Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Maenclochog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Maenclochog. Y Ddiweddar Miss Bowen, Parcymarl.-Un o'r colledion trymaf gafodd eglwys yr Hen Gapel oedd symudiad y chwaer hon. Bu yn dihoeni'n hir iawn, ond daliodd yn gryf ei hysbryd, a glynodd gyda'r cyfarfodydd hyd o fewn tri Sul cyn iddi gael ei galw. Perthynai iddi ragor- iaethau lluosog ac amlwg. Meddai ar feddwl cryf a chyflym, a tlieimlai ddiddordeb angherddol yng ngwaith yr eglwys a'r Enwad. Llwyddodd hefyd i dyfu dros bell. terfynau enwad. Hi oedd un o'r rhai cyntaf i ddangos awydd i gyfrannu tuag at y Drysorfa Gynorth- wyol, ac fel arfer estynnodd rodd sylweddol; ond ni fyddai perygl iddi byth anghofio'r eglwys gartref. Adnabyddid Miss Bowen gan gylch eang o weinidogion fuont yn lletya yn ei chartref cysurus, a chwith gan lawer fydd meddwl na chant dderbyn ei chroesaw cynnes mwyach. Merch ydoedd i'r diweddar Mr a Mrs Bowen, Parcy, marl-teulu enwog am ei fiyddloudeb, a chadwodd y ferch draddodiadau goreu y teulu i fyny hyd y diwedd. Nid oes bellach ynglyn a'r achos o'r teulu hwn ond un chwaer, yr hon a deimla fel pe bai darn ohoni ei hun wedi ei gymryd ymaith yn symudiad ei hunig chwaer. Daeth tyrfa fawr i hebrwng ei gweddillion ac i ddangos eu cydymdeimlad a'r teulu. Cymer- wyd rhan yn y ty cyn cychwyn gan y Parchn W. P. Jones, M.A., B.D., Penffordd; H. Solva Thomas, Woodstock; D. Williams, Llandeilo; a Rhys Williams, Hen Gapel, Maenclochog. Gwas- anaethwyd yn yr eglwys a'r fynwent gan y Parch J. J. Evans, offeiriad y plwyf. Sul, Hydref 8fed, traddodwyd pregeth angladdc 1 yn yr Hen Gapel gan y Parch Rhys Williams, y gweinidog, oddiar 2 Tim. iv. 7. Talwyd teyrn- ged uchel i'w chymeriad a'i ffyddlondeb; ond syniad y gynulleidfa oedd na fynegwyd mor hanner. Ein gweddi yw y bydd i'r chwaer a'r teulu ym Mharcymarl, y brodyr a'r perthynasau oil, brofi nerth y Goruchaf' i'w galluogi i gerdded yr un llwybr a hithau, fel y byddo bywyd yn fendith a marw yn elw, a chocled yr Arglwydd lawer eto o ffyddloniaid i lenwi y cylchoedd gweigion wnaed yn ddiweddar gan angeu. AEi/OD.

Advertising

I Tabernacl, Pontardawe. |

I CASTELLNEDD A'R CYLCH.I

ICYFARFODYDD.

DlWINYDDIAETH A'R COLEGAUiCENEDLAETHOL.…