi bod yn gymorth i mi ganmol Duw a chlodfori Ei enw yn wyneb oriau tywyllaf yr anialwch. Yr eiddoch mewn trallod, | Fochrxw, J. MORGAN JONES. Hydref 12fed, 1916.
I Y GYMRAEG -YN Y CARTREFI…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GYMRAEG YN Y CARTREFI A'R EGLWYSI. At Olygydd y Tyst. SYR,—Diolchaf yn galonnog i chwi am eich help bob tro hyd yn hyn ynglyn a'n cynadl- eddau. Caniatewch i mi hysbysu'r eglwysi o'r Gyn- hadledd a gynhelir ym Mhontypridd brynhawn Sadwrn nesaf, Hydref 2iain, am 3 o'r gloch. Dylasai pob eglwys Gymraeg o fewn cylch y Gynhadledd—Gorllewin Mynwy a Dwyrain Mor- gannwg—-fod wedi derbyn rhaglen oddiwrth ysgrifeunydd y Cyfundeb neu'r Dosbarth. Gwa- hoddir pawb i'r Gynhadledd, ond yn arbennig y gofynnir am ddau gynrychiolwr o bob eglwys. Llafuriwn yn rhad ac am ddim am y credwn y cyll Cymru drysor drud pan gollir ein hen- iaith o'r aelwyd a'r cysegr. Amcan y Gynhadl- edd ydyw gwneud, gwaith, ac nid siarad, cwyno a segura ar hyd y dydd. Dewch in cynorthwyo, chwi Gymry a gar y Gyiuraeg. Dewch i weithio er dwyn eich dyheadau i ben. Yn wladgar, D. ARTHEN EVANS. Glyn Geraint, Barry, D. AR'1'I1;EN EVANS.
_-"-CAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERDYDD. Cyfarfodydd Blynyddol Ebenezer.- Y Parch R. Gwylfa Roberts, D.Litt., o Lanelli, fu yma yn ein gwyl flynyddol eleni. Cawsom o wledd- oedd breision yr Efengyl ganddo nos Sadwrn a bore a hwyr y Sul. Hefyd cafwyd pregeth brynhawn Sul gan y Parch John Roberts, M A. (M.C), Pembroke-terrace, Oaerdydd. Y mae ele hefyd yn rheng fiaenaf pregethwyr y Methodistiaid, ac yr oedd ei genadwri yn Ebenezer yn flasus a bendithiol. Cafwyd odfeuon gwlithog bob tro: pregethau da a chanu hwylus dan arweiniad Mr John Beynon. Hefyd cafwyd dau unawd gan frawd ifancto Ddowlais-Mr Jenkin Whiting—oeddent yn ddyrchafol yn eu cynnwys a'u datganiad. Gol. y 4 Tyst.'—Pel y gwyr llawer o'i gyfeill- ion, nid oedd Mr Hughes wedi ei lwyr adfer i iechyd drwy ei wyliau, a'r wythnos ddiweddat bu yn Llundain yn ymgynghori A specialist, ac y mae'n dda gennym hysbysu fod y treatment eisoes wedi achosi llawer o les, a hyderwn yr atebir gweddiau'r eglwys ar ei ran yn ei lwyr adferiad drwy gyngor y meddyg atbemnig. -V., Dxwj VYCHAN.
ACHOSION I GANU Y NOS.* i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
a dywedwn i gychwyn fod gennym achos II i ganu y nos yn yr ymwybyddiaeth ein bod yn y rhyfel presennol yn ymladd o blaid yr hyn sydd iawn ac anrhydeddus. Credaf fy htm na fuasai ein harweinwyr wedi mynd i'r rliyfel hon o gwbl onibai eu bod yn gwbl argyhoeddedig o iawnder en hachos, a chredaf hefyd na fuasai ein pobl gar- tref ac yn y Trefedigaethau wedi ategu eu hvmgymeriad onibai fod ganddynt yr un argyhoeddiad. Gwn fod rhyfeloedd hollol amheus yn eu cymeriad—rhyfeloedd wedi cychwyn mewn trais a gormes—yn anurddo dalennau hattes ein gwlad ni ein hunain end nid oes neb a ddywed mai mewn ysbryd traha o'r fail), hynny y cy- chwynnodd y rhyfel presennol. Y mae'r amharodrwydd hollol a'i nodweddai ar ddechreu'r ymgyrch yn ddigon i ll cyf- iawnhau o'r camwri hwnnw. Aethohi allan i'r rhyfel hon yn achos y gwan a'r diamddiffyn dadweiniwyd ein cledd i amddiffyn cysegredigrwydd cvtundebau rhwng gwledydd a'u gilydd. Yng nghwrs amser daeth agweddau eraill i'r golwg— amddiffyn cartref a phopeth sydd oblyg- edig yn hynny-i gyd yn achosion llawn mor gysegredig ag eiddo adfyd Belgium, a'r oil ohonynt gyda'i gilydd yn ein gwneud yn foesol gyfrifol am ddwyn barn i fuddug- oliaeth. Yn codi o hyn oil y mae yr ystyriaeth y gwelwyd miloedd ar filoedd o ddynion ieu- ainc gorczl r deyrnas yn ateb galwad eu gwlad a'u B■renin fel galwad Duw i amddi- ffyn iawnder a thegwch. Yn hyn yr wyf fy hunan yn gweled rhywbeth i fod yn llawen iawn a diolchgar o'i blegid. Yn bersonol, gwelaf yn hyn oil brawf-ïe, a phrawf gogoneddus iawn hefyd, ein bod fel eglwysi Cristionogol am y deng mlynedd ar hugain diweddaf wedi bod yn adeiladu yn well nag yr oeddym yn gwybod. Gad- awer i mi atgofio'r modd yr arferem synied am fethiant ein gwaith y modd y teimlem yn brudd wrth weld yr hyn a dybiem ni yn ddiffyg difrifwch a ehryfder cymeriad yn ein dynion ieuainc. Ein cwyn feun- yddiol oedd fod pobl ieuainc ein heglwysi yn codi i fyny yn eiddilod, yn wamal ac ansefydlog, yn byw i chware a moethus- rwydd. Nid oedd ysbryd arwriaeth dros yr ia-wii yn y tir o gwbl yr oedd oes y merthyron wedi mynd heibio, ac nid oedd defriydd merthyr yn yr oes oedd vn codi. Wrth gwrs, rhoddid hyn oil i lawr i feth- iant y Pulpud a'r eglwysi i feithrin cryfder ac arwriaeth yn yr oes. Ond pan ddaeth yr argyfwng, cawsom fod arwriaeth eto'n fyw, ac fod ein dynion ieuainc yn gryfion ac yn barod i aberthu eu heinioes eu hunain dros y delfrydau a farnent hwy, yng ngoleuni eu natur foesol, yn deilwng o hynny. Ond o ba le y cafodd ein pobl ieuainc y cryfder hwn ? O'm rhan fy hun, yr wyf yn hawlio fod hyn oil yn ddvledits i'r Pulpud a'r eglwysi. 0 ba le y cafodd ein pobl ieuainc eu cariad at egwyddor a'u cariad at y delfrydau uchaf os nad oddiwrth bregethiad yr Efengvl ? A pha fodd y daethant dan ddylanwad yr Efengyl honno ond trwy weinidogaeth yr Eglwys a'r cartref Cristionogol ? Na, nid ydvm wedi bod yn llafurio n ofer ac y mae arwriaeth ein pobl ieuaine dros vr iawn, fel y daw i'r golwg yn y rhyfel ofnadwy yma, yn achos i ganu yn y nos. Yn yr ysbryd hwn yr aeth miloedd ohonvnt allan, ac yn yr ysbryd hwn y maent etc ynlwynebu'r peryglon ar faes y gwaed. Gwyr llawer ohonom oddiwrth y llythyrau beuiiyddiol ydys yn en derbyn oddiwrth y bechgyn hyn fod yr addysg grefyddol gawsant gartref yn dal yn gryfder iddynt heddyw. Y mae eu tvstiolaeth i werth eu profiad crefyddol uwchlaw pob pris. Y maent yn cadw y ffydd, ac y mae'r ffydd honno yn eu cadw hwythau'n gryf- ion ac yn wrol. Darllener hanes eu gwrol- deb, eu tynerwch at y elwyfedigion, eu parodrwydd i aberthu eu hunain er mwyn eraill. Gwrandawer ar dystiolaeth y cap- laniaid i'w cymeriadau, ac nis gellir llai na llawenhau. Ac nid llai gogoneddus ydyw gwroldeb y tadau a'r mamau sydd gartref. Yn sicr, dylai hyn oil beri i ni ganu yn y nos. tel (/'?' barhau.)