Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
Bryn Seion, Gilfach Goch.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bryn Seion, Gilfach Goch. Sefyllfa'r Achos. -Par anfynych y gwelir dim o hanes yr eglwys uchod yng ngholofnau'r TYST, ond nid ydyw hynny yn nn prawf nad oes yma achos llewyrohus Y mae yma eglwys effro a gweithgar o dan ofal y bugail gofalus a'r gweinidog ieuano llafurus a ffyddlon, y Parch Emlyn Macdonald, a da gennym ddweyd fod y owbl yn cael ei goroni a llwyddiant. Yn yatod y tair blynedd y mae Mr Macdonald wedi bod yn ein mysg, y mae'r eglwys wedi cynydda 50 mewn rhif. Y mae'r cynnydd yma i'w briodoli yn bennaf i weithgarwoh difiino a phregethau grymus ein hannwyl weinidog ynghydag arddeliad yr Yfibrydlganctaidd ar y y cwbl. Gwerthfawrogir ei lafur yn fawr gan yr eglwys a'r gynulleidfa. Danghoswyd hyn yn amlwg ar ben y drydedd flwyddyn o'i wein- idogaeth, pan y penderfynwyd yn unfrydol i roddi oodiad sylweddol yn ei gyflog Amlygodd yr eglwys hefyd ei chydymdeimlad &g ef yn ddiweddar oherwydd maiwolaeth ei annwyl chwaer yn 20 oed, yr unig un oedd gartref gyda'i hanowyl fam. Y Ddyled yn Toddi.Gwn y bydd yn dda gan garwyr yr achos, yn neilltaol y rhai sydd wedi bod gynt yn aelodau o Bryn Seion, i gael ar ddeall fed y* hyn a fa yn faich trwm ac yn aohos pryder am flynyddoedd meithion yn prysur ddiflanna. Talwyd taa B400 o'r ddyled er pan y mae Mr Macdonald yn ein mysg. Nid OMj eto yn arcs o'r ddyled ond yr hyn ellir, gydag ychydig jymdrech a chydweithrediad, ei ddilen mewn ttia blwyddyn o amser. Felly gellir dywedyd fod y Jiwbili yn y golwg, pan y bydd y rhai sydd wedi dioddef pwys a gwres y dydd yn eydlawenhau yn yr oruchaflaeth. Y Gobeithlu.—Golwg lewyrohus iawn sydd ar y Gobeithlu o dan arweiniad ein parchus weinidog, a pha ryfedd, oblegid y mae efe yn ddigymhar yn ei fedr i ddysgu a thrin plant. Dyma obaith mawr yr eglwys yn y dyfodol, pan y medir ffrwyth llafur y gweinidog a'i gynorthwywyr, sef Misses S. Williams a L. Thomas, athrawesau yn yr ysgol ddyddiol, Da yw gweled boneddigeSau fel hyn yn cysegru eu hamser a'u talent gydag achos mor faddiol. Hefyd y mae Mr J. Webber, arweinydd canu cynulleidfaol yr eglwys, yn ffyddlon iawn gyda'r rhan gerddorol o'r Gobeithlu. Owmni'r Ddrama.-Y mae'n lion gennym alla dweyd fod y cwmni, o dan arweiniad medrus Mr Evan Evans, yr adroddwr enwog, wedi dechreu o dditrif ar ea gwaith o ddysgu'r ddrama boblogaidd, 'Beddau'r Proffwydi'(W. J. Gruffydd), a bwriedir ei pherffbrmio Sua deehreu'r flwyddyn. Hyderwn y bydd Hafar y cwmni yn cael ei goroni A llwyddiant eleni eto, fel y bu yn hanes perfiformiad y ddrama adna- byddus, Asgre L&n,' y llynedd—perfformiad a gafodd gymeradwyaeth gan feirniaid o fri. Bin Bechgyn Dewr.—Nis gallwn ymatal heb gyfeirio at ein bechgyn annwyl sydd yn gwueud eu rhan i gadw'r gelya draw o'n glannau, ymhlith pa rai y gellit nodi Mri Thomas W. Evans a Sam Miles, R.A.M.C., Thomas Davies a Morgan Thomas, R A.S.C., a D. Hopkin Thomas, yr hwn sydd wedi ei glwyfo yn beryglas iawn. Y mae Mri Owen Rees ac Eben Evans ar eu ffordd i'r ffosydd, ac eraill yn paratoi i fynd. Nodded y nef fyddo drostynt, a gweddiwn am iddynt gael dychwelyd yn ol arderfyn y rhyfel yn ddianaf ymhob ystyr. Oyfartodydd Blynyddol.—Cvnhaliwyd y eyf- arfodydd hyn Sul a Llun, Medi 17eg a'r 18fed, pryd y pregethwyd yn rymus ac effeithiol i gynulleidfaoedd lluosog gan y Parch J. Oldfield Davies, B.A., Ton Pentre. Teimlem fod yr eneiniad dwyfol ar y genadwri.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
?HYARCHER&C?l i j GOLDElfRETURHS  J-  ?REGJS?ERED??-? ? E S Facsimile of One-Ounce Packet. ,.1 Archer's Golden Returnsi The Perfection of Pipe Tob&cco. f CHI. SWSST *MB FKACMAKT. -J iumi»»i iiimiim ■ ii—w 'I'Will nwnii iivi ii
IHERMON, PLASMARL.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HERMON, PLASMARL. I Marwolaeth Diacon. -CoIled fawr i eglwys yw colli hen ddi&con oedd wedi bod yn ffyddlon am flynyddoedd lawer gyda phob rhan o'i gwasanaeth. Un felly oedd y diweddar Mr Thomas Williams, manager gwaith Spelter y Villiers, yr hwn a fa farw Medi ISfed yn 71 mlwydd oed. Yr oedd yn un o gychwynwyr yr eglwys yn Hermon. Ba'n ffyddlon i'r Ysgol Sul a'r Gobeithlu hyd y gallodd. Yr oedd yn hoff iawn o blant, a'r plant yn hoff ohono yntau. Bu yn athraw ar y plant lleiaf yn yr ysgol faoh am flynyddoedd. Dywedodd ei weinidog ddydd ei angladd mai nodwedd amlwg iawn yn ei gymeriad oedd cyfiawnder a chwareu teg, ond mai nid dyna oedd ei gryfder, ond caredig- rwydd—fod digon o ras yn ei galon i gadw ei gyfiawnder rhag mynd yn ddeddfol, a digon o gyfiawnder i gadw ei garedigrwydd rhag mynd yn feddalwch. Claddwyd ef Medi 21ain yng nghladdfa Cwmgelli. Cymerwyd y gwasanaeth yn y ty gan y Parch J G. Gough, ei weinidog Pan oedd yr angladd ar gychwyn, daeth y gweithwyr allan o'r gwaith i dalu ea gwarog aeth i un fa yn ffyddlon iddynt am flynyddoedd. Cymerwyd rhan yng nghapol y fynwent gan y Parchn W. Davies (M.C), Glandwr; T. J. Lewis (M.C), Smyrna; a J. P. Gough; ac ar Ian y badd gan y Parch S. Williams, Siloh, Glandwr Yr oedd serch Mr Williams at Hermon mor fawr a chryf fel y mae wedi gofalu na chaiff yr eglwys ddim bod ar ei cholled o'i gyfraniadau at yr achos. Trefnodd i adael swm o arian i'r eglwys fyddo'n dwyn llog blynyddol i'w rhannu rhwng y weinidogaeth a'r tlodion. ABLOD. I
I 0 Frynaman i Ystaiyfera,I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I 0 Frynaman i Ystaiyfera, I Ebeneser, Brynaman.-Bii y Parch 11:, J Owen, Cwmaman, a J. DyfnaUt Owen yn preg- ethu yma yn yr wyl flynyddol Hydref 15fed a'r 16eg. Cafwyd oyrddau da, a bu Dyfnallt yn son nawn Sal am waith ysbrydol yn y Ftrynt.1 Nid eglwys wig yw Bbeaezar er heb weinidog, a thystiai'r torfeydd astud i weithgarwch yr eglwys a doniaa'r brodyr. Bethania, Rhosainaa.Maes dymanol y Parch J. Llewelyn yw hwn-un oysgrifenyddion lleo) yr Undeb fa mor llwyddiannus. Nos lau diweddaf, cafwyd awr a banner fM yr iawn yma wrth wrando y Parch T. D ,øs, Horeb, Ltandysul, yn darlleu ei Strae o buddugol yn Eisteddfod Gwrecsam. Storiau diddorol a da oedd y rhain, a'r darllenwr yn hwylus odiaeth yn cael y dorf yn wen a' deigryn bob yn ail. Teilwng o'r Eisteddfod, ac o unrhyw gynulleidfa g&r eu gwrando. Owmllynfell —Agorwyd y Gymdeithas Len- yddol mewn hwyl dda, pryd y rhoddwyd darlith odidog gan y Parch D. Jeremy Jones ar y testyn Dan Dderwan Ganinlwydd.' Disgrif- iodd y dderwen a'i hanes a'i hoed, a diddorodd lonaid ty o bob! wrth olrhain hanes y genedl yn gymdeithasol, addysgol a chrefyddol am y can mlynedd diweddaf ac wrth fynd heibio'r Pechod Fwytawr,' a'r I Dyn Hysbys,' a'r Hen Ysgolfeistr,' aeth yr amser heb ei deimlo, ond nid heb ennyn brwdfrydedd mewn llawer bron am Gymrn lAn a Chymru lonydd. Rhiwfawr.-Swn gaeaf prysur geir dan arweiniad y Parch W. D. Roderick. Medrus yw efe am eisteddfodau a chyrddau plant. Bydd yma adrodd a chanu a chystadlu brwd y tymor hwn eto. Adran arall o'r un weinidog- aeth yw y Gwrhyd-bro wledig hyd yn hyn, ond sibrydir fod arwyddion agor gwaith neu ddau yn ymyl. Os daw hyn, dyma gyfle cynnydd braf a llwydd mawr, Pant-teg — Wil Ifan fu yma yn agor y tymor eleni gyda darlith ar Farddoniaeth a sicr j yw fod ganddo hawl ar y testyn bellach, ac efe yn bencoronog ei hun. Daeth y lliaws ynghyd i'w wrando, ac eisteddai bardd arali—y Parch Ben Davies-yn y gadair. Noson wrth fodd pawb a gafwyd, a ehanmol mawr fu ar lafur Wil Ifan. Nid syn fod Pant-teg yn caru beirdd a barddoniaeth wedi gweinidogaeth dda am dros chwarter. canrif.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EBENEZER, TYNEWYDI) Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd hanuer- blynyddol Sul a LIun, Medi 29ain a'r 30ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch Joseph James, B.A., Narberth. Cawsom weinidogaeth rymus ac amserol iawn ganddo, a bernir na chawsom erioed well cyfres o bregethau gyda'i gilydd. Yr oedd yn wledd nad anghofir gan yr eglwys a'r cylch yma. Dilyned bendith y Meistr Mawr.
Ebenezer, Dunvant.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ebenezer, Dunvant. Gwyl Bregethu-Gwsøsnaethwyd gan y Parchn T. Eager James, Aberteifi; Rees Gdffiths, M.A., B.D., Llanelli; a J. W. Smith, Mumbles. Cafwyd arser da Gwyl Ganu.-Y Sul, Hydref 22ain, cafwyd tri chwrdd canu o dan arweiniad Mr D. Turner Thomas, Abertawe. Nid pob eglwys all gynnal Cymanfa Ganu heb help eglwysi eraill, ond y mae hynny bogibl yma. Cafwyd adroddiadaa, unawdau ac areithiau rhwng y gwahanol ddarnau cerddorol. Y Gobeithlu. -Niter y plant yn y Gobeithlu yr.un noson yn ddiweddar ydoedd 271 Dyma faes i han'n dda.
Tysteb Genedlaethol i'r Prifardd…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Tysteb Genedlaethol i'r Prifardd Pedrog. Cydnabyddwyd eisoes .I. 204 6 0 Arglwydd Howard de Walden 5 5 0 Mr. William Jones, Penrhos, Lerpwl 5 0 0 Y Brodyr Lloyd, Abertawe 3 3 0 Syr Vincent Evans, Llundain 3 3 0 Dienw 2 2 0 Mr. Thomas Jones, Brynmelyn, Gwrecsam 2 2 0 Mr. E. B. Morris, Lerpwl 2 2 0 Mr. J. 0. Roberts, Walton 2 2 0 Mr. Eaibert Roberts, "Birkenhead 2 2 0 Parch. H. Elvet Lewis, M.A., Llundain 2 2 0 Parch. J. Vernon Lewis, M.A., B.D., Lerpwl 2 2 0 Mrs. Davies, Treborth 110 Mr. Vincent Edwards, Lerpwl 110 Mr. L. J. Davies, Uanuwchllyn 1 1 0 Mr. John Evans, Oxton 1 1 0 Mr. John Hinds, A.S., Llundain 1 1 0 Mr. Charles O. Hughes, Blundellsands 1 1 0 Mr. P. Lloyd Hughes, New Brighton 1 1 0 Parch. H. Harris Hughes, B.A., B.D., Lerpwl 1 1 0 Mr. John Hughes, Birkenhead 1 1 0 Chief Inspector William Jones, Lerpwl 1 1 0 Mr. Benjamin Rees, Llundain .I. 110 Mr. R. J. Roberts, Lerpwl. 110 Master Emyr Roberts, Rutherglen, Lerpwl 1 1 0 Mr. Owen Williams, Hoylake 110 Mr. R. O. Williams, Lerpwl 110 Parch. R. P. Williams, Caergybi 1 1 0 Mr. W. R. Owen, Llundain 110 Parch. W. James, Abertawe 110 Proff. J. E. Lloyd, M.A., Bangor 110 Eifionydd, Oaernarfon 0 15 6 Mr. John Evans, Denman Drive, Lerpwl 0 10 6 Parch. Lewis Jones, Tynycoed 0 10 6 Parch. William Thomas, Bootle ..?.?..?. 0 10 6 Mr. R. H. Jones, Upper Brighton. 0 10 6 Mr. W. Prytherch Williams, Elsworth 0 10 6 Mrs. Dr. Mary Davies, Llundain 0 10 0 Mr. J. R. Jones, Lerpwl. 0 10 0 Mr. Hugh Lloyd, Lerpwl 0 10 0 Mr. Stephen Roberts, Lerpwl 0 10 0 Plenydd 0 10 0 Eifion Wyn, Porthmadog 0 5 0 Mr. Cernwy Jones, Lerpwl 0 5 0 Mr. D. R. Jones, Lerpwl .0 5 0 Mrs. Hughes, Lerpwl 0 5 0 Parch. D. M. Davies, Waunarlwydd 0 5 0 Parch. Ben Davies, Pant-teg 0 5 0 Parch. G. W. Griffith, B.A., B.D., Lerpwl 0 5 0 Mr. J. Jones, Pell-street, Lerpwl 0 5 0 Miss Gwladys Pritchard, Lerpwl 0 5 0 Parch. J. J. Roberts, B.A., Birkenhead 0 5 0 Mr. Dewi Thomas, Llundain 0 5 0 Parch. G. J. Williams, Birkenhead 0 5 0 Dr. L. Davies, Corwen 0 5 0 Mr. Isaac Davies, 0 2 0 Mr. D. Griffiths, Pwllheli 0 2 6 Mr. J. H. Jonea, Birkenhead 0 2 6 Mr. Thomas Williams, Birkenhead 0 6 Cydnabyddir pob rhodd yn Y Brython a'r TYST—dau newyddiadur y mae ein cyfaill wedi gwasanaethu ei genedl a'i oes drwyddynt ers aniryw flynyddoedd. Ydym, ar ran y Pwyllgor, Yr eiddoch yn gywir, DAVID JONES, Llywydd. R. H. MORGAN, ) Trysorydd- ROBERT ROBERTS, J ion. O. L. ROBERTS, I Ysgrifen- R. VAUGHAN Joms,J yddion. Gellir talu'r tanysgrifiadau i unrhyw gangen perthynol i'r London City and Midland Bank, fel y canlyn To the Credit of the Treasurers, Pedrog Testimonial, at the 62 Castle Street, Liverpool, Branch.'
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Annwyd Gormwythus. Nurse a'i mab-filwr wedi eu gwella gan VENO'S LIGHTNING COUGH CURB. Mrs. Cheeseman, 64, Blackstock-road, Finsbury, Llundain, N., a ddywed:—' Wedi bod yn nurse brofif- esol, gallaf ddwyn tystiolaeth i werth meddyginiaeth fel Veno's Lightning Oough Cure. Gwellheais fy hun o annwyd trwm gyda Veno's, ac y mae fy mab, Gordon, yr hwn sydd gyda r fyddin y bresenol, wedi cael gwell- bad mawr trwy eu defoyddio. Y mae ef yn dioddef oddiwrth annwyd gormwythus, ond oeidw Veno's ef bob amser yn iach.' Ymddiriedwch yn Veno's y gwna well a. Peswch, annwyd, Bronchitis, Anwydwst, Dyferwst a'r P&s, Prisiau—ll^o, Is So, a 3s ym mhobman.