Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ADRODDIAJ/O WAITH YR YSGOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADRODDIAJ/O WAITH YR YSGOL SUL.* II 2 F. | H-I-S- GAN Y PARCH. BEN EVANS, BARRY. ANNWYL GYFEll?ioN,—Safaf yma heno fel math o tM??eci'of, i roddi fy adroddiad o'r hyn welais ac a glywais yn ysgol y plant, Saboth, Gorffennaf gfed. Euthum. drwy'r dosbarthiadau ar gais arolyges, athrawon ac athrawesau y Festri, a chefais lawer o fwynhad yn y gwaith, fel y caf bob amser pan ymhlith plant, ac yn enwedig plant yr eglwys hon. Cychwynnais fy ngwaith gyda phedwar pwynt yn fy meddwl, y rhai a nodaf yn fyr. 1. Yr oeddwn am glywed y plant yn darllen, ac yn hyn cefais fwynhad neilltnol yn yr holl ddosbarthiadau. Darllenent yn groyw a chlir ac er fod yn eu plith rhai plant i Saeson uniaith, eto darllenent hwythau yn rhagorol, gan bwys- leisio ac acenu yn hynod foddhaol. 2. Ond un peth yw darllen Cymraeg yn dda, peth arall yw deall yr hyn oeddynt yn ei ddar- llen. I'r diben o foddloni fy hun yn hyn, holais hwynt yng nghynnwys y gwersi, a chefais eu bod wedi, meistroli'r gwaith yn dda iawn--yli neilltuol felly y dosbarthiadau nehaf. Mor ddi- ddorol oeddynt fel y buasai'n hyfrydwch gehnyf dreulio llawer mwy o amser i'w holi. Yn y dclau beth hyn teimlwn fod gwaith pwysig a sylfaenol yn cael ei gyflawni, a'r plant yn cael eu paratoi yn dda ar gyfer myned i ysgol y capel. 3. Y ddisgyblaeth. Awyddus oeddwn i fod- loni fy hun ar hynyma, am fod llwyddiant y gwaith gyflawnir yn dibynnu arno i raddau helaeth. Ymddanghosai'r plant o dan lywodr- aeth hollol, ac yn cymryd diddordeb llwyr yn eu gwaith. Bodolai'r teimladau goreu rhwng yr athrawon a'r ddisgyblion-y plant wrth eu bodd, ac yn awyddus i ragori, gydag ambell mi yn egwan bryderu na wnai basio'r arholiad. 4. Ysbryd yr Ysgol. Gefais foddhad mawr yn hwn. Yr oedd yr .arolyges fel main ymysg ei thenlu, a'r athrawon a'r athrawesau fel y plant hynaf, yn ymdrechu dysgu a diddori'r plant lleiaf, a'r rheiny wrth eu bodd yn derbyn yr addysg. Ac y mae'n rhaid meddu hwn os yw yr Ysgol i lwyddo. Er cael y cynlluniau goreu, yn cael eu gweithio allan yn unol a deddfau meddwl y plentyn, nis gellir cael ei oreu oni chyffyrddir a'i ysbryd. Ac i gyrraedd hyn rhaid creu awyrgylch iach, garedig, ac ysbryd parchus i bethau cysegredig, gan gofio o hyd mai lies ysbrydol y plant sydd mewn golwg. Ar ol dweyd hynyna, a llongyfrach y rhai sydd yn gweithio tilor dda ar eu gwaith, chwi gan- iatewch i mi roddi ychynig awgrymiadau. Teimlaf heno fy mod i siarad fel inspector, a rhan o waith liwnnw yw awgrymu ffyrdd i wella yr ysgolion dan ei ofal. Felly yr wyf finnan am wneud. Cydgredwn yn y ddiareb, Nid da lie y gellir gwell' a chredaf nid yn unig y gellir

[No title]

Advertising