Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

í0 FRYN I FRYN.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

í 0 FRYN I FRYN. A YDYW'R misolyn hwn yn dod i'ch ty chwi ? Cronicl Cymdeithas Genhadol Llundain a'r Bobl Ieuainc. A welsoch chwi ef erioed ?1 A glywsoch chwi son am ei enw ef ? Tybed fod Anni- bynwyr yng Nghymru heb weld hwn ac heb glywed am ei enw ? A gawn ni yn awr dreulio oedfa ynghyd i son am dano ? Ymwel ag eglwysi ac a theuluoedd ar hyd y blynydd- oedd. Y mae mor sicr o groesi trothwy ein ty bob mis a symudiadau'r tymhorau. ac mae ganddo bob amser ei wen a'i neges, ac ni edy heb adael bendith ar ei o 1. Ceir dynion o allu- oedd meddyliol cryfion ac o ysgolheigdod uchel ac o brofiad Cristionogol diamheuol yn ei ddar- paru i'w daith a'i waith. Un o'r rheiny yw y PARCH. R. GRIFFITH. Efe ydyw Cynrychiolydd y Ty Cenhadol yn Llundain dros Gymrn, a Chymro ydyw yntau o waed ac iaith a brwdfrydedd a delfrydan. Medda ar ddynoliaeth gyfoethog, ac nid un fasw a meddal ydyw honno ond mae'n gadarn fel y graig ac yn gynnes fel yr haul. Sieryd yn hyawdl mewn Cymraeg neu Saesneg-a ieith- oedd eraill, bid sicr-oddiar lwyfan a phulpud. Y mae'r pregethwr, a'r pregethwr Cymraeg, yn gyforiog ynddo, a gwnaethai weinidog llwydd- iannus yn un o eglwysi mawrion yr Enw ad ond na chynygier galwad iddo, gan ei fod y fath anghenraid mewn cylch pwysicach. Nid yw yn wr prin mewn gwydnwch, ac ni ddigalonna i ddwyn barn i fuddugoliaeth. Y mae yn gyn- Uunydd o feiddgarwch, ac amlwg yw ei ddoeth- ineb a'i gydymdeimlad. Y mae yn frawd a chyfaill agos, a'r un pryd y mae yn weledydd pell ac yn weithiwr aruchel. Ceir ef yn ei gar- tref o fis i fis yn y Cronicl hwn, a Chymru a'i chrefydd Genhadol ydyw ei Alffa a'i Omega ef. Efe ydyw'r cyntaf—o leiaf yr amlycaf hyd yn hyn-i weld fod y werin yng Nghymru yn araf ymbellhau oddiwrth y Genhadaeth Dramor, ac efe ydyw'r pennaf i gyhnyg at ennell y bobl i'r Genhadaeth er mwyn cael yr eglwysi'n llwyrach i'w hymgymeriad Cenhadol. Defnyddia, mae'n wir, y Gynhadledd a'r Pwyllgor a'r Eglwysi i fynd at y bobl: a honno ydyw'r ffordd effeithiolaf i ddiogelu crefydd, a chrefydd eglwysig, yn ei gwasanaeth. Y mae efe wedi mynd mor agos ag y geill at y werin, a hynny, yn un peth, sydd ganddo mewn golwg yn ei dudalennau Cymraeg ar ddechreu'r Cronicl. Y mae'r Parch. R. Griffith eisoes wedi deffroi'r eglwysi i raddau anghyffredin dros Gymdeithas Genhadol Llundain. Dealler hyn, a chydna- bydder hyn, a manteisier ar hyn yn nyfodol y Gymdeithas. Nid ydym heb radd o bryder am IEUENCTYD CYMRU yn yr oes bresennol. Y mae a fynnom, bid sicr, ynghyntaf oil a ieuenctyd ein Henwad a'n heglwysi. Nid oes sail i gwyno Uawer ar y dos- barth hawddgar ac addawol hwn, os nad oes lie i gwyno am na buasai eu gwybodaeth yn rhagori ar yr hyn ydyw o'r Beibl a'u Henwad a chrefydd bersonol yn ei hysbrydolrwydd a'i chyfrifoldeb. Y maent yn ddosbarth hydrin ddigon, sef y rhai sydd yn yr Eglwys ac mor weithgar a phrydferth eu moes a hynny ydynt. Ac maent yn ddidwyll ac yn eangfrydig. Ar ar un pryd crefyddwyr amgylchiadol ydynt, ac maent yn grefyddol oherwydd eu chwaeth gyn- henid at y crefyddol a'u parch i draddodiadau. Y mae'r fath sefyllfa yn un i'w gwylio, oblegid pan ddel gorthrymder neu erlid oherwydd y Gair, yn y fan hwy a rwystrir. Hyn, ni a goel- iwn, a barodd i wr mawr ddweyd fod y pagan a mwy o reswm ac argyhoeddiad yn ei grefydd na'r dyn yng ngwlad Efengyl, am fod y dyn yng ngwlad Efengyl yn cymryd yn ganiataol fod Cristionogaeth yn wir oherwydd ei chysyllt- iadan ag ef, ond rhaid i'r pagan wrth ymhol- iadau i'w rhagoriaeth ar y grefydd sydd ganddo'n barod ac felly gafaela yn dyn yng ngwirion- eddau cadarnhaol Cristionogaeth. Modd bynnag, y mae lie i ofni mai crefydd y nacaol ydyw crefydd y dyn ifanc yng Nghymru, ac ysywaeth ei bod felly yn ei hyn hefyd. Ystyriwn fod y Cronicl Cenhadol yn un o'r misolion goreu a geir i gyfarfod a'r angen hwn yn y dyn ifanc Cymreig. Nid cawdel o wrth- ddadleuaeth ac uwch- ac ls-feirniadaeth ydyw, gyda thipyn o ffansiiaeth a chywreinrwydclllenor ac ysgolhaig, ond mae fel Actau'r Apostolion yn croniclo fieithiau syml a buddugoliaethau cadarn- haol Cristionogaeth, mewn cyflwr a chymeriad. Argyhoedda'r Cronicl hwn y darllenydd fod ganddo air iddo ef fod ganddo ei neges o'r wasg. Darlleuais am deithiwr flynyddoedd yn ol yn dychwelyd yn y nos i'w gartref yn Kiddermin- ster, ac iddo golli ei ffordd a chrwydro ar der- fynau peryglus a phan ydoedd yn y tywyllwch ar roi cam i'w angeu, canodd clychau'r eglwys, yr hyn a ddanghosodd iddo, drwy swn, ei gyf- eiriad, ac arbedwyd ei fywyd. Parodd hyn i'r teithiwr hwn roi yn ei ewyllys fod swm o arian i'w roi am chware'r gloch ar yr awr honno tra rhedai dwr, er cof am ei waredigaeth a chlywir SWll didda y clychau o hyd ar yr awr honno. Y mae gennym heddyw nifer o gylch- gronau a misolion ac wythnosolion a bar i rywun ofyn, I beth da ydynt ? Beth yw eu neges ? Ble mae'r galw am danynt ? Clychau Kidder- minster ar awr ddiwasanaeth ydynt. Ond y mae i'r Cronicl hwn ei neges, ei reidrwydd a'i werth ymarferol uniongyrchol. Y mae pobl o hyd wrth y miliynau yn y nos yn cerdded y dibvnoedd, a gwaith y Cronicl Cenhadol yw dangos eu perygl. A gawn ni roi trem ar gynnwys un rhifyn o'r Cronicl, sef i RHIFYN TACMVKDE) ELVENI ? Edrycher arno yn wir. Y mae ganddo ei natur- ioldeb a'i harddweh ei hun. Nid oes ei well am ei ffresni a'i sirioldeb, ac mae'r cwbl yn fvw ar ei dudalennau. Un felly yw darlun y Parch. David Griffith yn 1820, ac un felly yw darlun y cenhadwr ieuanc, y Parch. D. R. Phillips, 1 yr hwn a urddwyd yng Nghaerfyrddin yng Ngorffennaf eleni, ac a fu farw yn sydyn yn Ffrainc (lie mae miliynau o filwyr ieuainc) ar ei ffordd i'w faes pell. Gyda hyn ceir emyn Cenhadol ei dad, yr hwn a gyfansoddodd flyn- yddoedd Y11 ol, a'r hwn sydd yn ei fedd ers blynyddoedd bellach. Wele'r cmYll, a cheir ei thon yn y Cronicl :— 'Arglwvdd grasol, 'rym yn gofyn Anfon yr Efengyl fwyn Draw i Affric bell a thywell, At anwariaid du eu crwyn Cofia am y Malagasy China fawr a'i delwau'n llu Buan delont i foliannu Duw, am aberth Calfari.' Yn ychwanegol at hyn ceir darluniau o John Williams ac o'r agerlong John Williams, a cheir wyth neu naw o ddarluniau eraill i egluro'r maes a'r gwaith Cenhadol. Ceir ysgrif gyfoethog ynddo gan genhades ar Y Rhwystrau sydd yn yr India i lwyddiant Cyistioiiogaeth, I ac enwa dri ohouynt, sef Dosbarthiadaeth, Oll-dduwiaeth ac Arferiaeth. Y mae hi'n egluro'r tri yng ngoleuni bywyd cymdeithasol yr Indiaid a hawdd fuasai i ninnau wneud yr un modd yng ngoleuni bywyd cymdeithasol y Cymru. Y mae dosbarthgarweh mewn addysg, gwleidyddiaeth, a chrefydd yn felltith ein cenedl, ac mae'r cyfoethogion neu'r mawrion ac arweinwyr yn waeth o lawer na'r werin yn hyu. Diau y dywed ysweiniaid ffroen- uchel ac ambell ysgolhaig tordyn nad oes y fath benrhyddid ag Oll-dduwiaeth yng Nghymru ond os ydyw oll-dduwiaeth a'i thuedd i guddio a lladd yr ymdeimlad o bechod ac euogrwydd, ac i wanychu'r ymdeimlad o gyfrifoldeb per- sonol, y mae Cymru heddyw yn wir oll-dduwgar. Ceir hyn yn rhemp yn India. Y mae yng ngwaed y bobl, ac yn eu meddyliau, ac yn eu rhag- olygon. A gwir ofnadwy yw hyn am Gymru hefyd. Dywedir am yr Hindwaid eu bod ymhlith y bobl fwyaf crefyddol ar y ddaear—ac maent hwythau yn credu hyn ond wedi sylwi a rneddwl ceir mai arier a defod ydyw'r cwbl o'u crefydd. Ac yr ydym ninnau yng ngafael yr hudoliaeth gamarweiniol hon i raddau mwy nag y mynnwn gredu ein bod. Ar yr un pryd, ceir yn India gyffro mawr a chynhyddol a elwir yn gyffro'r werin.' Ceir deffroad dwfn, cryf a theiinladwy ymhlith yr iselradd. Y maent, o'r pantleoedd dyfnion a duon ac afiach y trigant ynddynt ar hyd yr oesau, yn Uygadu ar fryniau agored ac iach yli y pellter, ac maent yn cychwyn vn heidiau mawrion i'r ucheldiroedd ysbrydol hyn. Y mac'n amhosibl i'r dyn ieuan'c i ddarllen ysgrifau a manion y Cronicl Cenhadol heb ei fod yn gweld y gallu diwygiadol presennol sydd mewn Cristionogaeth, ac heb ei fod yn teimlo ei gyfrifoldeb personol ynglyn a Christionog- aeth. Dioddefir ar hyn o bryd yn ein gwlad oddi- wrth gulni a rhagfarn crefyddol. Nid culni anwybodaeth ydyw mwy nag y bu ydyw, am ei wybodaeth. Y mae ein pobl ieuainc yn weddol rydd o hyn o leiaf, mwy rhydd ydynt oddi- wrtho na'u tadau a'u mamau a bendith i'r

[No title]