Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Gohirio'r Eisteddfod
Gohirio'r Eisteddfod PENDEEFYNIAD PWYLLGOR GSWEITHIOL BANGOR Cynhaliwyd cyfarfod o bwyllgor gweithiol Eisteddfod Genedlaethol Bangor nos Iau. Derbyniwyd adroddiadau v Pwyllgor Arianol, yn argymell gohirio'r eisteddfod hyd mis Medi, 1915. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. T. J. Wil- liams, cyn drysorydd yr eisteddfod, yn hys- bysu os mabwysiedid adroddiad y Pwyllgor Arianol y buasai ef yn ymddiswyddo. Cyflwynwyd adroddiad y Pwyllgor Arianol yn dangos y buasai y golled os gwneid i ffwrdd a'r eisteddfod yn 21,800; os gohirid hi byddai RZ.,184 yn angenrheidiol; ac os eid ymlaen gyda hi'r mis nesaf byddai P,2,734 yn angen- rheidiol. Dywedodd y Maer, fod llythyrau wedi eu derbyn oddiwrth Mr. Lloyd George a Svr Vincent Evans yn annog y pwyllgor i fyned ymlaen. Yr oedd tri o brif gorau De Cymru .wedi ysgrifenu i'r iw amcan. n Adroddodd yrysgrifenydd fod tri chor l^vnu'n nl. Eferllenwyd lltbtYr oddiwtrth yr Athro Lewis Jones yn annog v Pwyllgor Gweithiol i ohirio'r eisteddfod. J ller.odd yr ysgrifenydd lythyr oddiwrtb Mr. Edward Ed- wards, ysgrifenydd Eisteddfod Aber/ cwyth yn dweyd fod gohirio'r eisteddfod yn anhepg >r Os cynhelid yr eisteddfod eleni yr oedd yn golygu yn sicr golled arianol. Yr oedd ef am wneyd yr hyn oil a fedrai i geisio gan y pwyll- gor gydweled i ohirio Eisteddfod Aberystwyth. Cynygiodd Mr. Leo. Davies, ac eiliodd Mr. Owen Owen fod yr eisteddfod i'w chynal eleni. Cefnogai Mr. Gower Griffiths argvmhelliad y Pwyllgor Arianol, nid yn unig oherwydd. y safle a^'pnol, ond am y buasai cynal yr eis- teddfod n erbyn barn a syniad y wlad yn yr argvfn*ng__rireseno]. Yr oedd cvfarfodydd cvffelyb drv/y'r wlactwedi eu gohirio ar y tir hwn. Cvdsyniai'r Athro-Milner Barry a'r Parch T Shankland a Mr. Griffiths. Dywedodd T)eon Bangor nad oedd yn bw- iadu rhoddi ei s'vvdd i fvnv, pa b(>nderfvniad bynag y doed iddo (cyirn»radv.-vneth uchelK I wneyd yr eisteddfod vn llwyddiant yr oedd j yn rhaid iddynt feddwl am dani mewn modd hapus a 11awen. Yr oedd hyn yn amhosjbl yn yr argyfwng presenol. Ni v.deT1"p ddiwrnod y clywent am deuluoedd a pherth- ynasau a chyfeillion wedi eu lladd neu eu han- afu yn y frwydr. Cefnogodd Syr Henry Lewis y gwelliant. Yr oedd Dr. Price yn cydweled ag argym- elliad v pwyllgor, a dywedodd, os oedd yn angenrheidiol, y buasai ef yn ychwanegu at swm ei addewid. Wedi pleidleisio caed fod pump dros y gwell- iant, ond yr oedd mwvafrif mawr y pwyllgor yn bleidiol i ohijio'r eisteddfod, ac yna cafodd argymhelliad y pwyllgor bleidlais unfrydol. Ar gynygiad Mr. Ivor Pryce pasiwyd fod yr holl drefniadau arianol achoswyd gan y gohiriad i'w gadael yn llaw y Pwyllgor Arianol. Ar gynygiad Mr. Pentir Williams, pasiwyd i geisio gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedl- aethol a'r Orsedd, geisio tfefnu i ohirio Eis- teddfod Aberystwyth o 1915 i 1916.
* Milwyr Prydain yn Glanio…
Milwyr Prydain yn Glanio yn Ffrainc DERBYNIAD BRWDFRYDIG. Rhyfedd fel y mae y cyfeillgarweh rhwng y Prydeinwyr ar FfranctxT wedi dyfnhau ers pan y torodd y rhyfel allan. Bu adeg flyn- yddau yn ol pan y byddai y ddwy*genedl yn dirmyg-u y naill a'r Hall, ond y mae y dydd- iau rhenj wedi darfod, a bu v diweddar4 iau rhenj wedi darfod, a bu y diweddar4 Frenin Iorwerth yn foddion i'w dwyn i ben. Dydd Mawrth diweddaf hysbyswyd yn swyddiogol fod milwyr Prydain wedi glanio yn Ffrainc i gymeryd eu lie ar faes y frwydr gyda'r Ffrancod a'r Belgiaid. Sibrydid ers dyddiau yn flaenorol fod milwyr y wlad hon wedi cyrhaedd y Cyfandir, ond ni chyhoedd- wyd dim yn y newyddiaduron Prydeinig i hysbvsu hyny hyd dydd Mawrth. Yr oedd rheswm nellduol dros beidio gwneyd y peth yn hyabys. Nid doeth fuasai i'r gelyn wv- bod am symudiadau ein milwyr, ac y mae Ar. glwydd Kitchener wedi anion cenatdwri i'r wasg yn diolch am y modd v gadawyd allan bob manylion yngylch symudiadau y fyddin. GWAITH RHAGOROL Y LLYNGES BRiYD- EINIG. Cludwyd y milwyr Prydeinig i wahanol borthlavldoedd yn Ffrainc, yn eu mysg Bou- lougne a Havre. Mar dd" otdfi y gyfrinach wedi ei chadw fel na wyddai y milwyr eu hurain i ba le yr oeddynt yn mynd. Gos- gorddid yr agfrrlongau a gludai y milwyr gan ryfel longau Prydeinig, ae nid ces son fod y gelyn weii aflonyddu arnyat mewn unrhyw foil. Or braidd mae y wlad yn gallu sylweddoli y gwaith mawr y mae y llynges Brydeinig eisoes wedi ei wueyd. Mvnai llawer na fuasai yn bosibl glanio milwyr o'r wlad hon ar y Cyfandir hyd nes y buasid wedi gorchfygu y llynges Germanaidd. Ond wele'r peth wedi ei wneyd o fewn pythenfos ar ol dechreu y rhyfel. Dengys liyn fod y llynges Brydeinig wedi cael yr oruchafiaeth ar y rhyfel-longau Gennanaidd trwy eu rhwystro i ddctd allan o'u porthladdoedd ym Mor y Ckxgledd a'u gyru o foroedd ereill i lechu mewn porthladdoedd.. Gellir yn ddiau ddweyd fod y llynges Brydeinig wedi enill buddugoliaeth a hono yn un ddistaw. BRWDFRYDEDD Y FFRANOOD. Dyddiatr a hir gofir yn hanes Boulogne a Havre oedd y dyddiau ar y rhai y glaniwyd y milwyr Prydeinig. Ni fu cymaint brwd- frydedd yn y lleoedd hyn ers llawer blwydd- yn. Y mae can' mlynedd namyn un wedi myned heibio ers pan y bu milwyr Prydeinig ar y Cyfandir o'r blaen, a'r pryd hyny yr oeddynt yn ymladd yn erbyn Ffrainc ar faes Waterloo. Y pryd hyny yr oedd v ddwv genedl yn elynion anghvmodlawn, ond hedd- yw y maent yn ymladd: ysgwydd wrth ys- irwydd mewn achos cyfiawn. Dangosodd v Ffrancod yn Boulogne a Havre mewn modd ddigamsyniol eu gwerthawrogiad o gyfeill- garwch a chydwetihrediad Prydain ■ vn yr argyfwng preseniol. Fel yr elai y mil- wyr Prydeinig trwy heolydd y trefi, mawr oedd brwdfrydedd y trigolion, yn neillduol y merched. EniIIodld y milwyr edmygedd y Ffrancod. Nid oedd ball ar eu canmoliaeth. SCdrycha v gwyr ieuainc yn eu dillad mil- wral (khaki), yn mlodau eu dyddiau, mor gryf, mor iach, ac mor hoenus, fel mai an- amhosibl oed^j^r Ffrancod brwdfrydig beid- io eu hedmyfn. Yr oedd pob un ohonvnt t yn edrych vn filwr o'i goryn i'w sawdl. a'r farn gyffredinol oedd fod gan Brydain le i vm- falchio yn ei tbyddin er mai bechan vdyw o ran rhif. Nid oedd v milwyr vn ymddangos fel 00 yn mynd i frwydr. Yr oeddynt oil yn lion, a chwibanent a chanent ganeuon ad- I nabyddus. Lluchiai v merched flodeu at- ynt, a rhoddai y milwyr y blodeu yn eu cap- iau. Ceisiai y trigolioneu cyfarch vn Saes- I neg a cheisiai y milwyr siarad Ffrancaeg. Yr oedd pawb vn vmdidangos mewn bwyl, ac fel pe wedi anghofio fod rhvfel yn bod, ac mai 1 frwydr yr oedd y milwyr yn mynd. Ni welwyd dim cvffelyb yn Boulogue erioed o'r blaen. Yr oedd ymddygiad y tri- golion vn gvfryw nes Deri i'r milwyr Prydeinig deimlo mai hwy oedd prif wroniaid y gwled- I ydd. CUSANU Y MILWYR. I Gwersylla y milwyr tuallan i iBoulogue, ac y mae y trigolion fel pe yn cystadlu a'u gilydd ) i ddangos caredigrwydd tuagatynt. Rhydd y dynion dybaco i'r milwyr, tra mai dymuniad I y merched yw cael y llythyrenau sydd ar eu hysgwyddau i'w cadw er cof "oherwydd «»u bod yn caru y Prydeinwyr gymaint." Ni chai y milwyr lonydd pan yr elent i'r dref gyda'r hwyr. Yn y farchnadfa amgylchynid hwy gan ferched ieuainc prydweddol a chus- enid hwy yn barhaus nes, fel y dywed goheb- ydd y "Times," yr oedd eu gruddian yn llosgi. Pan yr elai y gwageni o'r gwersyil r i'r dref dychwelent gyda llwythi o anrhegion yn cynwys ffrwythau, blodeu, a gwinoedd. Caffai llawer o'r milwyr gymaint o anrhegion o'r fath fel na wyddent beth i'w wneyd a hwynt. Gvdag anhawsder y gallai y milwyr P" einig wneyd eu hunain yn ddealladwy i'r Ffrancod, a rhaid yn ami oedd defnyddio pob math o ystumiau. Dyddorol i'r eithaf oedd < gwylied y milwyr yn ceisio egluro i'r tri- golion gyda'u dwylaw beth oedd sospon pan I, y byddai eisieu benthyg un i ferwi wy. 1 gyfarfod ag anhawsder iaith rhoddid i'r mil- wyr ddalen o bapyr yn cynwys kemau Saes- neg a'u hystyr yn Ffrancaeg. Trwy gyfrwng y ddalen hon gallai v milwyr roddi ar ddeall beth oedd arnynt eisieu yn y ffordd o fwyd a diod.. Er cymaint yr anrhegion a gaiff y milwyr a r caredigrwydd a ddangosir tuagatynt gan y Ffrancod. y mae un peth a brisir yn fwy na F a, dim ganddvnt, a hwnw yw y dalen syml yn cynwvs cynghorion synwyrol Arglwvdd Kitchener, y rhai a welir mewn colofn arall. YMDDY GrIAD Y MILWYR. Y mae y gwersyil y tuallan i'r dref yn bob- peth ellid ei ddvmuno, ac y mae ymddygiad y milwyr Prydeinig sydd ar y Cyfandir. Dy- I gw-ersyll erbyn aaw 0 r gloch yn yr hwyr, ac ni chaniateir iddynt fynychu tafarnau y dref. Gvda'r amcan o reoli y gw'ersyll tynwyd allan nifer o reolau, ond dysgwylir y bydd i'r mil- wvr ymddwyn yn y fath fodd fel na bydd angen rhoddi y rheoiau hyn mewn gweithred- iad. Y mae y dystawrwydd ynglyn a'r rhyfel yn beth i'w ryfeddu ato. Dyna yw testyn siarad y milwyr Brydeinig sydd ar y Cyfandir. Dy- j wedant nad vw eu gwragedd yn gwybod dim yn mha le y maent. Pan yr oeddynt yn mynd ar fwrdd y llestri yn Southampton ni wyddent i ba le vr oeddynt yjt myned, ac yn wir nid oedd y "capten yn gwybod hyd nes yr oedd y liestr wedi mynd ugain milltir allan i r y liestr wedi mynd ugain milltir allan i'r mor. "Ni chawn," m«ddai un milwr ar ol glanio, "vsgrifenu llythyrau, oddigerth post- gerdyn i ddwveyd ein bod yn iach neu mewn ysbyty, ac ni fydd marc post arno." SYR JOHN FiPSElNCH YN PARIS. Syr J'bhn French yw Cadlywydd y fyddin Brydeinig ar y Cyfandir. Y dydd o r blaen talodd ymweliad a Paris i ymgynghori a'r Arlvwydd Poincare a phrif swyddogion y wlad. Ni freuddwydiodd y caffai y derbyn- iad a, gafodd, ac v-ddangosii wed iei syfrdanu. Dyn bychan dipyn yn swil yw Syr John French, un nad yw yn hoffi rhwysg. Yn ei dderbyn yn yr orsaf yn Paris yr oedd Syr I Francis Bertie, y Llysgenhadwr Prydeinig, a fiwyddcgion Frengig. Y tuallan i r orsaf yr oedd tyrfa fawr wedi casglu, a phan wnaeth y cadtridoe; Prydeinig ei ymddangosiad rhodd- wvd iddo dderby-Piad tywysostaidd. Ynghanol y" bonlle-fau clywid "Dnw Gadwo'r Brenin" yn cael ei chann. Nis gallai Syr John French ddeall o ba levy deuai v swn canu, ond wrth edrvch o amg^lch gwelodd dwr o Brydeinwyr ieuainc vn dal i fyny yfarer Brydeini<?. Gwir- foddolwyr Brydeinig oeddynt, a dysgwyl- ient gael eu hanfon i faes y rhyfel. Fel yr etai y cadfridog trwy yr eholydd teflid blodeu i'w gerbyd modur. Wedi talu « ymweliad a'r Arlywydd a'r Gweinidog Rhyfel aeth i swyddfa y Llysgenhadwr Prydeinig, ac ychydig wedi saith foreu Sul ymadawodd Paris i ymuno a'r fyddin, ond ni wyddis pa ffordd yr aeth nag i ba le yr aeth. Yr oedd hwn yn rhan a'r gyfrinach yn nglyn a'r rhyfel. MAKW CADFRIDOG PRYDEINIG. Dydd Mawrth ymddangosodd hysbysiad yn y newyddiaduron dyddiol am farwolaeth y Cadfridog ,Syr James Grierson. Y r oil a ddywedid oedd iddo farw yn y tren ac mai achos marwolaeth oedd anhwyldeb y galon. Yr oedd gyda'r milwyr Prydeinig ar y Cyf- andir, ac yr oedd enw y lie y bu farw ynddo yn cael ei gadw yn gyfrinach am y tybia yr awdurdodau milwrol na ddylai y gelyn gael gwybod yn mha le y mae y milwyr na beth yw eu symudiadau. Dygwyd ei gorph drosodd i'T wlad hon ddydd Iau, a symudwyd ef i'r Alban i'w gladdu. Ystyrid y Cadfridog Grierson yn filwr deallus a phrofiadol, ac fel y nesaf mewn awdurdod i Syr John French dysgwylid peth- au mawrion oddiwrtho yn gymaint a'i'" tód wedi astudio yn fanwl am rai blynyddau yn Germani arferion milwrol y Germaniaid. Yr oedd yn gyfaill i'r Kaiser, a blinid ef gan y syniad fod y Prydeinwyr a'r Germaniaid wedi dod yn elynion. Dilynir ef fel y nesaf mewn awdurdod i oyr John French gan y Cadfridog Syr Smith-Dorien, milwr wedi cael llawer o brofiad.
Meddianu Brussels
Meddianu Brussels GOLYGFA DORCALONUS YM MHRIF DDINAS BELGIUM. YMGOM A'R FFOEDIGION. Meddianodd y Germaniaid Brussels, prif ddinas Belgium, ddydd Iau. Ildiodd v Bel- giaid y dref iddynt heb geisio ei hamddiffyn, ond gwnaed hyny gydag amcan neilltuol. Pe rhwystrid byddin y Kaiser, mae'n sicr y din- istrid y ddinas brydferth gyda'i hadeiladau gorwych a'i cherfluniau a'i chreiriau gwerth- fawr. Yr oedd corff byddin y Germaniaid wedi Yr oedd corff byddin y Germaniaid wedi symud ymlaen i gyfeiriad Brussels ddydd Mercher, a rhaid oedd i'r Belgiaid gilio rhag- ddynt neu gael eu sgubo allan o fodolaeth. Diarfogwyd holl drigolion Brussels ar orch- ymyn Llywodraeth Belgium, rhag fod neb o honynt yn ymosod ar wyr y Kaiser ac yn gor- fodi'r rheiny i ddial ar y dref a'i phreswylwyr. Ond yr oedd llawer yn y dref yn gwrthwyn- ebu'r gorchymyn i ddiarfogi gan eu bod wedi paratoi i amddiffyn eu hunain drwy godi gwrthgloddiau. Ymadawodd lluoedd o'r dref i Ghent ac Ostend. Cyhoeddodd Maer y dref broclamasiwn yn apelio at y trefwyr i beidio gwrthwynebu'r gelyn na cheisio ymosod arno gan fod yr holl dref bellach ar ei drugaredd. Cafodd y proclamasiwn hwn ddylanwad rhag- orol ar y trefwyr, ac er fod y Prwsiaid megis wrth borth y ddinas aethant ymlaen gyda'u busnes bron fel arferol. Nid oedd yno fawr o gyffro, ond bu raid gwneud paratoadau helaeth ar gyfer v clwy- fedigion a'r ffoedigion oedd yn tyrru i'r dref. Cafwyd llety o ryw fath i'r rhan fwyaf o hon- ynt, ond bu raid i'r hwyr-ddyfodiaid gysgu allan yn yr heolydd. Yr oedd amryw o hon- ynt wedi ffoi gan adael eu cartrefi yn llosgi. Y mae'r Germaniaid wedi anrheithio rhannau helaeth o'r wlad a'r cledd ac a than, ac nid gormod dweyd fod miloedd lawer o'r trigolion heddyw yn ddigartref. Ar y ffordd o Lou- vain i Brussels gwelwyd minteioedd o ffoedig- ion yn dianc i ddinas noddfa, rhai mewn cer- bydau, a llawer iawn yn cerdded, a rhai yn tynu cerbydau ysgeifn gyda llwyth bych-1 an o'u meddianau mwyaf gwerthfawr gyda hwy. Yr oedd Ilawer ohonynt wedi gorfod ffoi heb eu harian na'g ceffylau na'u gwar- theg, na dim a'r a feddent. Daethai lluoedd y Kaiser ar eu gwarthaf a hwythatt heb eu disgwyl. Prin y gallodd llawer ddianc yn fyw. Dywedodd un o'r ffoedigion wrth y goheb- ydd byd-enwog Mr. Donohoe ei fod yn byw gerllaw Lou vain, ac yr oedd yn gweithio yn y caeau heb wybod fod y Germaniaid mor agos. Y peth cyntaf a welodd oedd mwg a* fflamau yn dyfod o'i dy, a chlywai o'r pellter floedd- iadau a chwerthin gwawdus yr Uhlans didru- garedd. Ni feiddiodd fynd i'w gartref, eithr ffodd heb wybod beth a ddaethai o'i wraig a'i blant. Dywedir fod y Germaniaid yn dinistrio ffermydd, pentrefi, a chnvdau lie bynnag yr elont. Lladrateir ceffylau a gwartheg. Cyn cymeryd meddiant o'r wlad o amgylch Brussels bu raid i'r Germaniaid ymladd yn hir yn nhueddau Diest, Louvain a Wavre. Ymosododd corfflu lluosog ar linell y Bel- giaid yn Louvain ddydd Mawrth, a buwyd yn ymladd a'r Belgiaid a'r Ffrancod ar hyd y dydd. Bore Mercher daeth Ilu mawr o Ger- maniaid i gynorthwyo'r rhai oedd yno'n flaen- orol, gyda chatrodau lawer e feirtjhfilwyr a llawer o fagnelau, fel y bu raid i'r Belgiaid gilio'n ol yn raddol i gyfeiriad Antwerp, un o ddinasoedd cadarnaf y byd. Ddydd Gwen- er hysbyswyd fod y Germaniaid wedi dod y tu yma i Brussels ac yn bygwth Malines sydd rhwng y brif ddinas ag Antwerp. Ni ddaeth cwsg i amrantau pobl Brussels y noson y daeth milwyr y Kaiser yno. Gwelid goleuadau ymhob ffenestr, a bore drannoeth yr cedd y strydoedd yn llawn o bobl yn blj^siniol iawn. Nid oedd y milwyr Ger- manaiad wedf cyrraedd i'r dref, ond yr oedd llu mawr ohonynt yn y wlad oamgylch, a dyma'r gair cedd ar wefusau pawb o'r tref- wyr: "Mae'r Germans wedi dod." Am unardcleg o'r wlo^h hysbyswyd fod swyddog a chwmni o filwyr wrth un o byrth y ddinas-porth Louvain—ac aeth maer y ddinas i'w cyfarfod. Hawliodd ar ran tri- golion Brussels y breintiau a estynir yn gyff- redin gan y gelyn i ddinasoedd diamddiffyn, ac fe'i hatebwyd yn fyr os nad oedd y ddinas yn ymostwng yn ddiamodol y buasai'r mag- nelau Germanaidd yn tahio ami. Gofynwyd i'r maer hefyd cyn dechreu'r ymdrafodaeth ddiosg oddiamdano bob arwydd o'i swydd, a I gwnaeth yntau hyny. Rhwng canol dydd a dau o'r gloch bu'r dorf yn y ddinas yn disgwyl yn bryderus am y milwyr. Ychydig wedi dau clywid y mag- nelau yn taranu a'r seindyrf milwrol yn canu, a yn fuan wedyn gorymdeithiodd y German- iaid drwy'r ddinas yn fuddugoliaethus. Blaen- orid pob catrawd gan ei seindorf, rhai yn wyr meirch a rhai yn z!1 wyr traed. Llusgwyd y magnelau hefyd drwy'r strydoedd, ac yn eu mysg yr oedd tua chant o fodurion rhyfel yn cario gynnau peiriannol. Yr oedd yn ar- ddangosfa fawreddog^ a bu pobl y dref yn llygad-rythu arnynt nes yr oedd yr olaf wedi j mynd heibio. Ond dywedai ami un: "Ni ddeuant yn ol drwv'n tref ni; bydd Ffrainc a j Lloegr wedi eu difodi." Yn yr orymdaith gwelwyd dau o filwyr Belgiaidd a'a dwylo mewn cyfSon yn rhwym wrth warthol cyfrwy dau o'r meirch. Pan welwyd y barbareiddiwch hwn rhoes y dorf ochenaid ddofn, ond v foment y clywodd y Germaniaid vr ochenaid ataliasant eu ceffylau gan fygwth y dorf, nid a geiriau, eithr a'u cleddyfau. I Arweiniai un o'r magnelwvr artn ieuanc wedi ei gwisgo yn nillad cadfridog Belgiaidd. Bwriedid iddi fod yn ddarlun o Frenin Bel- gium ac yr oedd wedi ei dysgu i saliwtrio'r magnelwr yn awr ac yn y man. Teimlai'r Belgiaid _dewr v sarhad hwn i'r byw, ond ymgroesent rhag dangos hynny i'r gelynion. Cynvgiodd hawker bwysi o fledau i un o'r swyddogion pan ydoedd yn pasio, a beth -iTtiaeth yntau ond troi pen ei farch ato a'i nara i lawr. Gwaeddodd un foneddiges "Y dyhiryn cas," ond ni wnaeth v swyddog ddim sylw o'r Deth ac aeth yn ei flaen. Cauwyd gorsafoed dy rheilffyrdd, y llythvr- dy, a'r neuadd drefal. Tymr.vyd baner Bel- gium i lawr vn y neuadd a chwyfiwyd baner y Kaiser vn ei lie.. Dydd Gwener cyrhaeddodd v meirohfilwvr i Alost, rhwng Brusfels a Ghent. Ni ehvf- arfu^sant a dim jrwrthwvnebiad ar y ffordd gan fod byddin Bejsium wedi cilio i Antwerp gan fod byddin Bejsium wedi cilio i Antwerp a lleoedd era ill. Dteth tua 50.000 o filwvr vchwanegol i Brussels a mvnegwvd fod tua 1,50.000 yn eu canlyn. Hysbyswyd ddydd Sadwrn fod y Germaniaid yn hawlio wytlrj miliwn o ddirwy oddiar ddinas Brussels, sef Lll am bob gwr, gwraig, a phlentyn o'r tri- golion
Llythyr Milwr
Llythyr Milwr Y GERMANIAID YN FFOI RHAG Y BIDOGAU. Wele gyfleithiad o lythyr Ffrancwr a ddaeth i'n lla-w o faes y gwaed. Wedi manylu ar eu hymdaith tua'r clawdd terfyn rhwng Ffrainc a Germani, a ymlaen fel hyn :— Yr oedd yn nos dywell pan ddaethorr. i'r ter- fyndir, a chlywem ruad y magnelau hyd dor- iad y wawr. Yn blygeiniol iawn dechreuodd y Germaniaid danio arnom gyda'u gynnau, a pharodd hyn deimlad pur arswydus yn ein plith ar y dechreu. Yr oedd swn y bwledau fel pe bai haid o wenyn yn ehedeg uwch ein pennau bob munud neu ddau. Dodasom ninnau fwledau yn ein gynnau, ac yr oedd yn dda gennyf sylwi fod ein swyddogion mor ddigyffro a phe baent mewn review ar ddydd gwyl. Toe, dyna'r gorchymyn allan. Ym- I ostjrngasom oil ar y ddaear ac anfonasom gawod o fwledau i rengoedd y gelyn. Peid- iasant hwythau a saethu am ennyd. "Ymlaen!" Dyna orchymyn eto gan ein swyddogion. Neidiasom i fyny a rhedasom ganllath ymlaen ac yna syrthio wedyn ar y ddaear a saethu. Codi drachefn a rhedeg ym- laen; yna saethu wedyn, ac felly yn y blaen hyd nes y daethom i'r clawdd terfyn. 'Yma gwelem y pyst sy'n dynodi terfynau'r ddwy wlad, ac erbyn hyn nid oedd ond canllath rhyngom a rhengoedd y gelyn. "Y bidogau," ebe'r swyddogion, a dyma ni yn rhuthro ar y gelyn, a'r bidogau ar flaen- au'n gynnau yn disg&irio fel arian yn yr heulwen. Yr oedd ofn y bidogau ar y Ger- maniaid, a rhedeg a wnaethant fel cwnhingod. Wrth fynd heibio'r pyst ar y clawdd terfyn rhoisom ysgytiad i un ohonynt, a chwympoda. Dyma ni bellach yn Alsace, y dalaeth a gipiwyd oddiarnom yn 1870. Bloeddiasom nerth ein genau, a rhedasom ymlaen i ymlid y gelyn, ond pan oeddym wedi rhedeg tua dau can Hath syrthiais i yn anymwybodol wedi fy nharo ag ergyd yr haul. Pan ddeu- thum ataf fy hun yr oeddwn yn yr ysbyty I hwn. Yr oeddwn wedi meddwl cael ail- ymuno a'r fyddin ddoe, ond gorchymynodd y meddyg i.mi aros vma am ysbaid eto. Deallaia fod Ffrainc y diwrnod hwnnw wedi ennill buddugoliaeth lied bwysig ac mai ych- ydig o'n gwyr ni a laddwyd ac a anafwvd. ennill buddugoliaeth lied bwysig ac mai ych- ydig o'n gwyr ni a laddwyd ac a anafwyd. Gwnaeth ein magnelau ni alanastr yn rheng- oe-v. y gelyn. Mae ein magnelwyr yn anelu n gymwys bob cynnyg. Ond am fagnelau'r Germaniaid, nid bob am?er v bydd eu tan- belennau yn ffrwydro, ac yn wir y mae'n amheus gennyf a yw eu powdr yn sych Cyn i ni Cyrraedd Col-du-Bonhome gwelsom aeroplane uwch ein pennau a'r faner Ffrengig yn chwyfio arni. Bloeddiasom gyda llawen- ydd, ond yn fuan canfuasom mai aeroplane Germanaidd ydoedd. Yr oedd tren yn pasio ar y pryd, a di^gynodd dwy ffrwydbelen o'r aeroplane, un ohonynt o fewn rhyw deirllath i'r tren a'r Hall o fewn deg o lathenni. Ni wnaeth y naill nair Hall ddim niwed, gan iddynt ymgladdu yn rhy ddwfn i'r ddaear. Yr oeddwn o fewn ychydig iawn i'r. lie ar y pryd. "Taniwch ar yr aeroplane," ebe'r rw" wrthym, ond eroyn hyn vr oedd yn rhy bell oauiwrthym i ni wneud 9im niwed id4i. Y mae brwdfrydedd ein milwyr ni yn ddi- ball. Mae'n swyddogion yn ymddwyn yn garedig iawn tuag atom. Cawn ddigon o fwyd a diod hyd yn oed pan yfl ymdeithio, a chig ffres unwaith yn y dydd. Y mae pawl) ohon- om wedi penderfynu ennill neu farw.
Effeithiau y Rhyfel i
Effeithiau y Rhyfel Ymhlith y gwyliau cyhoeddus sy'n cael eu gohirio oherwydd y rhyfel, ceir y rhai can- lynol Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Sasiwn Gosledd Cymru, oddigerth aynhad- ledd am un diwrnod. Ymrysonfeydd Cychod ar y Fenai. Arddangosfa Diwydiannau Mon. Arddangosfa Amaethyddol Mon. Arddangosfa Flodau Amlwch. Arddangosfa Arddwrol Caergybi. Arddangosfa Arddwrol Dol-aellau. Cyrddau Cymdeithas Hvnaftaethau Cymru. Nodachfa Genedlaethol Conwy. Arddangosfa Vlcdaii ac Ymrysonfeydd Cwrt Defaid Rhuthyn. Arddangosfa Flodau Rhnddlan. Arddangosfa Amaethvddol Dvffryn Conwy. Arddangosfa Amaethyddol Lleyn ac Elf. ionydd. Arddanqosfe Amaethyddol Fflint a Din- byeh. Arddangosfa Flodn;i'r Amwythig. Nodachfa yn Ysgol Trefdraeth.
Atal Llongau Germanaidd
Atal Llongau Germanaidd Y mae'r rhestr hon o longau masnachol Germani yn cysgodi yn New York (rhoddir he- Atal Llongau Germanaidd I fyd eu maint mewn tn.nelli):- Vaterland 56,000 George Washington 25,570 Kaiser Wilhelm II. 19,361 President, 18,168 President Grant 18,072 Pensylvania 13,332 Grosser Kurfuerst. 13,243 Barbarossa 10,915 Prinzessin Irene 10,881 Friedrich der Grosse. 10,695 Hamburg 10,531 Koenig Wilhelm II 9,410 Pisa 4,959 Prinz Joachin 4.760 Prinz Eitel Friedrich 4,650 Prinz Joachin 4,650 Allemannia 4.630 S-irnia 3,602 Graecia. 2,799
Ffoi o'r Pentrefi
Ffoi o'r Pentrefi GWRAGEDD A PHLANT YN DIANC RHAG Y GELYN. Daeth y Thyfel ar aideg tra anffodiis i amaethwyr Belgium. Yr oedd y cynhaeaf ar ddechreu pan glywid corn y gad, a bu raid ,i bawb ond y gwragedd a'r plant a'r henaf. gwyr adael y cryman a'r bladur ac ymafiyd' yri y gwn a'r cledd. Ond daliodd yr hen bobol a'r crwragedd ati er gwaethaf popeth i gynhaeafu'r yd, a dywedir fod ymladd a'r cledd a medi a'r cryman yn nrynd ymlaen mewn caeau cyfagos. Erbyn heddyw, fodd bynag, y mae'r gwr- agedd a'r plant wedi gorfod ffoi o'u car- trefi o flaen lluoedd y Kaiser. Ddydd lau (medd gohebydd) euthum mewn modur drwy aantryw o ibentrefi Belgium. Daethum yn gyntaf i A lie yr oedd holl !bobl v pentref wedi ymgasglu yn yr heolydd yn siarad am y rnyfel. Euthum ymlaen i B a chyfartma a dyn ar ftisicl ddywed- odd wrthyf fod dauar bymtheg o wyr meirch y Germaniaid wedi dod i le cyfagos i edrych ansawdd y a lad a'u bod y i ymguddio yn y coed geriL,,iw"r heol. Eaeth un ohonynt all- an a sylwais arno yn edrych tuag atom gyda spienddrych, ac yn fuan wedyn saethwyd er- Zl:yd a throais innau yn fy ol. yda'.r .wr a'r beisicl yn fy nghanlyn. Yna euthum i gyi- eiriad C -— ac ar v ffordd cyfarfuin a llawer o wladwyr yn ffoi rhag y gelyn. Dywedas- ant wcthyf fod y Prwsiaid yn ymyl, ond prin y gallwn eu credu gan fy mod yn tybio fod byddin BclgfUm thyngorf a'r geiyn. Euthum yn fy rnlaen yn ara deg ar hyd ffordd goediog a deuthum i'r pentref nesaf D Yr oedd y bobl yn prysura o'u car- trefi gan yrru eu hanifeiliaid o'u blaenau ac yn cario cymaint ag a fedrent o'u meddianau gyda hwy. Euthum drwy'r pentref, ac yn sydyn deuthum ar dlraws deuddeg o wyr meirch Germani yn aros ar y ffordd. YT oeddynt tua 200 o latherii o bellter oddiwrth- yf. Edrychais arnynt drwy spienddrych, a sylwais ar un ohonynt hwythau yn gwneud yr un modd. Arhosais yno iddo gael gweld mai nid milwr oeddwn, ac yna troais y modur yn ei ol. Wedi cyrraedd y pentref rhybudd- iais y trigolion fod v Germaniaid yn agoshaa, ac arhosais yno nes yr oedd pawb ohonynt wedi ffoi. Dilynais hwy yn araf, a phan oeddwn ychydig bellter o'r pentref gwelwn v Germaniaid yn dyfod i mewn a ohymerwyd meddiant o'r Ile. Tvnaaant faner Belgium i lawr a thorasant wifrau'r teligraff. Codais gymaint ag a allwn o wragedd a phlant i'r modur, a chyn hir yr oeddym yn 01 yn A Toe, dyma ffoedigion o wa- hanol rannau o'r wlaid yn cyrraedd i'r lie, a chlywid rhuad y magnelau yn y pellter. Yr oedd y gwragedd wedi ymwisgo yn eu dill- ad goreu, a'r gwyr yr un modd, gan adael eu dillad gwaith yn eu cartrefi. Wedyn gwelais rai yn dyfod i mewn yn eu dillad gwaith. Yr oedd amryw wragedd yn caro plant, rhai mamau newydd roi genedigaeth ac eraill ar fin esgor. Yr oedd rhai o'r dynion yn ddrwg iawn eu tymer am na adiewid iddynt axn- i ddiffyn eu cartrefi. Euthum yn ol i gyfeiriad D ddwywaith gan ddyfod a llwyth o wragedd a phlant gyda mi bob tro. Yn ymyl pentref E gwelais wyth o wyr meirch y Geiraianiaid (Uhlans) a'r munud nesaf saethwyd atynt gan un o'r pentrefwyr oedd ar y pryd yn ei fwthyn. Rhedtodd nifer o wra-gedd dychrynedig allan o'r ty ac i lawr yr heol, ond gwaeddai'r dynion am iddynt aros yn eu tai. Yr oedd rhai plant hefyd vn rhedeg yn ol a blaen yn yr heol yn crio. Drwy drugaredd yr oedd yr Uhlans wedi troi yn eu holau cyn i'r Belgiaid saethu, ac ni chymerasant sylw o hono. Milwr clwyfedig oedd wedi saethu'r ergvd ac fe'i dygasom ef a nifer o wragedd aphlant yn ol i A Golygfa. drist oedd gweled holl drigolion v fro yn gadael eu cartrefi, y naill ar ol y llall, vn nwylo'r Germaniaid. Fel rheol rhoi'r rhyb- udd cyn i'r. gelyn feddiannu trefydd diam. 'ddiffyn, and yn yr ardaloedd hyn daeth vr Uhlans pan nad oedd neb yn disgwyl am danynt, ac nid oedd neb o filwyr Belgium i'w gweld yn unman.
.Beddau y I laddedigvon
Beddau y I laddedigvon OLION Y FRWYDR YN HAELAN. Rhydd gohebydd arbenig y .'Daily News" yn Brussels adroddiad trist o'i ymweliad ae maes brwpydr Haelan, ar wastadedd Diest. t<Pan peth fgweloidd y tyddynwyr yn brysur dori beddau i 1,2100 o Germaniaid gwympasant yn y frwydr dydd Mercher. Yn yr un toaes ceir beddau Germaniaid a Belgiaid, yrighyd a nifer o geffylau. Bu y tyddynwyr wrthi am ddau ddiwrnod cyfain yn tori'r beddau, ac yr oeddynt wedi hen ddiflasu ar y gorchwyl. Y mae yr yd ar y meusydd yn barod i'w gynhauafu, ond nid yw yn deb.s y ca lawer o hono ei gludo i mewn i'r yd- ianau. Mewn rhai ca-eau oeir darnau tywyll-— olion gwaed dynion a cheffylau. Yn ac o gwmpas pentref Haelan y bu y frwydr fwyaf. Collodd y Germaniaid dair rhan o bump o'u byddin o bum' mil. Lladdwyd dwy fil, clwy- fwyd wyth gant, a chymerwyd tri chant yn ga'rcharorioii. Dywedir i'r Belgiaid golli 110 o laddedigion, ond ni roddir rhif y clwyf- edigiou. Bechan oedd y frwydr o'i chym- liara a'r byddinoedd oedd ar y maes, Yr oedd maes y frwydr oddeutu tair milldir o hyd; ac y mae olion yr alanas i'w gweled yn amlwg. Y mae y pentref yn adfeilion—yr oedd yr ergvdioti o'r gynau wedi gwneyd hafoc ofn- n adwy. Ar hyd maes y frwydr ceid digon o olion y gy-liaran-frynau, cleddyfau, pidogau, cyfrwyau, etc. Cesglid y rhai Eyn at eu gilyda yn pn pentwr, er eu cynwjrno i'r awdurdodau milwrol. Ar yr adeg yr oedd y gohebydd vn ysgrifenu yr oedd y gelynion o fewn milldir i'r lie, a gallent ail-ymosod y cyfle cyntaf possibl.
Prydain : Awst, 1914.
Prydain Awst, 1914. J. Do, ceisiwyd dy bryrru a chrogbris coward- iaeth, Soniasant am "heddweh" yng nghysgod y sen. Gwell Angeu na Ch'wilydd ac erch ddamned- igaeth f Bradwriaeth ddifwynai'n hanrhydedd tra nen !— MedcP Prydain, hen Brydain y Jewrion di-nam A'i chofion ddigofaint ^yn llosgi yn fflam! II. Hen wlad yr anrhydedd a'r bri! Yr ym ninnau Yn dilyn y dewrion, yn ffyddlon i'n tud- Yr hoffwlad amgaerwyd a chyrff ein cyndad- au- !S £ ae'u rhuddwaed yn dadleu gwerth Rhydd- id mor ddrud; Caiff taran y tabwrdd a mellten y cledd Roi ateb i ddirmyg y^r Ellmyn dihedd II.. Hfi-rdd Brydain Ni drengwn, rhown bopeth sy'n bridwerth I E.r nnvyn. dy anrhydedd, er iawnder a gwir; Ein meib i frad-frwydra* y mor rown yn aberth— I'r cadfaes a'i uffern o ddial a chur; A chynnal dy glod a chvfiawnder dl-drnnc, Fydd balchder ein dewr fel yn oesau'r ystanc. IV. Nid -ofuwn Farwolaethyn a.wr anger:octvd, Di-dranc yw Anrliy-dedd fel purdeb y Nef; Ein breichiau fydd cryfod agneu die-yfvd, A'n crvfder o Dduw, ac 9 Dduw bydd ein lIef: Mae ysrryd arwriaeth y gwarchae pob dor, Boed Rhyddid i Brydain tra mvnvdd a mor r Mae ysrryd arwriaeth yn gwarchae pob dor, Boed Rhyddid i Brydain tra mvnvdd a mor f ANELLYDD. Llanfair ym Muallt.
/ Nodion Rhyfel
Nodion Rhyfel Gweddia Egl^vys Loegr dros Brydain, yr Eglwys Lutheraidd yn Germani dros Ger- mani, Eglwys Groeg d»^s Rwsia, a'r Eglwys Babaidd dros Awstria yn Awstria a ifiros Ffrainc yn Ffrainc. Y mae'r anhysondeb anesboniadwy yn dangos yn glir lwybr dyl- edswydd yr Eglwys Gristionogol, sef nad oes yr un enwad o honi i fod yn gaethferch i allu gwladol. Dyma un o bethau mawr yr adrefnu. Rhaid rhyddhau crefydd o nodded wladol, fel y medro sefyll dros ei hegwyddorion ei hun, a gosod ei hwyneb fel caselltr yn erbyn beilch- ion gwaedlyd, ac anynol. Hi yw ei offeryn Ef i ddadymchwel myfyrion ofer cenhedloedd. Ymwroled, newidied ei buchedd; a hi a saif. Dyma warth ei hymgyfathrach a'r byd, a phwy wyr nad gwaredu ei Eglwys yw amca.n Duw yng ngollwng dynion i ffyrdd eu balch- ter. A dwyllodd Germani ei hun a difriaeth Ceidwadwyr Prydain, a fu hi'n ddigon ehud i wrando a chredu rhemp Mr. Bonar Law a'i gyfeillion. Os do, hi gamgymerodd yn ddi- frifol. Difriwyd y Llywodraeth Ryddfrydol hon yn ofnadwy, bychanwyd hi'n anheilwng gan Arglwyddi blin, a chan wleidyddwyr bychain. Os credodd Germani eu baldordd, hi ga achos i edifaru'n chwerw. Beth ynte a'i harweiniodd i'r alanas fawr hon? Hi gamfarnodd yn rhywle, a dichon fod cyn- hawsed iddi gamfarnu'r Llywodraeth hon a dim. Hawdd camfarnu'r goddefgar. m » Mae yma ddegau o filoedd o Germaniaid yn ein gwlad, a rhai yma er's haner oes ac ychwaneg, yn wladwyr bellach o ran iaith a chalon. iGaciawer i ni eu parchu; y maent hwy druain yn ddigon dieuog a diniwed. Boed i ni ymddwyn yn fawrfrydig hyd yn oed at genedl y gelynion. Medr dynoliaeth fawr a chalon dda feluso peth ar erchyllterau rhyfel. Dyma gyfle i weithredu crefydd mewn cysylltiad od iawn. Ni bydd parchu'r gtlyn yn un anfantais l'n gwladgarwch a'n cenedl- garwch ni. Yn Llys Ynadol Trefol Caernarfon, ddydd Llun, bu'r ystusiaid yn ystyried Ilythyr an- fonwyd atynt i erfyn arnynt geisio cwtogi or- iau yfed yn y tafarndai yn yr argyfwng pre- senol. Dywedodd Mr. Charles A. Jones, clerc yr ustusiaid, eu bod wecji gohirio'r mater am ychydig ddyddiau er mwyn gwneyd ymhol- ladau. Fore Llun, cyhuddodd yr Uwch-Arolygydd Edward Williams ddau German oedd ar long sydd yn yr harbwr o Denmarc. Fe'u cymer- wyd i orsaf yr heddlu hyd nes y trosglwyddir hwy i'r-awdurdodau milwrol. Dywedodd y capten mewn sgwrs a gohebydd yr "Herald" mai bachgen 16 oed yw un o honynt ai fod wedi ei eni yn Germani ond wedi byw y rhan fwvaf o'i oes yn Denmarc. Yr oedd y capten hefyd wedi ysgrifenu i Consul Denmarc yn Lerpwl, ond hyd yn hyn nid yw wedi cael atebiad. *•» Daw llu o adroddiadau i law am greulon- derau milwyr Germani yn erbyn dinasyddion Liege a Limberg. Saethodd y Germaniaid ddau blentyn saith oed am rybuddio milwyr Belgium o'u dyfodiad. Yn Vise, llofruddiwyd trigolion ffermdy i gyd ag eithrio un ddynes ieuanc a aeth yn wallgof oherwydd ymddygiad gwarthus milwyr Giermani tuag ati. Yn Bernan, taniwyd ar blentyn 12 oed a'i nain. A mae'r mwyafrif o felinau cymdogaeth Hyde yn segur, ac oddeutu deng mil o weith- 'wyr wedi eu hatal. Y mae cronfa rhyfel y Maer wedi cyrraedd i chwe chant o bunnau. • Gorchymynwyd i'r holl Germaniaid a'r Awstriaid adael Portsmouth o fewh tridiau. Ymddengys fod yr heddlu'n brysur yn eu troi allan o'r dref. < 1 Yn mysg y rhai sy'n cynnyg ymrestru i fynd i frwydro i'r Cyfandir y mae geneth ieuanc o Lundain. Fel hyn y cynnygiodd ei hunan: 'Rwyf yn ddeunaw oed, ac yn gryf. 'Rwy'n berffaith foddlawn i dorri fy ngwallt, a mynd i ffwrdd fel milwr i ymladd yn erbyn y Germaniaid." *•■♦ Deallir fod tros bum cant o garcharorion Germanaidd mewn hen weithfeydd peiriannol yn Queen's Ferry, ar lan y Ddyfrdwy. Tir- iogaethwyr sir Gaer sydd ar wyliadwriaeth. Cymer y Germaniaid ran mewn campau a chwareuon, a mynegir fod band yn y gwersyll. • Y mae Ardalydd Mon wedi troi rhan o Bias Newydd, sir Fon, yn ysbyty i filwyr a longwyr clwyfedig. Darperir digon o le i 280 o glwyfedigion. t Ym marchnad yd Hull ddydd Mawrth yr oedd yr yd yn rhatach o chwe swllt y chwar- ter. Yr oedd prynwyr yn brin, ond y cyflen- wadau yn ddigonol. Rai dyddiau yn ol, taniodd dwy wiblong I Germanaidd ugain o ffrwyd-belennau ar oleudy Dagerrot, yn rhanbarth orllewinol Ynys Dago, yng Nghuilfor .Finland.. Fpdd ibynnagf ni wnaed dim niwed. Y dydd o'r blaen cyrhaeddodd y llongau rhyfel Tennessee a North Carolina, perthynol I i'r Unol Dalaethau, i Falmouth. Fe gofir i'r rhai hyn gael eu hanfon i Ewrop gyda phedwar can mil o bunnau i gynorthwyo Americaniaid oedd yn annalluog i adael y wlad hon. Y mae'n debyg y gwerir mwy ar y rhyfel hon nag a wariwyd ar unrhyw ryfel erioed. Gwarioad Prydain iRwsia, a Ffrainc, £ 400,000,000, yn y Crimea; gwariodd Ffrainc 9370,000,000, yn y rhyfel a Rwssia. Gwariodd RwSia P,190,000,000, yn ei rhyfel a Thwrci, a chostiodd y rhyfel yn Neheudir Affrica B200,000,000 i Brydain Fawr. Ond nid yw y rhai hyn ond symiau bychain wrth yr hyn a werir heddyw. Y mae ganddynt, beth bynag, filiwn o daynion bob un, ac y mae'n debyg y cyst v rhyfel iddynt rhyngddynt ddeng mil o filiynau. Yn ystod y 38 mlynedd diweddaf, meddai un awdurdod, costiodd arfogaeth Ewrob L23,000,000, ond, fe waria, Ffrainc a Germani banner y swm yma mewn ychydig fisoedd yn awr. Cofier fod L300 yn myned bob tro y tanier gwn mawr. Nid ellir tanio gwn a gyst 220,000 onu rhyw 15 o weithiau, gan fod straen y ffrwydriad mor ofnadwy. Cyst bedwar mil- iwn o bunnau i gadw pedair byddin Ewrop- eaidd ar y maes am un diwrnod. I Tybir mai cost rhyfel ydyw, degswllt y pen y dydd, ar gyfer bob milwr sydd ar y maes. Dyna amcangyfrif y Germaniaid eu hunain, a thybient y costiai rhyfel L-550,000,000 mewn blwyddyn. • • .Fe dybir y gwaria Rwsia ar gasglu ei bydd- .Fe dybir y gwaria Rwsia ar gasglu ei bydd- in, ac ar y chwe mis cyntaf o ymladd, beth bynnag £ 200,000,000. Credir y bydd yn rhaid i Ffrainc, pe na byddai ganddi ond Germani i'w hwynebu, wario lelTi leiaf £ 500,000,000. Ym Mangor, mae ysbyty newydd yr Un- deb, yr hwn a gostiodd agos i 220,000, wedi ei sicrhau, ac y mae deg ar hugain o welyau i'w dodi yno i'w defnyddio fel ysbyty milwrol. Major Dobson fydd y gofalydd, a gweinyddir gan y Meddygon E. 0. Price, J. E. Thomas, ac R. J. Helaby, yr oil o Bangor, ynghyda phump ar hugain o aelodau y R.A.M.C., ac adran Bangor o Gymdeithas y Groes Goch. Bydd yn ddigon mawr i gynwys dau gant o glwyfedigion, ac y mae lie i saith gant yn y ddinas. Mae casgliadau tuagat Gronfeydd Cynorthwyol Tywysog Cymru a chronfeydd ereill tuagat leddfu y trueni lleol wedi eu hasror, ac mae apel Mrs. R. J. Williams, Maer- es Bangor, at foneddigesau. Bangor, i gynorth- wyo gyda gwneud dilladau i'r milwyr a'r morwyr, wedi ei hateb yn gyffredinol.
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd Mehefin 29.-LI()fruddio'r Archddii Ferdinand (etifedd coron Awstria a'i wraig gan fradwyr o genedl Serfia. Gorffenaf 23.-Awstria yn bygwth Ser- fia a'i gorchymyn i roi terfyn ar fud- iadau bradwrus o tewn ei therfynau Gor. 25.-Rwsia vn ceisio gan Awstria estyn vr amser i Serfia anfon ei hateb i Awstria. Awstria yn gwrthod. Gor. 26.—Serfia yn ateb ac yn cydsynio a'r rhan fwyaf o gfcisiadau Awstria. Awstria yn ystyried yr ateb yn an- foddhaol. Llysgennad Awstria yn ymadael o Belgrade. Serfia yn cryn- hoi ei byddinoedd- Ei llywodraeth yn ymadael o Belgrade ac yn ymsef- ydlu yn Nish. Gor. 27.-Syr Edward Grey yn aw- grymu i Ffrainc, Germani, Itali, a Phrydain ymyrryd a setlo'r anghyd- fod er osgoi rhyfel Ewropeaidd. Y Serfiaid yn tanio ar yr Awstriaid ar lannau'r Danube. Gor. 28.-Awstria yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn Serfia. Rwsia yn casglu eu byddinoedd yn y de a'r de- orllewin. Gor. 29.-Tanbelennu Belgrade. Rwsia yn bygwth casglu ei holl fyddinvedd. Y Kaiser yn ynmgynghori a'i Weini-j dogion ar hyd y nos. 'i Gor 31. -Cyhoeddi cyfraith rhyfel yn Germani. Germani yn ceisio eglur- had gan Rwsia ar ei threfniadau milwrol. Awst 1.-Germani yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn Rwsia. Milwyr Germani. yn cropsFr fflin i Luxemburg. Galw' reserves Llynges Prydeinig i UJ.!O a'u llongau- Awst 2. Syr Edward Grey yn addaw, cynortbwyo Ffrainc—os bvdfl-ai am- gyichjadau neilltuol yn galw am hvny. Awst 3-—Syr Edward Grey yn mynegf i'r wlad beth oedd ein v;nr vvym iadaii i Ffrainc. Brwydr rhwng llynges, Rwsia a llynges Germani ym Mor Y1 Baltic. Gyrru llongau Rwsia yn oi, a'r Germaniaid yn meddiannu viivs- oedd Aland. Germani yn bygwtli Belgium. Awst 4.-Prydain Fawr yn cyhoeddii. rhyfel yn erbyn Germani. Byddin Germani (85,000 o nifer) yn croesi'r^ ffin i. Belgium- Prydain yn medd- iannu un o longau rhyfel Germanic Awst 5.—Brwydr Liege. Atal ymdaithl y Germaniaid; 3,500 o glwyfedigion^. Llong rhyfel Brydeinig yn sudda' Hong Germanaidd oedd yn gosod. ffrwyd-belenni ym Mor y Gogledd., Senedd Prydain yn awdurdodi'iv Llywodraeth i fenthyca X-100,000,000, i ddwyn treuliau'r rhyfel. Penodi Arglwydd Kitchener yn YsgrifennydA Rhyfel. Awst 6.—Prydain yn penderfynu veti-i- w&negu 500,000 o filwyr at ei byddin^ a 67,000 o forwyr at ei llynges- Din«* istrio'r rhyfel-long Brydeinig Arnph-4 ion gan ffrwyd-belen ym Mor y Gog-- ledd. Llywodraeth Prydain yn cy- hoeddi nodau tl a 10s.. Awstria ynl cyhoeddi rhyfel yn erbyn-Rwsia. Tywysog Cymru yn sefydlu trysorfa. i ddiwallu angen y rhai sy'n dioddet- oherwydd y rhyfel. Awst 7.—Y Germaniaid yn colli 25,000b o filwyr mewn brwydr gerllaw Liege- Montenegro yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn Awstria. Awst 8.-Y Germaniaid yn meddiannut dinas Liege, eithr heb ddarostwns y caerfeydd. Prydain.yn meddiannu Togtoland, trefedigaeth Germanaidd yn nwyreinbarth Aftrica. Awst 9.—Y Ffrancod yn croesi diosodcl i'r ddwy dalaeth Alsace a Lorraine a ddygwyd oddiarnynt mewn can- lyniad i ryfel 1870. Trysorfa Tyw- ysog Cymru yn cyrraedd £ 500,000* Llongau tanforawl Germani yn ym- osod ar lynges Prydain. Yr ymgais yn troi yn fethiant, ac un o longall. tanforawl Germani yn cael ei suddo-- Awst lOr-Ftraine yn cwyno oherwydd fod Awstria yn cynorthwyo Germani 1 Awst 11-—Y rhyfel-long Germanaidd Goeben, ar ol cael eu hymlid o for i for gan longau Prydeinig, ,yn vm- ochfel yng nghulfor y Dardandelles.i. Y rhyfel-long Breslau yn gwneud yr?" un modd, a Llywodraeth Twrci yn prynu r ddwy. Awst 12.-Prydain yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn Awstria. Awst 13-—Y Belgiaid yn sorchfygu catrawd o feirchfilwyr Germani ger Diest. Y Ffrancod yn gwneud vr urn modd yn Spincourt.. Awst 14 —Byddin Ffrainc yn ymuno a. byddin Btelgium- Y Ffrancod yn en- nfill tir yn ALsace. Trysiorfa Tyw- ysog Cymru yn cyrraedd miliwn o bunnau. Awst 15.—Y Ffrancod yn curo catrawd; o Germaniaid yn Alsace ac yn cym- ryd y Cadfridog Von Deimling va: garcharor. Y Czar yn addo ymre- olaeth i Poland- Awst 16.—Japan yn bygwth cyhoeddi' rhvfel yn erbyn Germani os na i-ydd hi Kaio Chau, un o'i threfedigaethau„ yn ol i China- Awst 17.-Brwydr ym Mor yr Adriatic- rhwng llfynges Kfrainc a ViVyngeg Awstria- Suddo un o longau Aws- tria, a'r lleill yn ffoi. Awst 18.-Hysbysu fod Prydain wedi glanio ei bvddin vn Ffrainc o dan lvwyddiaeth y Cadfridog French; Awst 20.—Y Belgiaid yn cilio o'u prif ddinas, Brussels, i'w dinas gaerog Antwerp. Y Germaniaid yn meddv iannu Brussels.