Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
.CYFUNDEB GOGLEDD MORGANNWG.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFUNDEB GOGLEDD MORGANNWG. I Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Salem, Heolgerryg, Merthyr, dydd Mawrth, Hydref 12fed. Llywyddwyd gan y Cadeirydd, Mr. Thomas Thomas, Brynheulog, Penywern. Wedi i Mr. David Griffith, Dowlais, ddarllen adran bwrpasol o Air Duw, a'n har- wain mewn gweddi ato Ef am gymorth gyf- amserol i drefnu ynglyn a materion Ei Deyrnas fawr, cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaen- orol, a phasiwyd yn ddibetrus awgrymiadau y Pwyllgor Gweithiol. Pod cyfarfod Ionawr, 1917, i'w gynnal ym Methel, Miskin, Mountain Ash. Y Parch. George Evans, B.A., Heolgerryg, i bregethu yno ar Dangnefedd Iesu Grist,' a'r Parch. R. H. Davies, B.A., Cwmbach, i ddarllen papur ar Ymneilltuaeth a'r Cyfnod Newydd.' Fod y Parchn. T. Eli Evans, Aberdar, a D. R. Williams, Penywern, i ymweled a'r eglwysi ar ran y Genhadaeth Dramor, yn cael eu cy- northwyno gan nifer o weinidogion eraill a lleygwyr fel y flwyddyn ddiweddaf. Gohiriwyd hyd y cyfarfod nesaf yr un mater ag a ohiriwyd y tro diweddaf. Derbyniwyn y Parch. E. J. Rosser Evans, Bethania, Dowlais, trwy lythyr o Gyfundeb Dwyrain Caerfyrddin yn galonnog iawn. Llan- enydd mawr i'r Cyfundeb hwn yw cael Mr. Evans yn ol i'n plith. Dymunwn iddo lwydd- iant mawr i gasglu perlau i goron Iesu yn Nowlais megis y gwnaeth yno o'r blaen. Y Parch. T. Thomas, Noddfa, Godreaman.- Blin gennym golli o'r Cyfundeb frawd mor was- anaethgar ac mor annwyl; ond gan ei fod wedi ymadael, pasiwyd i'r Ysgrifennydd roddi llythyr i'w gyflwyno yn ol, gyda phob dymuniad da, i'w hen Gyfundeb yn Nwyrain Caerfyrddin. Ni a wyddom y bydd. yn gaffaeliad i unrhyw gylch ac yn ychwanegiad at nerth ysbrydol y maes yr arweinia Duw ef iddo. Diolch am ei gwmni yng Ngogledd Morgannwg am dros 12 mlynedd, ac am ei ymroddiad tra yma i'r achos goreu. Y Gronfa.—Darllenwyd. gohebiaeth oddiwrth y Parch. W. Ross Hughes ynglyn a hon, a siaradwyd ar y mater gan Mr. Mathew Owen. Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Clmru.-Der- byniwyd gohebiaeth ar y mater iichod oddi- wrth y Parch. D. A. Griffith. Pasiwyd ein bod yn gofyn i'r Parch. Gwilym Rees, B.A., i agor ymddiddan ar y pwnc yn ein cyfarfyddiad nesaf, ond fod y Parch. H. A. Davies a'r Ysgrifennydd i ohebu ynglyn a'r pwnc yn y cyfamser. Ein Milwyr.—A ganlyn ydyw cyfrif y nifer o'r eglwysi a'r cynulleidfaoedd sydd wedi ymuno a'r Fvddin a'r Llynges o'r Cyfundeb hwn o ddechreu Awst, 1914, hyd ddiwedd Medi, 1916, yn ol y Parch. T. B. Mathews, yr ystadegydd Y Fyddin, 1,173 y Llynges, 32. Cyfanswm, 1,205. Y Genhadaeth.—Casglwyd yn y Cyfundeb y flwyddyn ddiweddaf £ 956/6/9, neu yn 01 1/5 yr aelod. Nifer yr eglwysi sydd heb gyfrannu, 6. Pasiwyd i awdurdodi'r Ysgrifennydd i drefnu a'r Parch. Robert Griffith i ymweled a'r Cyfundeb pan yn gyfleus iddo. Cydym dei ml a d.—Pasiwyd pleidlais o gydym- deiinlad pur a dau o'r brodyr sydd wedi bod mewn dyfroedd dyfnion yn ddiweddar, sef y Parch. J. Morgan Jones, Fochriw, a'r Parch. J. Seymour Rees, Cefn. Mynegwyd teimlad y Gynhadledd yn effeithiol gan y Parch. D. Huws Jones a Mr. Mathew Owen. Cadeirydd.—Etholwyd gydag unfrydedd a brwdfrynedd ,y Parch. D. Leyshon Evans, Bar- goed, i fod yn Gadeirydd am y flwyddyn ddyf7 odol. Gwr da a gair da iddo yw efe. Y Pwyllgor a-u.—Ein bod yn awdurdodi'r gwa- hanol bwyllgorau i fod mewn grym hyd Ionawr, 1917, ond eu bod erbyn hynny i fod yn barod i nodi'r personau sydd i fyned allan fel y gallo'r Gynhadledd ethol rhai yn eu lie. Y Genhadlaeth Genedlaethol. Cynygiodd y Parch. D. Huws Jones, ac eiliodd y Parch. D. Adams, B.A., B.D. Fod y Gynhadledd hon o Annibynwyr Cymreig Cyfundeb Gogledd Morgannwg yn dymuno datgan ei llawenydd yng 11 ghychwyniad y Genhadaeth Genedlaethol, ac hefyd ddatgan ei gwerthfawrogiad calonnog a diffuant o anercliiadati eglur a diamwys Dr. Ingram, Esgob Llundain, ac yn taer weddio am i'w hegnion fod yn llwyddiant digymysg. Ar- hosed bendith yr Hollalluog Dduw ar y mudiad.' Y penderfyniad i'w anfon i Dr. Davidson (Arch- esgob Caergaint) a Dr. Ingram (Esgob Llundain). Cenedlaetholi'r Fasnach Feddwol.—Cynygiwyd y penderfyniad canlynol gan y Parch. D. Ley- shon Evans, ac eiliwyd gan y Parch. W. S. Davies Ein bod fel Cynhadledd yn gwrth- wynebu'r syniad o genedlaetholi'r fasnach fedd- wol, gan y credwn nad doeth na diogel i unrhyw wladwriaeth roi ei hamddiffyniad a'i chefnog- aeth gyfreithiol i fasnach a chyfundrefn ag sydd yn euog o amlhau troseddau, afradloni adnoddau y genedl, lfygru arferion cymdeithas, dinistrio iechyd a bywyd y bobl, ac ein bod o'r farn mai yr unig feddyginiaeth i lwyddiant y deyrnas, moesau a chrefydd y wlad fyddai cael deddf- wriaeth yn gwahardd y fasnach feddwol yn y tir.' Fod copi o'r uchod i'w anfon i Mri. Clem Edwards, A.S., D. Lloyd Geogre, A.S., Edgar Jones, A.S., C. B. Stanton, A.S., Herbert Samuel, A.S., a'r Prifweinidog. Yn nesaf etholwyd y Parch. W. S. Davies i'r gadair tra y traddodi'r Cadeirydd ei anerchiad wrth ymddeol. Cymerodd yn destyn, Yr Eglwys Heddyw.' Ainhosibl cael un mwy up- to-date, na dim yn fwy amserol na'r hyn a draethwyd arno gan Mr. Thomas. Yr oedd disgwyliad mawr am yr anerchiad hwn, a chryn ymdrech wedi ei wneud gan am rai er bod yn bresennol. Diolchwyd iddo ar ran y Gynhadledd am ei wasanaeth gwerthfawr fel Cadeirydd ar hyd y flwyddyn, ac hefyd am ei anerchiad byw, gwresog, gan y Parchn. D. Adams, B.A., B.D., T. Sinclair Davies, D. Leyshon Evans, J. R. Salmon, Mri. Thomas Williams (Dowlais), Rees Daniel Davies (Hirwaun) a'r Ysgrifennydd. Diolch am golofnau cedyrn o fath ein hannwyl frawd o dan achos yr Arglwydd. Boed iddo ddyddiau lawer i wasanaethu'r Arglwydd yn wresog yn yr ysbryd.' Am 2.30, wedi i'r Parch. J. Sulgwyn Davies yn ddefosiynol a thaer arwain mewn gweddi, galwodd y Cadeirydd ar Mr. Rees Daniel Davies, Hirwaun, i ddarllen ei bapur ar John Williams y Cenhadwr,' yr hyn a wnaeth yn ei ffordd naturiol yn dra effeithiol. Yna dilynwyd ef gyda phregeth y pwnc gan y Parch. E. J. Gruffvdd, Aberdar—' Yr Eglwys a'r Cyfnod Newydd.' Cafwyd pregeth gref a nerthol ganddo. Wrth y siarad ddilynodd, amlwg fod y gynulleidfa wedi ei chodi i dir uchel o fwynhad ysbrydol gan y papur a'r bregeth. Cymerwyd rhan yn y diolchiadau, oeddynt oil a thine gwresog ynddynt, gan y Parchn. D. Leyshon Evans, D. R. Williams, J. R. Salmon, Mr. Mathew Owen a'r Cynghorwr T. Lewis, Trecynon, Aberdar. Dywedodd Mr. Lewis ei fod yn cofio anthem goffadwriaethol am y cenhadwr, John Williams, Erromanga, ac addawodd (lalu am nifer o gopiau ohoni i holl eglwysi'r Cyfundeb, os gellid cael o hyd iddynt. Bydcl yr Ysgrifennydd yn ddiolch- gar iawn am unrhyw wybodaeth ynghvlch yr anthem honno. Gollyngwyd ni trwy weddi ddwys a gafaelgar o'r cyfarfod hwn gan y Parch. Arthur Jones, B.A., Ynysybwl. Am 6.30 pregethwyd gan y Parch. J. R. Salmon ar Y Genhadaeth ar gais y Gynhadl- edd, a chafwyd ganddo bregeth yn llawn o ysbryd Cenhadol. Diolchwyd iddo gan y rhai oedd yn bresennol. Pregethwyd hefyd yn yr oedfa hon gan y Parch. D. R. Williams, Pen- ywern, a, chlywsom fod y gwlith nefol yn ireiddio yr holl wasanaeth. Darparwyd yn helaeth ac estynnwyd fcroesaw dibrin gan gyfeillion Salem a'u gweinidog, a rhoddwyd mynegiad i deimlad diolchgar yr ymwelwyr iddynt gan y Parchn. J. R. Salmon a D. Leyshon Evans, a chafodd pawb ohonom gyfle i roi ychydig o vent i'n teimlad trwy y ffordd arferol. Nodweddid pob cyfarfod gan ddwyster ac angerddoldeb, gan ddifrifwch a llawenydd, a chan ysbrydolrwydd roddai fri a gogoniant ar y cwbl. Yr unig ffordd i gyfrif am hyn yw am fod Melchisedec hefyd, brenin Salem yno yn dwyn allan fara a gwin i'w ddeiliaid. Arhosed yno eto, a gwnaed ei babell (Salm lxxvi. 2) yn Salem Heolgerryg, a llywodraethed yno yn Frenin Cyfiawnder ac yn Frenin Heddwch hefyd IH ph vii.. Hirwaun. E. WERN WILLIAMS, Ysg. I
CYFUNDEB GORLLEWIN MORGANNWG.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CYFUNDEB GORLLEWIN MORGANNWG. Cynhaliwyd Cyfarfoc1 Chwarterol y Cyfnndeb I uchod yn Ebenezer, Cwmtwrch, dyddiau Mercher a lau, Medi'r zofed a'r 2lain. Cynhaliwyd Y GYNHADLEDD I am 10.30 bore lau, y Parch. H. Sehb1 Williams, y Cadeirydd, yn y gadair. i. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. 2. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Horeb, Treforris, yn ol y gylchres. («) Fod y Parch. W. J. Rees, Alltwen (a fethai fod. yn bresennol yng nghyfarfod Ebenezer) i ddarllen papur yn y Gynhadledd ar Werth yr Addoliad Cyhoeddus yn yr Argyfwng Presennol.' (b) Fod y Cadeirydd i draddodi ei anerchiad wrth ymddeol o'r gadair yn y cyfarfod nesaf. 3. Derbyniwyd yn wresog iawn i'r Cyfundeb y Parch. J. Vaughan ar ei ordeiniad yn eglwys Saesneg Ystradgynlais Mr. Rees Evans, Carmel, Clydach, fel pregethwr cymeradwy, o Gyfundeb Gogledd Morgannwg Mr. David Davies, Pen- clawdd Mr. George Ellsmore, Cwmllynfell, a Mr. Lewis Thomas, Ebenezer, Cwmtwrch, fel brodyr ieuainc cymeradwy a gobeithiol sydd wedi dechreu pregethu a'u codi'n rheolaidd yn yr eglwysi y perthynant iddynt. 4. Cyflwynodd ysgrifennydd y Pwyllgor Dir- west, y Parch. W. D. Roderick, ei adroddiad i'r Gynhadledd, a derbyniwyd ef yn galonnog iawn wedi i amryw frodyr siarad a chymeradwyo gwaith a llafur diflino'r Pwyllgor a'i ysgrifen- nydd diwyd a brwdfrydig. Cymeradwywyd rhaglen y Pwyllgor ynglyn a'r Gobeithluoedd yn ystod y gaeaf nesaf. 5. Y Drysorfa Gynorthwyol. Darllenwyd llythyr oddiwrth Ysgrifennydd Cyffredinol y Drysorfa, y Parch. W. Ross Hughes, yn cymell yr eglwysi sydd eto heb symud gyda'r mudiad i wneuthur hynny'n ddioed. Siaradwyd gan y Parch. W. J ames, a danghosodd fod addewidion 41 o eglwysi'r Cyfundeb yn £ 4,123. Ond y mae eto 27 o eglwysi yn y Cyfundeb heb addo dim. Pasiwyd fod ysgrifennydd y Drysorfa, Mr. J. Hinkin, i alw Pwyllgor y Drysorfa ynghyd mor fuan ag y byddo modd i ddewis personau i ymweld a'r eglwysi sydd heb symud hyd yn hyn. 6. Cyflwynodd ysgrifennydd Pwyllgor y Gronfa, y Parch. D. M. Davies, ei adroddiad, a chymeradwywyd cais eglwys Carmel, Clydach, am fenthyg arian o'r Gronfa. 7. Cyflwynodd Ysgrifennydd Pwyllgor yr Ysgol Sul, y Parch. J. R. Price, ei adroddiad, a derbyniwyd ef yn wresog gan y Gynhadledd. 8. Rhoddodd yr ystadegydd, y Parch. J. Davies, B.A., Mynyddbach, adroddiad manwl o ystadegaeth eglwysi'r Cyfundeb. Derbyn- iwyd yr adroddiad yn ddiolchgar gan y Gyn- hadledd. 9. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad dwfn a'r Parch. Rhys J. Huws, Glanaman, yn ei gystudd blin, gan ddyniuno iddo adferiad buan. lO. Galwyd sylw at bresenoldeb y Parch. Hopkins, Bagillt (un o blant Ebenezer), ac yr oedd pawb yn llawen ei weld yn ein plith am dro. 11. Diweddwyd y Gynhadledd gan y Parch. W. Tames. Y MODDION CYHOEDDUS. Nos Fercher pregethwyd gan y Parchn. Ll. Boyer, Danygraig, ac R. M. Rhys, Ystradgyn- lais. Prynhawn lau am 2 pregethwyd gan y Parch. J. Davies, B.A., Mynyddbach. Nos lau am 7 pregethwyd gan y Parchn. B. Palmerston Davies, Birchgrove, a D. T. Griffiths, Pilton Green, Gower. J. HYWEL PARRY, Ysg.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
EGLWYS Y CRWYS.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd diolchgarwch eleni ar y Sal a'r Llun, Hydref 8fed a'r 9fed, pryd y mwynhawyd yn fawr weinidogaeth y Parchn D. Eiddig Jones, A.T. S Clydach, a'r Parch J. C. Owen, A T.S., Ebbw Vale. Yr oedd y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, a theimlad pawb oedd ei fod Ef wedi dyfod i'r wyl. Bendith y nef a ddilyno. ANNWYD, PESWCH, INFLUENZA.—Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Besweh, Bronchitis, Pas, Dolur y Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae'r hen feddyg- iniaeth, DAVIES'S COUGH MIXTURE, eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi'n fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cyn- hesu'r frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. i/ijc. a 2/9 (postage 3c.).—HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.—Dyna'r hyn y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau pendduynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnweh botelaid o Sar- zine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 2/9 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ych- wanegol, oddiwrth y perchennog—-HUGH DAVIKS, Chemist, Machynlleth.