Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

GLOYWI'R GYMRAEG.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

GLOYWI'R GYMRAEG. [Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Rhymney.] Fe roes y Golygydd beth amser yn ol lyfryn bychan yn fy llaw i'w adolygu. Enw'r llyfryn ydyw, Gramadeg, Cynghanedd, Canu Penillion,' gan y Parch. William Davies, B.A., Caerdydd (pris 4c.-4,c. yn rhad trwy post-oddinvrth yr awdur, 20 Malefant-street, Cardiff-). Yn nechreu ei ragair i'r llyfr fe ddywed yr awdur fel hyn Rhoddwyd ym mron yr oil o gynnwys y llyfryn hwn yn y ffurf o nodiadau i ddosbarth Cymraeg yn ystod y gaeaf diweddaf.' Y mae hi eto yn dymor dechreu'r dosbeirth Cymraeg, ac mi dyb- iais mai heddyw efallai yw'r dydd cymeradwy i alw sylw at y llyfryn hwn. Rhyw 26 o dudalennau sydd i'r llyfr i gyd, ac o fewn hynny o le fe gais yr awdur roddi crynhodeb o brif deithi gramadeg, cynghanedd, a chanu penillion—tair prif gangen diwylliant llenyddol arbennig y Cymro. Yn ol fy marn i, y mae wedi llwyddo i raddau canmoladwy, ac y mae'r llyfr yn glod i'w fedr a'i wybodaeth yn ogystal ag i'w sel angherddol dros yr iaith a phopeth Cymreig yn ninas Caerdydd. Y mae'r awdur er hynny wedi llithro yma a thraw ar ei daith, a'm hamcan innan ydyw estyn cynhorthwy i'r sawl a fynno ddarllen. Ynghyntaf, yr wyf yn synnu na buasai Mr. Davies yn fwy gofalus gyda'r orgraff a gydna- byddir yn gyffredin yn awr. Y mae arwyddion ddigon ei fod yn ameanu ati, ac eto ar y tudalen cyntaf fe geir ennyn a hyny. Dylid dyblu'r gyt- sain yn y ddau air yn ol y sain. Ceir hefyd gyru am gyrru, brenincs am brenhines, ymofynol am ymofynnol. Fe geir hefyd ffurfiau fel gauaf am gaeaj, talaeth am talaith. Y mae'r llithriadau hyn, 'rwy'n ofni, yn rhy ami .i fod yn ddam- weiniau. Y mae priod-ddull yr awdur fel rheol yn lan, eto anffurfir y gwaith yn awr ac yn y man a brawddegau fel, Y Rhagenwau Perthynasol yn y Gymraeg ydynt (yn lie yw) Y Rhagenwau Ymofynnol ydynt' (yn lie yw eto). Buasai'n well gadael y gair cael allan o'r frawddeg, Y mae llawer o farddoniaeth oreu Cymru wedi cad ei chyfansoddi mewn cynghanedd.' Ynglyn ag Enwau,' fe ddywed Ffurfir y Rhif Lluosog mewn tair ffordd,' sef- 1 (1) Ychwanegu sillaf at y rhif unigol, megis dyn, dynidn. (2) Newicl Uafariaid, megis troed, traed. (3) Ychwanegu a newid, megis craig, creigiau. Fe allasai ychwanegu pedair ffordd arall, sef- (4) Torri sillaf i ffwrdd, megis seren, ser. (5) Torri sillaf ac ychwanegu sillaf, megis meddwyn, meddwon. (6) Torri sillaf a newid llafariacl, megis aderyn, adar. (7) Torri sillaf, ychwanegu sillaf, a newid llaf- ariaid, megis gelyn, galon. Purion peth fuasai i'r awdur sylwi hefyd nad oes raid i'r ansoddair gytuno a'r enw mewn rhifs oddieithr pan ff-urfir y lluosog drwy newid llajariaid. Er enghraifft, fe ellir dywedyd ceff- ylau trwm ond ni ellir dywedyd cerrig caled, eithr cerrig celyd.' Dylasai hefyd nodi eithr- iadau y ffurfir graddau ansoddair o fwy na deu- sill hyd yn oed, drwy ychwanegu'r terfyniadau, megis ardderchocach, ardderchocaf. Nid yw rhestr y Rhagenwau Personol yn llawn chwaith heb nodi'r rhagenwau atodol fi, i, di, &c., megis fy mhen i' dy ben di.' Yr wyf yn cashau gwaith yr awdur yn galw'r rhag- enwau fy, dy, ein, &c., yn Ffurfiau Arferol,' ac 'm, 'th, &c., yn Ffurfiau Anarferol.' Boed hynny fel y bo, diffygiol iawn ydyw ei restr o'r geiriau y ceir y Ffuriau Anarferol' ar eu hoi, sef a, e, y, mo, gyda. Yn hytrach a, â, i, 0, Fla. Nid yw'r a yn gyda ond a wedi glynu wrth y gair gyd,' na mo ond llygriad o dim o.' Gydag 'm ac 'th yn unig y mae anhawster. Nis defnyddir hwy oddieithr ar ol a, â, i, o, na, neu o flaen berf beyioiiol ar ol fe, e, ni, ac ychydig eirynnau eraill. Y mae'r Beibl Cymraeg yn berffaith yn hyn o beth. Am y Rhagenwaa Perthynasol a., yr, y, dyma ddywed Mr. Davies Sylwer mai a yw y ffurf a gymer y sylfon (sitbject), ac mai yy ac y a gymer y gwrthrych.' Yn hytrach, a ydyw'r ffurf a gymer y sylfon a'r gwrthrych. Gwrthrych ydyw yn y frawddeg, Y dyn a welais i (' The man whom I saw '). Yn y cyf- lyrau eraill y defnyddir yr ac y, inegis (a) y cyflwr dibynnol: Y dyn y prynais ei dda (' Whose cattle I bought ') (b) y cyflwr der- byniol: Y dyn y rhoddais geiniog iddo/ &e. Nid cerit, eithr carit ydyw'r ail berson anor- ffennol unigol o'r ferf cant. Y rheswm na thry a i e yma o flaen i ydyw mai llygriad diweddar ydyw carit o carut, ac ni effeithia u yr a flaenorol. Y mae treigliad y ferf bod yn ddiffygiol o eisiau'r amser anorffennol, modd dibynnol, bawn, bait, bai, baem, baech, baent. Am y Cynganeddion, fe faddeua Mr. Davies i mi am ddywedyd ei fod yn eu deall yn well nag y mae yn eu hegluro. Fe gofia Mr. Davies am y gair caesura oedd yn byddaru ein clustiau pan ddysgid scunsion i ni yn ein Lladin. Dyna'r peth cyntaf i edrych am dano wrth ddad- elfennu llinell o waith yr hen feirdd llwyd hynny. Y mae'r un peth yn wir am linell gynganeddol Gymraeg. Yr Orffwysfa a'r Brifodl' yw'r allweddau i ddirgelwch llinell. Ni cheir y geiriau na'u cyfystyr yma. Yn ol fy marn i, buasai'n llawer gwell hefyd peidio a rhoddi enghreifitiau gwan, megis- Chwiliwch yr Ysgrythyrau.' 'Abram, Isaac a Jacob.' Ni yrrai un ymgeisydd o urddas y llinellau uchod i gystadleuaeth cyfarfod llenyddol. Ymarferer y newyddian a swn croywber Uin- ellau cryfion sydd yn dangos gogoniant y Gyng- hanedd, megis— Wrth ei fant, grojnvber gantawr, Gesyd ei gorn, mingorn mawr.' Fe wneir y camgynieriad cyffredin yma hefyd ynglyn a Phroest. Nid yw llafariad yn proestio a dipton. Felly y mae'r llinell- < Synnu uwchben ei seiniau yn iawn wedi'r cwbl! Nid yw llinell Dr. Parri- Williams yn enghraifft o gywreinrwydd anghyff- redin— Yn hedd y mynydd, mwy ni ddymuriir.' Cynghanedd draws gyffredin ydyw. Ebr Mr. Davies am y gair cyrch mewn englyn Gall y gair cyrch fod yn un, dau, neu dri sill.' Y gwir yw, fe all fod yn bedwar hefyd. Purion peth fuasai nodi y gall y Gvng- hanedd Bengoll fod yn y gair cyrch a dechreu'r ail linell mewn englyn, megis—- FIfeii y tragwyddolfyd-yw'r enaid, Rhan bery gogyhyd,' &c. Buasai yn hawdd i'r awdur gael Hir a Thoddaid heb fod Lleddf a Thalgron yng nghyrch ei dodd- aid, sef-- fel cryr Car eang awyr, mewn cwr anghyhoedd.' I Hwyr ac nicl yr sydd yn cynganeddu ag awyr.* Nid oes gennyf ond diolch i'r awdur am ei bennod Canu Penillion.' Mi dalaf am y mwyn- had a gefais yn ei eglurhad drwy beidio a son am frychau—am nas gallaf Yr wyf yn meddwl er hynny Iod gennyf grap ar y llytlirennau yn awr. Llyfryn bach yw hwn a fyddai'n hylaw iawn i ddysgu ohono amlinelliad o ddi- wylliant Lien Cymru ped ail-argreffid ef, a chywiro y brychau mewn orgraff a gramadeg. Gyda'm moesymgrymiad i'r awdur am ei fedr a'i sel tros yr iaith mewn lie anodd. F.J.

H oreb, Trefil.

[No title]

Advertising