Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYRAU AT FY NGHYD-WLADWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYRAU AT FY NGHYD- WLADWYR. LL-YTHYR XIV. An nwyj,. J AC Pex-yr-Hkoi,,—Tyn dy ddwy- law, fachgen, o'th logellau, a'r sigaret yna o'th ben. Y mae dy fysedd yn felyn gan dybaco, a'th holl agwedd yn dangos diogi. Yr wyt wedi bod ar ben yr heol yna am oriau heddyw yn j-rnddwyn yn anfoesgar at y bobl sydd yn mynd a dod at eu gwaith. Treuliaist oriau yn poeni bechgyn Bracchi a Berni, ac yn achosi i'r rhai hynny golli eu tymer a rhuthro allan arnat ti a'th gyfeillion fel dynion cvnddeiriog. Pe. buaset wedi dod o'r Forest of Dean neu ryw fan cyffelyb fe fuaswn yn deall yn well sut y gelli wastraffu dy amser mewn ffolineb isel fel yna ond yr wyt vn fab i Gymro ac yn wyr i Gvmrv anrhyd- eddus. Y mae dy gyfeillion wrth y caunoedd yn ymladd a'u holl egni dros eu gwlad, a dyma tithau, am ch7 fod ffwyddyn yn ieuengach, yn meddwl dy fod yn setlo cownt y ddaear a'r nefoedd wrth wneud dy wyth awr yn y lofa, a threulio'r oriau eraill yn ffol ar yr heolydd neu yn y cinema, ac heb feddwl erioed fod eisiau i ti wnend dim ymdrech i dy ddiwyllio dy hun mewn modd yn y byd. Fe feistrolodd dy dad y Gymraeg a'r Saesneg heb hanner dy ysgol di ond am danat ti, prin y deelli'r Gymraeg, a phrin y deall neb dy Gym- raeg dithau ac am dy Saesneg, er dy fod yn meddwl, ysywaeth, ei fod yn well na dy Gym- raeg, y mae'n ddigon i godi gwrid i wyneb Cymro sydd wedi gweld rhywfaint o'r byd. Gwyddost i'th dad hefyd weithio i fyny yn erbyn anawsterau lu i ennill tystysgrif meistr yr Ail Radd, ac i fod yn ail. i feistr y gwaith. Yr oedd dy dadeu yn dipyn o lenor, a medrocld gyfansoddi ami ddernyn tlws o farddoniaetli. Yr oedd dy fain yn enwog fel cantwraig, a medrai chware yn o lew ar offeryn cerdd. Ond am danat ti, beth ar wyneb y ddaear elli di wneud ? Nid wyt yn feistr ar y Gymraeg na'r Saesneg, ni chymeri ddiddordeb mewn canu, ni ddysgaist erioed chware offerYll cerdd, ni fecldyliaist am ysgrifemiu traethawd iieu ganig erioed. Y gwir am danat yw, nad wyt ti'n ddim yn y byd ond torrwr glo ac er dy fod heb adael yr ysgol yn hir, y mae gwybodaeth dy dad a'th fam ar bethau ymhell y tuhwnt i dy wybodaeth di, er i ti gael cyfleusterau na chawsant hwy erioed. Nid wyt ti yn neb, nid wyt yn cyfrif am ddim hyd yn oed ymhlith dy gyfeillion, nid oes barn gennyt ar unrhyw fater I pwysig, nid oes ynnot uchelgais na delfryd, Ond mi welaf ynnot un peth sydd yn peri i mi feddwl y gelli fod yn rhywun rywbryd, a hynny yw dy fod hyd yn hyn wedi cadw oddiwrth ddrygioni gwaradwyddus. Yr wyt wedi gwastraffu oriau lawer mewn ysmalder ffol, yr wyt wedi esgeuluso cyfleusterau addysg rodd- wyd ger dy fron, ond yr wyt yn ieuanc eto, ac wedi byw bywyd glan a rhydd oddiwrth bech- odau gwael. Ond y mae'r amser wedi dod i ti benderfynu ar brogram dy fywyd. Nis gelli aros lle'r ydwyt yn hir. Arweinia'r heol i'r dafarn yn y diwedd, ac os arhosi di yno fel yr ydwyt am beth amser eto heb ddim i'w wneud, yr wyt yn sicr o lithro, ac fe dorri galon dy dad a'th fam. Ar y llaw arall, os penderfynni wneud rhywbeth, y mae'r byd o dy flaen. Y mae digon o alluiYllot dim ond eisiau penderfyniad a dyfalbarhad sydd i dy gyfaddasu i fod yn feistr yn y gwaith lle'r wyt yn gweithio'n awr. O'r hyn lleiaf, myn fod yn feistr ar rywbeth--ar ryw adran o wybod- aeth neu gelf neu rywbeth wrth ymgeisio at hynny fe ddeui yn feistr arnat dy hun. Yr wyf am i ti ddarllen llyfr wna o hosibl dy symbylu di i geisio gwneud rhywbeth a thi dy hun, sef Do Something Be Something gan Herbert Kaufmann (Hodder & Stoughton, 1/-). Y mae'n wir mai ceisio dy symbylu i amcanu at lwyddiant bydol a materol mae yn bennaf, ond fe fyddai hynny ganwaith yn well i ti nag i ti aros yn dy ddiddymdra presennol. Brysia, fy machgen i, brysia i ddechreu dy ddiwyllio dy hun. Nid wyt yn rhy ieuanc nac yn rhy hen. Ni wyddai Joseph Parry nemor o ddim am fiwsig pan yn dy oed di, ond fe ddaeth yn un o gerddorion goreu Cymru. iTi mae byd o dy flaen yn galw am ddynion da a diwylliedig. Y mae glofeydd lawer yn galw am swyddogion dysgedig. Y mae pobloedd lawer yn galw am gwmpeini ac arweiniad dyn- ion sydd wedi ymdrechu i'w diwyllio eu hunain. Yr wyt yn awr yn y blynyddoedd goreu i ddysgu. Y mae'r meddwl yn glir, y cof yn dda, a golidicn bywyd heb ddechreu ymddangos. Fe fydd pethau, efallai, yn wahanol iaivii mewn deng mlynedd eto. Y11 awr yw dy amser prisia'r or iau, a phaid a'ti gwastraffu. Myn fod yn rhywbeth, yn rhywun ag y bydd. pobl yn teimlo parch ac edmygedd tuag ato. A wyt ti eriocd wedi sylweddoli'r hapusrwvdd o roi pleser i dad a mam wrth wneud gwaith da ? Hyd yn hyn ofnant na ddaw dim ohonot ond glowr cyffredin. Brysia at dy waith, fel y gelli lwyddo i wneud rhywbeth sydd yn werth ei wneud, ac y gall dy rieni fyw i ymlawenhau yn dy lwyddiant. Ac er mwyn dy wlad tafl dy got i lawr. Mae meddwl am Sais yn ffurfio ei farn am Gymru oddiwrthyt ti fel yr wyt yn awr yn ddigon i yrru ias oer i galon Cymro twym-galon. Nid wyt yn deilwng o'th gyndadau nag o'th wlad yn wir, a gadael allan y drwgweithredwyr yn ein mysg, rhaid dweyd y gwelir ynot ti werin Cymrn yn ei man iselaf. Dos ar dy union i'r ysgol not, neu cymer gwrs mewn cysjdltiad a rhyw goleg megis yr Inter- national Correspondence College. Fe fydd dy fywyd yn llawnach ac hapusach o lawer. ac fe ddeui o dipyn i beth i weld dy fod o'r diwedd yn dechreu cyflawni'r gwaith a ddisgwylir gennyt ar y ddaear. Dymunaf i ti bob llwyddiant. Ydwyf, Atwebyd. I

IGwnewch ef yn Gyhoeddus.…

Advertising

Bontnewydd, Arfon.

Advertising