Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Abertridwr. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Abertridwr. I Cymry cymreig.-Nos Sadwrn, Hydref Meg, yng nghapel Beulah, agorodd y gymdeithas uchod ei thymor eleni drwy ddarlith ar 'Hen Hanes Cwm yr Aber—yr anedd-dai a rhai o'r hen drigolion,' gan y cymrawd Dewi Aur. Llywyddwyd gan un o ffyddlon- iaid y gymdeithas ym mherson y cymrawd Isaac Lewis. Daeth eynhulliad da ynghyd i ddal ar y cyfle i glywed hanes yr ardal yr ydym yn byw ynddi. Gallwn ddweyd yn eofn na cbawsant eu siomi, drwy fod Dewi allan megis yn ei ddillad goreu, ac ni chlywsora ef erioed yn rhagoraeh na'r noswaith hon. Amlwg ydoedd olion llafur mawr a chaled cyn byth j gallai wneud gwaith mor ddestlus a chryno, a lymiwii y cyfan i gyd mewn un gair-'Ardderchog.' Siarad- wyd gan AJri A. G. Williams, Dan Davies ac Edwin Lewis--yr oll yn diolch yn gynnes am wasanaeth y d&rlitbydd. Wedi'r diolchiadau arforol, terfynwyd drwy i'r cymrawd Morris Williams ganu Hen Wlad fy Nhadau, Hyderwn, gan ein bod wedi cael cyweir- nod mor uehel, mai'n uwch, uwoh yr elo'r gan ar hyd y tyluor. GRIFFITH DAVIES. J
EBENEZER,- CRWBIN. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EBENEZER,- CRWBIN. I MarwoUtth Diacon—Mae eglwys Ebenezer, Crwbin, yn galart ar ol un o golofnsu'r achos yn y lie, nef y diweddar frawd annwyl, John Walter*, y gweydd, Penywaun. Brodor o Groesyceiliog, ger Caerfyrddin, eedd John Walters, oud treuliodd yn agon i hauner canrif yn yr ardal hon. Yr oedd yn un o aelodau hynaf yr eglwys ucbod, a gwasanaothodd ei Arglwydd yn ffyddlon am flynyddoedd lawer fel swyddog, arweinydd y gan, arolygwr ac athraw yn yr Ysgol Sul. Bu ei fywyd yn llawn o wasanaeth i grefydd, dirwest, a phob achos da. Yr oedd yn wr parchus yn yr holl ardal ac yn gymydog caredig. Ond yr oedd yn amlwg era misoedd fod y daearol dy yn graddol adfeilio, a daeth y diwedd Hydref 3ydd wedi oyrraedd 69 mlwydd oed- Y dydd Llun canlynol daeth torf luosog ynghyd i dala r gymwynas olaf'i'w weddillion- Claddwyd ef yn mynwent eglwys y plwyf. Gwasanaetbwyd ya y ty gan y Parchn R. H Jones (B), Llangyndeyrn George Evans, Pensarn a Ben Morris, Pontyberem; ac ar lan y bedd gan y Parch L Davies, B A rheithor yplwyf Analluogwyd y Parch T. W. Morgan, gweinidog yr eglwvs, i fod yn bresennol trwy afleohyd blia. Cydymdeimlir yn fawr a'r weddw a'r plant yn eu galar a'u hiraeth. Y niae dau o'r plant yn weinidogiou parchus gyda'r Auni- bynwyr, sef y Parchn W. Walters, Groeslon, Arfon, a D. D. Walters, Patagonia mab arall yw ysgrifennydd eglwys Ebenezer-Mr Alfred Walters GweddYwn ar i'r Tad Nefol daenu Ei adeti gysgodfawr dros y teulu, a'u nertbu i ddal yn yr ystorm. Llanwer hefyd y bwlch wnaed yn yr eglwys a dynion cySelyb i'r ymadawedig. Afiechyd y Giveinidog.-Dymunwn ddatgan ein cydymdeimlad llwyraf â'J Parch T. W. Morgan gweinidog parchus yr eglwys uchod a Philadelphia yn ei afleohyd blin. Da gennym ddeall ei fod erbyn hyn ychydig yn well. Y mae wedi mwynhau ieohyd rhagorol ar hyd ei oes, a dymunir ei weled yn fuan eto wedi llwyr adferyd, ac yn troi yn ei gylch pwysig fel cynt.
Hen Gapel, Maenclochog. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Hen Gapel, Maenclochog. I Y Dewrion yn Cwympo.—Tarawyd y gym- dogaeth y dydd o'r blaen gan y newydd trist fod un o'n bechgyn—Pte. Stanley Rees--wedi ayrthio at faes y frwydr. Mab oedd y miiwr ieuanc i Mr a Mrs G. Rees, Spring Villa, Maen- clochog. Magwyd ef yn annwyl yn ei gartref, a bu yn un o ffyddlonlaid y Band of Hope, yr Yogol Sul, a chyfarfodydd gwahanol yr eglwys. Cafodd ei waredu o ami gyfyngder, ond v n y diwedd gorfu arno roddi ei fywyd i lawr rhywle yn Ffrainc. Efe oedd y cyntaf o'r pentref hwn i golli ei fywyd arymaes, ac, fel y gelJid dhgwyI, teimlodd yr ardal i r byw. Cyn i'r wlad brin sycku ei dagrau, dyma'r newydd fod un arall- Pte. Jamea Price, wedi dilyn. Mab oedd efe i Mr a Mrs J. Price, Blaiua, Mynwy; ond car- trefodd am flynyddoedd gyda'i daid a'i naill. Mr a Mrs H. Price, Burlyn, ger Maenclocbog Yr oedd y dyn ieuanc hwn eto wedi ei fagu dan gytgod y eapel, ac nie gallwn lai na chredu i'r dylanwadau fu ar feddyiiau y ddau eu dilyn hyd y diwedd. Cynhaliwyd cyfarfodydd coS- adwriaathol i'r ddau ar y nos Sul cyfleus cyntaf ar ol derbyniad y newydd galarus. Llanwyd y capel ar y ddau achlysur gan gynulleidfaoedd difnfol, astud a llawn cydymdeimlad. Arwein- iwyd yn y ddau wasanaeth gan y gweinidog, y Parch Rhys Williams. Erfyniwn ar i deuluoedd a pherthynasau y ddau brofi yn helaeth o gysuron yr Efengyl yn y dydd blia, ac y b< dd symudiad dau mor annwyl hwnt i'r lien gyffioi ymgysegriad newydd ynnom i wasanaeth yr Hwn of ala am Ei eiddo trwy y glyn, ac a'u dwg i'r wlad honno 11* nad oes na brwydr na brad. AJ&OD. I
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. C YNHELIR Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ym MHONTYPRIDD yn Neuadd Newydd y Dref, ar y dyddiau Llun, Mawrth, Mercher a Iau, GorflEennaf gfed.-12fed, 1917. Swyddogton y Pwyllgor Lleol.-Cadeirydd: Parch O. LIOYD OWEN, Sardis; Is-Gadeirydd, Parch JOHN WH,I,IAMS, Hafod; Trysorydd Mr. JAMES EVANS, Ynysybwl; Ysgrifenyddion: Parchn EDWIN JONES, Rhydfelen, a RICHARD WH.UAMS, B.A., Cilfynydd. HYSBYSIADAU ENWADOL, DAI,IER SyLw.-Bydd yn hyfrydwch gan y Cyhoeddwyr osod i fewn yn rhad Hysbysiadau am Gyfarfodydd Chwarterol, Cyfarfodydd Or- deinio a Sefydlu, a Chymanfaoedd Sirol. Am bob math arall o Hysbysiadau Enwadol, megis Newid Cyfeiriad, Newid Ysgrifennydd Eglwys, Tystebau, &c., neu Hysbysiadau eraill, disgwylir y blaendal canlynol gyda'r Archeb:— 14 o Eiriau—-un tro, 1/3, a 6c. am bob tro ychwanegol. 21 eto eto 1/6 a 6c. eto 28 eto eto r/9 a gc. eto 35 eto eto 2/3 a 1/- eto Os na ddantonir blaendal gyda'r Archeb, codir y prisoedd arferol am yr Hysbysiad. gCYFUNDEB DE MORGAMNWG. 0YNHKLIR Oyfarfod Chwaiterol y (Jytnudeb uchod yn Suron, Bryncooh, nos Forober a dydd iau, Rhagfyr 13eg a'r 14eg. Bydd y Uyahadleda bore Ittu am 10.30, yn yr hon y darllemr pdpar ar hane., yr aohon yn y lie gan Mr Daviit Sims, ysgrifennydd yr eglwys. Traddoda y Oadeirydd anerofciad wrth ym?Meol o'r gitiair, a phregethir ar y Genhadaeth gan y PMoh E. Cynlais Williams, Dyffryn, MAestog. Qwahodda yr egiwys yn gynnes bawb o'r gweiuidog- ion a chynrychiolwyr yr egiwysi i'r oyfarfod. K. O. EVANS, CYMANFA MYNWY, 1917. QYJN'HiSLiB y Gymanfa uchod yo Nhynewydd, Mynydd slwyn, ar y dyddiau Mawrth a Merchor Mehefin 19eg a'r 20fed, 1917. Rhoddir y manyliou eto. J. B. LLEWELYN, Gweinidog. H. J. LEW.S, i fig. CYMANPA. MOPGANNWG AM 1917. CYNHELIR y Gymanf* uchod yn y Tabemacl, Sciwen, dyddiau Merchar a Iau, Mehefin 13eg a'r 14eg, 1917. Cyhoeddir y manylion eto. J. EVANS-JONES, Gweinidog, CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD. C't N liBLitt Cyfarfod ChwartoroJ nes f y Cyfundeb uchod yn Groeslon, Llun a Mawrth, Khugfyr y 4ydd a'r 5ed. Oyferfydd y Gynhadiedd am uc prynhawn Linn, a bydd y Oadeirydd am y flwyddyn, Mr D. R. 0. Prytherch, M.A., Penygroes, yn rhoi aneichiad. Pregethir yn un o'r odfeuon gan y Parch J. W. Edwards, Tabor, ar y pwuc—' Yr Eglwys Pilwriaethus.' uan mai hwn yw cyfarfod diweddaf y flwyddyn hoc, dymunol fydd gweled cynhulliad Iluosog yn y Gynhadiedd. Abe.erch. HUGH DAVIES, Ysg. CYMANFA UNEDIG BRYCHEINIOG A MAESYFED CYNHELIR y Gymanfa nesaf yng nghapel y PlonRh, Aberhonddu, Mai 29ain a'r 30ain, 1917. Preg- ethwyr o'r tuallnn i'r adau Gyfundeb :—Parchn A. Penry Evans, Great George-street, Lerpw), a .J. J. Williams, Treforris. D. LLOYD, | T. GWYN THOMAS, ? '?? CYMANFA SIR GAERNARFON, 1917. QlfN tlELIR y Gymanfa hon y flwyddyn nesaf yng w Nghaemarfon, Mehefin 20fed a'r 21ain. Ceir y manylion eto. JOHN WILLIAMS, v ISAAC EDWABDS, j CYMANFA MALDWYN, 1917 QYNHEL1K y Gymanfa nesaf yn y Graig, Machyn- lleth. ar y dyddiau Mercher a Iau, Mehefin 13eg a'r 14eg. Ceir ychwaneg o fanylion ato. H. WILLIAMS, B.A., Gweinidog. E. WNION EVANS, Ysg. y Oyfnndeb. BRIGHTEN YOUR HOME By getting your Electro-Plated articles Silver-Plated as new- at Small Cost. WRITE FOR FREE PRICE UST TO TOWNSHEIUD'S LTD., ERNESr STREET, BIRMINGHAM. Tysteb i'r Parch Ben Evans, Tabernacl, Barry. pEL y mae'n hysbys i lawer bellach, bu raid i'r gweinidog da uchod ymddiswyddo oherwydd afiechyd. Teimla'r eglwys yn anfodlon iddo ymneill- Luo heb ddangos ei theimladau da tuag ato yn y ffurf o dysteb. Creda hefyd fod ei wasanaeth i'w Enwad a'i wlad y fatb, fel y bydd yn dda gan ei gyfeillion a'i edmygwyr gael eyfle i ddangos yr un teimladau. Bydd yn dda gennym ni sydd a'n henwau isod gydnabod yng ngholofnau'r TTST unrhyw rodd. Ydym, ar ran y Pwyllgor, W" A'I. DAVIES, 265, Gladstone-road, Cadeirydd; ARTHUR WEBB, 31, Guthrie-street, Trysorydd; JOHN DAVIES, 15, Windsor-road, Ysgrifennydd-
AT EIN GOHEBWYR.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. APEL NEWYDD. i. Gwelir fod ein gofod yn dra phrin oher- wydd gorfod ohonom gwtogi a chynilo ein papur. Erfyniwn gan hynny ar i bob gohebiaeth a newyddion gael eu cyfleu mor fyr a chryno ag y bo modd. Mae'r adroddiadau meithion o gyfarfodydd ordeinio, sefydlu, ac ymadawiad gweinidogion yn hollol afresymol, a byddent oil ar eu hennill heb ddweyd fod pob siaradwr wedi mynegi fod yn dda ganddo fod yno,' &c. Ac nid yw manion am wyliau te, cyfarfodydd pregethu, priodasau, angladdau, &c., o fudd na diddordeb cyffredinol. Mesur byr yw'r unig un fedrwn dderbyn am gryn dro. 2. Nac ysgrifenner y ddau tu i'r ddalen. I'r fasged yr a popeth o'r fath, oblegid ni allwn ail-ysgrifennu'r ysgrif, ac ni feiddiwn orfodi ein cysodwyr i gwympo oddiwrth ras. 3. Nid ydym yn cadw cyfieithydd, felly ofer yw anfon gohebiaeth Saesneg i ni, gan ofyn i ni ei chyfieithu, &c. 4. Ni allwn ychwaith ufuddhau i'r cyfeillion sy'n anfon atom—yn Saesneg, fel rheol-i wneud crybwylliad am y peth yma neu arall yn eu lie hwy. Nid oes gennym hamdden nac awydd i fod yn glerc i neb. Parod ydym i dderbyn pob awgrym a chymorth caredig, ac nid at hynny y cyfeiriwn, eithr at y cais digywilydd i ni ysgrifennu eu neges a'u cais er mwyn eu harbed hwy. Ysgrifenned pob un ei ohebiaeth ei hun, ac yna caiff ymddangos, os yn gymeradwy. 5. Anfoner pob advertisement, enwadol a chyff- redinol, i'r Swyddfa ac nid i ni. 6. Anfoner newyddion a gohebiaethau lleol hefyd i'r Swyddfa, ond pob llythyr at y Gol- ygydd neu ysgrif fo'n trafod unrhyw fater, i ni i'n cyfeiriad personol, sef-17 GLYNRHONDDA STREivT, CAERDYDD. Y GOLYGYDD.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
KHWYMIR LLYFRAU 0 BOB MATH A MAINTIOLI AM BRISIAU RHESYMOL, AC O'R uWNEUTHURIAD GOREU, YN SWYODFA'R 'TYST, MERTHYR. ffRl 0 GATEC1SMAU (AR GAN) I BLANT, Gan y Parch. H. T. JACOB, Abergwaun. ( I-—Y Deg Goichymyn. Sef— J II.—Y Nefoedd. (III.—Y Gaethes yn Nhy Namaan. Y Tri uchod yn Un Pamphledyn.-WIS CeiniOg ioc. y Dwsin. 50 am 3s. roo am 5s. gd. Oludlad wedi ei dalu am Flaendal. ■ I'w cael o Swyddfa'r TysT.' Mbrthyk.