Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
Tabernacl, Barry Dock.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tabernacl, Barry Dock. Ethol Diacoiii(ticl,-Nos Sul, Medi I7eg, Wr eglwys uchod yn ethol deuddeg o ddiaconiaid newydd, sef Mri. John Davies, Dan Evans, John Gibby, John Jones, Dan Richards, D. Arthen Evans, Garnant Morris, Henry Davies, W. M. Davies, John Phillips, Thomas Thomas a Jacob John. Cawsant eu hethol yn hollol unfrydol, ac y maent oil yn wir deilwng o'r anrhydedd a osodwyd arnynt am eu bod yn ffyddlon ac egniol iawn. Mawr hyderwn y byddant o was- anaeth gwerthfawr inni fel eglwys. Rhodded yr Arglwydd iddynt bob doethineb a gras i wneud eu gwaith er lies yr achos a gogoniant Duw. Y nos Sul canlynol bu'r Parch. Ben Evans yn pregethu siars i'r diaconiaid ac i'r eglwys. Cafwyd pregeth nerthol iawn, ac oedfa a hir gofir. Dilvned bendith. UN OEDD YNO.
Gogledd, Ceredigion. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gogledd, Ceredigion. Aberystwyth.—Mawrth a Mercher, Hydref y lyeg a'r i8fed, cynhaliodd eglwys Baker-street ei gwyl flynyddol, pryd y cafwyd gwasanaeth y Parchn, Peter Price, B.A., D.D., Rhos, a Elvet Lewis, M.A., Llundain. Yr oedd yr Efengyl mewn nerth ac effeithiolrwydd mawr. Caffed yr had a hauwyd dyfnder ddaear yng nghalonnau y torfeydd lluosog daeth ynghyd i wrando'r genadwri gref a swynol. Y nos Iau dilynol traddodwyd darlith gan Elfed ar Williams, Pantycelyn,' yr hon a fwynhawyd gan gyn- hulliad parchus. Cymerwyd y gadair gan y Proff. Bryner Jones, Coleg y Brifysgol. Gwnaed elw sylweddol tuagat y ddyled. Cominscoch.-Cynhaliocld y ddeadell fechan hon ei chyfarfod diolchgarwch y dydd Mercher o'r blaen, ac yn odfeuon y prynhawn a'r hwyr cafwyd gweinidogaeth y Parchn. Fred H. Davies, Bethesda, Talybont, a J. D. Jones, Cellan, Llan- bedr. Yr oedd yr hin yn ddymunol, y cynull- iadau'n lluosocach nag arfer, a gwenau lief a daear trwy'r holl wasanaeth. Gwelwyd gweinid- ogion o'r cylch yn bresennol, a llywyddwyd gan weinidog parchus y lie, sef y Parch. Griffith Parry, Llanbadarn. Y mae ein hannwyl frawd wedi llafurio yn y cylch hwn gyda chymeradwy- aeth mawr am 33 mlynedd, ac y mae'r achos yn ei holl rannau yn nodedig o lewyrchus o dan ei ofal. Nid yw cyflwr ei iechyd wedi bod yn rhyw foddhaus iawn ers amser hir ond er mewn gwendid a llesgedd yn ami, eto cyflawna ei ymrwymi. adau'n bur gyson, a gwna waith efengylwr ffyddlon ymysg ei bobl. Hyderwn y ca ychwanegiad nerth yn fuan a llawer o flynyddoedd i wasanaethu ei Feistr, canys y mae ei galon yn y pulpud, a'i hoff waith ydyw pregethu Crist yn Geidwad. Marwolaeth Diacoiz.-Mewii hiraeth a gofid dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth yr hen frawd annwyl, Mr. John Samuel, Waim, Llan- badarn, yr hyn a gymerodd le yn bur sydyn drwy ergyd trwm o'r parlys. Dydd Mercher, Hydref neg, hebryngwyd ef i'w fedd gan dyrfa o wv rbucheddol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Griffith Parry (ei weinidog), J. Lewis Williams, M.A., B.Se., a R. J. Rees, M.A. (Tabernacl), Aberystwyth. Y nos Saboth dilynol cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol yng nghapel Soar, lie yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon a swyddog parchus. Dechreuodd arddel crefydd yn fore yn ei fywyd, a bu hyntiv yn fantais iddo drwy ei oes, oblegid tyfodd i fyny yn Gristion cywir a gloyw, a'i sel a'i fiydd- londeb i achos y Gwaredwr yn nodedig o amlwg. Yr oedd lliaws o bethau tra theilwng i beri cof am dano yn perthyn i John Samuel ynglyn a gwaith y cysegr, yn enwedig ei vmdrech i wneud mawl yn ogoneddus. fel yr oedd bob amser yn ffyddlon i'r Gymanfa Ganu, a dim yn ormod ganddo i'w wneud er sicrhau ei llwyddiant. Yr oedd yn deall cerddoriaeth yn bur dda, ac felly yn teimlo diddordeb mewn canu, a chaniad- aeth Eglwys Dduw. Ond bellach y mae yn canu can Moses a chan yr Oen, a thelyn gwlad y caniadau tragwyddol yn ei law byth. Ceid ef yn wastad yn ei le wrth ei waith ac yn ei gylch ei hun, wedi ei seilio a'i sicrhau. vng ngobaith yr Efengyl. Mae'r gangen yng Nghominscoch wedi cael colled yn ei symuniad, oblegid yr oedd efe yn gwir ofalu am yr achos yno, lie yr oedd ei galon a'i enaid yn y gwaith. Y mae'n chwith gennym feddwl na chawn weld ei wyneb siriol mwy yma, ond y mae arogl esmwyth ar ei ol, a'i goffadwriaeth yn hyfryd iawn. Diddaned yr Arglwydd y rhai sydd mewn galar a hiraeth ar ei ol. MOCHNO.
Hebron, Cymer.-I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Hebron, Cymer. I F. ;]Cymrodorion Blaenau A fan.—-Nos Fercher, y laf o Dachwedd, cawsom y pleser o fwynhau gwledd, a'r blasusfwyd oedd, Ein Plwyf a'i Hen Bethau.' Ond er ei fod yn hen o ran amser. yr oedd yn amlwg fod archwaeth gan y gynull- eidfa barchus oedd yn gwrandaw i'w bwyta a'i llyncu yn llwyr. Y lienor a'r cerddor galluog, Mr. Lewis Davies, ysgolfeistr, oedd ar y llwyfan yn traddodi. Ni raid i Mr. Davies wrth gan- moliaeth gennym mae ei enw yn ddigon adna- byddus i gylch eang—lawer mwy o faint na'r Cymer. Y Bobl leuainc.-Nos Iau, Tachwedd yr 2il, dechreuodd Cymdeithas y Bobl Ieuainc ar ei gwaith am y gaeaf, ac y mae'n dda gennym weld cystal rliaglen wedi ei darparu. Y Parch. D. Jones, ein gweinidog parchus, yw'r llywydd, a Mr. D. Daniel, M.E., yw'r is-lywydd. Ar y noson uchod cawsom ddarlith ar Watcyn Wyn gan y Llywydd, a uwynhawyd wledd o'r fath oreu. Cadwodd ni am awr a hanner wrth v bwrdd, yr hwn oedd yn llawn o bob danteithou. Ac os yw'r doniol a'r difyr Watcyn wedi distewi o ran y tafod, a'r llaw fu'n ddiwyd gyda'r ysgrifbin wedi peidio, y mae ei ddylan- wad yn aros ar ein gwlad a'n cenedl, ac hefyd ar ein Llywydd, am mai un o blant Watcyn yw efe. Llwyddiant Ceyddorol.Da gennym am lwydd- iant y chwaer ieuanc Miss M. C. Jones yn ennill y gradd o L.L.C.M. Hi ydyw organyddes Hebron, ac y mae'n gwneud ei gwaith yn rhagorol. Dy- muniad y lie a'r eglwys yelyw iddi fyned yn uwch eto hyd nes cyrraedd cadair angel. Merch J ydyw i Mr. a Mrs. W. Jone;, Brynteg House. T.W. <
i Achos i'r Pwyntyn Nhroedyrhiw.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
i Achos i'r Pwyntyn Nhroedyrhiw. Î Cymer Merthyr ddiddordeb yn llwyddiant trigolion Troedyrhiw. Er enghraifft, darllenir adroddiad a wnaed gan ddyn o Droedyrhiw ddeng mlynedd yn ol gyda mwy o fodlonrwydd ngg erioed pan y cefnogir ef gaii ddeng mlynedd o brawf. Awst zil, 1905, dywedai Mr. E. Ansell, 26, Cardiff-road, ger yr Orsaf, Troedyrhiw, ger Merthyr Tydfil :Arferwn ddioddef oddiwrth boenau llym yn fy nghefn, a dywedai y meddyg mai crydcymalau oedd yr achos o'r gofid. Byddai y poenau weithiau mor ddrwg fel y teimlwn hi yn fater caled i weithio, ac os plygwn byddai yn waith caled i mi ymunioni drachefn. Treiais amryw fcddyginiaethau a phlasteri, ond Doan's Backache Kidney Pills oedd yr unig foddion a'm hesmwythaodd. Gwnaeth ychydig ddognau o'r pelennau hyn y byd o les i mi; yn wir, yr wyf yn ameu y gallaswn ddal at fy ngwaith pe na buaswn wedi eu cymryd. (Ar- wyddwyd) E. Ansell.' Yn agos i ddeng mlynedd yn ddiweddarach, dywed Mr. Ansell Nis gallaf byth ganmol gormod ar Belennau Doan, oblegid hwy a'm hiach- asant ddeng mlynedd yn ol, ac nid wyf wedi cael y cytryw ymosodiadau byth er hynny. Nid ydynt byth yn ffaelu rhoddi esmwythad, ac yn ddiddadl y maent y feddyginiaeth oreu at yr arennau.' Pan y gadawa yr arennau sur troethol yn y cyfansoddiad, arhosa yn y cyhyrau a'r cymalau. ac achosa boenau a chwyddiadau caled y cryd- cymalau. Dylai poenau a doluriau y cryd- cymalau pan mae'r tywydd yn ddrwg eich arwain i ddrwgdybio fod yr arennau yn gadael y gwaed wedi ei orlwytho gan sur troethol. Achosa Doall's Backache Kidney Pills i'r aren- nau a'r bledren weithredu'n rhydd, yna teflir ymaith y sur troethol cyn iddo gael amser i aros a chrisialu. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. Peid- iwch a gofyn am belennau at y cefn neu'r aren- nau, ond gofynnwch yn eglar am Doan's Back- ache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Ansell. 10
I SEION, DREFACH, LLANARTHNEY.-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I SEION, DREFACH, LLANARTHNEY.- Gwasanaethwyd yn y cyfarfodydd diolchgar- wch eleni gan y Parchn D J Davies, B A., Capel Als; J. Davies, Capel Isaac; a RhTS Griffiths, M.A.. B.D., Capel y Pare, Llanelli. Caed cenadwri rymus ac amserol, a chasgliad rbagorol at Ysbyty Abertawe. Gwelsom yn bresennol y Parch W. James, gynt o Sarn a Llynhelyg, Dinbych. Yng Nghapel Seion y trigianna bellach, a chynnes yw'r oroeso iddo i'r cylch.
NEBO, GLYNCORRWG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NEBO, GLYNCORRWG. Cyngerdd Blynyddol.—Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyngerdd blynyddol eleni vii y capel Sadwrn, Hydref 28aiu, pryd y gwasanaethwyd gan y cantorion canlynol :-Soprano Miss A. M. Jenkins, Penygraig contralto Miss Lottie Davies, Trealaw tenor Mr. Ben Thomas, Tre- herbert boss Mr. D. J. Walters, Glyncorrwg. Cyfeiliwyd gan Mr. James Williams, A.L.C.M., Glyncorrwg. Yn absenoldeb y cadeirydd pen- odol, cymerwyd y gadair gan Capten George Thomas, Awstralia, mab i Mr. David Thomas o'r lie yma, yr hwn a ymfudodd i Awstralia tua 34 mlynedd yn ol. Mae Capten Thomas ar hyn o bryd a gofal ran o'r fyddin yn Salisbury Plain, ac yn bwriadu cychwyn i Ffrainc tua chanol yr wythnos nesaf. Ein gweddi yw ar i Dduw ei gadw a'i amddiffyn tra yn wynebu'r gelyn, ac y bycld iddo gael arbediad bywyd, ac ymweld a llu o berthynasau sydd yn yr ardal yma yn y dyfodol agos eto. Eisteddfod.—Mae pobl ieuainc yr eglwys yma yn bwriadu cychwyn ar unwaith eto ynglyn a tlirefniadau'r eisteddfod flynyddol. Bydd hon y bedwaredd eisteddfod i ni fel eglwys ei chynnal, a da gennyf allu hysbysu fod pob un wedi troi allan yn llwyddiant ymhob ystyr. Gobeithio y bydd i hon eto droi allan yr un modd. Gweinidog.Mae'r eglwys yma ar hyn o bryd heb weinidog i'w bugeilio, ac yn bwriadu symud ar unwaith i chwilio am rywun i gymryd gofal ohoni. Gobeithio a gweddlwn y bydd i Dduw llanw'r gwagle hwn yn ein plith yn fuan. Mae yma le da i weinidog i weithio, ac y mae yn yr eglwys bobl ieuainc weithgar dros ben-rhai sydd yn fodlon gwneud unrhyw aberth er mwyn cario ymlaen yn llwyddiannus y gwaith mae ein Brenin mawr wedi ei osod i ni. UN YN CARU'R ACHOS.
Penywern, Dowlais.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Penywern, Dowlais. Sid yw'r eglwys- uchod na segur na diffrwyth, fel y gwelir isod. 'Baud of Hope.—Mae'r Band of Hope wedi dechreu ar ei waith, a'r gantawd newydd wedi ei dewis, sef Y Bugail Mwyn,' a difyr yw gweld tua chwech ugain o blant yn gwledda dan ar- weiniad Mr. Benjamin Jenkins, A.C. Mae gen- nym holwyddoreg, a chwech o bersonau i siarad yn eu tro ar ddirwest. Llyfr Newydd y Plant.-—Mae pwyllgor cryf a doeth wedi gorffen y gwaith o wneud llyfr newydd o donau. ac emynau lleol i'r plant at wasanaeth oedfa'r plant fore Sul Cymnndeb. Enw'r llyfr newydd yw, Caniedydd y Plant.' Mae oedfa'r plant wedi profl'n llwyddiant hollol —a bydd y llyir hwn yn gynhorthwy mawr. Cyfarfod y Bobl Ieuainc nos Sadwrn.-Cyn- helir y cyfarfod hwn i ddysgu canu ac adrodd. Paratorir ynddo ac yn yr eglwys ar gyfer. Eis- teddfod y Nadolig. Llwydd. Y Dosbarth Darllen.■—Mae'r dosbarth hwn wedi cychwyn mewn hwyl, a rhif da yn dilyn. Yr ydym yn dechreu morio mor mawr yn y UythyT at y Philippiaid. Ein gweinidog yw'r atliraw- Cychwynnir dosbarth o chwiorydd ieuainc ar gyfer cael eu derbyn yn gyflawn aelodau. Mae yma dros ugain ar gyfer y dosbarth. Eweh vmlaen. Casgliad i'r Milwyr.—Gwnaed casgliad cryf Saboth, Hydref 22ain, tuagat anfon parseli syl- weddol i'n bechgyn ni sydd wedi ymuno a'r fyddin. Mae gennym tua 24 ohonynt, a byddwn yn ysgrifennu ac yn cofio am danynt er ymhell o'u gwlad. Bendith Duw arnynt oll. Cwrdd Diolchgarwch.—Cynhaliwyd ein cwrdd diolch yn ol ein trefn ers tair blynedd, sef rhoddi diwrnod cvfan i'r Arglwydd, a chafwyd cyfar- fodydd da' a lluosog. Yr oedd y capel wedi ei harddu gan flodau a ffrwythau gan chwiorydd yr eglwys. Da oedd gennym fel eglwys fod y brawd Thomas Thomas, Cadeirydd Cyfundeb Gogledd Morgannwg, wedi gorffen ei waith mor lan a threfnus, ac am ei anerchiad cryf a thon brof- iadol uchel tucefn iddo. Mae'r eglwys hon ar waethaf y rhyfel yn dal yn gryf, ac yn ychwanegu yn ei rhif yn barhaus. Mae'r cynulleidfaoedd yu fawrion bob Saboth, a'n hoedfa bore Sul yn hynod o luosog. Bydded i'r ychydig linellau hyn greu awydd yn yr eglwys am fwy o ffyddlondeb eto. Pob llwydd yw dymuniad Y GWR 0 BltN CASSIA MORI,AIS.