Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Bryn Seion, Gilfach Goch.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bryn Seion, Gilfach Goch. Sefyllfa'r Achos. -Par anfynych y gwelir dim o hanes yr eglwys uchod yng ngholofnau'r TYST, ond nid ydyw hynny yn nn prawf nad oes yma achos llewyrohus Y mae yma eglwys effro a gweithgar o dan ofal y bugail gofalus a'r gweinidog ieuano llafurus a ffyddlon, y Parch Emlyn Macdonald, a da gennym ddweyd fod y owbl yn cael ei goroni a llwyddiant. Yn yatod y tair blynedd y mae Mr Macdonald wedi bod yn ein mysg, y mae'r eglwys wedi cynydda 50 mewn rhif. Y mae'r cynnydd yma i'w briodoli yn bennaf i weithgarwoh difiino a phregethau grymus ein hannwyl weinidog ynghydag arddeliad yr Yfibrydlganctaidd ar y y cwbl. Gwerthfawrogir ei lafur yn fawr gan yr eglwys a'r gynulleidfa. Danghoswyd hyn yn amlwg ar ben y drydedd flwyddyn o'i wein- idogaeth, pan y penderfynwyd yn unfrydol i roddi oodiad sylweddol yn ei gyflog Amlygodd yr eglwys hefyd ei chydymdeimlad &g ef yn ddiweddar oherwydd maiwolaeth ei annwyl chwaer yn 20 oed, yr unig un oedd gartref gyda'i hanowyl fam. Y Ddyled yn Toddi.Gwn y bydd yn dda gan garwyr yr achos, yn neilltaol y rhai sydd wedi bod gynt yn aelodau o Bryn Seion, i gael ar ddeall fed y* hyn a fa yn faich trwm ac yn aohos pryder am flynyddoedd meithion yn prysur ddiflanna. Talwyd taa B400 o'r ddyled er pan y mae Mr Macdonald yn ein mysg. Nid OMj eto yn arcs o'r ddyled ond yr hyn ellir, gydag ychydig jymdrech a chydweithrediad, ei ddilen mewn ttia blwyddyn o amser. Felly gellir dywedyd fod y Jiwbili yn y golwg, pan y bydd y rhai sydd wedi dioddef pwys a gwres y dydd yn eydlawenhau yn yr oruchaflaeth. Y Gobeithlu.—Golwg lewyrohus iawn sydd ar y Gobeithlu o dan arweiniad ein parchus weinidog, a pha ryfedd, oblegid y mae efe yn ddigymhar yn ei fedr i ddysgu a thrin plant. Dyma obaith mawr yr eglwys yn y dyfodol, pan y medir ffrwyth llafur y gweinidog a'i gynorthwywyr, sef Misses S. Williams a L. Thomas, athrawesau yn yr ysgol ddyddiol, Da yw gweled boneddigeSau fel hyn yn cysegru eu hamser a'u talent gydag achos mor faddiol. Hefyd y mae Mr J. Webber, arweinydd canu cynulleidfaol yr eglwys, yn ffyddlon iawn gyda'r rhan gerddorol o'r Gobeithlu. Owmni'r Ddrama.-Y mae'n lion gennym alla dweyd fod y cwmni, o dan arweiniad medrus Mr Evan Evans, yr adroddwr enwog, wedi dechreu o dditrif ar ea gwaith o ddysgu'r ddrama boblogaidd, 'Beddau'r Proffwydi'(W. J. Gruffydd), a bwriedir ei pherffbrmio Sua deehreu'r flwyddyn. Hyderwn y bydd Hafar y cwmni yn cael ei goroni A llwyddiant eleni eto, fel y bu yn hanes perfiformiad y ddrama adna- byddus, Asgre L&n,' y llynedd—perfformiad a gafodd gymeradwyaeth gan feirniaid o fri. Bin Bechgyn Dewr.—Nis gallwn ymatal heb gyfeirio at ein bechgyn annwyl sydd yn gwueud eu rhan i gadw'r gelya draw o'n glannau, ymhlith pa rai y gellit nodi Mri Thomas W. Evans a Sam Miles, R.A.M.C., Thomas Davies a Morgan Thomas, R A.S.C., a D. Hopkin Thomas, yr hwn sydd wedi ei glwyfo yn beryglas iawn. Y mae Mri Owen Rees ac Eben Evans ar eu ffordd i'r ffosydd, ac eraill yn paratoi i fynd. Nodded y nef fyddo drostynt, a gweddiwn am iddynt gael dychwelyd yn ol arderfyn y rhyfel yn ddianaf ymhob ystyr. Oyfartodydd Blynyddol.—Cvnhaliwyd y eyf- arfodydd hyn Sul a Llun, Medi 17eg a'r 18fed, pryd y pregethwyd yn rymus ac effeithiol i gynulleidfaoedd lluosog gan y Parch J. Oldfield Davies, B.A., Ton Pentre. Teimlem fod yr eneiniad dwyfol ar y genadwri.

Advertising

IHERMON, PLASMARL.I

I 0 Frynaman i Ystaiyfera,I

[No title]

Ebenezer, Dunvant.

Tysteb Genedlaethol i'r Prifardd…

Advertising