Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
M AN CHESTE R. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
M AN CHESTE R. I Cyfarfodydd Pregethtt,-Cynhaliodd yr eglwys yn Lord Dancan-streat, Salford, ei gwyl liyn- yddol Medi 9fed a'r lOfed. Pregethwyd nos Sadwrn a bore a hwyr y Saboth gan Proff J. Morgan Jones, M A., Bangor. Prynhawn Saboth cafwyd pregeth Siesoeg gan ein cyd- wladwr hael, y Parch W Thomas, Wilbraham road. Mae caredigrwydd Mr Thomas i'r achosion Cymraeg ya y ddinas a'r cyleh yn eithaf adnabyddus yma, a'i wasanaeth bob amser yn hynod gymeradwy.—Medi 23ain a'r 24ain ydoedd dyddiad gwyl flynyddol eglwys Booth-street, pryd y cafwyd gwasanaeth gwerthfawr y Parch Joseph James, B A., Llandysilio. Gwasanaeth Saesneg gafwyd prynhawn Sal, a thraddodwyd anerchiad rhag- orol gan Mr James ar y geiriau I Gwis- Dy nerth.' Os nad ya camgymeryd, dyma ymwel- iad cyntaf Mr James &'r ddinas, a mwynhawyd ei weinidogaeth yn fawr Cyfarfod y Gweinidogion.—Oynhaliwyd cyt arfod cyntaf y tymor ya ysgoldy Booth-street, prynhawn dydd Mawrth diweddaf. Darllenwyd papnr gwir dda gan y Parch W Thomas ar Robertson o Brighton.' Cyfarfod defosiynol yn bennaf oedd hwn, ac yr oedd naws ddy- munol iddo. Llyfr Proff Richard Morris, Bala, ar I Berson Crist' fydd dan sylw yn y cyfarfod dilynol. Croesawyd brodyr newydd ar eu dyfodiad i'r cyleh. Ymadawiad Gweinidog. -Mae ein eydwladwr, y Parch W L. Lloyd, Oldham street, Tredegar gynt, yn symud i Bryste, ar ol naw mlynedd o lafur dan antaoteision dirfawr Chwith gennym ei gol li. Dymunwn ei lwyddiant yn ei faes newydd. DINESYDD. I
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENt, PRIODI, A MARW. MARWOLAETHAU. JAMES.—Mawrth y 3ydd, Mrs Rebecca James, annwyl briod Mr Thomas .lames, 9, Merthyr-road, Llwydcoed, un o ddiaconiaid parchus Horeb. Yr oedd wedi bod yn lied wanaidd o ran ei hiechyd ar hyd y flwyddyn, ond yn alluog i wneud gornchwyl- ion ei thy a'i theulu er hynny. Gwaelodd yn fawr yn yr wythnosau diweddaf o'i heinioes. Aeth ei hannwyl briod a hithau am ychydig o wythnosau i newid awyr ym mis Awst, gan fawr obeithio y buasai hynny yn llesiant, ond dychwelasant adref a Mrs James hob fod yn ddim gwell. Cyfyngwyd hi'n hollol i'w gwely yr wythnos olaf o'i bywyd, a dioddefodd boeaau mawr yn hollol ymostyngol i ewyllys yr Arglwydd. Er pob ymdrech a wnaed gan briod ffyddlawn a meibion a merch annwyl a'r meddygon, angeu a orfu, a'r dydd crybwylledig ehedodd ei hysbryd yn dawel i fynwes ei Cheidwad a hi yn 62 oed. Yr oedd Mrs James yn un o ragorolion y ddaear, yn aelod distaw, ffyddlawn a dichlynaidd o eglwys Horeb, ac yn un o heddychol ffyddloniaid Israel. Llawn o rinweddau a grasusau yr Efengyl oedd ei bywyd dyddiol cyson. Bu eu tv ar hyd y blynyddoedd yn dy croosaw, a'u bwrdd yn llawn caredigrwydd cynnes i weinidogion y Gair a llu eraill. Nid oedd dim a roddai fwy o hyfryd- wch a mwynhad i Mrs James na gweinyddu wrth y bwrdd i'r cyfryw rai. Llanwodd yn ffyddlawn yr enwau gwraig ddoeth, ffyddlawn a darbodus, a mam dyner a gofalus. Prynhawn y Sadwrn canlynol, er fod y dydd yn arw, cafodd angladd parchus a thra Iluosog. Gweinyddwyd yn y ty ac wrth y bedd yng nghladdfa gyhoeddus Aberdar gan ei gweinidog, y Parch W. S. Davies. Gwelwyd yn ei hangladd y Parchn Morgan Jones, Llwydcoed Grawys Jones, Ebenezer; J. D. Hees, Salem a riulgwyn Davies, Siloh. Diau y buasai brodyr eraill yno onibai y tywydd garw. Nos Sul, Hydref yr 8fed, traddod- wyd pregeth angladdol i Mrs James gan y Parch W. S. Davies. Ei destyn oedd Y wraig a'r blwch enaint yn yr Efengyl yn eneinio pen y Gwaredwr:' Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth 'A Mail' a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni.' Canwyd emynau a thonau yn gweddu i'r amgylchiad o dan arweiniad Mr J. B. James. Chwareuwyd yr offeryn hefyd gan ei frawd, Mr Willie James. Ein dymuniad ydyw ar i Mr T. James gael yn helaeth o gysuron yr Efengyl yn ei golled fawr a'i waeledd iechyd. Boed i'r unig ferch gael yn helaeth o ysbryd ac esiampl ei hannwyl fam, a pbarhaed y meibion i rodio'r llwybrau anrhydeddus maent wedi gerdded er anrbydedd i'w hannwyl rieni.
Pe Ffurfid Pwyllgor ym Merthyr.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pe Ffurfid Pwyllgor ym Merthyr. Ni wnai'r ymchwiliad llwyraf i'r dystiolaeth a gyhoeddir ym Merthyr wythnos ar ol wythnos ond arwain i un canlyniad yn unig, oblegid y mae'r prawf yn ansigladwy. Pa fodd y gallai neb ameu gwirionedd sicrwydd cymdogol gonest fel ag a roddir yma ? Mrs. R. Munro, 13 Gladstone-terrace, Ply- mouth-road, Merthyr Tydfil, a ddywed :—' Ni funi erioed yn cadw'm gwely, ond weithiau teimlais y dylaswn wneud pan yr oedd fy nghefn yn ddrwg. Yr arennau oedd achos y gofid, oblegid braidd y gallaswil godi i fyny ar ol plygu, a theimlwll yn y boreuau yn llesg a thra blinedig. Byddai'r poenau ar draws, fy nghefn weithiau'n llym iawn, ac ar brydiau eraill cawn fyd-wayw poenus. Danghosai'r gyfun- drefn droethol fod rhywbeth o'i le ar yr aren- nau ond wedi i mi gael fy nghynghori i roddi prawf ar Doan's Backache Kidney Pills, gwnes hynny, ac erbyn yr amser i mi ddefnyddio uii blwcli o'r pelennau yr oedd y poenau wedi diflannu'n llwyr. Teimlwn yn ysgafnach ac yn well ymhob ffordd. Yr wyf yn holliach yn awr ac yn rhydd c'r anhwylder, a gobeithiaf barhan fell}-. Hefyd, cafodd fy mhriod, yr hwn sydd yn awr yn yr Aifft, esmwythtra mawr gan Belennau Doan. (Arwyddwyd) R. Munro.' Dioddefa'r holl gorff pan mae'r arennau yn wan, a rhai o'r afiechydoll a ddilynant yn gyflym ydvw anhwylderau troethol, grafel, crydcymalau, y glunwst, a'r dyfrglwyf. Crisiala sur troethol yn y cyhyrau, y giau a'r cymalau, ac erys liylifau peryglus yn y meinwe ac o dan y croen. Wrth gymryd Pelennau Doan mewn pryd, y maent yn dra llwyddiannus yn y cyfryw achos- ion, oblegid trwy gryfhau'r arennau y maent yu iachau yr achos o'r holl anhwylderau perthynol iddynt. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwcli oddiwrth Poster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. Peid- iwch a gofyn am belennau at ddolur y cefn neu'r arennau, ond gofvniiwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mrs. Munro. 5
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BRIGHTEN YOUR HOME By getting your Electro-Plated articles Silver-Plated as new-at Small Cost. WRITE FOR FREE PRICE UST TO TOWNSHEND'S LTD., ERNEST STREET, LOIRMINGHAM.
Siloa, Cwmerfyn, Ceredigion…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Siloa, Cwmerfyn, Ceredigion f IIANNER-CANJ] LWYDDIANT YR EGLWYS ANNIBYNXOL.* I GAREPK; SYR A OIIYXULLKIDFA,—Adeiladwyd y capel hwn yn 1866. Mewn deng mlynedd wedi hyn, yn 1876, y derbyniwyd fi yn aelod o'r gynulleidfa hon. Ymhen ugain mlynedd arall, yn 1896, yr oeddwu yn ymadael o'r lie am y Brifddinas ac wele f1 mewn ugain mlynedd arall, yu 1916, wedi dod yma atoch i gyd-ddathlu a chwi eich hanner-canmlwyddiant fe] eglwys. Y cof cyntaf sydd gennyf fi am Anuibymaeth yn y cylchoedd hyn ydyw yr Ysgol Sul yn Nhynewydd, Cwmsymlog, preswyl Silvanus Silvanus—dyn, gyda llaw, syr, na welais ac na ddarllenais am ei gyffelyb. Bu yr Ysgol yn cael ei chynnal yn ei dy am fwy na deng mlynedd ar hugain- Yr oedd yno cyn 1836, ac felly y mae yr eglwys hon heddyw yu bedwar ugain mlwydd oed, gan mai yr Ysgol honno yw gwreiddyn yr eglwys hon. Fy nhadcu, Richard Llwyd, o Flaen- cwmsymlog, fu yn dechreu yr Vsgol y tro cyntaf yn Nhynewydd. Y personau wyf ti yn gofio gyntaf yn yr Ysgol hon oedd Sylvanus Sylvanus, fy nhad, Joseph Nuttall, John Powell (Lluestyrhafle), Dafydd Morgan (gwaith y Llanerch), Shon Llawrcwm, a James (Cwmerfyn Farm). Bu Azariah Sadrach yn pregethu yn Tynewydd ac mewn llawer o'r tai amiedd oddiyma i Dalybont. Pregethodd Christmas Evans yn Pantyrebolion, a chredwn y bydd awydd arnom glywed y bregeth honno ganddo yn y nefoedd, neu bregeth fawr y Drive on.' Pan yr oedd yr Ysgol Sul yn Cwmsymlog, a chyn hynny, yr oedd y tadau yn aelodau yn Salem, Coed- gruffydd, a mynychent odfeuon y boreu yno cynhal- ient yr ysgol yn y prynhawn yn Tynewydd; ac yn yr hwyr cynhe.lid cyfarfodydd gweddïo ar gylch yn y tai annedd yn yr hwyr. Bum mewn llawer o'r cyfarfod- ydd hyn fy hunan. Bu R. Llwyd ac S. Sylvanus yn myned oddiyma i Gefnbrwyn, yr ochr arall i Blumlumon, pellter o naw milltir ar fynyddoedd, i gynnal cyfarfodydd gweddi. Tua diwedd y cyfnod y soniwn am dano uchod, meddyliodd y tadau mai da fuasai adeiladu capel yn Cwmsymlog, a nodasant y llecyn i adeiladu, sef hen ardd Ianto, ar y fron uwchlaw Ty-rhod, ar y ffordd i FJaenycwm. Rhywbryd tua'r adeg hon cododd ychydig o anghydwelediad rhwng y tadau ynghylch lleoliad y capel, a daethpwyd drosodd i Gwmerfyn i'w adeiladu ar diroedd Lletyspence, sef y fangre hon. Daethpwyd a'r capel drosodd yma, meddir, er mwyn rhyw Dafydd Jones y gof-dyn da iawn oedd yu byw yn y Bwlcb ond yr oedd Dafydd Jones y gof wedi gadael yr ardal cyn agor y capel. Fel y nodwyd, adeiladwyd y capel yma yn 1866. Yr adeilaclydd oedd Mr Thomas Jones o'r Dole. Costiodd y capol £ 300, a thalwyd yn agos i £ 300 arall mewn llogau, o ba rai y talasom oil ein rhan. Cariwyd y cyfan at y capel yn rhad ac am ddim gan Evan Edwards, Cwmerfyn Farm, a mawr yw ei glod am hynny. Rhoddodd dau o'i feibion, James a John, cyd-ddisgyblion a mi wedi hynny, lyfrau ar astell y pulpud ddiwrnod agor y capel. Buwyd yn pregethu llawer yng Nghwmerfyn cyn adeiladu y capel, sef yn y Bwlch, a thy James ac Ann Lewis yn y pentref. Mae Ann Lewis yn byw yn Cam Moelfryn yn awr, ac yn hen fam rinweddol yn Israel Siloa. Y bregeth gyntaf a draddodwyd yma oedd eiddo y Parch Close Davies, gweinidog y fam eglwys yn Salem, Goedgruffydd. Pregethai oddiar garreg sylfaen y capel ar Di-agwyddoldeb.' Tragwyddoldeb mawr yw'th enw.' Mae dy enw di, Dragwyddoldeb, bron mor fawr a Phenybontrhydybeddau ond yr wyt ti, Dragwyddoldeb, yn fwy na'th enw, fel y dylai pawb a phopeth fod. Y mae Tragwyddoldeb yn mur y capel yma, a Duw, tad Tragwyddoldeb, o'r tufewn i'r deml. Un o'r pregethau cyntaf hefyd a draddodwyd yma. oedd un gan Mr John R. Mason, PenbryiirnoelddLi, ar Ddyfroedd Siloah yn cerdded yn araf'—testyn a phregeth gymwys iawn. Ym mis Mai, 1868, yr agor- wyd y capel ac y corlforwyd yr eglwys yma. Bore hyfryd oedd hwnnw pan ddaeth yr Ysgol drosodd o'r Tynewydd i'r capel hwn. Bu yn canu ar Fwlchyrhiw emyn a thon anadnabyddus i mi ac os yw yr emyn a'i, don wedi eu colli oddiar y ddaear, y maent yn y nefoedd ers hanner caut o flynyddoedd. Y gweinidogion a fu yma yn pregethu ar agoriad y capel oedd y Parchn Jones, Llandudoch; Jones, Llwyncelyn; Jones (B), Penrliyncoch; a Griffiths, 'Troedrhiwdalar. Sonnir llawer am Eglwysi Rhyddion yr oes hon. Y mae Eglwysi Rhyddion yng Nghwm- erfyn a Phenrhyncoch ers hantier cant o flynydcloedd. Y pum diacon cyntaf a fuyma oedd Sylfanus Sylfanus (boss mawr y cymdogaethau) Jacob Jones, Geuallt; John Powell, Bryngoleu Evan Evans a James Lewis y pentre yma—stoc o ddynion na bu eu rhagorach hyd yr awr hon. Ni bydd i mi hanesyddu y to diaconiaid oddiyno ymlaen at y rhai presennol ac eithrio un, sef y diweddaf a fu farw yma, sef John James, Llety- spence. Meddyliai la.wer am fferm Lletyspence a'r capel ar y tir. Yr oedd pob peth yr eglwys yn ddwfn yn ei galon. Bu yma am 48 o flynyddoedd, a gwnaeth ddiwrnod campus o waith. i Da, was da a ffyddlon.' Blin gennyf na chafodd ef ei gladdu yn y fynwenthon ar diroedd Lletyspence- Y mae y diaconiaid presennol yn bedwar; adwaenaf hwynt yn dda maent yma yn gantorion, organyddion, diwinyddion, a ffyddloniaid —pedwar rhinwedd go fawr. Bu saith o weinidogion yma yn ystod yr hanner
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Sylwadau a draddodwyd ar ei hanes yng ngbyfar- fod y dathliad, Awst 9fed, 1916.
GALWADAU. - - - -___-__-._._-…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALWADAU. -+- NEW TREI)EGAP.PleSer gennym hysbysufod Mr Gomer Davies, o Goleg Abarhonddu, wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Saesneg uchorl. a hyderwn y bydd iddo ei hateb yr gadarnhaol. BETHLEHEM, LLANHARRAN —Mae'r eglwys hon wedi rhoddi galwad daer ac unfrydol i Mr Evan James, B A, o Goleg Caerfyrddin. Mae Mr James yn bregethwr da ac yn gymeriad pur. Maes gobeithiol gair yma i ddyn ieuanc i wneud gwaith. Gobeithio y cydsynia &'r cais. Gwna Mr James yn bresennol waith rhagorol yng Nghaerdydd gyda'r Y.M.C.A. Hut.
Siloa, Cwmerfyn, Ceredigion…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
caurif. Y cyntaf oedd y Parch W. Jansen Davies, yr hwn oedd bregethwr tra miniog. Yna daeth y Parch W. B. Marks yma gyda'i gloch arian a'i swn yn llenwi y cwm. Wedi hynny daeLh y Parch D. Johns yma, yr hwn oedd bregethwr galluog iawn, a dilynwyd ef gan y Parch J. Henner Thomas—pregethwr clasurol a da. Ar ei ol ef y daeth y Parch D. Cynfryg Davies yma, yr hwn a bregethai yn ddifrifol a nefol iawn. Daeth y Parch D. G. Lewis yma wedyn. Clywais ef yn pregethu unwaith ar A rhyw wr a wnaeth swper mawr.' Mawredd darpariaeth Duw oedd ei fater. Yna daeth y Parch Llewelyn Morgan, eich gweinidog presennol, yma. Er iddo fod am dymor ymysg gwyr Harlech, genedigol o sir Gaerfyrddin yw efe, yr hon sydd wedi rhoddi bron gymaint o ddynion mawr i'r byd ag a roddodd sir Aberteifi. Y mae Mr Morgan yn bregethwr bywiog ac efengylaidd iawn, ac yn nod- edig weithgar gyda phob peth yma. Perchir ef a.'i briod yn fawr gan yr eglwysi. Hyderaf yr erys yma drwy ei oes i wneud gwaith mawr dros ei Feistr. Yr ydych yn cofio, syr, y llinellau a ddywedais wrthych pan ddaethoch yma gyntaf- Byw a marw yn Nhrefeirig Fyddo hanes Morgan mwy.' Tlawd vdyw'r fynwent heb ynddi bregethwr, ac yr wyf yn meddwl fod mynweutvdd y wlad yma yn lied brin o bregethwyr. Buasai yn well gennyf fi godi yn yr Adgyfodiad mawr mewn mintai o seiutiau a phreg- ethwr ynddi na chodi gyda mintai ddibregethwr. Gobeithiaf, syr, na fydd i mi fod yn gau-broffwyd yn eich hanes chwi- Duw a'ch bendithio chwi a'ch teulu a'ch cynulleidfa. Terfynwyd yr anerchiad gyda nifer o benillion, y rhai a anfonir i Olvgvdd v Farddoniaeth. Llundain. J. NLUJITALL (Llwydfryniog).