Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Coiegau ym Mhrifysgol Cymru.) Prifatbraw-T. F. ROBERTS, M.A LL.D. DECHREUA'R Tymor nesaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 3ydd, 1916. Parotoir yr eirydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o Ysgoloriaethau (rhai ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwytb at yr Igeg o fis Medi, 1916. Am fanylion pellach ymofynner a— J. H. DA VIES, M.A., Cofrestrydd
-__- - - - AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn IJaw.-—-Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Brycheiniog-Gosell, Groeslon, Caernarfor.L- Niwbwrch, Môn-Ebenezer, I)uiivant--Peii- ywern, Dowlais-Cymer, Rhondda—Porth Eryri —-Trysorfa'r Gweddwon-Tabernacl,Pontardawe --Cyfarfodydd, &c.
-i ARGLWYDD RHONDDA. i i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARGLWYDD RHONDDA. i DIWRNOD go fawr yng Nghaerdydd oedd dydd Gwener diweddaf, y 27ain cyn. Dyna'r dydd y dadorclmddiwyd y cerf- ddelwau godidog a drosglwyddodd Ar- glwydd Rhondda yn rhodd i'r ddinas ac yr estynnodd y ddinas iddo yntau yr anrhydedd o fod yn rhydd-ddinesydd. ohoni. Nid ydym yn tybio y gwelwyd erioed yn N enadd ardderchog y ddinas gynhulliad mwy cynrychioliadol o'r genedl yn ei holl agweddau nag a gafwyd bore Gwener. Yr oedd crefydd, masnach, dysg, llafur, celf, gwyddor, lien, can a gwleid- iadaeth yno ym mhersonau rhai o'u gwyr enwocaf, ac unai pawb i ddiolch i Arglwydd Rhondda am ei anrheg ysblenydd ac i'w urddo yn galonnog a dinas-fraint prif dre Cymru. Daeth Ysgrifennydd Rhyfel i lawr yn un pwrpas i uno yn y gwaith, a thraddododd un o'r areithiau mwyaf tarawiadol a gwladgarol a glywsom erioed ganddo. Ond deuwn at hyn yn nes ymlaen. Yr oedd araith yr Arglwydd Faer hefyd ar lefel Ilawer uwch nag y bydd areithiau o'r fath yn gyffredin yn wir, un o ddarganfyddiadau diweddar y ( ddinas ydyw hyawdledd a meddylgarwch uchel Dr. Smith, ac ni bu prif ynad erioed ar y ddinas a lanwodd ei swydd gyda mwy o allu a medr a swyn nag efe. Dywedwn hyn, er nad ydym yn credu fawr yn ei gredo a'i farn wleidyddol. Ond mae yn ddyn trwyadl, ac yn arweinydd a siaradwr rhagorol. Eithr dydd Arglwydd Rhondda oedd hwn a pha beth bynnag ydyw barn pobl am dano, rhaid addef ei fod yn un o'r dynion cryfaf, galluocaf a chraffaf fedd y Cymru. Mae mor benderiynol a chadam nes peri i rai dybio ei fod yn ystyfnig, a mynych y sioma ac y digia ei edmygwyr pennaf. Mae yn bersonoliaeth braf, eang, siriol, a'i garedigrwydd yn dygyfor dros yr ymylon yn ami, ac eto gall fod i bob golwg yn wr caled, cynnil, a hollol ddi- fater i ofynion a hawliau y tybid a fuas- ent yn apelio yn ftian a rhwydd ato. Mae mor annibynnol ei feddwl a'i ysbryd I fel y saif ar ei sodlau yn erbyn ei gyd- feistri a'r gweithwyr yn ddiwahaniaeth, ac nid yw yn malio botwm am farn neb am ei ymddygiad. Y11 ystod un streic fawr y glo yr oedd ei byllau ef yn mynd ddydd a nos yn Clydach Vale a mannau eraill, a snapiai ei fawd ar y meistri i gyd. Yr oedd y pryd hwnnw allan o'u Hundeb. Ond yn v streic ddilynol aeth Tonvpandy a Clydach Vale yn rhemp i trwy'r deyrnas oherwydd y caledi a'r helyntion oedd yno ymysg y gweithwyr oedd wedi eu cloi allan. Erbyn hynny i yr oedd D.A.' wedi perchenogi Undeb y Meistri, ac yn arwain eu plaid. A phan yn y Senedd yr oedd yn ami yn wrth- ryfelwr anghymodlawn, ac o'r diwedd gadawodd y Ty mewn rhywbeth tebyg i disgust a digllonedd. Ond pan dorrodd y rhyfel allan nid oedd neb y gallai'r Llywodraeth droi ato gyda mwy o hyder nag efe am help ac arweiniad ym myd masnach a chadnwyddau., ac nid oes neb wyr faint yw ein dyled iddo fel gwlad am ei wasanaeth' amhrisiadwy yn y cyf- eiriad hwn. Nid rhyfedd i'r Brenin fyrtnu gwneud Arglwydd ohoilo. Rhaid cyd- nabod fod cymysgedd rhyfedd ynddo, ond mae yn amheus gennym a oes gwr mwy poblogaidd nag efe ymysg gwreng a bonedd y De heddyw. Syniad hapus ryfeddol o'i eiddo oedd vr.u11 sjdweddolwyd dydd Gwener diw- eddaf, sef anrhegu Caerdydd a chertlun- iau o'r math dnttaf a godidocaf o enwog- ion CymruFu. Bu'n ddigon mawrfrydig i roi'r dewisiad yn Haw y diweddar Syr Marchant Williams, Mr. Llewelyn Williams A.S., a'r Athro Powel, ac ar lawer ystyr yr oedd yn un da. Anodd dewis deg o fysg cynifer, eithr llwyddwyd yn rhyfedd, a dyma nhw—Dewi Sant, Hywel Dda, Gerallt Gymro, Dafydd ab Gwilym, Harri Tudur, flewelyn ein Llyw, Olaf, Owen Glyndwr, yr lsgob Morgan, Williams Paritycelyn, a Syr Thomas Picton. Myn- nodd Arglwyddes Rhondda ychwanegu Buddug atynt, ac yn sicr syniad hapus oedd hyn, hefvd. Mae'r cwbl wedi eu cerfio gan brif gerflunwyr Prydain, ac wedi costio dros £ 20,000. Saif hyn yn gofgolofn iddo, a hyderwn nad yw ond dechretiad pethau mawr yn hanes celf yiig Nghymru. Argoel dda yw gweled ein cyfoethogion yn benderfynol o fynnu Cymru dlos, goleuedig a dyngarol. A haedda Arglwydd Rhondda glod a diolch am ei esiampl, a chymer ei Ie wrth ochr Syr W. James Thomas ac eraill fel prif gymwynaswyr y genedl. Trueni na chy- merai rhai tebyg iddynt at y gorchwyl o orffen adeiladau gwych Coleg Cenedl- aethol y De. Byddent felly yn helpu addysg yr un pryd a chelf. Da oedd gennym weled Mr. Lloyd George yn edrych cystal, ac yn para ynghanol ei gyfrifoldeb llethol i feddwl am Gymru. Siaradai yn rhwydd a byw, ac yr oedd ei holl bersonoliaeth yn peri i ni dybio fod rhagoriaethau gogoneddus yr hen wroniaid yn cyfarfod yn rhyfedd ynddo. Ni ddywedodd ddim mwy na brawddeg neu ddwy am y rhyfel, ond yr oedd un ohonynt yn arwyddocaol iawn. Camgymeriad mwyaf yr Unolwyr yn y rhyfel hwn oedd peidio gwneud digon o gyfrif o'r cenhedloedd bychain.' Ac mae hynny i'w weled yn amlwg heddyw yng Ughyflwr Serbia, Montenegro, Rwmauia, &c. Ardderchog oedd ei ddisgrifiad o gyfraniad Cymru i len a hanes yr Ymerodr- aeth, a chyrhaeddodd binacl ei hyawdledd wrth fvnnu lie i'r arweinwyr a'r tadau a ddygasant oleuni crefydd ac addysg i Gymru ddiweddar. Cyn iddo eistedd i lawr tybiem ein bod yn gweled dydd yn dod pan bo cynhulliad mwy eto ynghyd yn yr un lie yn dadorchuddio cerfddelw i'r Cymro mwyaf sydd hyd yn hyn wedi ymddangos yn lianes ein gwlad. Ond yr oedd dau beth yn feflau trwlll ar raen y seremoni i gyd. Un oedd na ddywedwyd gair yn Gymraeg o'r dechreu i'r diwedd gan unrhvw siaradwr. Yr oedd hyn yn anfaddeuol ar achlysur mor genedl- aethol. Y Hall oedd mai EgIwys Loegr ac Eglwys Rufain yn unig a berchid ac a gynrychiolid ym mwrdd neha'r wledd oedd yn dilyn. Yr oedd Esgob Blandaf ac Archesgob Pabyddol Caerdydd ar dde ac aswy y mawrion a'r urddasolion, ond dim un gweinidog Ymneilltuol. A hyn yng Nghymru Ymneilltuol! Nid ar Ar- glwydd Rhondda, bid siwr, yr oedd y bai am hyn, ond yr oedd yn gymaint o blunder nes bod yn drosedd ar chwaeth ae yn ddirmyg ar fwyafrif pobl Cymru. Rhaid dweyd y gwir plaen, er cystal oedd yr holl drefniadau ac er hyfryted y mwyn- had o fod yno. Os myn awdurdodau Caerdydd barhau i anwybyddu Ymneill- tuaeth Cymru, na ryfedded neb ohonynt weled mwy na'r-Ivlyfrgell Genedlaethol yn mynd i le arall, a chwrdd a gwrthodiad go bendant a chyffredinol i'w clavdnabod yn Brifddinas Cymru. Hir oes i Arglwydd Rhondda.
I EIN HENWAD YN SIR FFLINT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EIN HENWAD YN SIR FFLINT. Cymerwn yn ganiataol fod y mwyafrif o ddar- llenwyr y TYST yn ddigon clir ar safle ein Hen- wad yn y rhanbarth uchod fel na raid i ni, er atal siomedigaeth, ddweyd mai nid i adrodd gorchestion Annibynia yr ymaflwn yn ein hys- grifell y tro hwn, ond i alw sylw at waith na wobrwyir, ac ymdrech na choronir ond yn rhan- nol, a dweyd y lleiaf. Ymddengys 11a chafodd egwyddorion rhyddid crefydd, o'r dechreuad, soil gyfaddas i wreiddio yn y sir hon, yr hyn a awgrymir gan y ffaith mai Eglwys Loegr a'r Cyfundebau Trefnyddol yn unig a allodd gyfaddasu eu hunain i farn a theimlad y trigolion; ac yn ystod y trigain mlynedd diweddaf y inae'r amgylchiadau wedi bod yn anfanteisiol i barhad, heb son am gyn- nydd, ein Hannibyniaeth annwyl. Yn wyneb hyn y mae gennym i sefyll wrth Hell dros drefniant nad yw'r lliaws mewn cyd- ymdeimlad ag ef, ac ofnwn fod ein hanallu i'w osod allan i'r fantais oreu yn rhwystr iddynt feddu ffydd yn ei werth ymarferol. Onid yw'n rhyfedd y gall egwyddorion sydd yn bopeth yng ngolwg rhai fod heb apelio at eraill o gwbl ? Ond y mae hyn yn ffaith am yr holl enwadau Ymneilltuol yng Nghymru. Felly da fyddai i ni ddysgu parchu ein gilydd am ein bod oil, yn ein tro, yn cael cyfie i helpu'r naill y Ilall. Y prof- iadol yn unig wyr pa faint o aberth a olyga ffyddlondeb i enwad gwan—enwad na 'bydd ymgysylltu ag ef ond anfantais pan y bydd sicrhau swydcl neu safle o elw a chlod yn y cwestiwn, beth bynnag fyddo'r cymwysterau; a phrin y mae angen dweyd i ambell un fethu dal y prawf am fod yr hyn a ofynnir am ei deyrngarwch yn ormod yn ei olwg. Os y digwydd i enwad fod yn fethiant mewn cylch, ei brif neilltuolion a ddelir yn gyfrifol, megis trefn y weinidogaeth, pa un ai teithiol, symudol ai sefydlog fydd. Ond yr hyn sydd yn achub pob trefniant yw, fod yr un ddamwain yn digwydd iddynt oil yn eu tro. Eithr ofer celu fod methiant yr olaf ddeug- waith yn. fwy nag eiddo'r blaenaf, am nad oes gan y gweinidog Annibynnol ond ei eglwys ei hun i ddibynnu ariii a phan y digwydd rhyw anffawd i hoiiiio-anffawd y mae'n bosibl na bydd ganddo ef ran ynddo na llywodraeth drosto