Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB MALDWYN.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB MALDWYN. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol diweddaf y Cyfundeb uchod 3*11 Llansilin, ar y dyddiau Iau a Gwener, Hydref sed a'r 6ed. Y Gynhadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, o dan lywyddiaeth y Parch. T. Wynne Williams, Peii3rboiitfawr. Daeth nifer dda o'r broclyr ac eraiU ynghyd ac wedi i'r Parch. W. Thomas, Llanfair, dde- chreu drwy ddarllen a gweddio, darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion a darllenwyd y gohebiaethau. Yna penclerfynwyd- i. Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i'w gynnal yn Liar.f3Ilia, Ionawr i8fed a'r I9eg. Pregeth-: wyr y pynciau Parchn. W. Thomas, Aberhosan, a H. Williams, B.A., Machynlleth-y cyutaf ar Awdur(lod. Cydwybod. (pwnc y Gjuihadledd), | a'r diweddaf ar Ddyledswydd Eglwys Crist yn wyneb yr Argyfwng P.ceseiiiiol (pwnc yr egl wys). Bycld y Cwrdd Chwarter hwn hefyd yn cad ei i ddathlu dau can mlynedd yr achos er adeiladiad y capel gan y Llywodraeth wedi iddc) gael ei dynmi i lavyr gan derfysgwyr y cyfnocl hwnllw, ac fod Mr. J. Pentyrch Williams, Ý.H., Llanfyllin, i agor y mater. 2. Darllenodd yr Ysgrifennydd, yn absenoldeb y Trysorydd (Mr. Josph Jones) adroddiad Trys- orfa'r Achosion Gweiuiaid, a Thrysorfa Ariaunol y Babell. Hyderir y gwna'r eglwysi sydd heb gasglu at y cyntaf wneud liyniiy mor fuan ag y gellir, er cael yr Adroddiad sirol allan at ddiwedd y flwyddyn. Am Drysorfa'r Babell tuagat wasanaeth y Gymanfa, llawenheid fod y treuliau ynglyn a Chymanfa Penarth wedi eu talu, ac ychyclig mewn llaw at y dyfodol. Dewis- wyd hefyd yr un personau a'r flwyddyn flaenorol i weithredu fel Pwyllgor eto. 3. Awdurdodwyd yr Ysgrifennydd i ddanfon llythyr at y Parch. C. Bonner, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Ysgol Sul yn Lloegr, i'w hysbysu am weithrediadau Pwvllgor yr Ysgol Sul yn y Cyfundeb, a'r lie a roddir i'r cyfryw ynglyn a'r eglwysi a'r CymHnfaoedcl Ysgolion, )'nghyda'r lie a rùddwyd i gwestivvn yr Ysgol ynglyn a'r cyfarfod hwn drwy bwnc yr eglwys yii y Ile, 4. Rhoddodd v Parch. T. Well Jones, Croesos- wallt, adroddiad Pwyllgor y Genhadaeth Dramor, ynghyda'r penderfyniadau a'r trefniadau a fwr- iedir eu cario allan yn y dyfodol, gan hyderu y cyclymffnrtir a hwy gan yr eglwy 'i yn y cyfwng piesennol. 5. Ynglyn a'r mater o sefydlu Adran Daiwin- ■ yddol yjiglyn a'r Colegau Cenedlaethol, pasiwyd i ohiri/r mater ar hyn o bryd, gan fod amryw o'r I)rodyr yn absennol. 6. Darllenodd yr Ysgrifeiinydd lythyr y Parch W. Ross Hughes ynglyn a Thrysorfa Gynorth- wyol yr Annibymvyr Cymreig, yr hwn a ddang- hosai'r safle y mae'r Cyfundeb hwn Y11 sefyll ynddi ar hyn o bryd, gyda disgwyliad y gwneir pob ymdrech i gari /r gwaith yn ei flaen. 7. Pasiwyd i apelio at yr Y1.ad .11 Trwyddedc1 i gau y tafarnau am 9 o'r gl ch yn yr hwyr, ac fod y penderfyniad i gael ei ddanfon i'r eglwysi i'w drosglwyddo i'r ynadon yn _eu cvlchoedd. Hefydj fod y penderfyniad hwn i'w ddanfon gan yr Ysgrifennydcl i Brif Gwnstabl y sir, ynghyda'r Dirprwy Prif Gwnstabl. 8. Ein bod yn datgan yn y modd mwyaf clwys ein cydymdeimlad a theuluoedd perthynol i ni fel Annibynwyr sydd mewn pryderon a hir- aeth yn yr argyfwng presennol, ac fod llythyrau o gydynideimlad. i'w danfon i Mrs. Thomas, Gwynllys. Machynllech, a'r perthynasau, oher- wydd colli mab, Pte. R. Henry Thomas, ym maes y rhyfel yn Ffrainc, ynghyda marwolaeth chwaer yr un adeg gyda Mr. a Mrs. D. Hughes, Dafarn Newycld, Llanbrynmair, yn eu pryder am eu mab sydd ar goll yn Ffrainc er Gorffen- naf gyda Mrs. Margaret Evans, Dolfach, ar ol ei mab, Lieut. John Peate a chyda Mrs. Mary Thomas, Penddol, ar farwolaeth ei mab, Mr. Abram Thomas, y bardd Cadeiriol, yr hwn a fu farw yn yr ysbyty. 9. Yr oedd yn bresennol y Parch. D. M. Davies, y Llyfrfa, Abertawe, ar ran Llenyddiaeth yr Euwad, a rhodclwyd derlrviiiad croesawgar iddo i'r GynhacUecld gan y frawdoliaeth. Rhoddodd ei futer yn fedrus gerbron, a diolchwyd vn gynnes iddo am ei araith. Caed sylwadau gan yr Ysgrif- ennydd a'r Parchn. T. Well Jones, Croesoswallt; J. H. Richards, Llalifylliri W. Evans, Llan- idloes ac R. Lloyd Williams, Penarth, a phas- iwyd i gymeradwyo Llenyddiaeth yr Enwad o ■ dan nawdd yr Undeb Cymreig i sylw'r eglwvsi, ac fod y IJyfrgeMydd yn y cyfamser i ddal?fon rhestr 0 lyfrau gyhoeddir o'r Uyfrfa i bob gwein- ? idog ac ysgrifennydd eglwys heb weinidog, er gwneud y cyfryw yn hysbys. Gorffeuuodd hyn waith y Gynhadledd, a diw- eddwyd trwy weddi gan y Parch. R. Lloyd Williams. Ncs Iau, Y11 Llansilin, pregethwvd gan y Parchn. T. Wynne Williams ar bwnc yr eglwys, sef Sefyllfa isel yr Ysgol Sabothol, a'r moddion goreu i gael adfywiad,' a chan y Parch. YV. Evans, Llanidloes. Yr un noson pregethwyd ym Mhenygroes gan y Parchn, J. H. Richards, Llanfyllin, a T. Well Jones, Croesoswallt. Bire dralllloeth am 10 pregethwvd gan 3* Parchn, R. Lhyd Williams, Penarth, a W. Thomas, Llanfair. Am 2 gan y Parchn. J. D. Evans, Sardis, a D. M. Davies, Abertawe. Am 5.30 gan y Parchn, E. Wuiou Evans a D. M. Davies. Llywyddvt-yd y gweithrediadau gan y Parch. R. Deiui d Jones. Llanrhaeadr. Rhoddodd yr eglwys yn Llansilin dderbyniad croesawgar i'r Cwrdd Chwarter. Yr oedd chwi- oiydd yr eglwys wedi darparu'11 helaeth, a sir- ioldeb a charedigrwydd yn liifo dros yr ymylon. a diolchwyd iddynt am y cyfryw. Yr oedd y brodyr oil ar eu goreu, y cynulliadau yn lluosog, a'r holl odfeuon dan fennith y nef. Mae yma gapel hardd ac ysgcldy newydd yn gysylltiedig ag ef, ac arwyddLm amlwg fod gan aelodau'r eglwys galon i weithio. Arhosed y golofn yn hir ar y lie. E. WNION EVANS, Ysg.

Y Drysorfa GynorthwyoI.

.CYFTTNDI,,B MON. i CYFUDEB-MON.!