Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Saboth wrth byrth Gehenna

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Saboth wrth byrth Gehenna GAN Y PARCH. J. DYKKALI/C OWEN. Y GWAHODDIAD. Beth fel gwen cyfaill pan fo'r byd yn ddu Y drwg a hirddisgwyliasom am dano a ddaeth arnom yn ddiarwybod. Ar fore nad a byth o'r cof y trodd y gelyn ei lid ar ein gwarthaf, a daeth fel rhyferthwy barn. Gwibiai'i adar cyf- rwys, dichellgar ol a blaen uwch ein pen, weith- iau genlli'r nos, bryd arall ar awr anterth, a phob bore ar doriad dydd ac yr oedd swn tymestl en hadenydd yn ddigon o rvbudd. fod eu bryd. yn ddrwg. Eithr ni freuddwydiodd neb ohonom fod y fath alanas gerllaw. Yl1 annisgwyliadwy disgynnodd ei belenni chwyrn, anferth ar ein traws, a syfrdanwyd y dref yn ei gwing a'i gwae. Can diolch i'r caplan caredig Evan Mathias, a'r swyddog, ieuanc, hawddgar, Bertie Lewis o (Taerfyrddin am ddod ohonynt o gwr arall o'r niaes i ysbio fy hynt. Daeth ant a heulweu i'r babell goed. y prynhawn hwnnw. Mawr fu'r iniri yng nghefn y babell am awr neu ddwy, ac nid yn fuan yr angliofiwn yr hwyl ar fwyta ffa o'r hen wlad, a'r gorfoledd o roi'r byd dyrys yn ei le. Nid oeddynt hwy-wyr cynefin a mell- tith rhyfel—heb lai na theimlo ias yn cerdded en gwaed wrth ymdroi ohonynt vnghanol olion yr hafog. Wedi gweld a ellid o effeithiau'r dinistr, troisom ein liwynebau yn haniddenol i gyfeiriad y ffosydd. Cerddasom yn llaweu dan ysmalio gyda glan y Gamlas Fawr, a'r uawn- ddydd teg yn gorffwys yn freuddwydiol ar y dwr llonydd. Difyr, difyr oedd y daith ond yn sydyn torrwyd ar yr ymgom gan lais car- trefol y Caplan, a phan ar ganol chwerthin, cymerth ystori ddiddorol ei haden o un o gang- hennan'r poplar tal arfin y dwr. Ac ebe'r Cap- lan Dyfnant, bydd eich cyhoeddiad y Sul nesaf neu'r Sul canlynol i wasanaethu ar gwr y gwersyll tan.' Dyna'r peth y bu dy galon yn gweddio am dano,' ebe Ffawd, yn siriol am y tro cymer y cyfle gerfydd ei war.' Cawswn addewid gan gyfaill arall o gaplan, ond yr oedd efe erbyn hyn ymhell o'r fro. Dawnsiai ton y gwaed yn y gwythienan, a rhoed aden arall i fy ysbryd. Gallaswn hedfan yr awran honno lie y my nswn, ond nid doeth hynn31 mewn man o'r fath, gan fod haid o adar wsglyfaethus ar en crwydr maleisus uwch fy rnhen y pryd hwnnw. A dydd arall a ddaeth, a'r Mathias llawen- wyneb a safodd ar drothwy drws yr ystafell lie y gweithiwn ac y cysgwn, ac yr oedd nodyn clochaidd yn ei lais wrth roi i mi wahoddiad i weinyddu yn y Brigade Service y Sul canlynol. Yn ei dro daeth y dydd i gychwyn i 'nghy- hoeddiad. Gwlawiasai'11 drwm y bore, a garw o le sydd yno pan fo gwlyb yr hin. Heliais ataf a feddwn o frethyn du, ac ymdrwsiais goreu y medrwn. Gwyddwn yn dda, serch liynny, nad oedd nemor fri ar ddim o'r fath yno, ac nad oedd i doriad diwyg ddiben tragwyddol. Ond gan mai i blith Cymry y gwahoddasid fi, ced- wais at y du oedd ar gael. Dau beth yn unig a dorrai ar gynghanedd y lliw—y cwdyn llwyd- oleu dan fy nghesail lie y cariwn yr helm ar gyfer y nwy (gas-helmet), a phar o lodrau ben- thyg fflach-melyn am y feingoes. Y DAITH. Eitlir sut yr awn i 'nghyhoeddiad ? Nid oedd yno dren a feiddiai fynd y ffordd honno, pe ffordd i'w chael. Eutlium at brif swyddog y gwersjdl i geisio benthyg beic, ond yn anffodus yr oeddynt i gyd yn y rhyfel. Cydymdeimlai'n fawr a mi, a dymunai'n dda i mi. Gwr caredig a pharod a fu i mi ymhob dim. Yn wyneb hyn, brysiais i ymofyn am drugaredd debyg oddiar law prif swyddog y gynnau mawr. Gwr ifanc, llednais ydoedd, a sawyr tan y Somme ar ei ddillad. Yn ei awydd i'm cynorthwyo, cynyg- iodd yn fenthyg i mi farch porthiannus, cyfar- wydd hollol (ebe efe) a thwrw pob math o ynnau, a chwbl ddifater i bob math o belenni, pe y doi un hyd yn oed. yn anghysurus o agos, Sefais yn ddifrifol uwchben y cyunyg eithriadol hwn. Marchogaeth i gyhoeddiad ar farch porth- iannus yn disgleirio o'i fwng i'w gynffon Medd- yliais am danaf fy hun yn carlamu ar draws gwlad, yn rhuthro o bentref i bentref, 311 rhoi yspardyn yn ei ochr nes neidio oliono o geulan i geulan, ac yn diflannu yn y nos dros gennant a merddwr a chamlas. Na ato i ti wneuthur hyn,' ebe Doethineb, canys ni fu a, fynnot fawr a marchogaeth er y dydd y buost yn cystadlu a'r gwynt ar gefn ebolion gwyllt y Mynydd Du a Mynydd y Gwrhyd heb ffrwyn ar eu gwar na chyfrwy ar eu cefn.' A Doethineb a gyfiawn- hawyd. Wedi chwilota'r gwersyll, daethpwyd o hyd i ysgerbwd o feic yn unig o dan goeden lorn. Eiddo'r fyddin ydoedd, ac fel llawer yn ei gwas- anaeth, gwelodd yntau druan amser gwell. Sut bynnag, mentrais ar fy hynt ar ei gefn y pryn- hawn Sadwrn hwnnw mal y gwelir llawer cennad yng Nghymru wledig y dyddiau rhain. Araf iawn oedd yr vmlwybro drwy ganol llaid ffordd gwlad, oblegid y mae i laid Ffrainc ddawn i lynnu wrth droed ae olwyn mal pe baent yr anwyliaid pennaf yn ei olwg.' Sut bynnag, llawenvehwn o weled o 'm1aen y ffordd fawr garegw\rd o gobl (mwy priodol coblyniaid yn yr achos yma), ac ar ysgytiad y cyfarfyddiad cyntaf a'r cobl, torrodd y eyfrwy. Brysiais yn chwys i gyd i weitbdy'r fyddin, a chefais un newydd yn ddiymdroi. Caiff gwas y Y.M.C.A. freintiau v fvddin. Yr oedd y gweithdy mewn darn o'r dref lie y bn'r gelyn yn brysur y diwrnod cynt, a da ddigon oedd troi cefn ar y fan. Wedi pincio cryn dipyn ar y beic, cychwvnnais gydag aidd un a dybia ddifa ohonno beth nior draeth- odol a phellter heb yn wybod iddo. Eithr nid camp 3-sgafli. yw llywio beic ynghano1 hwrli- bwrli ar un o'r ffyrdd brenhinol yn I.,fra,ine, a gwau ol a blaen, igam-ogam, rhwng mocluron chwvrn. cerbvdati o bob llun, meirch ucliel- nwyd, innlod gwyllt a gwar, a minteioedd crag- wrus o filwy-r ar eu ihynt i'r fiosydd lieu A'nte'n dychwelyd yn llawen-galon oddiyno. Ni phalla trafnidiaeth i'r ffosydd ddydd na nos yn wastad, a phe doi negesydd ar ei fotor-feic yn wallgof- wyllt, byddai lIe mawr i ddiolch yn unig am y drugaredd o ddiant i'r ffos o'r ffordd. I V CYIIARCH RAPCS. I Ymhen yr awr yn brin deuthum i dref weith- faol bwysig. Bum yno ddwywaith o'r blaen ar neges gyda gwaith y Y.M.C.A. Mac yno, fel ymhab pentref a thref ar gwr Genhenna, olion difrod mawr. Rhwygir ei hawyr lawer gwaith yn yr wythnos gan ysgrechfeydd creulon y pel- enni tan, a malurir ei thai yn gand dry 11. Trefn- asai'r Mathias tirion i'm cyfarfod ar yr ysgwar dan gysgod y golofn hardd sY'll ddianaf hyd yn hyn, er disgyn o lawer pelen yn ei chymdogaeth. Oddiyno addawsai i'm hebrwng i ba le bynnag yr elswn, a bugeilio'm traed yn wyliaclwrus. Ymdroais o gylch y fan, ol a blaen, ac nid heb beth petruster ynghylch a welai'r gelyn Y11 dda ai peidio atal ei law am ychydig yn hwy. Ond i roi taw ar bob pryder ac hunanymholi, wele'r Caplan diwyd ar ei feic yntau i'r fan a'r lie. Bellach dacw ni ar ein taith ochr yn ochr. Heb fod yn nepell o'r man cyfarfod tarawsom ar y cyntaf o'r swyddogion Cymreig. EstAmnodd gwr o wynepryclllariaidd a charedig law o groeso i mi mewn Cymraeg glan. Gwelswn ef o'r blaen ddau nen dri gaeaf yn ol pan yn darlithio ar Farchogion Arthur yn y Gwynfryn. Ychydig feddyliwn y pryd liwnnw y cawswn ei gwrdd yntau vmhlith y marchogion. Mae Capten Richards yn hannu o gyff teilwng o Fethodist- iaeth ar ei goreu a'i dad, er wedi ymneilltuo o fugeiliaeth feunyddiol, eto yn dal yn llafurus yn y winllan, ac yn gweld yr haul yn codi bob dydd dros Lyn y Fan o drathwy ei fwth ar y Betws. Gam neu ddau 3-11 uwch i fyny dyina swyddog ieuanc, sionc ar ei droed, hawddgar o wedd, yn brysio i'm croesawu i'r fro. Yn Nhreforris y ganed ac y maged Dan Phillips, a dyna barodd i'r Athro Young Evans ei fedvddio cyn cefnu chono ar yr hen wlad, fel Dewraf wr o Dre- forris.' Gwnaeth dro caredig iawn a mi y bore dih-nol, a rhoes dro am danaf ar ei farch golygus ddydd neu ddau cyn i mi droi fy wyneb tua'r gorllewin. Beth ddywedasai Tudur Aled neu Fardd Aberpergwm pe gwelsent hoen a 11am chwim v march hwnnw Bellach, nid dieithr- ddyn oeddwn yn y fro. canys yr oedd fy nghyd- genedl yno, a disgyullai melodi'r Gymraeg yn ami ar fy nghlyw. Dacw'r ysbyty hardd ar v dde-campwaith celf yr ardaloed(I.-a rhaid oedd rhoi tro am y meddygon a'r cleifion. Yma y cyfarfum a swyddog ictialie-Williaiiis o Bynea, gVvr ieuanc wedi ei eni'u arlunydd. Tystiai arlunydd enwog yn Uundain wrtlwf oddiwrth ddarlun o'i eiddo yn fy meddiant fod. y ddawn yn eithriadol ganddo. Gyda llais cryi a ch werthilliad iach daeth y meddyg cydnerth, Dr. Davies o Geinewydd, i fewn i'r ystafell. Newydd ddod o gyngerdd yd< tedd. a mawr oedd ei gaumoliaetli i'r hwyl fu yno ar ganu emynau. Yn ei ddilyn wele wr ieuanc urddasol yr olwg. Clywswn yn flaenorol am ei wrhydri ar faes addysg. Difyr oedd gweld un o hil Wactyn Wyn yn y fan honno, canys cefnder i'r Wat diddan yw tad rhadlou y meddyg —Mr. W. D. Williams (manager), Nantymoel. Cymaint oedd awydd y meddyg am oedfa yn yr hen iaith nes iddo Iwydclo cael y Sul yn rhydd, a melys oedd ei brofiad ar ol y Cymundeb ar y glaswellt yn yr awyr agored prynhawn Sul. Chwarddasom nes llesmeirio vmron o glywed un ohonynt. yn adrodd yr ystori ddoniol o'i ddrwgdybio o fod yn ysbiwr. Dro yn ol,' ebe'r swyddog, daeth i'm rhan i dywys cwmni o filwyr i fan arbennig yn y ffosydd. Yr oedd gwr arall i'm cyfarfod yno ar awr benodedig. Aethom i'r fan a'r lie yn ddiddan ddigon, ond wedi cyrraedd yno nid oedd neb ar y cyfyl. Gorehuiynnais i'r milwyr orifwyso encyd, a chrwydrais i gyfeiriad hen dy inaluriedig Nid oedd dim yn aros ohono ond y seler. Nid cynt yr oeddwn i fewn yn y seler nad oedd dan heddgeidwad milwrol ar fy sawdl. 0 ble y daethant nis gwn hyd yr awr hon. Edryclient. yn gilwgus arnaf, a hawdd oedd darllen yn eu hwynebau awgrym y gorfoledd hwnnw a ddaw i wedd heliwr pan fo ar warthaf y pry. Trwsgl iawn oedd yr ymgom rhyngom. Who are you ? ebe un ohonynt. Ateh, So and so. What do you want here ? Ateb, I am here on duty.' What duty ? 'Ateb, So and so.' What business have you in this concealed place ? Ateb, I was only just having a look round.' Ar hyn trodd y naill at y llall tan sibrwd mewn iaith digon cynefin i'r swyddog, canys Cymracg ydoedd Fe alii fentro dy fywyd mai German y gwr drwg yw e.' Nid cynt y clywodd y swyddog hyn, na thorrodd allan Nace, nace, fechgyn nid German \vi, ond bachan odd'ar bwys Llycad Llwchwr.' Safodd v ddau mewn syfrdandod mud am funud, nes i siomedigaeth. fynnu tafod 0, nid Boche i chi te ?

CASTELLNEDD A'R CYLCH.

[No title]

Advertising