Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
NODION LLENYDDOL.\ I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION LLENYDDOL. Erfyniwn faddeuant y golygwyr oil am fod ein sylwadau ar eu cynhyrchion mor ddiweddar y mis hwn. Yr oedd dau reswm am hynny- Uesgedd a diffyg gofod. Hyderwn y lliniara hyn ychydig ar eu siom a'u sen. RHODDWN y lie blaenaf i'r hen gyhoeddiad Y Dysgedydd.' clodwiw y tro hwn, am ei tod yn rhifyn eithriadol gryf a ffres. Mae'r amrywiaeth tes- I tynau ac erthyglau yn rhagorol, a phob un ohonynt, o'i safbwynt a'i nodwedd ei hun, yn eithriadol dda. aTra bo'r Dysgedydd mor fyw a hyn bydd iddo le uchel ymhlith cofnodolion Cymru o ba enwad bynnag y bont. Goddefer inni alw sylw arbennig at nodion clir, cadarn a theg yr Athro Miall Edwards ar Ddiwinydd- iaeth a Phrifysgol Cymru.' Dadleua yn gryf dros ddwyn Diwinyddiaeth i mewn i gylch addysg y Brifysgol, a gesyd ei resymau mor gryno a gloyw fel y mae yn amheus gennym a ellir eu gwrthwynebu o gwbl. Ni ddarllenasom ddim mwy argyhoeddiadol ar y pwnc. Ac mae cael mynegiad mor glir a diamwys o law un o'n hathrawon diwinyddol—ac un heb fwyell i'w hogi o fath yn y byd-yn sicr o apelio'n ddwys at y cyfeillion caredig sydd hyd yn hyn yn methu Safrio'r mudiad neu yn methu gwneud eu meddwl i fyny. Wrth gwrs, gwyr pawb ein safle ni ar y mater, a da gennym ganfod arwydd- ion pendant ar ran rhai o brif arweinwyr yr Enwad eu bod yn symud i'r cyfeiriad iawn. Mae'r Pwyllgor benodwyd gan Gyfundeb Arfon i ystyried y mater wedi cyhoeddi ei adroddiad, fel y gwelir mewn colofn arall. Ac nid oes blithen ar dafod Arfon ynglyn a'r pwnc. 0 ran hynny, dyna arfer yr hen sir-ar y blaen gyda phopeth sy'n golygu cynnydd a dyrch- afiad. Ond o bob mynegiad ar y mater, un Miall yn y Dysgedydd ydyw'r mwyaf boddhaol eto i'w egluro. MAE dwy ysgrif Feiblaidd ragorol yn y Beirniad Y Beirniad.' y tro hwn ag sydd yn rhoi gwerth uchel ar y rhifyn, yn enwedig i bregethwyr: un ydyw Y Testament Newydd yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Parch. Dr. Maurice Jones, a'r llall ydyw Beibl Dr. Morgan a'r Beibl Hebraeg gan yr Athro Dr. Witton Davies. Mae'r ddau yn feistriaid ar eu pwnc, ac er manyled a chraffed yw ysgolheigiaeth y ddwy ysgrif, maent mor glir a'r grisial, ac yn hynod ddiddorol a darllenadwy. Ceir yn y rhifyn ysgrifau gwerthfawr eraill, ac mae goheb- iaeth yr ysgolor ieuanc Henry Lewis ar idd yn amheuthun, ac a'r golygydd allan o'i ffordd i gydnabod ei gwerth. Ac os am damaid o adolygiad maethlon a blasus, darllener un y golygydd ar raglen y Gymanfa Ganu Genedl- aethol ynglyn ag Eisteddfod Aberystwyth. Gwir bob gair. Ceidw'r Beirniad yn rhwydd ei le ar flaen y rhestr o gylchgronau cenedl- aathol Cymru. MAx dwy ysgrif yn yr Outlook sy'n hynod fyw The Welsh Out/ooll: ac amserol. • Y gyntaf yw un J. Arthur Price ar State, Nationalism and Conscience, a phlicia wallt Syr Henry Jones yn ddiarbed. Fel dernyn cryf o feirniadaeth ar syniad Hegelaidd y marchog enwog am hawl ormesol y wladwriaeth ar y person unigol mae yn ddiguro. Hyfryd fa'i gweled ateb Syr Henry iddo. Yr ail ydyw ysgrif ymarferol ac amserol y Parch. Gwilym Davies ar Religious Indiffer- ence in Wales its Cause and Cure. Darlunia'r achos yn bur gywir, ond ofnwn nad yw'r cure yn ddigonel Ysgrif gref hefyd yw un yr Athro Hetherington ar Philosophy and Politics. Er mai math ar adolygiad ar lyfrau ydyw, eto meddjfwerth annibynnol, a thai am ei darllen' ,iv  l?dgar Pajwladgarwr fyddai heb yr Outlook ? L MAE dau weinidog ieuanc yn ysgrifennu yn dda Y Cennad z f Hedd.' yn y Cennad, sef Seymour Rees, y Cefn, ar Ddyled- swydd yr Eglwys yn wyneb y Rhyfel,' a'r Parch. D. R. Williams, Penywern, ar Hunanymwadiad, Hunanaberth a Hunan-ddinistr.' Mae grip a grym yn y ddwy ysgrif. Mae R Parch. Robert Griffith yn gwneud gol- i Y Cronicl Cenhadol. ygydd penigamp i'r Cronicl. Mae'r bennod o lyfr Basil Mathews, cyfieithiedig gan Bodfan, ar John Williams, Erromanga,' yn gyffrous ryfeddol. Ac mae'r holl rifyn yn ardderchog. Nid oes dim glanach a thlysach yn cael ei gyhoeddi. YN y ddau rifyn diweddaf o'r Cerddor mae'r Y Cerddor.' golygydd newydcl, yr Athro Dr. David Evans, yn delio'11 wrol a theg a Cherddoriaeth yng ngwasanaeth Ymneilltuol Cymru.' Dywed bethau y rhaid i bawb diragfarn eu cydnabod, a diolchwn iddo am 'fentro trafod y broblem. Credwn ei fod ar y llinellau iawn pan yn ceisio newid a diwygio pethau. Ond ofnwn nad yw ei awgrym o gynllun yn cymeradwyo ei hun fel y goreu i farIL llawer sy'n cydymdeimlo a'i amcan. Mae dechreu gwasanaeth crefyddol trwy ganu dair gwaith yn olynol yn beth y blinir arno yn fuan. Heblaw hynny, ofnwn mai syniad anghywir sydd ganddo am le'r bregeth yn yr oedfa. Nid efelychiad o wasanaeth Eglwys Loegr, a gwthio'r bregeth i gongl, yw'r tebycaf o lwyddo yn ein bryd ni. Mae genius yr addol- iad Ymneilltuol Cymreig, wedi'r cyfan, yn troi o gwmpas y bregeth ac os dechreuir newid trwy anwybyddu hynny, methiant yn unig ddaw. Ond nid llefaru fel oracl y mae Dr. Evans, eithr taflu awgrym er mwyn trafodaeth a beirniadaeth lawn ar yr holl bwnc. Ac mae yn werth y drafferth. Rhwydd hynt i'r Athro a ymgais glodwiw. MAP,'R Dysgedydd bach a Chymru'r Plant fel I Y Plant. arfer yn gyforiog o ddant- eithfwyd blasus ac amrvwiol I ar gyfet y rhai bach.
I Y BLWYDDIA DUR.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Y BLWYDDIA DUR. I At Olygydd y Tyst. I SYR,—Wrth ddarllen y TYST o wythnos i wythnos gwelaf fod rhai yri beio ar ryw bethau yn y Blzvllddiadur-ilad yw i fyny i'r hyn ddylai fod. Gwelaf eraill yn taflu allan awgryiniadau i'w wella. Yr wyf finnau am daflu allan un awgrym at ei wella, neu a fyddai'n fuddiol, o bosibl, i'r rhanbarthau hynny sy'n cynnal Cy- mapfaoedd Canu, sef cael rhestr o enwau a chyf- eiriadau arweinyddion y Cymanfaoedd Canu sydd yn perthyn i'r Annibynwyr. Nid wyf am fod yn gul fy meddwl, ond teg yw i ni fel Anni- bynwyr i barchu'r talentau a berthyn i ni fel Enwad, cystal ag y mae' enwadau eraill yn parchu'r talentau a berthyn iddynt hwythau- o leiaf hyd nes y daw uniad yr enwadau. Gwel- ais bwyllgor cymanfa ganu Annibynnol rywdro yn dewis arweinydd i'w cymanfa, a'r gwr ddewis- wyd oedd un yn aelod yn yr Eglwys Wladol, ond ni wyddai'r un o'r pwyllgor hynny hyd wythnos ar ol hynny. Dro arall dewisasant Fethodist yn eu hanwybodaeth. Pwyllgor mewn rhanbarth arall yn gwrthod un a berthynai i'r Annibynwyr, gan haeru mai Methodist oedd. Felly, gan fod y Gymanfa Ganu yn dal cvsyllt- iad agos a'n crefydd ni, ac mor gyfEredinol drwv Gymru, credaf y byddai cael rhestr o enwau ein harweinyddion Cymanfaoedd yn y Blwydd- iadur yn fantais i beidio myned i'r dyryswch ufhod, ac o bosibl yn help i lawer pwyllgor i ddewis gwaed newydd. BRONGOCH ORCI,
SEFYDLIAD YMNEILLTUOL Y MILWYR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SEFYDLIAD YMNEILLTUOL Y MILWYR YN KINMEL PARK. APEL AM LYFRAU CYMRAEG I'R MILWYR. At Olygydd y Tyst. SYR,—Goddefwch i mi hysbysu darllenwyr y TYST fod prinder llyfrau Cymraeg yn y Sef- ydliad uchod. Ceir yma lyfrgell ragorol o lyfrau Saesneg, a gwneir defnydd mawr ohonynt gan y milwyr ond blin yw dweyd nad oes yma gynifer a dwsin o lyfrau Cymraeg. Mae yn y gwersyll ganiloedd lawer o Gymry, a cheir yn eu plith lu mawr o Gymru uniaith a gofid i galon Cymro yw gweld y rhai hyn yn ymholi am lyfrau Cymraeg, a chennym yr un i'w roi iddynt. Teimla'r Pwyllgor yn dra diolchgar os y bydd i rai o ddarllenwyr y TYST fod mor garedig ag anfon llyfr Cymraeg neu gyhoeddiadau ein Henwad i'r cyfeiriad isod ar unwaith. Ar ran y Pwyllgor, Yr eiddoch yn gywir, Free Church Hall, BEN WILLIAMS. Kinmel Park, Nr. Rhyl.
BEDD YR ATHRO DAVIES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEDD YR ATHRO DAVIES. At Olygydd y Tyst. SYR,-Goddefwch i mi drwy gyfrwng eich newyddiadur i ddiolch i Gwylfa am alw sylw at feddrod llwm y diweddar Broff. J. M. Davies, M.A. Pa le y mae arweinwyr cyfrifol y tair eglwys ym Mangor na buasant wedi canfod eu dyledswydd yn hyn o beth ? Hyderaf y bydd i sylwadau amserol Gwylfa eu deffro i'w cyfrifol- deb, ac y ceir gweled cofadail deilwng i nodi beddrod y diweddar fonheddwr a'r athro cymer- adwy. Yn sicr, fe ddylai'r bechgyn hynny fit danp yn yr Athrofa, sydd yn awr a gofal eglwysi ganddynt, wneud yn dda yn y mudiad. Disgyblion lu fu dano Yn cychwyn ar eu taith, Gan dderbyn bywyd ganddo, Ac ysbryd at y gwaith. Bangor. H.T.J.
CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. BETHLEHEM, ABERCWMBOI.—Cynhaliodd yr eglwys uchod ei gwyl flynyddol y Sul air Llun, Hydref laf a'r 2il, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn T. D. Thomas, Nebo, Ceredigioni; T. Bryn Thomas, Ferndale; a T. Eli Evans, Aberdar. Cafwyd pregethu nerthol a gwlithog, a gwenau y nef ynamlwg ar yr holl wasanaeth. CAPEL HENRIETTA, ABERTA WE.-Cynhal- iwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys hon y Sul a'r Llun, Hydref laf a'r 2il, pryd y cafwyd gwasanaeth gwerthfawr y Parohn D. SUyn Evans, Aberdar, ac R. S. Rogers, B A. (B), Capel Gomer, a chynulliadau mawr i'wgwrando NODDFA, SENGHENNYDD. Cynhaliwyd cyfarfodydd p) egethu hanner-blynyddol yr eglwys hon ar y Sul a'r Llun, Medi 24ain a'r 25ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn J. Dyfnallt Owen, A.T.S., Caerfyrddin, a J. Oldfield Davies, B.A., Ton Pentre. Cawsom gyfarfodydd ardderchog ymhob ystyr. Pryn- hawn Sul, rhoddodd y Parch Dyfnallt Owen grynhodeb o'i brofladau pan ar ymweliad &'r milwyr yn Ffrainc o dan nawdd y Y.M.C.A. i lond capel o ddynion. BEREA, BYNBA.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod hanner-blynyddol nos Sadwrn a'r Sul, Hydref 14eg a'r 15fed, pryd y cafwyd gwasanaeth y Parch T. Davies, Llan- gennech. Cawsom o wleddoedd breision yr Efengyl gan ein brawd ieuanc, ac arwjddion amlwg ei fod yn Haw y Meistr. Yr oedd y casgliad hefyd yn foddhaol. Bydded bendith.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWELIANT GWALL.-Yng Ngholofn y Marwol- aethau yr wythnos ddiweddaf (Hydref y 18fed), yn hanes marwolaeth Mrs Rebecca James, annwyl briod Mr Thdmas James, un o ddiacon- iaid parchus Horeb, Llwydcoed, darllener Hydref 3ydd yn Ue Mawrth 3ydd. Drwg gennym am y gwall.