Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

25 erthygl ar y dudalen hon

Bachgen o Landdulas wedi mynd…

Brysio i Gyfarfod Milwyr Prydain…

1-jDiweddaraf. ■•i

. Brwydr Louvain

IJapan yn Cyhoeddi Rhyfel

.. Rwsia a Germani

Buddugoliaeth Fawr y Serfiaid.

Cyfarwyddiadau Arglwydd Kitchener.

1870 a 1914tI

.'.... Sut y bu i'r "Amphion"…

i1m*■ Digwyddiad Doniol yn…

Creulonderau'r Germaniaid…

I.. IB ;thescfa a'r Rhyfel

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

B ;thescfa a'r Rhyfel SYR ILENRY LEWIS YN ANNOG YMUNO A'R FYDDIN. Nos Sadwrn yn NeuaddGyhoeddus Beth- esda, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i egluro sefylWJI (Prydain1 Fawr ynglyn a';r rhyfel bresenol ac i geisio gan nifer o'r dynion ieu- ainc ymuno a gwahanol adranau y fyddin. Cafwyd gwasanaeth y seindorf arian, a ehan- asant ddarnau milwrol adnabydd ar yt heol ac yn y neuadd. Llywyddwyd gan Canon R. T. Jones, B.A., Glanogwen, a thraddododd araeth hyawdl. Dywedai, er mor greulon ac ofnadwy yw rhyfel yr oedd un peth yn greulonach, sef i genedl golli ei delfryd cenedlaethol ac i werthu ei rhyddid am heddwch. Er yn gwahaniaethu II mewn barn yn amser heddwch yr ydym fel gwahanol bleidiau yn unol ac yn unfryd un- farn yng nghwestiwn y rhyfel Ewropeaidd hon. Bydd tynged y rhyfel hon yn pender- fynu tynged yr holl fyd yn y dyfodol. Yr oedd am i bob rhan o'r wlad wneud ei dyled- swydd. Nid teg ydoedd i Loegr ac Iwerddon anfon eu meibion i'r maes, gadawer i Gymru hefyd wneud ei rhan hithau. Yr, oedd meibion Lloegr ac Iwerddon cyn anwyled i'w rhieni a I meibion Cymru, a bydded i Gymru ddangos yr un ysbryd milwrol a gwladgarol. Dar lien odd y llywydd genadwri arbenig oddiwrth Mr. William Jones, A.S. i'r cyfar- fod, a rhoddwyd cymeradwyaeth fyddarol i'r apel daer am ffyddlondeb a gwasanaeth gwlad- garol. Y prif areithydd ydoedd Syr Henry Lewis, Bangor. Amcan mawr ei ddjfodiad i Feth- esda ydoedd ceisio argyhoeddi dynion ieuainc yn enwedig o'u dyledswydd i ymrestrn ym myddin y wlad er ei hamddiffyn. Gwyddai yn dda fod rhai ugeiniau 6s nad canoedd o ddynion ieuainc yn yr ardaloedd hyn a wnai filwyr rhagorol. Yr oeddynt yn gorfodi dyn- ion i ymrestru yn y Cyfandir, ond am ein gwlad ni, byddin wirfoddol sydd genyrv, ac I yr oedd am i'r dynion ieuainc sylweddoli. y pwysigrwydd o hyn. Gwae y dyddiau y byddai'n rhaid i'r wlad orfodi dynTon ieuainc i ymrestru yn y fyddin, ond efallai y deuai yr amser hwnnw os na cheid y nifer angen- rheidiol. Cyfeiriodd at barodrwydd efrydwyr Bangor 1 roddi eu gwasanaeth i'n gwlad, a phaham yr oedd dynion ieuainc Bethesda mor hwyrfrydig i ymuno a'r fyddin? Yr oedd yr efrydwyr.wedi darllen ac astudio hanes rhyfel- oedd ac wedi arfer meddwl drostynt eu hunain ac yn gydwybodol gredu mai eu dyledswydd oedd myned i amddiffyn y wlad, a phe bai dyn- ion ieuainc Bethesda wedi darllen fel yr efryd- wyr byddai iddynt hwythau hefyd ymrestru yn y fyddin. Ym Mhrydain Fawr yr oedd y safon uchaf o holl wfedydd y byd mewn rhyddid gwladol, crefyddol a pholiticaidd, a byddai perygl inni golli y rhyddid yma os caffai y gelyn ei ffordd ei hunan. Sicrhaodd Mr. W. D. Hobson y byddai gwaith pob un a ymunai a'r fyddin o Chwarel y Penrhyn i'w gael iddo ar derfyn y i*ny€el. Cyfeiriodd y Parch James Jones, Salem, at wroldeb milwyr Belgium, a gobeithiai y dang- hosai byddin Prydain Fawr ei gwroldeb ar uchel hithau. Cyfeiriodd at y dloddefaint oedd yn ein bygwth yn y dyfodol, ac yr oedd yn cynghori bawb i baratoi ar gyfer hyny. Dengys y map uchod safle'r byddinoedd cyn i'r Germaniaid gyrraedd Brussels. Ddydd Iau r-oddiannodd byddin y Kaiser y ddinas, a chiliodd milwyr Belgium i Antwerp yn y gogledd. ) Dywedodd y Parch William Morgan, M.A., St. Ann's fod ymherodraeth Pryda-in Fawr yn y glorian heddyw, ac yr oedd am i Gymro a 8aisgael ei barcliu eto yn y dyfodol. Yr oedd Ymerawdwr Germani fel hurdlef ar Ewrop er's blynyddoedd, ac yr oedd yr amser wedi dyfod i ddangos iddo na fynai gwled- ydd eraill y Cyfandir ddim mwy o hono. Gobeithiai y byddai enw Bethesda yn cael ei ysgrifenu yn hanes y dyfodl fpl lie oedd wedi gwneud ei ran yn y rhyfel bresenol. Gofynodd Canon Jones a oedd rhywun neu rhywrai yn barod yn y cyfarfod i roddi eu henwau i ymrestru yn y fyddin. Atfebwyd ef gan ddau ddyn ienanc. Cynygiwyd diolchgarwch gan Dr. Pritch- ard yn cael ei eilio gan Mr. R. 0. Williams, Gerlan, a'i ategu gan Dr. Gruffydd, yr hwn a ddywedodd y cwpled adnabyddus mai Gwell yw marw'n fachgen dewr Na Byw yn fachgen llwfr. Cafwyd cyfarfod llawn brwdfrydedd, ac yr oedd y neuadd yn pria-wn o wrandawyr astud. m 1

Chwarelwyr a'r Tiriogaethwyr…

Advertising

- Cnwd Prydeinig -,

---.c----.........-Y Fasnach…

. Cymro ar Fwrdd y Gloucester

Cais at Gyflogwyr ChwareliUL

f Y Brenin a'r Milwyr

. - .1 Rhyfel yr Arglwydd

% k Awyren Uwchben Lleyxr

. Milwyr yn Cysgu mewn Y sgol:

. Tiriogaethwyr Porthmadog

Family Notices