Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Diaconiaid Siloh, Glandwr,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Diaconiaid Siloh, Glandwr, Abertawe. (Parhad o'r Rhifyn diwcddaf). I Samuel Hughes (Sam y Gof).—Yr oedd ef yn gymeriad gwreiddiol—rhyw gymysgedd o Gymro a Sais, heb fod y naill a'r llall yii iawn. Yr oedd yntau'n selog dros yr Ysgol Sul ac yn aelod selog ohoni. Ym mlynyddoedd cyntaf yr achos yn y lie dilynai gyfarfodydd undebol eglwysi'r cylch i adrodd rhannau o'r Beibl ac holwydd- oregau oddiar ei gof. Cedwid y cyfarfodydd hyn yn rheolaidd bob chwech wythnos yn. eglwysi gweinidogaeth y Parch. Daniel Evans, Mynydd- bach. Yr oedd Samuel Hughes yn gyfeillgar iawn a Mr. Evans, a thalai ymweliadau mynych ag ef yn ei gartref ym Mrynffynnon ar Graig Trewyddfa, a byddai'n aros yn hwyr yn ei gym- deithas. Deuai Air. Bvans i hebrwng Newythr Sam hyd hen gapel y Ddinas, ac wedi sefyll ychydig fan honno, troent yn eu hoi tua Bryn- ffynnon, ac yn ol eto hyd y Ddinas. Pan gyr- haeddai Newythr ei gartref ar Brynhyfryd byddai Modryb Sian yn anil yn ei ddwrdio am fod mor hwyr. Un noson cymerodd yr hen wraig gydag ef i Brynffynnon, a tlira yr oedd y ddau hen bererin yn mwynhau'r gymdeithas, cafodd y ddwy wraig hwythau hwyl dipyn yn hapus, fel pan gyrhaeddodd yr hen gwpwl gar- tref yr oedd yn hwyrach nag arferol. Ar ol hyn darfyddodd grwgnach yr hen chwaer. Bu Modryb Sian am ryw amser yn cadw siop fach. Pan fyddai hi allan cymerid ei lie gan Newyrth Sam, ac ar yr adegau hynny byddai masnach go fyw yn y shop. Shopwr o urdd John Jones, Talysarn, oedd Newyrth Sam. Rhowch werth ceiniog o oranges, Newythr,' ebai'r bachgen. Wre, bacen i, tyma petwar i ti. Os o's racor i bod, dere miwn pan bo Mot Shan yn ty.' Yr oedd yr hen frawd yn gynnes iawn ei ysbryd, ac weithiau'n angherddol yn ei weddiau. Cofiaf ef un prynhawn Sul yn nhy yr hen chwaer Mary Richards yn un o hen dai bychain Siloh-road. Yr oedd yno le cynnes eisoes. Aeth yr hen ber- erin ar ei liniau, a gweddïai ar ran ei blant (yr oedd rhai ohonynt yn galed a diystyr iawn). Ni chlywais erioed ddim yn fwy angherddol; weithiau yn Gymraeg ac weithiau yn Saesneg, a'r hen chwaer gynnes yn y gwely yn porthi'r an nes yr oedd yno le rhyfedd. Pan wedi ei gaethiwo i'w dy gan henaint a methiant, daeth y Parch. R. Thomas, Hanover (cyn-weinidog yr eglwys), i'r ardal, ac aeth Mr. Monger ag ef o gwmpas i ymweld a rhai o'r hen aelodau oedd yn glaf. Galwasant yn nhy fy rhieni, a chefais orchymyn gan fy mam i arwain y ddau fon- heddwr i dy yr hen frawd. Yr oedd ar y pryd yn bur wael ei iechyd ac yn isel ei brofiad. Pan welodd y ddau yn dod i fewn, torrodd allan mewn Ilais cryf, wylpfus 0 Mr- Thomas anwl, arnon ni of on bod yn Tad yn ala ni i'r gwely heb ddim canw'll.' Diferodd yr hen wein- idog falm i'w glwyfau ac wedi darllen a gweddio, tawelodd yr ystorm, a daeth i deimladau gwell. Teimlaf yn bur hyderus, wedi'r cwbl, i'r hen dad gael goleu yn y glyn,' a'r 'Archofleiriad mawr i dorri grym y dwr.' Evan Grifftilt.-Glowr oedd y gwr diwyd a gweithgar hwn, ac yn selog gyda phob rhan o waith yr eglwys. Priododd a gwraig weddw oedd yn aelod o eglwys Ebenezer, Abertawe, ac mewn cysylltaid a'r eglwys honno y treuliodd weddill ei oes yn ffyddlon. Rees Dafydd.—lithol wyd ef yn y flwyddyn 1848, yr un adeg a'r hen frawd David Rees, Byddent yn newid ei gilydd yn y gwaith, a hwy ill dau fyddent yn arwain y cyrddau wyth- nosol yn absenoldeb y gweinidog. Dyn caredig, diniwed oedd, heb lawer o ddyfnder o unrhyw fath ynddo. Bu'n gyhoeddwr yr eglwys am beth amser, a byddai'n gwneud ambell i dro trwstan-fel y bydd y rhywogaeth hwnnw yn gwneud weithiati-iiiegis Bydd dyn dieithr o North y Gogledd yn pregethu yma nos Fawrth,' neu Bydd cwrdd gweddi yn nhy William Richard bore saith am Saboth.' Collodd ei swydd a'i aelodaeth am dymor, ond dychwelodd i'w Ie yn edifeiriol, a bu farw mewn tangnefedd. Joseph Evans .-Gwr bychan o gorffolaeth, ac yn ddiwyd fel crefyddwr a. masnachwr. Cyf- rwywr (saddler) oedd wrth ei alwedigaeth, a chadwai nifer o weithwyr. Yr oedd yn adna- byddus i holl amaethwyr Dlangyfelach, y rhai a dramwyent y ffordd honno i farchnad Abertawe. Dilynodd ei dad yn y fasnach, ac hefyd fel ysgrifennydd yr eglwys am flwyddi hir. TLU- iodd ef a'r hen frawd ffyddlon Rees Elias, y trysorydd, lawer noson ddiwyd i gadw pob cyf- rifon perthynol i'r eglwys. Efe liefyd oedd ysgrifennydd yr Ysgol Sul, a gwelid ef yn gynnar yn hwylio tua'r Ysgol i gael llyfrau pob dosbarth yn barod ar y bwrdd erbyn y deuai yr athraw. Un o swyddogion 1848 oedd yntau, a rhoddodd ddivvrnod o wasanaeth da i grefydd. Crefyddwr distaw oedd. Bu farw yn y flwyddyn 1873, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym Mynwent Mynyddbach. (l'w barhau.)
ENGDYNION I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ENGDYNION I A ddarilenwyd ar gyflwyniad yr anrhegion yn eu I Cylarlod Ymadawol i'r Parch, a illys. T. J. Jones, Bedlinog, Awst 18fed, 1916. Yr Wddf-dorch. EURAIDD ffril ar wddf lili-yw'r gadwyn Ergydia wawl inni Hyd Dachwedd oes boed i chwi Oes o gan i'w gwisgo hi. Yr Ancrchiad. Address fydd i chwi'n dr ysor-wedi mynd Ymhell, bell o'n goror Os gaea' du dery'th dor, Ar y mur ceir y marwor. Y Fjon. I Tomos clod arhosol—a roddwn Yn wir, haedda'i ganinol Am roddi o'i law mor ddi-lol Y pastwn i'r apostol. y Ddwy Wlawlen. Brolio yr ymbarelos-a wnewch Pan fo'r nen yn aros 0 dan wg eu dawn agos A ry' nawdd dan ddefni'r nos. Y Gadwen A nr. Yr ieuainc a'r hen a'i car hi,'—a wincio Wna yr Iancis arni Eura eich bron, mawr yw'ch bri, Cadwyn yw hon sy'n codi. Dymuniadau Olaf. Ar heolydd yr heli-O! hNi,),Iied Awelon i'ch llonni Tonnau man a chan i chwi 1.(anwo delyn y dyli'. I law doed dollars i loywi—-eich byd Yng ngwech bau yr Ianci; Ac yno'n ged rhodded Rhi Dirf iechyd yr haf i chwi. Bedlinog. R. INGRAM. I
CYFDWYNEDIG I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFDWYNEDIG I l'r Parch. T. M. Roderick, Cwmgors, ar ei briodas 5 a Miss Daisy Thomas, y Groes Weit. DW-V gornant fach groyw yu canu Wrth lifo rhwng creigau y byd, 0 bellter y bryniau yn rnynnu Nesau at ei gilydd o hyd Murmurent wrth luoedd y glannau Bob dydd a phob nos yn ddiball, Ond Uifai y naill am flynyddau Heb wybod dim byd am y llall. Yn araf i lawr tua'r glennydd Ymlifent rhwng rhedyn a brwyn, Nes clywed murmuron ei gilydd Fin nos yn cydgordio yn fwvn Bryd yma cyflyment eu camrau Ac acen gytun yn eu hiaith, A gwyddai preswylwyr y glannau Paham y cyflyment eu taith. Un afon byth mwy yw'r ddwy gornant, Yn canu'r un anthem trwy'r byd Morwynion pell foroedd o fwyniant A ddaw i'w sirioli o hyd Yng ngwenau a dagrau y tywydd Ymgrymant i ddeddfau yr lor Y ddeddf a'u dug hwy at ei gilydd Yw'r ddeddf a'u dug hwy tua'r mor. Khiwtawr. W. D. RODERICK.
Aberdar a'r Cylch.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Aberdar a'r Cylch. Y,ntadaw i ad Gwe i yiz Yniadawiad Gweinidog.—-Hiraeth mawr sydd yn ein calon o golli cwmni a gwasanaeth godidog gweinidog da i Iesu Grist ym mherson y Parch. T. Thomas, Noddfa, Godreaman (Llandeilo yn awr). Y mae beftach wedi ein gadael ers rhai wythnosau, ond nid yw yn rhy ddiweddar i gyfeirio yn y TYST at ei ymadawiad ac at y cyfarfod ymadawol gafodd ef a'i briod cyn cefnu ar y maes y bu'n gwasanaethu am 12 mlynedd gyda llwydd. Cafwyd anerchiadau campus gan y brodyr canlynol ar yr amgylch- iad Parchn. J. Lewis (M.C.), cadeirydd; E. J. Owen, Cwmaman T. Lloyd Rees (B.), Gwawr; J. Llywelyn (M.C.) E. Wern Williams; R. H. Davies, B.A. H. A. Davies D. Morris (M.C.) H. P. Jenkins a H. T. Stephens (M.C.), a lIytb- yrau oddiwrth y Parchn. D. Silyn Evans, W. S. Davies (Llwydcoed) ac eraill. Hefyd cafwyd geiriau gwerthfawr gan Mri. Richard Morgan (Trysorydd y Cyfundeb), — Williams (blaenor o Hebron), Mr. J. H. Powell, Y.H., a Gomer Jones a Roger Williams (dau o ddiaconiaid yr eglwys). Cyflwynwyd anrhegion gwerthfawr i Mr. Thomas gan yr eglwys a chan y cwrdd brodyr, ac i Mrs. Thomas gan ei dosbarth yn yr Ysgol SuI. Yr oedd gan y siaradwyr destyn ardderchog i draetliu arno, oherwynd y mae Mr. Thomas yn un teilwng o barch: ei syniadau'n uchel-gogoiiiant Duw yn nod ganddo yn ei holl gyflawniadau. Dyn cydwybodol ac unplyg. Dyn yn gwneud popeth ac yn siarad a'i holl egni dros Grist. Ei ymadroddion yn wastad yn troi o gwmpas gogoniant Duw. Dyn o brofiad ysbrydol aruchel. Ei bresenoldeb mewn oedfa yn help mawr i ddefosiwn ac addoliad-yn cyf- rannu beunydd rhywbeth at ddwyster a dif- rifwch yn ein cyfarfodydd. Dyn trwyddo addfwyn ei ysbryd, llawn cydymdeimlad tuagat y gwan. Wedi bod o gynhorthwy amhrisiadwy i ieuenctyd yr eglwys, ac yn ffyddlon i Grist ar hyn ei weinidogaeth. Hawdd fyddai i ni lenwi rhai colofnau o'r TYST a dyfyniadau o eiddo'r siaradwyr am y rhagoriaethau yng nghy- meriadau'r ddeuddyn annwyl hyn, ond ymatal- iwn, gan dymuno o galon Duw vn rhwvdd iddynt. T.E.E.
Dim Siomiant.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dim Siomiant. Dowlais yn fodlon. Mae gobeithion Dowlais yn cael eu llawn ran gan bobl Merthyr. Yr oedd yr adroddiad yn rhy bwysig i'w anghofio. 'A ddeuai amser a siomiant ? oedd y cwest- iwn. Ceir yr atebiad yma mewn geiriau sydd yn adsain mewn bodlonrwydd. Ar Mai 3oain, 1913, dywedai Mrs. L. Harris, 28 Mary Ann-street, ger capel Moriah, Dowlais, Merthyr Tydfil:—' Beth amser yn ol yr oedd fy nghefn yn boenus iawn. Ar ol plygu, anodd ryfeddol oedd ymuniawnu drachefn. Yr oedd y poenau mor ddychrynllyd fel nas gallwn droi yn fy ngwely. Poenid fi hefyd gan gur yn y pen a phenysgafnder hefyd, nid oedd y gyfun- drefn droethol yn iawn, yr hyn a ddanghosai fod yr arennau allan o drefn. Ond ar ol cymryd Doan's Backache Kidney Pills teimlais ryddhad buan, ac mewn amser byr yr oedd y poenau wedi mynd, a minnau'n iach drachefn. Yr wyf wedi cadw yn rhydd o'r gofid byth er hynny, a gallaf gymeradwyo Pelennau Doan i unrhyw berson sydd yn dioddef fel y gwnawn i.' Ar Ebrill Sed, 1916-yn agos i dair blynedd yn ddiweddarach—dywedai Mrs. Harris:-$ Gwall- haodd Pelenau Doan fi mewn gwirionedd, ac yr wyfyn teimlo yn ardderchog yn awr. Sieryd hyn yn dda am y feddyginiaeth.' Graddol wenwynir y cyfansoddiad pan mae'r arennau'n wan, ac anhwyldetau troethol, grafel, crydcymalau, clunwst a'r dyfrglwyf ydyw rha'i o'r afiechydon a ddilynant yn dra chyflym. Crisiala y sur troethol yn y cyhyrau, y giau, a'r cymalau, ac erys hylifau yn y meinwe o dan y croen. Wrth gymryd Pelennau Doan mewn pryd, y maent yn dra llwyddiannus mewn achosion o'r fath, oblegid trwy gryfhau'r arennau iachant yr achos o'r holl anhwylderau ynglyn a Invynt. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. Peid- iwch a gofyn am belennau at ddolur y cefn neu'r arennau, ond gofynnwch yn egluram Doan's Backache Kidney Pills fel y rhai a gafodd Mrs. Harris. 9