Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

25 erthygl ar y dudalen hon

Y Germaniaid yn Ff oi

GYDA'R PELLEBR O'R "CENTRAL…

Y BELGIAID ETO YN YMOSOD.

CYNHWRF YN VIENNA.I

ADREF 0 GAETHIWED.

YXI Y SERFIAID.I

Apel Mr. Wm. Jones, A.S.

Araeth y Kaiser

Y Germaniaid fel Ymladdwyr

Rhuthr Trwy Ganol Bwledi

IPRISIAU BWYD.

BRWYDR MONS !

Profiad Meddyg o Gaemarfon

[No title]

Suddiad y "Pathfinder"

! Ymladd Caled yn Belgium

Mr. Lloyd George a'r " Bwledi…

IiCydnabod Gwreidefo

Adroddiad Syr John French

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Adroddiad Syr John French G I, i?,f PR YDEINW YR, CANMOL Y CADFRIDOGION. Yr wyshnos ddiweddaf cyhoeddodd v Maes- Lywydd Prydeinig, Syr John French, ad- roddiad swyddogol yfi rnoddi hanes y brwydro er y dechreu. Oddeutu 3 o'r gloch brydnawn Sul, v 23ain, derSyniodd adroadiadau fod y gelyn yn dech- reu ymosod ar linell Mons, a hyny gyda chryn nerth. Yn ddiweddarach, derbyniodd v genadwri fwyaf anmsgwyliadwy oddiwrth y Cadfridog J off re, gyda'r peilebyr, yn ei hys- bysu fod o'r hyn lieiaf dri chorphlu o'r Ger- maniaid yn cvfeirio am dano, a bod yr Ail G-orpblu yn rhwym mewn symudiad amgylch- yiiol o gyfeiriad Tom-nay. Hysbysodd ef hefyd fod dwy Adran yr Adfilwyr Fa-engig, ynghyda'r 5ed Corphlu Ffrengig ar ei dde yn encilio, oherwydd ddarfod i'r Germaniaid v dydd blaenorol fyny meddiant o'r lleoedd croesi ar yr afon Sambre cyd-rhwng Charleroi a. Namur. Pan dclerbyniodd y newydd am enciiiad y Ffrancod ac am y byddinoedd Ger- manaidd nerthol amc-anodd fynu gwybodaeth bellach drwy anion un o'r peiriannau hedeg i dafiu golwg ar bethau. ac mewn canlyniad i'r hysbysrwydd a gafodd penderfynodd amcanu encilio i Maubeuge ar doriad dydd y 24ain. Parheid i ymladd i ryw raddau drwy'r nos ar hyd y llinell, ac ar doriad dydd y 24ain gwnaeth yr Ail Gorphlu, o gymydogaeth Harmignies, ymddangosiad penderfynol fel pe am adfeddiannu Binche. Cefnogwyd hyn gan gyfiegrau yr adran gyntaf ac ail, tra v cymerai y Corphlu Cyntaf safie gynorthwyol •iddynt yn nghymydogaeth Peissaut. Yn nghysgod yr arddangosiad hwnw enciliodd yr Ail Gorphlu ar linell Dour-Quarouble- Frauneries. Derbyniodd v Trydydd Corphlu ar y dde i'r fyddin, golledion trymion yn yr argyfwng hwn gan ddarfod i'r gelyn ad- a feddianu Afons. Arhosodd yr Ail Gorphlu yn y salle hon, lie y codasant warchgloddiau, gan alluogi Syr Douglas Haig, gyda'r Corphlu Cyntaf i araf encilio tua'r safle newydd, yn yr hyn y llwyddodd efe heb ryw lawer o golledion pellach, gan gyraedd y llinell Bavai- Maubeuge erbyn saith o'r gloch. Erbyn canol dydd vni-da'angos,ai i, gelyn fel pe'n cyfeirio ei brif ymgais yn erbyn eu haden aswy. Oddeutu 7.30 a.m. derbyniodd y Cadfridog Allenby neges oddiwrth Syr Charles Furgusson, hywydd y ood adran, yn hysbysu ei fod ei mewn dygn gyfyngder ac angen cynorthwy. Ar hyny tynodd y Cadfridog Allenby yn ei ol, gan frysio i gynorthwyo y 5ed adran. Yn ystod y drafodaeth hon, darfu i'r Cad- fridcg de Lisle, o'r Ail Frigad y Gwyr Meirch, dybio ei fod yn canfod cyfle godidog i rwystro vmgyrch peiiach traed-filwyr y gelyn, drwy wneyd rhnthr gyda'-r meirchJfiUVvyr ar ei aden. Y'mffurfiodd ei lu i'r ymgyrch hwnw, ond pan oedd efe o fewn 500 o latheni i'r gelyn cafodd ei rwystro gan linell o wifrau osodasid ar draws y lie, ac mewn canlyniad dioddefodd y 9th. Lancers a'r 18th. Hussars yn ddifrifol wrth encilio. Gyda chynorthwy'r gwvT meirch galluog- ivyd Syr Horace Smith-Dorrien i gwblhau en- ciliad i safle newydd, er fod ganddo ddau gorphlu o'r gelyn yn ei wyneb ac un arall yn bygwth ei aden, a derbyniodd golledion trym- ion yn ystod vr amser hwnw. SAFLE BERYGLUS. Yr oedd v Ffrancod yn parhau i encilio, ac nid oedd ganddo unrhyw amddiffyniad eddigerth caerfa Meubeuge, ac oddiwrth ym- drechion ffyrnig y gelyn i gael heibio ei aden chwith, yr oedd yn sicr mai ei fwriad ydoedd ceisio ei wthio yn erbyn Maubeuge ac felly ei amgylchynu. Gwelodd nad oedd foment i'w eholli cyn ytnneillduo i safle newydd eto. Yr oedd ganddo bob lie i gredu fod byddinoedd y gelyn yn lluddedig, a gwyddai hefyd ddar- fod iddynt dderbvn colledion dirfa^r; ac felly, tybiai y gallasai na bvddai ei erlyniad yn un mor aiddgar, ac y gallasai felly Jwyddo yn ei aincan. Ond, fodd bynag, yr oedd y symudiad I yn un peryglus ac anhawdd, nid yn unig j oblegid y gallu cryf oedd ar ei warthaf, ond hefyd oblegid lludded y milwyr. Ail-ddech- renwyd yr enciliad wedi hyny yn foreu y 25ain. "Wrth weled fod y Ffrancod yn parhau t encilio ar y dde, a'm hochr aswy yn ddi- amddiffyn, a thuedd corphlu gorllewinol y glyn i fy amgylchu, ynghyda sefyllfa ludded- ig y milwyr," meddai Syr John French, pen- derrvnais i wneyd ymdrech ddewr i b irhau fy enciliad hyd nes dyfod at ryw beth roddai rwystr effeichiol ar ffordd y gelyn megis croesi yr afonydd Somme neu'r Oise—ac felly enill i m byddinoedd ryw gymaint o seibiant i ymorphwys ac ad-drefnu. Ond wele, ni chaniatai y gelyn iddynt gymeryd eu hanadl, ac oddeutu haner awr wedi naw, yu y nos, daeth hysbysrwydd fod v 4th. Guards Bri- gade yn Laudrecies yn gorfod sefy] 1 ymosodiad ffyrnig Corphlu'r 9fed o'r Germaniaid, y rhai a ddeuent drwy y goedwigfa ar y gogledd i'r dref. Ymfaddodd y Guards Brigade gyda dewrder dihafal, gan beri colledion difrifol i'r Germaniaid ar eu ffordd o'r goedwigfa i heol- ydd culion y dref. Amcangyfrifir y colledion o ?00 l 1,000 o wyr. Bron yr un adeg cyr- haeddodd hysbysrwydd oddiwrth y Cadfridog Syr Douglas Haig fod ei gorphlu vjitau mewn '.)iir: ym-drechfa i'r de a'r dwyrain o Maroiles. Anfonais frysnegeseuau erfyniol at y ddau g.adl'ridog Ffrengig oedd ganddynt ddau gorphlu o ad-filwyi ar y dde 1 ddyfod i fyny ar unwaith i gynorthwyo ein hadran gyntaf, i'r hyn yr ufuddhasant yn mhen amser. Yn herwvdd v cynorthwy hwnw i raddau, ond yn fwy arbenig i ddyfais a meistrolaeth Syr Douglas Haig yr vdys yn ddyledus am war- edigaeth y corphlu o safle" eithriadol beryglua, a byny yn nhywyllwch y nos. Gyda'r wawr parhawyd yr ymdaith i'r de tua Wassigny ger Guise. Erbyn tua 6 o'r gloch yr oedd yr Ail Gorphlu wedi cyrhaedd safle ar y dde i Le Cateau, a'u haden chwith yn cyrhaeddyd A gymydogaeth Caudry, a pharheid y llinell ddiffynol gan Gorphlu'r Pedwerydd hyd Saronvillers, yr aden chwith yn gogwyddo yn ol. Yn ystod y frwydr ar y 24ain a'r 25am. gwasgarwvd y gwyr meirch i gryn raddau, ond ar foreu'r 26ain llwyddodd y Cadfridog Allenby^ i gydgynull dwy frigad i'r de o Cam- brai. Gosodwyd Adran y Bedwaredd, dan lywyddiaeth y Cadrifog a lywyddai'r Ail Gorphlu.- Ar y 24ain, yr oedd Corphlu o'r Meirchtilwyr Firengig, yn cynnwys tair adran, I I I'danj 'arweiiriad y Uaciiridog borrlelt, wedi gwcrsyllu ar y dde i'r Avesness. Yn ystod y brwydro ar y 23ain a'r 24ain darfu i mi dalu ymweliad a'r Cadfridog Sordet, gan erfyn yn ddifrifol arno am ei gymhorth a i gyd-weith- rediad. Addawodd geisio caniatad gan y MatMi-LIywydd i gynorthwyo ar fy aden chwith, ond dywectai fod ei geflyl.au yn rhy flinedig i feddwl symud cyn drannoeth. Y FFRANCOD YN METHU CYNORTHWYO. Er ddarfod 'ddo wedi hyny fod yn abl i estvii i mi gymhoi'th gwerthfawr tra ar y gorchwyl o encilio, yr- oedd yn anaHuog oher- wydd y rhesymau a grybwyllwyd i estyn i mi unrhyw gynorthwy ar y diwrnod mwyaf peryglus i mi o gwbl, sef y 26ain. Gyda thonad y dydd, gwelid yn eglur fod y gelyn yn taflu ei nerth gan mwyaf yn erbyn yr oenr chwith i'r satle ddelid gan yr Ail Gorphlu a r Bedwaredd Adran. Erbyn hyn yr oedd magnelau y pedwaredd Corphlu Germanaidd yn barod i agor tan arnynt, ac anfonodd Syr Horace Smitli-Dorrien ataf i'm hysbysu fod yn amhosibl iddo ef ymneillduo ar donad y wawr fel y gorchymynasid iddo, tra yr oedd y fath alluoedd peryglus yn ei wylio. Danfonais air iddo vn ei gyiarwyddo i ddefnyddlO pob gallu posibl i lesteirio yr ymosodiad, ac encilio gynted fyth ag oedd modd, gan nad oedd yn boslbl i mi fedru anfon unrhyw help iddo, gan fod y Corphlu cyntaf ar y pryd yn gwbl analluog i symud. Yr oedd Corphlu o'r Meirch- filwyr Ffrengig dan y Cadfri,dog Sordet yn dyfod i fyny ar y chwith i ni vn gynar yn v boreu, ac anfona.is neges ddifrifol ato yn erfyn arno ddyfod i'm cynorthwyo i gael fy aden chwith i ddiogelwch. ond, oherwydd blin- der a chyflwr ei geffylau nis gallai mewn un- rhyw fodd estyn un ymwared i mi. Nid oeddym wedi cael amser i dori ffosydd a chadarnhau y lie yn briodol, ond danghosodd y dynion wroldeb digyffelyb yngwyneb y rhy- ferchwy ofnadwv o ergydion y bu raid iddynt ei wyuebu. Gwnaeth ein cyflegrau,er fod gan y gelyn bedwar am bob un yn ein herbyn—ymdrech fythgofiadwy gan beri dinystr ofnadwy ar rengau'r gelyn ar bob llaw. Fodd bynag, Z, gwelid yn amlwg os oeddym am osgoi cael ein Uwyr ddifodi, mai rhaid ydoedd i ni wni-ud un ymgais egniol eto i eneilio, a rhodd- wyd ailam y gorchymyn i hyny am 3.30 p.m. Gwarchodid yr ymneillduad gydag egni a phenderfyniad digyffelyb gan gorphlu'r mag- nelwyr, y rhai oeddynt eisoes wedi gorfod gwynebu caledi dirfawr, ac nid llai canmol- adwy ydoedd gwaith effeithiol y gwyr meirch yn eu holl ymwneyd a'r enciliad, a hyny o dan amgylchiadau o'r fath fwyaf dyrus a gwas- garedig. Yn ffodus, yr oedd y gelyn hefyd wedi dioddef mor dost fel nad oedd ganddynt yr yni I ymiid o ddifrif. Parhawyd yr en- ciliad yn mhell i'r nos ar y 26ain, a thrwy gydol y 27an a'r 28ain: pryd y gorphwysodd y milwyr ar linell Noyon-Chauny-La Frere, wedi ymysgwyd o ewinedd y gelyn. Mae'n an- mhosibl i mi siarad yn rhy ganmoliaethus am yr ymroddiad a'r craffder arddangoswyd yn ystod yr amgylchiadau dyrus a pheryglus hyn gan v ddau gadfridog oedd a'r gefal ;r Drvder vn eornhwvs arnvnt. vnffhvda'r vshrvd dyfal a'r penderfyniad a'r dewrder arddang- oswyd gan ein milwyr ar bob llaw. Dymunaf yn arbenig grybwyll gwasanaeth anmhrisiad- wy y rhai hyny oeddynt yngofal y peiriannau hedeg; buont o gynorthwy anhebgor. Buont yn ewyllysgar ac ymroddedig, a hyny ar bob tywydd, ac yngwyneb peryglon lu. Dinistr- iasant hefyd bump o beiriannau'r gelyn." Yna aiff Syr J. French ymlaen i ddwyn i sylw Arglwydd Kitchener y Cadfridogion a'r gwyr hyny deilyngant bob teyrnged o barch ac anrhydedd am eu gwroldeb a'u haberth anmhrisiadwy i'r wlad.

Prydain yn Anghenraid y Byd

[No title]

PROFIADAU MILWYR

Cynorttwyo'r Dioddefwyr

Buddugoliaeth y Rwsiaid

[No title]