Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

28 erthygl ar y dudalen hon

.. --_--------------Tail Einystriol…

-------I Bwy 7 Perthyna. Ynrs…

Eisteddfod Hen GOiTTyn.

Brawdlysoedd Chwarterol!

Gwralg i Fferaiwr yn Tori…

Ymddygiad Gvvarth-us Clerc…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymddygiad Gvvarth-us Clerc o Lerpwl. Yn y Court of Passage, Lerpwl, dydd Mawrtu, o flaeri y Barnwr Baylis a rheithwyr, gwrandawyd achos Dixon yn erbyn Ronald. Yr achwynyddea ydoedd Mrs Marion Dixon, yr hon s/n cario yn mlaen fusnes fel ironmonger yn Park-road, Ler- pwl; a dygid y cynghaws yn mlaen er codi swm o iawn oddiar y diffynydd—Angus Ronald, clerc, yn byw yn Rosslyn-street, St. Michael's—am ddar- ostwng ei mrch, a'r golled o'i gwasanaeth mewn canlyniad. Ymddangosodd Mr Tobin dros yr achwynyddes, a Mr Rigby Smith droa y diffynydd. Yr oedd Mrs Dixon wedi bod yn weddw ers dwy flynedd, ac yn enill ei bywoliaeth trwy gjadw siop yn Park-road. Yr cedd ganddi wyth o blant yn byw gyda hi uwchben y siop. Ei merch hynaf oedd Marlon Lucy, yr hon oedd yn 27 mlwydd, ac wedi arfer helpu ei mam trwy gadw lJvfrau y bus- nes. Yr oedd1 y diffynydd wedi bod yn glerc am ddwy flynedd ar bymtheg yn swvddfa y Water- ford Steamship Company, Water-street-, a'i oed oddeutu deugain mlwydd. Tua'r Pasg, 1897, cyfarfu y diffynydd a damwain ar y rheilffordd, ac aeth mab yr achwynyddes i dy ei chwaer yn Rosslyn-street i edrych am, dano, canys yno yr oedd efe yn llettva. Ar ol yr adeg yma daeth y diffynydd i fod yn ymwelydd gwastadol a thy Mrs Dixon, a magodd eyfeillgarwch rhjaigddo a'i merch hynaf. Derbynid ef yn y teulu fel ymofyn- ydd anrhydeddus am law a chalon yr C rIeth, Am- ryw weithisu y cafodd v ddau eu gadael wrthynt eu hunain yn yr eistedd-ystafell yn y llofft; ac yn mis Chwefror, 1898, darfu iddo, ebai Mrs Dixon, gymeryd mantais ar vr eneth y cymerai arno fod yn ei charu. Ganwyd pTentyn ar y laf o'r mis diweddaf, a honid mai y diffynydd oedd ei dad. Marion Lucy Dixon a roddodd dystiolaeth i attegu yr achos. Hi a addefodd nad oedd amod priodas wedi ei wneud, ond darfu iddo yn Mehefin diweddaf ofyn iddi aros wrtho. Ni fu iddi erioed gadw cwmpeini gyda'r un dyn arall. Dywedodd Mrs Marion Dixon (y fam) ei bod, wedi dwyn ei merch i fyny yn barchus a phriodol, I a chafodd y diffynydd ei ollwng I r teulu ar y dealltwriaeth ei fod yn caru ei merch yn anrhyd- eddus. Wedi gwrandaw rhagor o dystiola-ethau, cauwyd yr achos dros yr achwynyddes. Yr amddiffyniad oedd gwadu y darostyngiad yn bendant. Y diffynydd a addefodd iddo gael ei gau mewn ystafell gyda'r enetli amryw weithiau, ond nad oedd erioed wedi cam-ymddwyn ttiag ati., ac nid oedd yn hoff o honi o gwbl. Bu yn gyd- nabyddus a'r teulu am ddeng mlynedd, ac yr oedd wedi eu parchu un ac oil. Yr oedd wedi cael Marion Lucy bob amser yn foneddiges ieuanj weddaidd, barchus, a geirwir. Wrth ei groesholi gan Mr Tobin, dywedodd y diffynydd na ddarfu iddo erioed ofyn am gael bod wrtho'i hun gyda Miss Dixon. Nid oedd ef yn hidio dim am dani, gan ei fod yn rhwymedig i ferch ieuanc arall. A ddywedasoch chwi wrth Mrs Dixon a'r teulu I eich bod yn rhwymedig?—-Yr oeddynt oil yn gwy- bod. Beth ydyw enw y ferch ieuanc—ysgrifenwch ef i lawr.—Waeth gen i ddweyd na pheidio: ei lier.w I yw Miss Gardener, o Glasgow. A ydych chwi wedi ymrwymo iddi?—Nac yd- wyf. 'Does dim ymrwymiad wedi ei wneud, ynte? Yna paham y dywedasoch wrth Mrs Dixon eich bod yn rhwymedig i'r ferch ieuanc hon?—Nid oedd ymrwymiad priodol yn bodoli. A ydyw y ferch ieuanc hon, Miss Gardener, enw yr hon roddasoch mewn llys cyhoeddus, yn bodoli o gwbl-beth yw i chyfeiriad, os oes ganddi yfiriad 1-Ibrox, Glasgow. Deallais chwi yn dweyd ar y cyntaf eich bod yn "engaged" i'r foneddiges hon o Glasgow?—Na, nid oeddwn wedi ymrwymo yn ffurfiol, ond yr oeddwn yn cadw cwmpeini gycla hi. Y Barnwr: Darfu i chwi ddweyd eich bod yn rhwymedig iddi. Mr Tobin A ddywedasoch chwi wrth fam Miss Dixon eich bod wedi ymrwymo gyda boneddiges arall?—Naddo camgymeriad yw hynyna. A roddasoch chwi enw y foneddiges ieuanc iddi ? —Nid wyf yn meddwl i mi wneud. Pa bryd y dywedtasoch chwi hyn wrth y fam 1- Uwchlaw deuddeng mis yn ol—o ftaen Ionawr, 1898. Beth ydyw enw bedydd yr eneth hon?—Isa- bella. ) Dywedwch wrthyf rif ei thy yn Ibrox. Yr wyf fi yn awgrymu nad ydyw hi yn bodoli. I Mr Swift: Nid oes genych hawl i awgrymu. I Diffynydd Yr wyf yn gwrthod rhoddi ei chyf- eiriad. Apeliodd Mr Tobin at y Barnwr i'w orfodi i roddi y cyfeiriad. Ei Arglwyddiaeth a reolodd mai nid teg ydoedd r enwi person pan na feddai gyfle i amddiffyn ei hun. Yd Wrth ei groesholi yn mhellach, y diffynydd a I ddywedodd iddo ddyfod yn gydnabyddus a bonedd- iges ieuarc Glasgow yn Mehefin, 1897, a'n bod I wedi ymohebu a'u gilydd. Ni welodd efe erioed mo Miss Dixon yn cadw cwmpeini gydag unrhyw ddyn arall: ni welodd yr un dyn arall erioed yn y ty. Daliodd ef i ymweled a'r ty hyd o fewn pump ncn chwech wythnos i enedigaeth y plentyn, ac nid cyn i'w brawd hi siarad ag ef y darfu iddo stopio myned yno ati. Yr oedd yn gweled fod ganddi obaith magu. Ar ol yniohirio i gael t.amairl o fwyd, ail alwyd y diffynydd yn mlaen a'r pryd hyn rhoddes mewn yszrifen gyfeiriad Miss Gardener, vn Glasgow. Dyfarnodd y rheithwyr o blaid Mrs Dixon, gyda 50p o iawn, yr hyn a gadarnhawyd gan y Barn- WI.

-------- ------Miss Fraser…

Yn MiLlith. Gvynsutliiirwyr…

WIL LEWIS YN ANERCH WTI, HAN

[No title]

Pigion o'r 11 Drych."

---_-----__---------Masnach…

YD.

ANIFEILIAID.

[No title]

MENYN.

GWAIR A GWBLLT.

TA.TWS, MAIP, etc.

GWLAN. (

nadoodd Cymreig, &c.

Principal Welsh Fairs.

Local Tide Table.

Shippirg.

The Chase. -

Family Notices

",.....--.---r Tyatab Syrygiedig…

! --------Mr Bryn Roberts,…

''! Yr Ysgelerwaith. iMewn…