Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.  IU -<'G E?NON. .J .> ..J;"I AN  c.'Ji.'j L ——— Eu Gwn fod darllenwyr y Tyst yn teimlo llawer iawn o ddiddordeb yn y City Temple a'r rhag- olygon. Y mae wythnosau lawer bellach oddiar pan anfonwyd galwad o rywfath i'r America i'r Dr. Fort Newton, ac y mae wedi cymryd amser anferth i wneud ei feddwl i fyny. Dywed papur o Chicago ei fod wedi ateb, neu yn bwr- iadu ateb yn nacaol. Os felly, dengys fod ganddo sense of proportion, Er ei fod, yn ol yr hanes, yn bregethwr digon cymeradwy, eto y mae eisiau rhagor na phregethwr cymeradwy yn y City Temple. 0 dan deyrnasiad Parker, y pulpud hwn mewn un ystyr ydoedd prif bulpud yr oes, ac yr oedd gwrando Parker ar y Sul neu ar fore dydd lau yn un o institutions y ddinas. Nid ydwyf ft, fel un, heb obaith y gwelir eto'r hen ogoniant yn dychwelyd; ac os ceir Jowett i wrando ar lais yr holl fyd cref- yddol, fe ddaw hynny i ben hefyd. Fel mater o ffaith, ceir hanner cant o bregethwyr yn y wlad hon llawn cystal a'r Americanwr o Cedar Rapids ond y mae yna un Saul ymhlith yr holl broflwydi sydd wedi ei alw i'r swydd hon, a Jowett ydyw hwnnw. Gobeithio ar ol yr excursion yma i fyd yr annibendod y daw trefn eto ar bethau yn y Demi enwog hon. O r ochr arall, y mae'r Eglwys Wladol yn gwneud yn fawr o'r proselyt newydd, y Parch. R. J. Campbell. Y mae wedi pregethu yn Sant Paul ac mewn un neu ddwy o brif eglwysi'r West End, a'r Sul nesaf efe fydd pregethwr mawr yr Abbey. Ar ol yr oedfa honno geill ddweyd ar ol Simeon, Yn awr y gollyngi dy was mewn tangnefedd.' Yn naturiol iawn y mae cryn redeg ar ei ol. Popeth newydd ded- wydd da,' ac y mae Mr. Campbell yn y cymeriad o offeiriad yn newydd,' ac felly yn ddiddorol. Pa hyd y pery'r diddordeb sydd bwnc arall. Prynais yr wythnos hon, mewn moment wamal, gopi o'r papur bach hwnnw y Christian Common- wealth. Hwn oedd organ y Ddiwinyddiaeth Newydd'—tase hi yn newydd hefyd. Yr oedd y Commonwealth bach ar gefn ei geffyl y dyddiau hynny, ond fe ddaeth y dyddiau blin. Mae apostol mawr y Ddiwinyddiaeth honno wedi gwadu'r ffydd,' ac y mae cenhadaeth y papur bach wedi mynd. Bellach y mae Campbell ar y Black List, ac y mae'r Parch. Lloyd Thomas o Bkaningham (Undodwr) yn rhostio ei barch- edigaeth yn effeithiol dros ben yn y rhifyn hwn. Y peth mwyaf awgrymiadol yn y papur ydyw fod galw am danysgrifiadau i'w helpu i fyw iJUn o nodweddion arbenigol Mr. Lloyd George ydyw ei fod yn glynu wrth fiydd ei dadau. Yn eglwys Castle Street y nos o'r blaen cymerodd ran mewn cwrdd croesaw i'r gweinidog newydd, y Parch. J. Nicholas o Donypandy. Efe o hyn allan fydd gweinidog Lloyd George,' ac y mae hynny yn gryn gyfrifoldeb-fel y cyfeiriodd y gwr enwog mewn ffordd chwareus ei hun. Ymhlith pethau eraill cyffesodd ei fod yn aelod o'r gymdeithas ers 26 mlynedd, a da oedd gennym ei weled heb gywilydd arddel yr achos diaddurn gerllaw Oxford Circus. Gynifer o'r dynioll enwog yma fel Simon a Birrell ac Asquith sydd wedi troi cefn arnom. Nid wyf yn gofidio gymaint oblegid y golled i ni, ond yn bennaf am y golled fawr iddynt hwy. Mewn geiriau plaen, dirywiad crefyddol sydd wrth wraidd hyn oU. Rhyw oeri ynghanol hinsawdd afiach byd fiasiynol y West End. Rhaid cael dyn cadarn, cryf, i wrthsefyll y brodefigaeth, ac y mae ein prif Gymro yn batrwm yn y peth hwn fel mewn llawer o bethau eraill i'r bechgyn hynny ydynt wedi sugno bronnau Ymneilltuaeth, ac yna'n rhedeg ar ol Diana fawr y dydd, sef Society- capital S os gwelwch yn dda. Teg yw dweyd mai Mr. John Hinds, A.S., yw asgwrn cefn yr achos goreu yn Castle Street. Mawr clod iddo. Mae'r Senedd yn eistedd y dyddiau hyn, ond nid oes rhyw faterion byw iawn yn cael eu sylw. Rhyw chwilio am fychod dihangol yw'r sport fwyaf poblogaidd, ac am a wn i nad Mr. Arthur Balfour, Prif Arglwydd y Morlys, ydyw'r favourite. Peth syn anghyffredin yw rhoddi dyn o alluoedd athronyddol a theithi meddyliol Mr. Balfour i ofalu am y Llynges. Y mae rhoddi gofal yr wydd i'r cadno yn ddoeth- ineb yn ymyl peth fel hyn. Ac eto gwell cael Balfour na dyn fel Churchill, yr hwn yn ol pob tebyg fu'n gyfrifol am gyflafan fawr Gallipoli. Y mae yna gyngor o bobl gall yn eistedd y dyddiau hyn i chwilio i fewn i stori Gallipoli, ac y mae Asquith a Lloyd George a Churchill ei hun wedi bod yn sefyll o flaen y bar. Ni chyhoeddir yr hanes o ddydd i ddydd, ond ceir dedfryd maes o law yn bur debyg ac yna byddwn mor galled ar y diwedd ag oeddem ar y dechreu. Beth bynnag wneir, nis gellir galw Gallipoli, fyth yn ol. Rhagflaenu ynfydrwydd o'r fath sydd yn eisiau. Mae ein milwyr dewr yn hoft iawn o'r House of Commons, a llond y gallery bob nos. Un arall o bynciau'r dydd yn y Senedd yw pwnc y cwrw. Mae'r Trade yn dechreu ofni fod dyddiau blin yn eu haros. Chwifiant y faner goch yn selog-paratoi ar gyfer y storm. Mater arall ydyw mater y masnachwyr Ellmynaidd ydynt wedi gwneud eu da lawer yn y wlad hon am flwyddi lawer. Weithiau o dan eu henwau priodol, weithiau o dan ffug- enwau, y maent wedi sugno gwaed yr hen John Bull wirion yn ddigon hir, ac y maecri gyff- redinol yn codi o'r byd masnachol fod yn rhaid i'r German gau ei shop yn ein gwlad ni, ac agor shop arall ar ei dir ei hun. Mae'n syndod i bawb yr hyn y mae ymchwiliadau diweddar wedi eu datguddio. Ilawer masnach flodeuog wedi mynd yn llwyr i ddwylaw'r creaduriaid haerllug hyn. 0 hyn allan rhaid dweyd pwy yw pwy, ac nid oes newid enwau i fod. Felly bydd yr hen Brydeiniwr yn adwaen ei gwsmer- iaid. Ar ol y rhyfel erchyll hwn cyst i ni fod ar ddihun ac yn fwy effro efo masnach estronol. Mae Bwrdd Ysgol Llundain eisoes yn agor ysgol- ion i ddysgu plant nid yn unig i ddeall crefft, ond eu gwneud yn artists heblaw yn y grefft honno. Ni bydd fawr He i'r Jach-of-all-trades yn yr oes nesaf yma. Cymered pawb ohonom yr awgrym mewn pryd.
I Coleg Coffa Aberhonddu.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Coleg Coffa Aberhonddu. Mae myfyrwyr y Coleg uchod wedi ail- ymgynnull, ac yn agored i dderbyn supplies oddiwrth yr eglwysi. Bydded ysgrifenyddion yr eglwysi gystal ag anfon pob gohebiaeth at Mr. E- Morris Jones, Secretary of Supplies, Memorial College, Brecon. A ganlyn yw'r myfyrwyr sy'n gorffen eleni :—Mri. L. J. Evans, David Price, R. Oswald Davies, Gomer Davies ac E- Morris Jones. I DAVID PRICE, Ysg.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DANYGRAIG, ALLTWEN. -Cynhaliwyd cyf. arfodydd hanner-blynyddol yr eglwys hon Hydref 22ain Gwasanaethwyd gan y Parch J. L. Williams, M.A., B.Sc., Aberystwyth. Caf. wyd tair pregeth ardderchog y Sal, a daeth tort luosog ynghyd. Hefyd, nos Lun, cafwyd darlith ragorol gan Mr Williams ar Rhyfelwr heb Gleddyf.' Cadeiriwyd gan Mr D. Lewis, Tanyrallt. Cynygiwyd diolchgarwoh gan y gweinidog, y Parch Llewelyn Bowyer, ac eil- iwyd gan Mr Evan Thomas, ysgrifennydd yr eglwys.
I Trysorfa'r Gweddwon.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
I Trysorfa'r Gweddwon. I AT WEINIDOGIOAT AC KGLWYSl'R ANNIBYNWYR A'R BEDYDDWYR. FY Annwyi, Gyfeiijjon.—Da gennyt hys- bysu fod cy fans win y cyfraniadau wedi cyr- raedd yn agos i £150. Yn wyneb y galwadau enfawr yn herwydd y rhyfel mae gennym deStyn diolch. Darfu i 230 o weddwon dderbyn cyn- horthwy o ^2,444 y flwyddyn ddiweddaf o'r Gymdeithas hon. O'r 230 yr oedd 112 ohoiiynt o Gymru, a 56 ohonynt yn Annibynwyr a 56 yn Fedyddwyr. Derbyniodd pob un o'r 230 o £ 8 i £Is yn ystod y flwyddyn. Rhydd hyn syniad i ni o waith mawr y Gymdeithas. Dy- munaf ddatgan fy niolchgarwch cynhesaf i'r cyfeillion a'r cyfeillesau fu yn fy nghynorthwyo drwy gasglu'r cyfraniadau yn eu Cyfundebau. Bydd eu tal gwirioneddol yn y wybodaeth eu bod wedi cynorthwyo i ysgafnhau'r baich oedd yn pwyso mor drwm ar weddwon ein gweinid- ogion ymadawedig, yn ami yn drist, yn herwydd cystudd, neu nychtod yn lierwydd henaint. Yn enw'r chwiorydd yr wyf yn diolch i'r cyilorth- wywyr, ac hefyd i bawb sydd wedi cyfranuu. Erfyniaf am eich cydymdeimlad a'ch cyn- horthwy, ac hefyd eich help i gael cynkorthwy yr eglwysi ar ran y Gymdeithas yn y flwyddyn sydd yn dod. Dymunaf ar bawb o'r Annibynwyr yn y Cyf- undebau canlynol fod mor garedig a danfon eu cyfraniadau o hyn ik-Mai Isieel, 1917, i'r personau canlynol:—■ Mon—Rev. J. S. Evans, Cemaes Bay, Angle- sey. Penfro—Rev. John Evans, Gideon, Dinas Cross, Pern. Aberteifi-Mrs. M. Lloyd, N.P. Bank, New- castle Emlyn. Gogledd Morganmyg-Mr. Thomas Edwards, 2 Hill-view, Merthyr Vale (Dosbarth Merthyr) Mr. Afanydd Morgan, Glasnant-street, Aberdare (Dosbarth Aberdar). Gorllewin Morgannwg—Mr. James Hinkin, Bronyrallt, Graig-road, Pontardawe. Dehau Morgannwg—Mr. Herbert Davies, Post Office, Melincrythan, Neath. Dwyrain Morgannwg—Mr. S. Nicholas, Bryn- cych, 10 Colum-street, Treorky (Dosbarth Cwm Rhondda) Mr. G. T. Davies, J.P., London House, Llantrisant (Dosbarth arall y Cyfundeb). Brycheiniog—Rev. Gomer Harris, Llangynidr, Crickhowell. Mynwy—Mr. Herbert Williams, 77 High-st., Blaina. Gorllewin Arfon-Rev. R. M. Edmunds, Llan- bedrog, Carnarvon. Gogledd Arfon—Mr. E. Owen, Golden Anchor, Carnarvon. Maldwyn—Mr. T. Humphreys, Severn Villas, Caersws. Meirion-Rev. Owen Davies, Pennal, Mach- ynlleth; Mrs. Lloyd, Pant (Dosbarth Llan. egryn) Mrs. Morgan, Balymacora (Dosbarth yr Abermaw). Dinbych a Fflint-Mr D. Jones, Hartsheath, Mold. AEIvODAU A RHEOWYR. Unrk)'w un a gyfranno ddeg gini ac uchod yn un swm, neu weinidog a gyfranno bum gini yr un modd, neu weinidog a wna gasgliad o ddeg gini ac uchod, a gyfrifir yn aelod dros ei oes. Mae tanysgrifwyr blynyddol o gini ac uchod yn aelodau tra y parhaont i danysgrifio. Mae cymun-weinyddwyr a dalant gymunrodd i'r Drysorfa yn rheolwyr dros eu hoes. Mae pawb sydd yn aelodau ac yn rheolwyr yn meddu ar y fraint o gymeradwyo achosion i ystyriaeth y Pwyllgor. Gwneid pethau yn llawer hawddach pe gwnai pob un ddanfon ei gyfran mor gynnar ag y bydd yn bosibl. Bydd yn hyfrydwch gennyf gydnabod gyda diolchgarwch unrhyw swm a ddanfonir i mi tuagat y Drysorfa. Bydd blwyddyn cyfrifon y Gymdeithas yn terfynu Mai isfed, 1917. Yr eiddoch, ar ran y Gymdeithas, Burry Port, Pembrey. JOHN ROGERS.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SEION, BURRY PORT.—Saboth a nos Lun. Hydref 15fed a'r 16eg, cynhaliodd yr eglwys uchod ei chwrdd blynyddol, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parch D. M. Davies, Waun- arlwydd. Yr oedd y capel eang yn or lawn o wrandawyr astud ar hyd yr odfeuon, a't Efengyl yn cael ei thraddodi mewn nerth, Llywyddwyd y cyfarfodydd gan y Parch J. H.. Rees, A. T .S., gweinidog parohus y lie.