Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

IIICYFUNDBB MEIRION.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

II CYFUNDBB MEIRION. Cynlialiwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Blanegryn, dyddiau Mawrth a Mercher, Medi 26ain a'r iyain. Cyfarfu'r Gynhadledd am 2 o'r gloch o dan lywyddiaeth y Parch. Rhys Da vies, Corris. i. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. B- J. Davies, Llanuwchllyn. 2. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. 3. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. Robert Griffith o'r Ty Cenhadol. Yn ei lythyr gofynnai a fyddai Cymru yn fodlon cymryd y cyfrifoldeb a'r anrhydedd o sefydlu Cenhadaeth newydd ymhlith Mahometaniaid Gorllewin Mada- gascar. Bod yr awgrym yn cael ei wneud ganddo fel cenhadwr Madagascar, ac nid fel cynrychiol- ydd Cymru. Pasiwyd i'r Ysgrifennydd ohebu a'r eglwysi yn y sir er trefnu taith, os yn bosibl, i Mr. Griffith gyda'r amcan hwn. 4. Pasiwyd i roddi i'r Parch. Thomas Griffith, Salem, lythyr trosglwyddiad i Gyfundeb Lerpwl a Manceinion. 5. Cymeradwywyd adroddiad Pwyllgor y Genhadaeth Gartrefol: (i) Bin bod yn derbyn tender Mr. H. Evans, Bala, am argraffu'r Adrodd- iad. (2) Fod y rhai canlynol i gasglu'r flwyddyn hon at y Genhadaeth Gartrefol:—Dosbarth y Bala: Mr. J. P. Jones, Bala, a'r Parch. D. Roberts, Llandrillo. Dosbarth Ffestiniog: Mr. J. R. Jones (Gerallt) a'r Parch. John Hughes, Jerusalem. Dosbattli Dolgellau: Mr. Griffith Price, Corsygarnedd, a'r Parch. J. Cynfal Jones, Borth. Dosbarth Towyn Mr. J. Evans, Dolau- gwyn, a'r Parch. E. Evans, Llanegryn. 6. Trefnwyd i'r Parch. Ivan T. Davies, Blan- drillo, roddi anerchiad yng Nghynhadledd y cyfarfod nesaf ar y pwnc, Cenedlaetholi'r Fas- nach Beddwol.' Hefyd, fod y Parch. J. Hughes, Jerusalem, i bregethu yn y cyfarfod ar bwnc rhoddedig gan yr eglwys. 7. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch T. Talfor Phillips, ysgrifennydd y pwyllgorau, yn ei waeledd, gan ddymuno ei adferiad buan. Hefyd, datganwyd cydymdeimlad Wr Parch. J. Pritchard, Druid, ein cyn-ysgrifennydd, yn ei lesgedd. Hefyd, pasiwyd i anfon cydymdeimlad Cyfarfod Chwarterol Meirion a Mrs. Ossian Davies ar farwolaeth ei phriod, yr hwn oedd yn un o brif bregethwyr y deyrnas yn ei ddydd. 8. Cafwyd anerchiad brwd gan y Parch. D. M. Davies, Abertawe, ar ran y Blyfrfa a'i gwaith. Nododd nifer o lyfrau a chyhoeddiadau'r Enwad, a galwodd sylw neilltuol at Dywysydd y Plant ac Adroddiad yr Undeb. Ceisiai am y trefniant goreu'n bosibl yn yr eglwysi i hyrwyddo a lled- aenu llenyddiaeth y Llyfrfa. 9. Dewiswyd Mr. Walter Davies, Arthog, i fod yn gynrychiolydd dros y Cyfarfod Chwart- erol yng Nghynhadledd Ddirwestol Gwynedd yn yr Abermaw. 10. Cafwyd gair ar ran y Drysorfa Gynorth- wyol gan Mr. J. R. Jordan, Bala. 11. Pasiwyd cydymdeimlad y Gynhadledd ag amryw deuluoedd mewn trallod. 12. Gorffennwyd trwy weddi gan y Parch. D. M. Davies. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parch. R. Evans, Aberllefeni, ar y pwnc, Dysgeidiaeth y Testament Newydd am Gydwybod a'i Hawl- iau,' a chan y Parch. John Hughes, Jerusalem. Bore Mercher gan y Parchn. D. M. Davies, y Llyfrfa, a Bewis Davies, Corwen. Y prynhawn gan y Parchn. George Davies, B.A., Brynbow- ydd, a J. D. Richards, Trawsfynydd. Y nos gan y Parchn. Rhys Davies, Corris, a T. Talwyn Phillips, B.D., Bala. Cafwyd croesaw siriol gan yr eglwys yn Llan- egryn a'i gweinidog parchus. Cynygiodd Mr, R. Jones, Manod, a chefnogodd Mr. Walter Davies, Arthog, ddiolchgarwch cynnes y cyfar- fod iddynt am y darpariadau haelfrydig. Yr oedd yno gynulleidfaoedd lluosog yn yr holl odfeuon, a hyderwn i'r eglwys a'r ardal dderbyn j o gyflawnder bendith Efengvl Crist. Brynbowydd. CiEORGE DAVIES, Ysg.

CYFUNDBB ARFON.

GWEDDI AR RAN Y MII.WYR CYMREIG.

JIWBILI Y PARCH. D. AFAN GRIFFITH,…

Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol…