Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Collection Prydain er y dechreu…

ADR ODD IAD SWYDDOGOL

Y SAFLE HEDDYW.

SUDDO LLONG CAPTEN 0 CAERNARFON.

PRISIAU BWYü. ——1

( DESGRIFTAD GAN GA'RCHAROR

[No title]

------BRWYDR OFNADWY MONS…

A dref o Belgium

Annerch Mr. W It Jones, A.S.

Offeiriad ar Files y Rhyfel

GWEINIDOG CYMREIG AR Y - CYFANDIR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEINIDOG CYMREIG AR Y CYFANDIR YnYELIAD DIWEDD AR Y PARCH. GWYNORO DAVIES A GWLEDYDD Y RHYFEL. ARBENNIG I'R "HERALD CYMRAEG." Ar giis gohebydd yr "Herald" a ymwelodd a -Air. Davies yr wythnos ddiweddaf ar ei ddychweliad adref hyfforddodd ef yn garedig ar a ganlyn o hanes ei daith ramantus ddi- weddar a'r Cyfandir. Yr oedd i a fy mab oddeutu mLs yn ol wedi bwriadu treulio wythnos i yniweled a rhai o brif ddina.soedd Germani ac yna aros, pyth- einos yn Switzerland a dychwelyd drachefn trwy Germani ac ymweled a Strasburg a Worms yn arbenig. Pan yn cychwyn nid oedd gennym v syniad lleiaf y byddai i ryfel dori allan onide ni buascm yn breuddwydio am fentro i'r daith. Cychwynasom o Lundain nos Lun y 27ain o Orphenaf, a chroeswyd yn ystod y nos o Har- wich i Antwerp, prif ddinas Belgium. Bwr- iadem gyrhaedd Cologne cyn nos dranoeth. Ar y Ifordd rhwng Antwerp a Cologne yr oeddym yn myned trwy Liege, Malines, Lou- vain ac Aise-la-Chappelle, lleoedd sydd erbyn hyn yn adfeilion a miloedd o'r trigolion wedi myned yn ysglyfaeth i gynddaredd y German- iaid. Cyrhaeddwyd Cologne yn gynnar yn y dydd a chan fod arddangosfa yn cael ei chynal yno ar y pryd disgwyliem gael y ddinas yn orlawn o ddieithriaid ond er ein syndod yr oedd y lie yn gymharol wag; ffaith nas gallem ar y pryd ei hesbonio ond sydd erbyn hyn yn ddigon eglur. Heb fanylu aethom oddiyno i Cobienz, yna ar y PJiine mewn agerlong am tua 60 milldir i le o'r enw Borigen, a dyma y darn mwyaf prydferth ar y Rhine. Cyr- haeddasom o ddinas enwog (Frankfort cyn nos, ac yr oedd yr un peth yn nodweddu y lie hwn eto sef rhyw dawelwch llethol. Dranoeth wrth ymadael cawsom yr orsaf yn orlawn o filwyr dan arfau ac yn barod i daith. Aethom ym- j laen i Ileidleberg lie y treuliasom ychydig or- iau. Gwelsom yno hefyd rai miloedd o filwyr a rhyw 4 milldir cyn cyrhaedd Baden-Baden ar .gae cyfsgos i'r .rheilftordd cawsom olwg gyntaf erioed ar awyr-long (Zeppelin) yn cael ei pharatoi i gymeryd taith, a deallasom ar ol hyn i hon greu dychryn a dinystr mewn amryw leoedd. Wedi treulio noson yn Baden- Baden brysiasom i ddianc allan o'r wlad gan deithio trwy y Black Fforest i Constance He yr arhosasom ychydig oriau i weled rhyfedd- odau y ddinas ac yn enwedig yr ystafell lie y condemniwyd a'r ysmotyn lie y Hongwyd yr enwog John Huss, o Bohemia. 0 Constance aethom i lawr y Rhine mor bell a Sehaff- hausen ac yna ymlaen i Nienhausen lie y bwriadem axos dros nos er cael golwg ar un o ryfeddodau Ewrop, sef Rhaeadr y Rhine. RHEILFFYRDD WEDI CAU. Pan aethom i'r gwesty yr oedd er syndod ini yn hollol wag. Pan yno ychydig flyn- yddoedd yn ol yr oedd yn orlawn 0 ymwelwyr I a phan ofynasom am esboniad o'r gwahan-, iaeth yr ateb oedd fod y rhyfel rhwng Aws- tria a Rwssia yn cadw pobl draw. Bore dranoeth er ein siomedigaeth ac er ein dych- ry/i cawsom ar ddeall fod holl reilffyrdd Ger- mani wedi cau i deithwyr y bore hwnw ac nad oedd yn bosibl ini adael y lie i'r cyfeir- iad yr oeddym wedi bwriadu myned. Ar ol holi dywedwyd wrthym y gallasem feallai trwy gerdded neu logi cerbyd am ryw filldir a hanner gyraedd dros y terfyn i Switzerland, ac er mawr lawenydd ini felly y bu ac aeth- om ar ein hunion i Zurich yna ymlaen i Lu- cerne lie y treuliasom dri diwrnod. Erbyn hyn yr oedd y wlad yn ferw drwy- ddi a rhyw 300,000 o filwyr Switzerland wedi eu galw allan i amddiffyn y terfynau, yr holl fanciau, etc., wedi cau ac amryw o'r hotels yn gygwth cau. Tybiasom mai y peth goreu i ni ydoedd ymadael oddiyno gan gyf- eirio dros y Brwing Pass 4 lawr i Inter- laken, ac er mawr lawenydd i ni pwy a'n cy- farfu yn yr orsaf yno ond Mrs. Timothy Da- vies, priod Mr. Timothy Davies, A.S., ac Idris, Olwen a Goronwy. Hefyd Mr. a Mrs. Gwyrett, chwaer a Mrs Davies a fu am dym- or yn pupil yn Ysgol Sirol yr Abermaw. Yr oeddynt hwy yn aros wyth milldir o Inter. laken mewn He o'r enw Launterbruni wrth droed yr Alpau, ac yno y buom mewn yder mawr am bedair wythnos. Gwnaeth( ym- gais ddwywaith i ddychwelyd adref. t'll diwrnod aethom i Berne, prif-ddinas S tzer- land, ond cawsom ein cyngori gan y Lly nad Prydeinig i droi yn ol gan nad oedd yn barod i fod yn gyfrifol am ein dia!! ;(!I Dychwelasom yn ol i Launterbrunner. Ym- hen wythnos drachefn aethom i lv a pellder o dros 100 milldir. one ;)0:11 edigaeth bu raid troi yn ol eto. Yr hyn oedd yn gwneyd yr ? yn anhawdd dygymod a hwy oedd vn methu a cha-el eymundeb rhyngom k. leill- ion yn Mhrydain. Buom a-gos i bythefnoa heb yr un papur newydd o Brydain nac un gair oddiwrth ein cyfeillion. Yn y fan hon teimlaf ei bod yn ddyledswydd arnaf ddweyd air am garedigrwvdd dibendraw y Swisiaid tu aT atom. Gwnsent bob peth oedd yn bosibl er ein cysur a dywedent y caem aros pno cy- hyd ag y dymunem gan ymddiried am y tal ar ol ini ddyfod yn ol i Brydain. Yn yr Ad- lar Hotel yr arosem ac nid oes ragorach a chvsurach lie yn yr holl wlad. Y CWMNI. Yr oeddym yn gwmni o tua deugain, ein haner yn Americaniaid a'r haner arall yn Brydeinwyr. Yr oedd yn ein plith Esgob Anderson a'i deulu (8) Cincinatti a dau bro- ffeswr a'u teulucedd o'r Americ. Yr Hotel Adlar oedd yr unig adeilad o fewn y lie yd- oedd wedi ei doi a llecbi o Ogledd Cymru a phe ond ar y cyfrif hwnw teimlwn fod creig- ÜlU yr Eryri a. chreigiau Ffestiniog yn amddi- ffyn ini. Ymhbth y Saeson yr oedd Caplan Mathews yn aros mewn gwesty gerllaw a chawsom lawer o'i gwmni. Nid oedd ef yn perthyn er ei fod yn wr eglwysig o gryn- ddylanwad i'r blaid gul, ac ar d-dymuniad taer a phersonol o'i eiddo buom yn cymeryd rhan un Sa.bboth yn y gwasanaeth eglwysig, a chymellai ni vn daer i gyd-gyfranogi o Swper yr Arglwydd gydag aeiodau yr Eglwys Sefydledig oedd yno. Pan ar ddialoni dyma air yn dyfod o Berne y caem gychwyn ymhen yr wythnos i gyfeir- I iad cartref a bore i'w gofio oedd bore Sad wrn, I y 29ain o Awst, sef dydd em gollyngdod o'r caethiwed. Cychvv'ynasom o Launterbrunner rhwng 5a 6 y bore gan gyrhaedd Berne odd- eutu 9. Yno daeth y wasgaredigion ynghyd I o bob cyfeiriad nes yr oeddym erbyn hyn yn rhyw 500 o nifer. Yna aed ymlaen i gyfeir- iad Geneva gan redeg am ryw 40 milldir ar hyd glannau prydferth Llyn Geneva. Cyr- haeddwyd yno tua chanol dydd ac yno yn ein haros yr oedd cerbydres arbenig i fyned a ni trwy Ffrainc. Erbyn hyn yr oedd y cwmni wedi chwyddo rhwng 800 a 900 y tren yn cael ei wneyd i fyny o 24 o gerbydau. Gan fed brwydro yn myned ymlaen yng Ngoglead Ffrainc bu raid ini fyned rai cannoedd o filldiroedd oddiar y llwybr uniowsyth a myned i lawr ar hyd glannau yr afon Rhone mor bell a dinas Lyons. Pan gyrliaeddasom orsaf Lyons yr oedd yno tua 5000 o bobl wedi ym- gasglu i'n derbyn. Yn eu plith yr oedd prif- awdurdodau y ddinas, a chawsom dderbyniad nas angho.5.1wn byth. Canwyd gan y dor-f an- ferth Anthem Genedlaethol Prydain ac An- them Genedlaethol Ffrainc ac arwisgwyd ni gan y boneddigesau ag ysnodenau bychain— arwyddluniau Ffrainc. Wedi aros yno ych- ydig dros awr cychwynasom i gyfeiriad Paris. Teithiasom drwy y nos ac arhoswyd mewn 3 neu 4 o'r prif ddinasoedd ac er mai nos yd- oedd yr oedd cannoedd o Ffrancwvr yn y gorsafoedd yn ein croesawu. FFOEDIGION 0 BELGIUM. I Erbyn lleg o'r gloch bore Sul yr oeddym wedi cyrhaedd gorsaf Montargis, lie yr aros- wyd am awr ac yno y gwelsom olygfeydd na ddileir o'r cof byth. Yn ystod yr awr hono daeth i fewn i'r orsaf o gyfeiriad Belgium (dair cerbydres yn llwythog o filwyr clwyfedig —rhai o honynt wedi eu clwyfo yn drwm, ac' eraill yn lied ysgafn. Cawsom ymgom ag am- ryw o honynt a siaradent yn uchel iawn am ddewrder y milwyr Prydeinig fu yn ymladd ochr yn-ochr a hwynt. Dangosai un o'r milwyr helmet oedd wed; ei dwyn oddiar un o filwyr Germani a daliai un arall gob swyddog Germanaidd a gofynodd ini a fuasem yn hoffi cael darn o honi ac yna cymerodd ei gyllell a thorodd i ffwrdd ddarn go dda yr hwn a ranwyd yn bur gyfartal I rhwng chwech o honom oedd yn yr un com- partment. Yn y fan hon dangosodd Mr. Davies i'n gohebydd y darn a. gafodd ef. Y mae yn hynod debyg (meddai) fel y gwelwoh i o ran lliw a defnydd i ddillad ein milwyr m, ond ychydig yn dywyllach ac yn dewach brethvnl. Cyrhaeddwyd Paris tua 4 o'r gloch vd-I nawn Sabboth, a chawsom y ddinas yn fe"w t trwyddi. Yr esboniad ydoedd fod y Ger- j maniaid ddwy awr cyn hyny wedi llwyiio í I daflu tair bomb i lawr o long-awyrol yr hyn a barodd cryn ddychryn ac ychydig ddinyt,tr. I Yr oeddym yn bwriadu croes o Paris trwy Boulogne ond ga,n fod y Germaniaid ar eu I ffordd i lawr mor bell ag Amiens bu raid ini gymeryd llwybr arall pellach i'r de. Cyr- hseddwyd Dieppe yn hwyr nos Sul, a bu raid aros ar fwrdd yr a.gerlong hyd 8 o'r gloch bore Llun gan nad oedd yn ddiogel croesi yn ystod y nos. Cyrhaeddwyd Folkesto,ie tuag un o'r gloch, lie yr oedd tair cerbydres a-ben. [ ig yn barod i'n cymeryd i Lundain. Cyrnaedd- asom Lundain tua tri o'r gloch y prvdnawn. Bu raid aros yno dros nos. Cyrhaedd vyl yr Abermaw nos Fawrth, a chawsom dde.'iyn- iad nas anghofiwn' yn fuan er bod rlui o'r plant yn teimlo dipyn yn siomedig nad oedd mwy o ol y rhyfel ar ein cyrff. Mewn atebiad i ychydig gwestiynau a 0f:-l- wyd iddo gan y gohebydd parthed yr argraff I adawyd ar ei feddwl am y rhyfel dywedodd Mr. Davies fod yn amlwg fod pob paratoadau wedi eu gwneyd gan Germani, ond amlwg iddo ef ydoedd nad oedd ond ychydig o'r Germaniaid erioed wedi breuddwydio y bu- asai Prydain ar eu ffordd i orchfygu Ffrainc, a hyny oedd yn cyfrif am eu bod yn teimlo yn chwerwach o lawer at Brydain nag hyd yn nod ac Ffrainc. j "Beth am y Swisiaid?" | "Anhawdd sicrhau eu teimlad hwy, ond eglur fod preswylwyr y gwaelod yn gryf o I blaid Prydain." I "Beth am yr Americaniaid y daethoch i gyffyrddiad a hwynt?" "Yr oeddynt hwy a'u teimlad yn angerdd- I ol o blaid Prydain." J Mewn atebiad i gwestiwn arall dywedodd Mr. Davies mai y gred gvffredinol ar y Cyf- andir ydoedd mai ei gorchfygu a gaffai Ger- mani.

Gwerth dy bais a phryn gledd…

Lluoedd Mon yn ymuno

YN CILIO'N OL I FiRAINC

CHWIL8S

Family Notices