Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Hyn a'r llall o Babilon Fawr.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hyn a'r llall o Babilon Fawr. I I GAN EYNON. I Mac Tino, brenin Groeg, wedi ei cni rliyw dri chan mlynedd yn rhy ddiweddar. Nid Groegwr mohono o ran gwaed. Un o fechgyn Denmark ydyw. Yr oedd eisiau brenin ar Groeg, ac yn hytrach na dewis y doethaf o'i meibion ei hunan, dewisodd alw dyn dieithr- mab i Frenin Denmark, a brawd ein Brenhines Alexandra—i'r gadair. Dyn call oedd hwnnw, a llygad yn ei ben ond am ei fab Tino, y brenin presennol, dyn crwn mewn twll sgwar ydyw. Priododd a chwaer y Kaiser, a dywedir mai'r wraig yw'r gaffer. Ymddengys yng ngoleuni'r dyddiau diweddaf hyn fod hynny'n wirionedd. Eisoes y mae wedi bradychu Servia, a thorri ei gyfamod, ac wedi ymwerthu i'w hen elynion o Bwlgaria. Drwy drugaredd, y mae gan Groeg ei gwladgarwr pur yn fyw ym lulierson Vene- zelos, ac y mae'r Groegwyr goreu yn rhedeg at ei faner, a'r tebygolrwydd yw y bydd Tino cyn hir wedi colli ei job. Y mae wedi pregethu'r ddiweddar fod ganddo hawl ddwyfol i'w orsedd. Yr unig ateb i nOltsense felly ydyw notice to quit. Galwodd y Prifweinidog y nos o'r blaen am dri chan miliwn ychwanegol i dalu cost y rhyfel. Dyma'r trydydd bill ar ddeg oddiar y cychwyn, ac y mae'r cyfanswm bellach yn anhygoel fawr. Cyst i'r wlad hon ac i'r gwledydd eraill arian anferth cyn y diwedd, a'r diwedd fydd meth- daliad i lawer ohonynt. Y wlad hon yw'r banker, oblegid yma y ceir y cyfoeth ond y mae adnoddau naturiol diderfyn gan Rwsia, dim ond eu datblygu ac os yw'r teyrnasoedd yma am gadw eu pennau uwchlaw'r tonanu, cyst iddynt -yn feistri a gweithwyr—i gydurio a chyd- weithio neu os eir i gynhenna a rhyfela, nid oes ond dinistr yn eu haros. Da fod pwyllgorau o brif dalentau ein teyrnas ni yn cynllunio yn barod beth i'w wneud ar ol y rhyfel. Un peth sydd yn sicr ddigon, sef fod yr hen bethau wedi mynd heibio. Maes o law bydd yna nefoedd newydd uwch ein pen, a daear newydd dan ein traed. Gobeithio yn anad popeth y^bydd y ddaear newydd yn ddigon call i roddi terfyn bythol ar yr ynfydrwydd hwn sydd wedi tynnu y fath adfyd a cholled ar blant dvnion. Gofynnir ar y llwyfan eisteddfodol—'A oes heddwch ? Pel rheol atebir mewn bonllef fawr gadarnhaol: ond os gofynnir yr un cwestiwn mewn perthynas a'r rhyfel inawr presennol, ceir atebiad nacaol pendant. Y mae'r German— gan fod arwyddion colli'r dydd yn alillhaii-yn awyddus iawn bellach am heddwch ond y nos o'r blaen yn y Senedd cyhoeddodd y ddau brif bregethwr, Asquith a Lloyd George, nad oedd heddwch i fod hyd nes y ceir goruchafiaeth Iwyr ar y Kaiser melltigedig a'i ganlynwyr Achwynai Lloyd George ar y bobl hynny oeddent byth a hefyd yn galw am ymladd pan oedd y llanw o blaicl y German ond yn awr, ar ol i'r tide droi yn erbyn y German, crochlefent am i ni fod yn dyner ac yn heddychol ac yn faddeu- gar. Bydd yn ddigon cynnar i son am heddwch ac am faddeuant pan geir y dywalgwn gwaedlyd fu'n anrheithio Belgium, ac sydd yn arllwys eu bombs llofruddiog ar ben hen bobl a phlant bach yn y wlad hon, i ddangos arwyddion edifeirwch. Nid oes heddwch a thangnefedd i fod gyda chwn cynddeiriog. Yr oeddwn wedi bvvriadu cyfeirio yn fy Uith ddiweddaf at ymddiswyddiad fy hen gyfaill, Elwyn Thomas. Am bedair blyneclcl a hanner llafuriodd yn East Sheen gydag egni anghyff- redin a llwyddiant mawr. Nid oedd yu gryf ei iechyd pan ymgymerodtl a'r gwaitli, a cheis- iais ei berswadio i beidio trethu ei nerth yn ol ei hen arfer. Addawodd ddiwygio, ond rhyw scrap of paper oedd yr addewid honno. Ym- daflodd iddi rhag blaen a'i holl egni, nid yn unig i'w bregethu, ond i godi'r ysgoldy a'r neuadd harddaf yn yr holl ardal at wasanaeth y saint. Talodcl yngliwrs amser filoecld o'r ddyled hefyd ond profodd y gwrhydri hwn yn onnod i'w nerth, a rhaid iddo bellach gael gorffwys oddi- wrth bob llafur am rai misoedd. Nid adnabum neb erioed yn Iwy llwyr ymgyflwynedig i'w waith. Gweithiwr di-ail erioed yw Elwyn, wedi gadael ei fare ar bob eglwys y bU'll weinidog arni. Llwycldodd yn Arundel Square ar drothwy ei weiiiidogaeth, ac y mae wedi bod yn llwydd- iant bob cam. Arwydd dda yw fod gafael gref ganddo bob amser ar ei hen eglwysi, ac y mae East Sheen ar hyn o bryd yn penderfynu fod yn rhaid iddo wisgo ei deitl fel pastor emeritus tra yr erys yn yr ardal. Gobeithiwn yn fawr ei weled eto yn ol ar uchelfannan'r maes cyn hir. Gresyn fod pregethwr inor nerthol a'i delyn ar yr helyg. Cefais y pleser o bregethu yn y City Temple y Sul diweddaf, a chlywais hanes pethan ynglyn a'r alwad i'r brawd hwnnw o'r America, Dr. Fort Newton. Gwvddwn o'r blaen nad Anni- bynnwr mohono, ond Universalist (gan nad beth yw hynny), ac nad enwog mohono chwaith, oblegid nid yw America fawr yn gwybod fawr am dano. Mewn capel bychan yn dal 500 yn Cedar Rapids y mae'n gvveinidogaethu ar hyn o bryd, ac y mae pobl Cedar Rapids yn holi beth sy'n bod fod eglwys Joseph Parker yn galw un o'r proffwydi bychain dros donnau'r Werydd i lanw un o brif bulpudau'r byd Gwaetha'r modd, eglwys feclian o ran aelod- aeth sydd yn y City Temple erioed, a rliyw gant o rai selog a liollol ddinod sydd ar hyn o bryd wrth wraidd yr holl drybini. Os yw'r brawd Newton yn berchen gronyn o sense, bydd yn ddigon call i ateb yn nacaol. Os etyb fel arall, gellir ysgrifeirnu Ichabod uwchben y City Temple. Dyma un o'r enghreifftiau egluraf gafwyd erioed eto o anuibendod Annibyniaeth, os na fydd gras a chrefydd wrth y llyw.

Caergybi.I

Advertising

Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol…