Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. ltfewn Llaw. -T. E. B.—-Parcwyson— Fred Jones—Cymanfa Lerpwl-Cyfarfocl Ch warterol Cyfundeb Dwyreiniol Dinbych a Fflint—Cwm Rhondda Gogledd Ceredigion Tabernacl, Barry Dock--Saroii, Ebbw Vale—Y Ddiweddar Mrs. Maliphant Hebron, Cymer Penmain, Mynwy LlanfyUin Llan bedr-Pon tstephan — Aberdar a'r Cylch-Cyfarfodydd, &c.
-_ .- -:::]-I BECHGYN BRECHFA.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
:] BECHGYN BRECHFA. GAN UN OHONYNT. NID am Brechfa ym Mrycheiniog yr wyf am son, ond am y dreflait arall o'r un enw yn sir Gaerfyrddin lie yr oedd, hanner canrif yn ol, un o Ysgolion. y Proffwydi, a lie y magwyd ac y maethwyd rhai o fechgyn gwrolaf Cymru. Y Parch. Thomas Daniel Jones, gweinidog Gwernogle, oedd yr athraw hyddysg a medrus. Ni welodd y byd ond ychydig o'i allu a'i ogoniant. Ymfoddlonodd ef, y llariaidd wr, i drigo yn dawel a didrwst ymhith ei bobl ei hun. Yn y Garth, ger Gwernogle, y gwelodd oleuni gyntaf. Fel ei frawd, y Parch. Evan Jones o'r Wern, Ceredigion, ni theithiodd ymhell o blwyf ei enedigaeth. Yr oedd iddynt ddau ewythr pur enwog yn eu dydd, sef y Parch. John Davies, Castellnedd, a'r Parch. Daniel Davies, Stansted, Essex. Deuent ar ymweliad yn achlysurol i Brechfa, ac edrychai bechgyn yr ysgol i fyny at y ddau wr hyn fel goleu- adau disglair. Yr oedd gan y cyntaf lais fel cloch arian. Yr oedd yr olaf yn dwyn mwy o 61 gwrtaith Seisnig. fTQild am y nai, y Parch. T. D. Jones, y mae a fynnom yn arbennig yn awr. Wedi iddo orffen ei yrfa yn dra anrhyd- eddus yng Ngholeg Caerfyrddin, ymgy- merodd a gofal Athrofa'r Derlwyn, yn agos i Alltwalis. Bu Dr. William Davies, gynt o Ffrwdyfal, yn athraw yno hyd nes iddo gael ei ddewis i lanw'r gadair Hebraeg yng Nghaerfyrddin. Clywais Mr. Jones yn dweyd am dano ei fod mor gartrefol yn ei Feibl Hebraeg fel nad oedd angen iddo droi tudalennau'r Llyfr hwnnw. Yr oedd yn gwybod ei wers a'i lygaid ynghau. Ar yr adeg honno yr oedd eglwys Ffald- ybrenin yn wag ar ol marw yr Hybarch Rees Jones, tad y Parch. James Rhys Kilsby Jones, ac yr oedd teimlad pur gryf o blaid rhoddi galwad i Mr. T. D. Jones, mab y Garth. Aeth tad yr ysgrifennydd i lawr bob cam i'r fan ddi-ar-ffordd honno ar ran yr eglwys i geisio perswadio Mr. Jones i dderbyn galwad, ond ei fam-eglwys yng Ngwernogle gariodd y dydd. Hyd yn hyn nid oedd wedi ymgymeryd a gofal eglwys. Yr oedd yn bregethwr dwys a, difrifol, ond fel dysgawdwr yr oedd yn disgleirio, a phedwar o fechgyn o Ffald-1 ybrenin gafodd y fraint o eistedd gyntaf wrthfeifdraed yn Athrofa Brechfa. Daeth yno ar ol tipyn o amser fachgen o'r Gurnos, ym Morgannwg, o'r enw Evan J ones. Y r oedd ganddo berthnasau yn ardalGwernogle, a hynny efallai fu yn achlysur iddo|;ddod|mor bell o gartref. Ni wyddai_fawr ar yr adegahonno, oddigerth Gramadeg Caledfryn, Rheolau y Pedwar Mesur ar Hugain, &c. I/lyfrau dieithr iddo oedd llyfrau'r ysgol, ac nid ymserchai ynddynt o gwbl. Ychydig o flas gawsai ar 'Allen and Cornwall's English Grammar,' heb son "dim am Roeg a Lladin. Sych oedd popeth Saesneg, ac nid oeddyn ei elfen gyda dim ond pryd- yddiaeth. Ganwyd plentyn i Mr. a Mrs. Jones yn fuan wedi iddo ddod yno, a'r cyntaf peth ddaeth i'w feddwl oedd cyfan- soddi englyn i'r gwr bach-' Ioan Arthur ddelo'n nerthol,' ac yn y blaen. Nid oedd gwneud pregeth chwaith yn felyswaith iddo os na allai blethu darnau o fardd- oniaeth ynddi. Ni fwriadwyd erioed iddo ddod yn ysgolor mawr, ond fe gyrhaedd- odd ben yr ysgol yn rhwydd fel bardd ac eisteddfodwr. Enillodd ddigon o gadeir- iau i ddodrefnu ty eyff redin, ac fe ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru benbaladr fel y Prifardd Gurnos. Dyna hanes byr un o'r bechgyn. Mae un arall yn fyw iawn yn fy nghof y funud hon. William Griffiths oedd ei enw syml yr amser hwnnw, ond cyn ei farw ad- waenid yntau ymhell ac agos yng Nghymru a Lloegr wrth enw canol ac anghynefin, yr hwn a fabwysiadodd yn bur fuan ar ol iddo ddechreu ymddatblygu. Cerddor- iaeth oedd ei hoff-waith ef, a llawer tro y parodd i'r goedwig adseinio wrth gefn yr ysgoldy pan yn canu ei hoff gan, 'Alonzo the brave, and the fair Imogene.' Ac yn ei lwybr ei hun daeth Alonzo mor adna- byddus a Gurnos. Yn fore iawn yn ei hanes, er iddo gychwyn ei daith ym Mhontargothi, fe benderfynodd, doed a ddelo, y mynnai ennill safle fel gweinidog yn y Brifddinas. Yn ystod ei yrfa golegol yr enw gwahaniaethol a roddid iddo gan ei gyd-fyfyrwyr oedd Griffiths Llundain.' Cof da gennyf ei glywed yn proffwydo am dano ei hun yn berffaith ddidwyll Cyn fy marw, Griffiths Ilundain" fydd fy enw.' Ac fe ddaeth y broffwydoliaeth i ben i'r lythyren. Ar ol iddo basio ei brentisiaeth yn sir Fynwy, yn pregethu yn y ddwy iaith bob Saboth, aeth yn ddigon calonnog i ymgymeryd a gofal eglwys Saesneg yn Oaklands Chapel, Shepherd's Bush a chyn iddo fod yno lawer o flyn- yddoedd cyhoeddodd gyfrol fechan dan y y teitl, Sermons preached in London.' Felly cyflawnwyd addewid bore oes. Ond y diwedd fu iddo ddychwelyd i'r Hen Wlad, ac yn ol ei duedd fe gasglodd lawer iawn o hen emynau Cymreig oedd mewn perygl o fyned i ebargofiant, ac olrhein- iodd eu hanes yn ddifyr a manwl." Daeth bachgen arall rhywle o ardal Ystalyfera i Brechfa ar yr adeg honno. Yr oedd yn uwch o'i ysgwyddau na neb o''r bechgyn eraill. Yr oedd wedi gorffen tyfu cyn dod i'r ysgol, ac nid oedd dim yn fachgennaidd yn ei osgo. Araf anar- ferol oedd ei leferydd, ac felly hefyd oedd ei gerddediad. Dipyn yn hwyrfrydig oedd gyda'i wersi hefyd, ond addefai pawb fod ynddo ryw allu allan o'r cyffredin. Ym- ddanghosai yn ddidaro gyda phopeth, ond tynnai sylw cynulleidfaoedd ymhob man yn berffaith ddidrafferth, ac enillai ddv- lanwad yn ei bwysau ei hun. Thomas Evans oedd ei enw y pryd hwnnw, ond ymhell cyn ei farw adweinid ef yn rhwyd yny Docks, I/lanelli, a'r Ceinewydd a Phontardulais wrth ei enw benthyg. Nid oedd eisiau dweyd dim ond fod Penry 'I yn darlithio ar Fod yn Ddyn,' na wyddai pawb ar unwaith7pwy oedd y cawr. Ym- serchoddlyn Mary Davies, o dre Caer- fyrddin, nith i Mrs. Jones o Brechfa, ac ni fu tirionach gwraig gan weinidog erioed. Bu hi farw yn ieuanc: ac er syndod i bawb, Saesnes oedd ail^wraig|y Cymro digymysg hwn. Rhaid i mi enwi yn nesaf fachgen- pur wahanol. Nid o wlad Canaan y daeth i Brechfa, ond o Carmel, Llansadwrn. Rees Gershon Levi oedd ei enw ar ei hyd. Dod yn ysgolhaig oedd prif bwnc ei fywyd. Daeth yn ysgolfeistr, ac yn ei dro para- todd lawer o fechgyn i'r gwahanol golegau. Pregethai yn achlysurol, ond nid oedd galw mawr arno. Pan roddodd Thomas Lewis, B.A., yr ysgol a gychwynnodd yng Nghaerdydd i fyny er mwyn myned yn athraw i'r Bala, ymgymerodd Levi a hi, ac yno y treuliodd weddill ei oes fer. Cyn terfynu hyn o hanes goddefer i mi alw sylw at un amgylchiad nodedig. Mae deuddeg milltir o Brechfa i Gaerfyrddin, ond ni rwystrodd pellter ffordd y bechgyn uchod i fyned ar eu traed bob cam yno ac yn ol yr un noswaith er mwyn clywed yr hyawdl Henry Vincent yn areithio ar 'America.' Dyna'r ddarlith Saesneg gyntaf glywodd yr ysgrifennydd a'i glustiau erioed, a theimlai ef a'i gyd-ysgolheigion eu bod wedi cael digon o dal am eu taith bell a blinderus. Yr oedd wedi canol nos pan gyrhaeddwyd adre, ond nid oedd gair o duchan. Brwdfrydig oedd bechgyn Brechfa, a chwarddent am ben pedair milltir ar hugain Llawer tro sydd wedi bod ar y byd oddiar y dyddiau diddan hynny, ond melys adrodd hyn o helynt bore oes. Fe erys enw y Parch. T. D. Jones yn fendigedig yn fy nghof tra byddo anadl yn fy ngliorff. A llawer gwaith y dywed- odd rhai o hen bobl dda Gwernogle fod y berthynas rhwng yr ysgrifennydd a'i athraw annwyl yn debyg i'r hon a fodolai gynt rhwng Timotheus a Phaul. Nid fy mwriad oedd ysgrifennu hanes fy mywyd fy hun, felly mi dewaf ar hynyna. DAVID THOMAS (gynt o Cheshunt.)
DlWINYDDIAETH A'R COLEGAUiCENEDLAETHOL.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DlWINYDDIAETH A'R COLEGAUiCENEDLAETHOL. ]Irb;: y" Yng Nghyfarfod Chwarterol Dwyrain Morgannwg a gynhaliwyd yn Siloh, Pentre, .ar y 26ain o Hydref, pasiwyd bron yn unfrydo y penderfyniad canlynol :— Fod y Gynhadledd hon yn ei hys- tyried yn ddoeth i ail-agor y cwestiwn o berthynas y Colegau Cenedlaethol a Diwinyddiaeth, yn gymaint ag fod gwa- hanol farnau pwysig arno, ac nad teg na chywir ydyw datgan barn derfynol arno yn enw'r Eglwysi a'r Cyfundeb heb ein bod wedi cael cais na chyfle i weled nac ystyried y penderfyniad ymiaen tlaw. Hefyd, na ddylai'r Cyfar- fod Chwarterol roddi tystiolaeth swydd- ogol unochrog gerbron y Comisiwn yn enw'r Eglwysi a'r Cyfundeb heb fod awdurdod bendant yr Eglwysi a'r Cyf- undeb yn cael ei rhoi i hynny./f Ac er mwyn i'r Eglwysi a'r Cyfundeb gael pob chware teg i ystyried y pwnc yn ei holl agweddau, fod y mater yn cael ei ymddiried i bwyllgor bychan i ddwyn allan adroddiad llawn o'r gwahanol olygiadau arno, gydag unrliyw, gym- helliad neu awgrym a farIlolynloreu, ac fod yr adroddiad^hwn^ yn cael ei