Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

POB OCHR PR HEOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

POB OCHR PR HEOL. (1) Peri blinder i'r Daily Mail y mae sel rhai o lysoedd milwrol Mon ymhlaid y Gymraeg. Cyhoeddwyd llith hanner sarhaus a banner cell- weirus am Dribiwnal y Valley. Cymry go bybyr sydd yn aelodau o hwnnw. Dywedai'r Daily Mail fod deubeth yn ei nodweddu—brwdfrydedd y Cymry dros iaith eu mam, ac ysmocio baco shag.' Deallwn nad oes yno fawr o'r olaf, ychwaith, er fod Amlwch yn yr un sir, ond fod yno lawer o'r blaenaf. Gwnaed cyfeiriad at weinidog Ymneilltuol sydd yn aelod o'r Tri- biwnal, ac yn llwyddo i hudo ei gyd-aelodau, meddai'r papur, i'r un pendantrwydd Cymreig ag yntau, ac na chymer ei guro i lawr gan haer- llugrwyddSeisnig, pa un bynnag ai o Lundain ai o ble y daw. Nid drwg gennym ddeall mai'r Parch. W. Rheidiol Roberts o Pryngwran yw'r gweinidog hwn sydd wedi pechu yn erbyn tradd- odiadau Prwsiaidd y papuryn Lhmdeinig. Buasai yn siom i ni ddeall ei fod ef wedi bod yn anffydd- Ion i iaith ei fam, nac wedi cymryd ei ddenu gan y milwriad o Wrecsam ychwaith i siarad dim ond Cymraeg. (2) Eithr paham y rhaid i fan lysoedd Cymru -pobl sydd yn rhoi eu hamser am ddim, ac yn talu eu treuliau eu hunain, yn dren a bwyd a phopeth, er mwyn gwasanaethu'r Wladwriaeth —paham, gofynnwn, y rhaid iddynt gymryd eu hymbygio gan wrachod o Saeson sy'n dod atynt yn rhwysgfawr, ac ymron byrstio gan fombast a blagardiaeth yn enw Swyddfa Rhyfel ? Dod atynt fel petaent yn anwybodusion ac yn gwbl anfifit i'w swydd (yr hon na cheisiasant o gwbl), ac yn tueddu yn hytrach at fradychu eu gwlad, a'i gwerthu er mwyn gwneud ffafr a hwn ac arall ? A oes rhyw angen i ymron bob cynrych- iolydd milwrol fod yn Sais uniaith, a hynny yng Nghymru ? Ai am fod mwy o'r bwli Prws- iaidd yn y Sais yr etholir ef i'r swydd hon ? Dylai pob tribiwnal yng Nghymru hawlio fod pawb ynddo ac arno'n deall Cymraeg, a bod yr un rhyddid a chroeso i bob bachgen o Gymrc) a ddel gerbron y llys i ddweyd a dadleu ei achos yn yr iaith a lefaro bob dydd. Nis gall y ganfed ran o fechgyn Cymru wneud chware teg a hwy eu hunain yn Saesneg. Dychrynant, petrusant, ymddyrysant, ac wele eu tynged wedi ei setlo cyn iddynt allu meddiannu eu hunain. Y mae peth o'r fath cyn belled o fod yn deg a chyf- iawn ag ydoedd ymddygiad yr Aifftwyr gynt tuagat blant Israel. (3) Y mae Mr. Towyn Jones, A.S., wedi bod adref yn Llandebie yn wael ei iechyd y pythef- nos ddiweddaf. Chwith gan lawer fydd deall peth felly. Gwyddys fod Mrs. Jones yn St. Leonard's-on-Sea mewn iechydfa ers misoedd, ac er ei bod yn gwella'n sicr, eto hi gymer wythnosau yn rhagor cyn dod adref i Landebie. Wedi rhedig i lawr mae Mr. Towyn Jones—ac nid yw'n synodd yn y byd. Gwr sydd wedi rhedeg cymaint ar hyd y blynyddoedd ymhob cyfeiriad rhaid oedd rhedeg i lawr rywbryd a gall Towyn ddiolch i Ragluniaeth fawr y nef ddydd a nos am y corff cryf, graenus a roed iddo, ac a ddaliodd i redeg cyhyd. Pe na bai efe'n gwneud dim ond ateb llythyrau pobl (na chofiant, gannoedd ohonynt, hyd yn oed am amgau stamp i dalu am yr atebiad), ac yn ysgrifennu ar ran eraill sy'n ceisio swyddi a, ffafrau, anodd credu fod neb yn y Senedd yn llawer prysurach na Thowyn. Dyna dcligon o waith i lethu undyn, a'i wneud fel y gwneir ef gan Towyn a hynny nid yn awr yn unig, ond ar hyd y blynyddoedd. Y mae edrych ar y domen o lythyrau sy'n cael ei chludo tua'r Arosfa o ddydd i ddydd yn ddigon i ddychrynnu gwr cyffredin, a dylai'r postman sy'n cludojr pentwr dyddiol hwnnw gael war bonus dwbl am ei aruthr lafur. Gobeithiwn y daw Towyn annwyl ato ei hun ac i'w lawn nerth yn fuan. (4) Bu farw tri o ddiaconiaid y dref hon yr wythnosau diweddaf—dynion da i gyd, ond yr oedd dau ohonynt yn dal safleoedd eithriadol, sef Mr. William Lewis, B.A., prifathraw yr Ysgol Sir i fechgyn, a Mr. Joseph Williams, Y.H., Cae- glas, yr hwn oedd yn Uchel Sirydd Caerfyrddin ychydig flynyddoedd yn ol. Gwr tawel ond o gymeriad gwych oedd y Hall—Mr. J. Edmunds. Colled fawr i eglwys y Pare oedd marwolaeth gynnar Mr. William Lewis. Nid oedd ond gwr canol oed-.c)ddeutu liauner can mlwydd—ond yr oedd yn wr doeth, da, diwyd a dilol. Cymro o Ferthyr ydoedd. Maged ef yn Soar, 'rwy'n meddwl; ac er mai gyda'r Saeson y bu yma, eto i gyd gwyddem ninnau yn yr eglwysi Cym- reig am dano, a mawr oedd parch pawb iddo. (5) Gwr cryf o gorff, a chryf o feddwl, a chryf iawn ei benderfyniad oedd Mr. Joseph Williams. 0 fod yn weithiwr cyffredin dringodd i fod yn gyflogydd a meistr gweithfeydd ar raddfa eang, yn wr o bwys yn y sir, yn gymeriad adnabyddus a chyfrifol iawn. Nid anghofiodd ei gysylltiad a chrefydd ar hyd y blynyddoedd, ychwaith, a cheid ei weld yn mynd i'r cyrddau wythnosol yn dra. rheolaidd. Gwasanaethodd fel diacon a thrysorydd yn Lloyd-street o'r cychwyn, ac yr oedd yn golofn ddihafal ynddi. (6) Colled fawr a gafodd cymdogaeth Pen- ygroes yn Arfon ym marwolaeth sydyn Mrs. Dr. Owen. Un o ragorolion y ddaear, ac un o ffyddloniaid Soar ydoedd hi, a'r byd yn wacach 1 lawer oherwydd ei cholli. Dywed rhai sydd mewn safle i wybod a deall pethau, na welodd y cylchoedd hynny yr un debyg iddi Llwydd odd i fynd i mewn i serch pob dosbarth, yn enwedig y cleiflon a'r tlodion. Er mai angladd preifat oedd wedi ei drefnu iddi, mynnodd y cyhoedd iddo fod yn un o'r rhai mwyaf cy- hoeddus, ac yr oedd pobl y Dyffryn yn y fyn- went wrth y cannoedd yn gollwng dagrau ar ei harch.' Dyma deimlad gwr cyfarwydd iawn a hi, ac un a'i mawrygai, ac a mawrygid gancldi —Croesfryn—■ Chwaer annwyl chwerw iniii-yw orian Hiraeth am ei chwmni; Da 'i hanes sy'n ymdonni Yn newydd hoen iddi hi.' Cydymdeimlwn yn fawr a'r bonheddwr hoff Dr. Owen yn ei ofid disyfyd. (7) Gwelaf mai parhau yn llesg o hyd y mae'r Parch. R. Dervel Roberts, Hirwaun, ac y mae cyfeillion y cylch yn gwneud iddo dysteb, ac yn apelio at eraill am gymorth i galonogi ein hannwyl frawd ar ddiwedd yn agos i flwyddyn o waeledd. Gwelaf hefyd fod muniad y dysteb yn un anenwadol. Cyngor yr Eglwysi Rhyddion sydd yn trefnu pethau, er fod ein brodyr Anni- bynnol yn y cylch yn frwd gyda'r peth, mae'n amlwg. Drwg iawn gennyf feddwl am fy hen gyfaill a chyd-fyfyriwr wedi ei gaethiwo fel hyn gan hir gystudd, a deall ei fod yn parhau yn bur wannaidd, ac yn annhebyg o allu ail-ymaflyd yn ei waith am gryn amser.' Y mae torri i lawr fel hyn pan yn anterth ei ddyddiau yn beth gwir ddifrifol. Ond angherddol iawn oedd Dervel bob amser, a'i angerdd sydd y tu ol i'r torri i lawr yma, mae'n dra thebyg. Hyderwn y caiff adferiad biian, a thysteb dda i'w galonogi. Y trueni mawr yw fod cynifer o apeliadau o'r un natur yn cael eu gwneud yn yr Enwad yr un adeg—pedwar cais am gyfraniadau i dystebau. Hoffai pawb ohonom allu rhoi at bob un. Yn wyneb methu, rhaid dewis yr achosion sydd a mwyaf o gyfyngder ynglyn a hwy, a gwneud y I goreu. GWYI,FA.

I Wyddgrug.

[No title]