Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Ligwyddiad Dychrynllyd yn…
Ligwyddiad Dychrynllyd yn Norfolk. TYNGHED CYN-FILWR. Yn gynar y flwjddjTi ddiweddaf tonvyd ar hedd- wch trigolion Bunwell, ger Attleborough. Norfolk, gan i ddigwyddiad dychrynllyd gymeryd lie yn y pentref. Ymddengys i gyn-filwr, ar yr 17eg o Ebnll, dalu ymweliad a,'i chwaer, Mrs K. D. Rush, yr hon a breswylia yn Bunwell Low Common, ac iU ol ym- ddiddan a hi aeth i'r ardd. Ychydig funudau wedyn cafwrd y dyn druan yn gorwedd yn farw mewn ty- allan. Mae Mrs Rush wedi bod am flynyddau lawer yn dioddef yn ofnadwy, a chafodd y digwyddiad sydyn uchod y fath ddylanwad arni fel yr aeth mor wael ag i wneud i'w chyfeillion ofni am ei bywyd. Anfonwyd am feddyg, ond ni wnaeth unrhyw les ymddangosiadol iddi. Tua chanol Mehefin, modd bynag, canfyddodd ei chyfeillion welllibd sydyn yn nghyflwr Mrs Rush, ac er ei bod wedi myned mor deneu a "skeleton" bron, enillodd gnawd yn gyflyxn, ac mae yn awr mewn iechyd rhagorol. Nid hyn yw y cwbl, canys dywed y foneddiges ei bod wedi eaill pedwar pwys ar ddeg yn ei phwysau er Mehefin diweddaf. Er cael allan fanylion o'r adferiad twn yr aeth cynrychiolydd or "Norwich Mercury" i dalu ymweliad a chartref Mrs Rush, ac ni synwyd dyn erioed fwy pan yn lie canfod, fel y disgwyliai, ddynes yn cario arwyddion o ddioddefaint diweddar, gwelodd ger ei fron ddynes iach yr olwg ac yn llawn bywyd. Adroddodd yr hanes canlynol: — "Hyd yn awr nid oeddwn wedi bod yn iach ers ugain mlynedd, ac yr wyf wedi bod o dan ddwy 'operation.' 0 fewn saith mlynedd, ar adegau gwahanol, torwyd dau 'tumour' o'm bron chwith. Yr wyf hefyd wedi cael 'rheumatic fever.' Gellwch feddwl felly fy mod wedi dioddef yn fawr, ond yn EbrilI diweddaf y daeth y 'crisis.' Sylwodd yr adroddebwr nad oedd Mrs Rush yn ymddangos fel un fu yn dioddef Ilawer. Atebodd Mrs Rush gyda gwen fod ganddi ddigon o ysbryd, ond fod y ddyrnod yn Ebrill diweddaf wedi dweyd yn arw arni. Aeth yn wael iawn, a chollodd lawer o gnawd. Yn mhen ychydig amser aeth mor wan fel nas gallai gcrdded ar draws ei hystafell. Barnai ei chymydogion ei bod yn myned i farw. Yr oedd diffyg treuliad hefyd yn ei phoeni yn ofnadwy, ac aeth mor deneu fel nas gallti gadw ei dillad am dani. Sylwodd yr adroddebwr, "Rhaid fod eich nerth wedi myned i lawr yn ofnadwy, ond i ba beth yr ydych yn priodoli eich cyflwr sydd yn awr wedi gwella cymaint?" Atebodd Mrs Rush, "I Dr. Williams' Pink Pills for Pale People. Yr oeddwn wedi arweled son am danynt yn y papyrau, ac fel yr oedd nt wedi ad- feryd eymaint o achosion yn v lie. Jlefyd yr oedd genyf nith yn Norwich oedd yn hyuod o wael. Cynghorodd meddyg hi i gvmeryd Dr. Williams Pink Pills. Gwnaeth hyny, a chafodd adferiad. Synodd yr adroddebwr fod meddyg wedi cymerad- wyo y peleni. u "Ond fe wnaeth hyny," ydoedd yr atebiad. Gyda golwg ar fy adferiad i, yr oeddwn wedi myned vn wanach, wanach, hyd nes y clywais oddiwrth fy nith. Yna cynghorodd fy ngwr ti i ireisio Dr. Wil- liams' Pink Pills. Ceisiais hwynt vn Norwich yn Mehefin diweddaf. Yn fuan we(ryn cyfnewidiodd fy iechyd er gwell, ac erbyn fy mod wedi cymeryd cyn- wys yr ail flychaid yr oeddwn wedi gwella cymaint fel nad oedd angen ychwaneg arnaf. Fel y gwellodd fy iechyd, felly hefyd yr enillais gnawd, ac yr wvf wedi enill pedwar pwys ar ddeg er pan yn cymeryd y peleni." Cyfyd afiechydon darfodedigol oddiwrth anallu y cyfansoddiad i wneud defnydd o'r bwyd gymerir. Dycrir hwynt yn mlaen yn fynych hefyd gan "slioek i'r gewynau. Gall hyn achosi yr afiechyd poenus o "nervous dyspepsia." Mae achos Mrs Rush yn encr- raifft o "nervous prostration" adferwyd gan Dr. Wil- liams' Pink Pills; ond gellir syIwi mai dim ond am achosion sydd wedi eu hadferyd gan y gwir beleni y mae son. Dyga. y peleni hyn yr enw yn llawn, Dr. Williams' Pink Pills for Pale People (saith gair), ac os ceir unrhyw anhawsder i'w sicrhau gellir eu cael yn rhad drwy y "post" oddiwrth Dr. Wil- liams' Medicine Co., 46, Holborn-viaduct, London, am 2s 9c y blychaid, neu 13s 9c am chwe blycliaid. Yn mhlith yr anhwylderau nerfaidd sydd wedi eu hadferyd gan y peleni hyn gellir crybwyll St. Vitus' dance, y parlys, locomotor ataxy, a hysteria; a thra maent mor effeithiol mewn achosion difrifol fel y rhai ddesgrifir uchod, gellir yn rhwydd gredu eu heffaith mewn afiechydon ysgafnach, megys neu- ralgia, cur yn y pen, a, phoenau yn v cefn. Wrth adnewyddu a phuro y gwaed, maent wedi adferyd miloedd o achosion o ddiffyg rwaed, crydcymalau, sciatica, doluriau y galon, ac afiechyd yr afu. tra trwy weithredu drwy y gwaed a'i alluogi i ddefnydd- io i'r dyben goreu y maeth yn ein bwyd. Maent yn ffurfio ar unwaith y meddyginiaeth goreu at daiffyg treuliad ac afiechydon darfodedigol sydd' yn codi oddiwrth gam-fwyta. Pan ofynwyd iddo ddyfalu oedran Mrs Rush, barnai adroddebwr y "Norwich Mercury" mai rhwng 36 a 40, a svnwyd ef yn fawr pan ddywedwyd wrtho ei bod vn haner cant. Ond gwyr dynion a merched yn iawn am allu v feddyg- iniaeth i wneud pobl i ymddajigos yn ieuanc.
--__-----_.._---._---------------.…
Shipping. PORTMADOC. Arrivals.—Rosa, Collings, Liverpool.Rose of Tor- ridge, Evans, Exmouth.Blodwen, Penryn, Penryn .Eastward, Jones, Cardiff.Catherine and Marv, do., Silloth.Mary Lloyd, Lloyd. Liverpool.Dorey Belle, Jones, Runcorn. Rebecca s.s., Roberts,Liver- pool Herbert, Thomas, Poole Owen Morris, Pritchard. Shoreham.Ardclinis s.s., Ellis, Cardiff. Sailings.—Sarah Evans, Roberts, London.Indus- try, Hughes, Sutton Bridge.Richard Greaves, Grif- fiths, London.Maid of Meirion. Roberts, Cardiff. Cambrian, Williams, London.Neptune,Humphreys, Faversham.Miss Pritchard, Jones, Southampton. Cordelia, Davies, Chat ham. Prince Llewelyn, R-o- berts, Shoreham.Aeron Lass. Lewis, Shoreham..4 Rebecca s.s. Roberts, Liverpool.Ardclinis s.s., Ellis, Carnarvon.
The Chase.
The Chase. THE ANGLESEY HARRIERS will meet on Saturday, February 11th Black Horsa at 11.30.
-------------------CYFRAITH…
CYFRAITH Y TLODION FEL YR EFFEITHIA AR BLABT. | CYMDEITHAS Y "WAIFS AND STRAYS" A'l G W AITH. CYFARFOD YN NGHASTELL Y PENRHYN. AIREITHIAU GAN ARGLWYDD PENRHYN, SYR ROBERT OUNLIFFE, ARGLWYDDES FREDERICK CAVENDISH, YR ANRH. LAURENCE BRODRICK, A'R PARCH. BROOKE LAMBERT. Ar wahoddia/d Arglwydd ac Arglwyddes Pen- rhyn, daeth nifer fawr iawn o foneddigesau a boneddigion i gyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Castell y Penrhyn. yn mha un y traddod- wyd anereh'-a-dau ar gwestiynau yn nghyfraith y tlodion yn dwyn perthynas a phlant yn nghydag ar y gwaith wneir gan Gymdeithas Eglwys Loegr er Darpar Cartrefi i Blant Cnrydredig a Diam- ddiffyn (Waifs and Strays). Yr oedd y neuadd eang wedi ei llenwi, a ehynwysai y cynulliad glerigwvr, gweinidogion,gwarche dwaicl y tlodion, yn nghydag eraill yn meddu dyddordeb yn y cyfryw waith. Cymerwyd y gadair gan Arglwydd Penrhyn, yrhwn ydyw llywydd Cymdeithas y "Waifs and Strays" yn Esgobaeth Bangor. Gyda'i arglwydcliaeth ar y llwyfan yr oedd Syr Robert Cunlifle; cadeirydd Pwyllgor Gogledd -Cymru o'r gymdeithas uchod; Arglwyddes Frederick Cavendish, yr Anrh. Laurence Brod- rick, a'r Parch. Brooke Lambert, ficer Greenwich. Yn ychwanegol at a enwyd yr oedd hefyd yn bresenol Arglwyddes Penrhyn, yr Anrh. Miss Alice Douglas Pennant, Miss Hilda Douglas Pennant, Miss Violet Douglas Pennant (ysgrif- enyddes leol Cymdeithas y Waifs and Strays), yr Anrh H. LI. Mostyn a Mrs Mostyn, y Cadfridog a Mrs Mostyn, yr Anrh. Savage, Mrs Wynne Finch, Miss Neave, yr Anrh. Mrs Brodrick, Mil- wriad a Mrs H. Gough, Hybarch Archddiacon Bangor a Miss Pryce, Miss Wynne Jones ((ysgri- fenyddes fygedol y gymdeithas grybwylledig yn yr esgobaeth), y Prifathraw Reichel, Mrs a Miss Reichel, Miss Roberts (Bryn Adda), Mrs R. Davies a Miss Davies, Mr George Farren, Maer a Maeres Beaumaris, Canon D. Jones, y Parch J. a Mrs Fairchild, y Parch. W. a Mrs Edwards, Mr a Mrs H. Clegg a Miss Olegg, y Parch. Daniel Rowlands, Mr a Mrs Oox a Miss Cox, Mr a Mrs Trevor Hughes, Mr a Mrs J. Bodvel-Roberts, Major a Mrs Lloyd, Miss Rathbone, Mr a Mrs Henry Lewis, Mr T. Lewis, Mr a Mrs Buxton, Miss Jones, Tre' Anna, Misses Edwards, Mrs Stewart, Mr a Mrs C. A. Jones, Dr. a Mrs Dobbie, Proffeswr a Mrs Gray, Dr. a {:.3 E. 0. Price, Dr. a Mrs Langford Jones, a llawer eraill. Ar ddechreu y cyfarfod mynegodd Arglwydd Penrhyn, yr hwn a dderbyniodd fanllefau cy- meradwyol y diOrf, foci llythyrau wedi eu derbyn yn ymddiheuro am fethu fod yn bresenol oddi- wrth yr Arglwydd Raglaw (Mr J. E. Greaves) a Mrs Greaves, Mr Bryn Roberts, A.S., Deon Bangor, Maer a Maeres Bangor, Maer a Maeres Caernarfon, Maer Oonwy, Arglwyddes Augusta Mostyn, yr Anrh. F. G. Wynn, Syr George a Lady Meyrick, yr Anrh. Arglwyddes Neave, Syr Thomas Neave, Syr Owen a Lady Roberts, Syr Llewelyn a Lady Turner, Mrs a Miss Williams Wynn, Mr a Mrs Tait, Mr a Mrs Arthur Darbi- shire, Mr a Mrs Charles Darbishire, y Milwriad Platt, Miss Adeane, Archddiacon Llanelwy, Mrs McCorquodale, yn nghyda llawer eraill. Heblaw hyn, derbyniwyd llythyrau oddiwrth Mr a Mrs Martin Wilson, Llandudno, yn amgau rhodd 0 5p 5s tuag at gangen Gogledd Cymru o Gym- deithas Elglwys Loegr er Darbod Cartrefi i Blant Crwydredig; Mrs Pochin, rhodd o 2p 2s; Mr a Mrs Adey Wells, rhodd o 1p. Is. Mrs Hugh Jones, 10s Miss Nixon, Bangior, rhodd o 5s. Oyn diwedd y cyfarfod derbyniwyd pellebyr oddiwrth Mrs Chan-trey, Llandudno, yn addaw rhodd o lp Is i drysorfa y gymdeithas. Dywedcidd Arglwydd Penrhyn ei fod, ar ran adran Gogiledd Cymru o'r gymdeithas, yn dymuno cydnabod y rhoddion crybwylledig yn y modd mwyaf diolchgar. Yn ei araeth agoriadol, ei Arglwyddiaeth a ddywedodd: y byddai iddynt, i ddechreu, hwyrach ganiatau iddo roddi croesaw ealomog i'r rhai oil oeddynt, trwy ddod i'r cyfarrod hwnw, wedi cymeryd y cyfleusdra i brofi y dydd- ordeb a gymerent yn yr amcanion daionus oedd i ddyfod dan ystyriaeth y diwrnod hwnw. Yr oedd y cyfarfod hwnw wedi ei alw i bwrpas deu- blyg. Yn gyntaf oil, gobaith, trwy gynal cyfarfod ar raddfa eangach na chyfarfod cyffred- mol blynyddol rheolaidd Pwyllgor Gogledd Cymru o Gymdeithas y "Waifs and Strays," y gallai hawliau ac amcanion y sefydliad rhagoroi hwnw gael eu gwneud yn fwy cyffredinol wybydd- us ao y byddai i fwy o ddyddordeb yn ei gweith- rediadau gael ei gymeryd yn Ngogledd Oymru. Er fod Esgobaeth Bangor wedi ffigro yn lied amlw-g yn hanes tyfiant y gymdeithas (yr oedd yn dda ganddo ddweyd), eto i Esgobaeth Llanelwy yr oeddynt ddyledus am roddi cyohwyn i'r mud- iad, ac nid oedd and teg rhoddi iddynt y clod am hyny. Hwyrach y caniateid iddo ef ddatgan gair o ddiolchgarweh i'w lluaws cyfeillion Ymneillduol oeddynt wedi rhoddi prawf cryf o'u dyddordeb yn y gymdeithas, a chymhellid ef i gredu eu bod yn edryoh ar y mudiad fel cam defnyddiol tuag at leddfu cyflwr plant tlodion trwy eu gosod mewn amgylchoedd mwy teby i gartref, rhoddi iddynt well hyfforddjant addysgawl, yn nghyda rhoddi iddynt gyfleusdra teg i godi eu hunain uwchlaw lefel y tlotty. Yr ail gwestiwn y bwr- iadai'r cyfarfod ymwneud ag ef oedd "pynciau yn neddf y tlodion a effeithiant ar blant." Nid oedd efe am geisio eu dysgu hwy yn nyrys-bethau cyfraith y tlodion a pha fodd i'w gwella- cvfraith nad ymddangosai yn plesio neb, ac am yr hon nad oedd gan neb air da i'w ddweyd; ni wnai efe, gan hyny, and gwneud sylw neu ddau ar y Ddeddf fel y saif ar y pwynt ynddi sy'n dwyn perthynaa a phlant tlodion (pauper children); oblegid yr oedd wedi taro i'w feddwl ef y gallai rhai o waroheidwa d y tlodion fod eto yn anhys- bys o'r galluoedd roddid iddynt i anfon plant i gartrefi, eu byrddio allan, neu os yn ofynol eu hanfon i ysgolion diwydianol o wahanol fathau. Yr oedd yn ddigon posibl, hyd yn nod yn awr, fod rhai o'r gwarcheidwaid heb lawn sylweddoli natur pwysig eu dyledswyddau, tuag at y plant, dros ba rai yr oeddynt yn rhinwedd eu swydd yn y safle o ymddiriedolwyr; a phe meddylient am eiliad beth olyga y gair "ymddiriedolwyr," hwy a gaent ei fod yn cynwys y dylai y gwarcheidwaid wneud pob ymdrech i hyrwyddo lies a chysur y plant y gweithreda drostynt. Ni wnai y tro iddo eu hystyried oil fel wedi eu castio yn yr un mowld, ac am hyny eu trin i gyd yn un fath yn y mater o addysgu. Mewn gwirionedd, fe ddylai cymhwysderau pob plentyn unigol gael eu has- tudio; a lie yr oedd arwyddion gobeithiol o ddeall a t-halent i'w canfod mewn plentyn, dyled- swydd y gwarcheidwad oedd cym-eryd gofal o'r plentyn hwnw ac edrych ei fod yn cael y fath driniaoth ag a fyddo'n fanteisiol i ddadblygu ei alluoedd (cymeradwyaeth). Yr ceid efe (ei arglwyddiaeth) wedi cael ei sicrhau ar awcltirdod ymddibynol y i>vddai yn dda gan Fwrdd Llywodraeth Leol, yn y cyfrvw aohosion, gymeradwyo traul yohwanegol ar addYBg y cyfxyw blentyn. Wedi traethu rhai sylwadau pellach, terfynodd y Llywydd trwy ddweyd OB byddai i ganlyniad y cynulliad y dydd hwnw dueddu at unrhyw beth tebyg i symudiad yn y cyfeiriad a osododd efe i lawr, fe fyddai efe yn hapus yn y meddwl na chafodd y cyfarfod ei gynal yn ofer (cymeradwjneth). Syr Robert Ounliffe a ddywedodd ei fod yn dymuno llongyfarch Arglwydd ae Arglwyddes Penrhyn, y rhai a gymerent y fath ddyddordeb yn ngwaith y gymdeithas hon, ar y modd yr oedd y presenolion wedi derbyn eu gwahoddiad a rhoddi iddynt gyfarfod mor bwysig a dylanwadol —cyfarfod y gobeithiai fyddai yn Hawn a gan- lyniadau d!a i ddyfodol y gymdeithas (clywcli, clywch). Ei ddyledswydd gyntaf ef oedd rhoddi iddynt, yn bur fyr, ychydig ffeithiau o berthynas i gangen Gogledd Oymru o Gymdeithas Eglwys Loegr er Darpar Oartrefi i Blant CrwydroL Adgofiai efe hwynt i'r gymdeithas ddechreu ei gwaithi yn Ngogledd Oymru yn y flwyddyn 1889, ac yn 1890 cyohwynwyd cartref i fechgyn yn Arthog, ger Dolgellau. Yr oed<l y oartref hwnw 3D dra dyledus i baelfrydedd Aiglwydd^s Eliza- beth Legge, yr hon a'u galluogodd i ddechreu gweithredu dan amgylchiadau pur ffafriol. Y pryd hwnw yr oedd y gymdeithas yn cynal unar- ddeg o blant mewn cartrefi eraill perthynol iddi, j ac yn yr un flwyddyn (1890) bu i Esgobaeth Bangor gymeryd y gwaith i fyny. Yn 1893 caf- odd Cartref St. Mark, Caernarfon, a sylfaenwyd gan Mrsf Wynn Griffith yn 1889, ei drosglwyddo I i'r gymdeithas, a chafodd y Nursery Cottage Home yn Nhregarth ei gychwyn. Yr oedd eangen Gogledd Cymru v funudhon yn gyfr:fol aindri o gartrefi, sef Cartref St. Deiniol yn Arthog, Cartref St. Mark yn Nghaeinarfon, a'r Xurseiy Cottage Home yn Nghregarth, oil yn cynwys" 45 o blant yr oeddynt hefyd yn gyfrifol am gynhaliaeth deuddeg o blant mewn cartrefi eraill perthynol i'r gymdeithas. Yn y cartrefi hyn fe rodd d i'r genethod hyfforddiant trwyadl mewn gwaith ty, golchi a smwddio, etc., a'r prawf goreu o ragoriaeth. yr addysg a dderbyniant oedd fod y galw am eu gwasanaeth yn fwy na'r cyflen- wad. Wrthddewis plant i'r cartrefi,rhoddir blaen- oriaeth bob amser i'r rhai a argymhellid gan warcheidwaid ileol. Yr oedd ganddynt yn awr tua 60 o blant o gwbl dan eu gofal. Efe a ddylai grybwyll yr hyn oedd ffaith bwysig, sef fod y cyfraniadau a'r rhoddion yn 1897 yn cyrhaedd 1037p. Nid oedd yr adroddiad am y flwyddyn ddiweddaf yn hollol barod, ac felly nid oedd eto wedi ei gyhoeddi. Drwg ganddo ddweyd y gwel- ent ynddo, pan ymddangosai, fod diffyg o 60p yn bodoli; ond yr oodd yn gobeithio, wrth edrych o amgylch ar y cyfarfod hwnw, y byddai iddynt gymeryd y cyfleusdxa i glirio ymaith y diffyg. Yr oedd galw mawr am gyfraniadau ychwanegol, gan fod angen pwysig am gartref arall yn Esgob- aeth Llanelwy. Pe caent swm mwy o gyfraniadau gallai Esgobaeth Banmr gynal ei chartrefi ei hun. Wrth siarad a'r fath gyfarfod a hwnw. teimlai yn sicr ei fod yn pregethu i rai wcdi eu troi (con- verted), i raddau mawr o leiaf. Yr hyn y gof- ynai y gymdeithas iddynt wneud oedd myned rhagddvnt i droi eraill ac arfer eu dylanwad i'w dwyn i gymeryd dyddordeb vn ngwaith y gymdeithas ac i hyrwyddo twf y i gwaith hwnw. Yr oedd yn meddwl y gallent bwyntio at "record" hynod dda. Yr oedd gan y gymdeithas dan ei gofal y funud hono agos i 3000 o blant. Yr oedd wedi daipar cartrefi, mewn gwahanol ffyrdd, i 6000 o blant. Bu iddi ddechreu gyda 800p, ond vn awr meddai incwm o 70,000p (cymeradwyaeth). Oredai fod hyny yn dangos fod y gwaith a wnaent yn cael ei fawT brisio, a bod y gymdeithas yn gweithio mewn dull ymar- ferol a chynil. Yna aeth y siaradydd yn mlaen i draethu ar y gwaith da wneid gan y gymdeithas ar y plant, ac fel yr oedd y gymdeithas yn gweith- redu fel llaw-forwyn mor ragorol i'r Eglwys. Orybwyllodd hefyd am y gwaith canmoladwy a gyflawnid gan y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Blant, ac nad oedd cenadwri y gymdeithas hon yn milwrio dim yn erbyn gwaith Cymdeithas y Waifs and Strays. Gyda golwg ar Gymdeithas y Waifs and Strays, yr oeddynt yn gofyn fod i'w gwaith gael ei gynyddu, ac am eu dylanwad a'u cefnogaeth hwythau i'w gario yn mlaen. Yr oedd arnynt eisiau helaethu'r gwaith ddengwaith yn fwy—ie, hyd yn nod ddengwaith a deugain. Gallent oil roddi eu hamser, eu harian, a'u dylan- wad i gymdeithas fel hon, a dyna a ofynent iddynt hwy wneud, ac hefyd arfer eu f dylanwad i gael gan eraill ymuno er hyrwyddo gwaith a orweddai o flaen yr holl fyd, teilyngdod yr hwn nis gellid ei amheu (cymeradwyaeth). Gyda golwg ar lawer o'r plant bach y dadleuent drostynt y diwrnod hwnw, yr oedd llawer o honynt heb y syniad lleiaf am fam o gwbl; a lie v bodolai hyny, yr oeddynt yn cysylltu y gair ag esgeulusdra a cham- I driniaeth neu rywbeth gwaeth. Yr oedd yn meddwl fod hyny yn cyfansoddi apel cryf iawn atynt hwy (ei wrandawyr), adgofion boreuaf pa rai ddygai yn 01 iddynt ddim ond geiriau serchog a gweinyddiadau caredig. Yr oedd eu hachos vn awr yn eu dwylaw hwy, ac yr oedd efe yn ei gymhell iddynt yn ddifrifol a hyderus (cymeradwyaeth). Arglwyddes Frederick Cavendish a ddywedodd ei bod yn sefyll o'u blaen, yr oedd ami ofn, fel un hollol ddyeithr; eto daethai i Gastell y Penrhyn oherwydd cysylltiad pur agos ag ef. Yr oedd Ar- glwyddes Penrhyn nid yn unig yn gyfnither iddi, and yr oedd yn "double first cousin" iddi gan hyny, pan anfonodd Arglwyddes Penrhyn archiad iddi ddyfod yno i siarad ar ran y "waifs and strays," hi a deimlai yn bur barod i ddyfod ar y tir hwnw. Wedi gwneud ychydig sylwadau rhagarweiniol pert, dywedodd y foneddiges hyawdl: Hwyrach ei fod yn wendid cyffredin iddynt oil yn Lloegr, a Chymru hefyd, eu bod! yn rhy hoff o "rwyfo yn eu cwch eu hunain," a'u bod yn eiddigeddus o weithredoedd da eu gilydd. Wrth gwrs, yr oedd yn rhaid i rai llinellau dyngarol o ymdrech fod yn annibynol ar eraill. ond mewn llawer iawn o achosion fe ddylent wneud dwbl y gwaith, a hyny ar haner y draul a't (I.ajfrrth, os byddai iddynt ?eisio gweithio mewn I undeb ag ymdrechion eraill vn meddu yr unrhyw am- canion ac egwyddorion (clywch, clywch). Camgym- eriad mawr oedd tybio, wrth ymwneud a chyrph ao eneiddau dynol, y gallent eu rhedeg oil yn yr un mowld. Pe buasai felly, pe gallent eu troi allan i gyd yn ddinasyddion a Clwistionogion da trwy ddull unffurf syml o weithrediad, byddai i'r anhawsder gael ei ddadrys yn llawer cynt. Gyda'r syniad hwn y bu i'r ysgolion mawr dosbarthol gael eu sefydlu ar y cyntaf trwy draul fawr a chyda'r gobeithaon a'r bwr- iadau goreu. Darfu i brofiad, modd bynag, eu dysgu, pan deflid y rhai bychain hyn i freichiau y Wladwriaeth, fod yn rhaid i'r Wladwriaeth edrych allan eu bod yn cael, nid eu porthi yn unig, eu golchi, eu dilladu, eu drilio, eu dysgu, a'u hyfforddi. ond hefyd fod triniaeth mam yn cael ei roddi iddynt (clywch, clywch). Nig gallent hwy wella ar natur yn ei ffordd ei hun. Gyda mamau a chartrefi y cychwynodd natur, ac felly y rhaid i'r gymdeithas wneud, mor bell ag oedd bosibl; ac os oeddynt yn myned i wneuthur unrhyw dda o'r olant amddifad ac esgeulusedig hyn, rhaid oedd i hyny fod trwy ffeindio iddynt, mor agos ag v gellid, y mamau a'r cartrefi oeddynt amddifad o hionynt (cymeradwy- aeth). Oherwydd yr angen profedig hwn o "famol- iaeth" y llawenychai hi weled eu bod yn Esgobaeth Bangor wedi darpar y Nurserv Cottage Home yn Nhregarth, lie y cymerid i mewn blant bach o deir- blwydd oed i fyny. Siriol iawn oedd ganddi glywed fod yr egwyddor o gartrefi bvchain a byrddio allan I wedi ei mabwysiadu mor gyffredinol gan warcheid- waid y tlodion yn Ngogledd Cymru, ac y gallent mewn canlyniad weithio i mewn mor galonog gyda Chymdeithas y Waifs and Strays. Fel Cymraes o ochr ei mam—(cymeradwyaeth)—yr oedd hi yn llawenhau wrth glywed gan Arglwyddes Penrhyn fod merched Cymreig yn enwog wel mamaethod (foster- mothers), ar gyfrif eu calonau cynes a'u tueddiadau serchoglawn (cymeradwyaeth). Hwy a wyddent oil mai ar famau, hyd yn nod yn fwy nag ar dadau, v dibynai ffurfio cymeriad y plentyn a chan hyny gallent edrych yn mlaen yn obeithlawn i ddyfodol v rhai bychain gaffent y fantais o gael mamaethod Cymreig. Yna Arglwyddes F. Cavendish, wedi gwneud rhai sylwadau pellach, a ddywedodd ei bod yn gobeithio y caniateid iddi gyfeirio ychydig eiriau at yr Eglwyswyr presenol parthed Cjrmdeithas v Waifs and Strays. Yr oedd gan y gymdeithas hon hawl gref ar Eglwyswyr, a phriodol iddynt oedd cofio eu bod, trwy ymrwymiadau eu bedydd hwy eu hunain, yn rhwymedig i ddal a chredu erthyglau y Ffydd Gristionogol, a dim byd llai na hyny a gwneuthur, mewn canlyniad, yr oil yn eu gallu i weled fod pob plant ag y maent mewn unrhyw fodd yn gyfrifol drostynt yn cael eu dwyn i fyny yn yr un grefydd, a dim un arall. Duw a wyddai fod digonedd o le i'r holl ymdrechion eraill o eiddo vr holl sryrph Cristion- ogol i gyd; ond na fvdded iddo byth gael ei ang- hofio gan Eglwyswyr, tra. yr oedd cyrph Cristionogol eraill yn cario yn mlaen eu hvmdrechion daionus. a hyny yn fynych gyda thrwyadledd allai'n hawdd godi cywriydd arnynt hwy, mai dvledswydd arbenig yr Eglwys ydoedd ceisio a gwaredu v colledig, y rhai o'r tuallan, y crwydriaid na chesglid i'r un gorlan, a nTvy na'r cwbl yr wy~n gwasgaredig oeddynt heb le i ddianc iddo am loches. Ni ddigalonwyd neb erioed a ddygasant blant at yr Iesu. Yr oedd Efe yn eu earu ac yn eu gwahodd ato, ac yr ganddynt Ei air Ef "mai eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd" (cymeradwyaeth mawr). Yr Anrh. Laurence Brodrick a ddywedodd fod crybwylliad wedi ei wneuthur eisoes at y sylw cyn- yddol oedd wedi ei roddi mewn blynyddoedd diwedd- ar i'r gofal am blant, fel ag y profid gan nifer y cym- deithasau oedd wedi eu neillduo yn awr i ystyried y pwnc. Y dyddiau hyn, pan gychwyniad unrhyw symudiad, y ffrwyth anoch- eladwy ydoedd sefydlu cymdeithas i gario allan amcanion y cyfryw symudiad, ac yr oedd tuedd mewn pobl i flino ar nifer cymdeithasau o'r fath, Ond, er hyn oil, yr oeddynt yn awr wedi dyfod i'r oasgliad mai y plant a ffurfient y defnydd gwerthfawTOcaf a feddiai y genedl. Hyd yma yr oedd wedi bod yr arferiad yn y wlad hon i dreio pob arbrawf newydd, nid ar y goat gyhoeddus, ond ar gost personau unigol. 0 ganlyniad daeth Cymdeithas y Waifs and Strays i fodolaeth trwy ymdrechion un dyn. Sylfaenydd y gymdeithas oedd Mr Woodruff, yr hwn, gan ei fod yn awydd- us i osod mewn cartref perthynol i Eglwys Loegr fachgen anghenus oedd yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul, a gafoddl nad oedd un cartref felly. Credai y siaradydd mai y tanysgrifiad cyntaf at y gymdeithas hon oedd Is 6^0 gan y dosbarth cry- bwylledig tuag at helpu un o'u cydaelodau (clywch, clywch). Hwy a welent, felly, ddarfod i'r gymdeithas dyfu allan yn naturiol i gyfarfod ag angen a godasai. Pwynt gwreiddiol y gym- deithas hon oedd cynorthwyo a chydweithredu a chyfraith y tlodion, nid ei disodli. Yr oedd cartrefi y gymdeithas, v nifer fwyaf o ba rai a gymerent i mewn oddeutu 20 bob un, yn gartrefi lie gallent gael efelychiad pur dda o fywyd teu- luaidd. 0 berthynas i'r "Charity Organisation Society," efe a allai ddweyd mai un o'i hegwydd- orion cyntaf oedd, os yn bosibl, i gadw a chynal y cartref i fyny, oblegid fe deimlid fod dylanwad y cartref o'r pwys mwyaf, a chan nad pa beth allent gael yn lie cartref, nad oedd yn ,hollol i fyny a'r "genuine article" (clywch, clywch). Os oedd lies i gael ei wneud o gwhl, myntumiai ef mai trwy V j.chrediad personau unigol yr oedd yn rhaid l wneud. Rhaid oedd iddynt ystyried pa fodd yr oedd y gwaith mawr hwn o eiddo'r gym- deithas i gael ei gario yn mlaen, canys anmhosibl ydoedd codi y fath swm a 70,000p y flwyddyn heb ymdrech anarferol fawr. Wrth gwrs yr oedd yn weddol hawdd, pan fyddai tonn fawr 0 deimlad cyhoeddus yn myned dros y wlad, i godi synÚau o arian at amcanion neillduol; ond yr anhawsder oedd cadw i fyny y tanysgrifiadau blynyddol wedi i'r cyffro cldarfod ac i'r teimlad cy- hoeddus bcidio cael ei gyffwrdd. Nid yn unig yr oedd yn faber anhawdd codi 70,000p. y flwydd- yn, eithr fe ofynai Syr Robert Ounliffe am ragor. Nis gellid gwneud hyn ond trwy ymdrechion I gorchestol a thrwy gymeryd "fresh start" yn barhaus, ac yr oedd efe yn gobeithio y profai y cyfarfod hwnw felly (cymeradwyaeth). Wedi cael anerch-iad hyawdl i'r un perwyI gan y Parch Brooke Lambert, Arglwydd Penrhyn a gynygiodd bleidlais o ddiolchgarwch i'r Arglwyddes Frederick Caven- dish yn nghyda'r boneddigion a anerchasant y cyfarfod. Mr Harry Clegg, wrth eilio, a ddywedodd ei fod yn teimlo'n sicr, ar ol gwrandaw yr areith- iau a draddodwyd yno y diwrnod hwnw, y buas- ent yn myned oddiyno i'w cartrefleoedd gydag argraph ddofn o'r hyn oeddynt wedi ei glywed a'i ddysgu. Dywedai eu bod yn cael fod cryn lawer o anhawsder mewn delio gyda rhieni a gamdrin- ient eu plant, ac achosion y rhai a gymerid i fyny gan y Gymdeithas er Atal Creulondeb tuag at It Blant. Nid oedd y rhieni hyny yn gwneud dim amgen na throsglwyddo eu plant odditan eu rhe- olaeth eu hunain i ofal y gwarcheidwaid. Nid oedd ef ei hun yn meddwl fod anfon y Thiaint i garchar yn cael yr effaith ddymunadwy. Credai y gellid mabwysiadu egwyddor Deddf newydd y Meddwon, fel ag y byddai i riaint a euogfarnwyd o esgeuluso eu plant, ar ol gwasanaethu tymhor o garchariad, gael eu hanfon i gartref lie gallent weithio rhyw waith er enill arian i gynal eu plant (clywch, clywch). Byddai hyn, yn ei farn ef, yn llawer gwell cosp na dim ond eu hanfon i garchar. Oddiwrth ei brofiad ef mewn materion cysylltied- ig a chyfraith y tlodion tra yn actio fel clerc i Un- deb mawr, yr oedd yn cael mai plant rhai fuont eu hunain yn pwyso ar y plwyf oedd y rhai dder- bynid i'r tlotty bron i gyd. Yn ei fam ef, goreu po gyntaf iddynt anfon plant i gartrefi. Yn Undeb Bangor a Beaumaris yr oedd y plant yn cael eu byrddio allan, ac yr oedd yr adroddiadau a dderbyniai'r gwarcheidwaid o berthynas iddynt yn dra boddhaol (clywch, clywch). Sicr ganddo en bod oil yn diolch i Arglwydd Penrhyn am alw y cyfarfod hwnw. Yr oedd yn meddwl, os can- iateid ef, y dylasai enw: Arglwydd Penrhyn gael ei gynwys yn y bleidlais o ddiolchgarwch (cymer- adwyaeth). Arglwydd Penrhyn a roddodd i'r cyfarfod y bleidlais o ddiolchgarwch i'r Arglwyddes Freder- ick Cavendish a'r siaradwyr eraill, yr hon a gar- iwyd yn unfrydol—y Parch Brooke Lambert yn ateb. Rhoddes Mr Harry Clegg i'r cyfarfod y bleid- lais o ddiolchgarwch i Arglwydd Penrhyn, a char- iwyd hono hefyd gydag unfrydiedd. Ar gynygiad Mr Harry Clegg, pasiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch unfrydol hefyd i Arglwyddes Penrhyn, yr hon a gydnabyddwyd gan Arglwydd Penrhyn. Yna terfynodd y cyfarfod, a darfu i Arglwydd Penrhyn (ar ran Arglwyddes Penrhyn) wahodd y presenolion i gyfranogi o de cysurus cyn ymadael oddiyno.
Marwolaeth Mrs Vincent, Treborth.…
Marwolaeth Mrs Vincent, Treborth. Uchaf. Cymerodd marwolaeth y foneddiges uchod Ie yn ei thy, Treborth Uchaf, dydd Gwener cyn y diwedd- af. yn ei 71ain mlwydd oed, yr hyn sydd wedi achosi galar cyffredinol yn yr esgobaeth hon a manau eraill, oblegid yr oedd iddi gylch eang o gyfeillion agos, y rhai oeddynt yn ymlyngar iawn wrthi. Merch oedd Mrs Vincent i'r diweddar Barch William Johnson, rheithor Llanfaethlu, Mon; a'i mham oedd un Miss Wynne Jones, Treiorwerth. Oddeutu 43 mlynedd yn ol priodwyd hi gyda'r diweddar Barch James Crawley Vincent, ail fab y diweddar Barch James Vincent Vincent, Gorddinog, Llanfairfechan, yr hwn ar ol hyny ddaeth yn Ddeon Bangor. Treuliwyd misoedd cyntaf ei bywyd priodasol yn Esgobaeth Llanelwy, ond ni fu Mr Vincent yn hir cyn cael ei apwyntio i Glanogwen o ba Ie, cyn bo hir, yr aeth. i ficeriaetli Caernarfon, yr hon iywoliaeth a ddaliodd hyd ei farwolaeth pan ond 42ain mlwydd oed. I fyny hyd hyny yr oedd bywyd Mrs Vincent wedi bod yr un a bywyd ei gwr, a bu yn gefnogaeth a chalon- did mawr iddo, gan ei bod yn wraig ddeallus nodedig. wedi darllen llawer, ac yn meddu barn annibynol aeddfed. Pan y daeth Mrs Vincent yn weddw, gydag wyth o blant, yr hynaf heb fod dros 12 mlwydd oed, a'r ieuengaf ond rhyw flwydd oed, hi a symudodd o Gaernarfon i Fangor, lie, erbyn nyn, yr oedd ei thad-yn-nghyfraith vn ddeon. Ond parha- •dd ei dyddordeb hi mewn nethau Eglwysig mor rymus ag erioed. Ar farwolaeth y Deon Vincent aeth Mrs Vincent i wlad dramor am tua dwy flynedd, ac yna, am 22ain mlynedd, bu iddi breswylio yn Nhreborth. Un yn unig o'i phlant fu farw o'i blaen. sef Miss Evangeline Vincent: erys saith o honynt ar ol i alaru eu colled anadferadwy. CjTnerodd yr angladd Ie ddydd Mawrth diweddaf. Bu yr Hybarch Archddiacon Pryce, cyfaill i'r teulu am o leiaf ddeugain mlynedd a thad bedydd i fab hynaf Mrs Vincent, ddarllen y gweddiau yn Ñhre- borth, a chariwyd allan y fwasanaeth claddu Mynwent Llanbeblig, Caernarfon, gan y Parch J. W. Wynne Jones. Cynhebrwng preifat ydoedd, ond yn mhlith y rhai presenol yr oedd meibion a marched Mrs Vincent (sy'n awr yn Lloegr), Mr J. E. Vincent (canghellydd yr esgobaeth), Mr Edmund Vincent, Mr H. C. Vincent briod, Mr A. E. Vincent, Miss Vincent, a Mr Lloyd Williams, Croesoswallt (mab- yn-nghyfraith), a Mrs Lloyd Williams. Mae Mr William Vincent (Indian Civil Service) a Mrs Mait- land Hudson (merch) yn absenol yn India. Mr Ed- ward Johnson a Mr Vincent Johnson (neiod), yr Archddiacon Wynne Jones Miss Wynne Jones (cefnder a chyfnither), yr Archddiacon Pryce, Parch D. Bankes Price, Mr John Davies, Oeris Mr Lloyd Davies, Miss Enid a Miss Beatrice Davies, Treborth y Prifathraw Reichel, Mrs a Miss Reichel, Mr H. Lloyd Carter, Mr a Miss Newton, Miss Grace Parry, Mr T. Warren Trevor, ac eraill. Anfonwyd blodau a- blodeudyrch gan feibion, merched ac wyrion Vincent; gan yr Esgob Lloyd, Bangor, a'r teulu ;) cran Ddeon Bangor a'r teulu Mrs Johnson, GIardon Miss Johnson a Miss Ellen Johnson, Miss Thomas, Beaumaris; Mr a Miss Wynne Jones, Canon a Mrs LI. Wynne Jones, Mr a R. J. Wynne Jones, vr Anrh Mrs Wynne Jones. Mrs Montague Cotterill, Mr a Mrs Edward Johnson; Parch Evan Williams a Miss Williams, Ficerdy Nantcwnlle; Miss Margaret Williams a Miss Kate Williams, Parch Henry a Mrs Williams, Ficerdy Pontfadog; Parch Walter Williams, Mrs Watkin-Davies a Miss Watkin-Davies, Parch Frank Watkin-Davies a Mrs Frank Watkin-Davies, Mrs Davies, Treborth, a'r teulu Miss Davies, Treborth Mrs Habershon, Mrs Colman, Arglwydd a Lady Penrhyn, yr Anrh. Hilda Douglas Pennant, Mrs Marshall, Tan y Coed; Mr James Owen, Caernar- fon Mr H. Lloyd Carter. Mrs Griffith, Dolgellau Miss Polly Walton, v Misses Needham, Glenbrook, Bray; Dr. a'r Misses Hughes. Tan-y-Fynwent; Mr a Mrs E. A. Young, y Misses Hughes, Bryn Menai; Canon a Mrs Trevor, Machynlleth; Miss Charlotte Trevor, Mrs Poole. y Misses Ringwood a Mr Perry Ringwood, Katie Edwards, Mr a Mrs Parry-Jones, Mrs Routledge, Mr Edward Birley, a Mrs Rushton, Miss Grace Parry, gyda chwech o flodeudrych heb enwau gyda hwynt.
[No title]
Dyma fel y mae y beirdd wedi canu ar briodas Mr Richard Hughes, Shopycreigiau, Llanfachraeth, a Miss Powell, Shop Fawr, Llanfachraeth: — Ow! gwelwch pwy a friliodd—o'n seiat, Hughes eto a'n siomodd Yn Miss Powell fe welodd Y fun deg oedd wrth ei fedd. Llanfachraeth. J. K. JONES. Dringodd Hughes o dir angel,—ei fanon Geidw'i fwyniant uchel; Bywiog y rhoes Miss Powell, Hynaws wr o dan ei sel. MACHRAETH MOI*.
Llys Manddyledios Lianrwst.I
Llys Manddyledios Lianrwst. ACHOSION PWYSIG I AMAETHWYR. Dydd Sadwrn, o flaen ed Anrhydedd Syr Horatio Lloyd. Llys arbenig oedd hwn wedi ei benodi gan ei Anrhydedd i glirio gwahanol achosion oeddynt wedi 'ei goh'rio o dro i dro mewn llysoedd t iaen- orol. Yr oedd y llys yn orlawn trwy'r lyild, a pharhawyd i eistedd hyd saith o'r gloch. Yr Helwriaeth a'r Cnwd.—Mr Ellis Wynne, Penllyn, Eglwysbach, a ofynodd Mr Robert Norton, Penrhiwarddwr, o'r un lie, o 24p 6s 6c am niwed wnaed i ei ffeun gan helwriaeth y diffynydd.—Ymddangosai Mr David Jones (Mri David Jones a Roberts) dros yr hawlydd a Mr A. E. Griffith, Rargyfreithiwr (yn cael ci grfarwydio 31ri Griffith ac Allaid), dros y diffynydd.—Yr oedd yr achos wedi ei ddechreu yn y llys blaemorol, a. gohiriwyd cyn i'r hawlydd gael ei groesholi; ac heddyw declu'euwyd yn y fan hono.—Mr Ellis Wynne a ddywedodd, mewn atebiod i Mr Griffith, i'r j>risiad gael ei wneud ar y cnwd a'r niweidiau wnaed iddo gan Mr T. Rogers Jones, Awst 16, a 21p osodwyd i lawr ar y niweidiau y diwrnod hwnw. Yn mhen tua deng niwrnod ar ol hyny y cafwyd yr yd i mewn, a dododd ddwy bunt ar gyfer y niweidiau wnacd yn ystod yr amser hwnw. Haidd a cheirch oedd y cnydau ddifawyd gan y pheasants a'r cwn- ingod. Yr oedd y gwellt yno i'r diffynydd i'w gael os dewisai gwnaed niwed hefyd i'r tatws y rhai oeddynt i'w gweled i bawb ewyllysiai.— Mewn atebiad i Mr D. Jones, dywedodd mai o dan Mr Pochin y cymerodd J1 fferm, ac ni chaf- odd ef na neb arall achos i gwyno J'11 amser Mr Pochin oherwydd helwriaeth, ond yn awr yr oedd tir yn llawn o adar a cwningod.—Mr John Ro- berts, Tan'rallt, a dystiodd fod llawer o pheas- ants dof wedi eu dwyn i'r lie gan Mr Norton. Ni chwynai neb yn amser Mr Poehin yn erbyn yr helwriaeth, ond yn awr hwy wrth y pum canoedd, ne3 odd y lie yn llawn o honynt. Megid yr adar yn y meddiant ucha, a deuid ahwy wedi hyny i'r planigfeydd gerllaw Penllyn. Gwnaeth yntau gais am gydnabod am y niweidiau achoswyd gan y pheasants, a chafodd ddwy bunt am y tatws dd fethwyd ganddynt.—Mr T. Rogers Jones, arwerthwr a phrisiwr, a dystiodd ei fod yn adnabod yr hawlydd, a'i fod yn amaethwr rhagorol, a gwyddai yn dda am Penliyn. Gofyn- odd iddo ef ddiod i'w fferm, Awst 16 i brisio y niweidiau achoswyd i'w gnwd gan helwriaeth y diffynydd. Gofynodd iddo wneud prisiad rhe&- ymol, a gwnaeth hyny, ac yn ol ei gyfrif ar y pryd yr oedd y niweidiau yn werth 21p. Prisiai y gwellt yn werth Ip 17s 6c. Nid oedd amheu- aeth ganddo nad "game" achos odd y niwed i'r cnydau gallasai l'hywbeth arall fod wedi ei achosi ond wrth weled y lie a'r adar yr oedd yn gwbl foddlawn yn ei feddwl mai helwriaeth oedd achos yr olwg geid ar y cnydau yn y ddau gae pellaf oddiwrth y ty. Mewn amddiffyniad tystiodd Mr Norton iddo gymeryd y saethu dros ddeuddeg cant o erwau ar etifeddiaeth Bodnant, acyr oedd Penllyn yn eu plith. Magai tua pum' cant o pheasants bob blwyddyn yn mcddiant uchaf, un o'r ffermwyr a ddaliai ef ei hun, a symudid hwy yn nechreu Awst i'r tair planigfa oedd ganddo, y rhai a fes- urent driugain erw, a'r fwyaf o honynt yn ymyl Penllyn. Yr oedd "wire netting" wedi ei dodi ar hyd y lie, a'i suddo chwe' modfedd i'r ddaear. Gwelodd yr hawlydd ar y lie Awst 16eg, a chyn- ygiodd setlo y mater gan nad oedd yn dewis i'r un amaethwr fod yn ei golled trwy ei pheasants. Nid oedd yn bosibl i'r holl niwed oedd ar yr yd fod wedi ei achosi gan ei adar ef gan mai ers tua wyth niwrnod yr oeddynt yno, ac ychydig o honynt oeddynt wedi gallu myned dros y "fence" gan mor ieuainc oeddynt. Talodd symiau i'r amaethwyr y blynyddoedd diweddaf nid oddiar unrhyw rwymedigaeth, ond o ewyllys da.—Mewn atebiad i Mr D. Jones, dywedodd nad oedd yna un ran o dair y "game'S&ydd yn awr pan gymerodd y saethu wyth mlynedd yn ol. Yr oedd yn dal tair fferm ei hun, ac yn hau yd yndclynt er mwyn adar, a gadawyd peth heb ei dori er mwyn iddynt ei gael i'w fwyta, Nid oedd yn meddwl fod y fath nifer o wningod ar y llai ag a ddarluniai yr ha.wlydd, er iddo glywed fod ei feibion yn lladd tua tri chant y flwyddyn o honynt, a chafodd achos i'w herbyn am gario gynau. Nid oedd am fagu adar eleni, a thalodd nawpunt am y niweid- iau i Wynne y flwyddyn cyn y ddiweddaf. Oaf- wyd tystiolaethau pellach gan ddau geidwad helwriaeth Mr Norton, ac wedi dadl ar y ddwy ochr gan y cyfreithwyr, dywedodd ei Anrhydedd fod hawl gan y diffynydd i godi pheasants, etc., ar y tir, ond nid' i orlenwi y He gydag a o leoedd eraill, acyr oedd yn afresymol cael cynifer 0 honynt mewn lie mor fychan. A'i hwy wnaeth y niwed ? Wyth niwrnod y buont yno, ac felly nid hwy wnaethant yr holl niwed. Beth ddylai yr iawn fod? Gofynid 24p 6s 6c, a dyvvedai un o'r ceidwaid y byddai 5p yn ddigon.—Dedfryd am 17p a'r costau. Meddiaat a Dy.—Mrs Catherine Ann Fisher, Roe Wen, a ofynai aim feddiant gan Moses Wil- liams o Amaethdy Penygraig a'r tir, Maenan.— Ymddangosai Mr David Jones (Mri D. Jones a Roberts) dros yr hawlyddes, a Mr William George (Mri Lloyd George a George), Criccieth a Porthmadoc, dros y diffynydd. Gofynid am i'r diffynydd fyned allan o'r fferm Tachwedd 30, yn ol arferiad yr holl wlad o amgylch pan na byddai cytundeb gwahanol, tra y dadleuid mewn amddiffyniad mai Taohwedd 1 yr oedd y ddeil- iadaeth i fyny, ac felly fod y rhybudd i ymadael ar y 30ain yn un dirym.—Mr David Jones a ddy- wedodd fod tenantiaeth amaethyddol yn terfynu yn ol arfer gwlad ar Tachwedd 30; ac yr oedd arnynt eisieu cael gwared a'r diffynydd am ei fod yn trin y tir mor gywilyddus o wael, a bod y lie yn cael ei wneud yn fwy diwerth flwyddyn ar ol blwyddyn. Byddai iddo roddi i mewn y rhybudd i ymadael, a galw tri o brif oruchwylwyr yr etifeddiaethau o amgylch i dystio am arfer gwlad gyda'r adeg i fyned o fferm.—Mr George a! ddy- wedodd nad oedd angen galw neb i brofi hyny gan yr addefai yr oil; ond yn yr achos hwn yr oedd cytundeb gwahanol, a'r talebau am yr ardrethi yn dangos mai Tachwedd 1 oedd yr adeg i fyned allan.—Mr Moses Williams a dystiodd ei fod yn dal Penygraig er Hydref 1890. Bu ei dad fyw yno 45 mlynedd, ac yn 1889 bu farw. Yn Hyd- ref, 1890, aeth i wel'd Mr a Mrs Fisher, yperchen- ogion, a dywedwyd wrtho y caffai y lie o'r dydd hwnw. Gan mai yn Tachwedd 1 yr oedd yr ardrethi yn ddyledus, daliai mai dyna'r adeg i fyned o'r lIe ac nid ar y 30ain.—Pwyswyd arno gan Mr D. Jones, ac addefodd na1 wyddai am Ie yr ymadawid o hono ar Tachwedd 1. I afon Oonwy gario llawer o'i gnwd ymaith, ac mai yn Rhagfyr y dechreuodd godi ei feipiau i fyny ond gwadai fod dwy ran o dair o dir y fferm ar doriad ganddo. Methai weled pa les oedd cwyno iddo gael ei adael yn y lie o Tachwedd laf hyd v 30. Y Bamwr a ddywedodd fod arfer gwlad i sefyll os nad oedd cytundeb ac atebodd Mr George fod un geiriol. Ond sylwodd ei Anrhyd- edd na phrofwyd hyny o gwbl.—Ei Anrhydedd Rhaid i arfer gwlad sefyll, a'r adeg i roddi tir i fyny oedd Taohwedd 30, ac nid oedd dadl am foment ar hyny. Meddiant mewn 14 niwrnod, a'r holl elw dyledus mewn ardreth, etc., i fyny hyd yn awr. Porfa'r Felen a'i Chiw.-—Mrs Williams, Pare, Penmachno, a ofynodd Mr Robert Griffith, Blaen Buarth, Penmachno, o 15s, tal am borfa merlcn mynydd a'i chiw fu'n pori.—Ymddangosai Mr D. Jones dros yr hawlyddes, a Mr E. Davies- Jones dros y diffynydd.—Cymerodd yr achos amser maith i'w wrandaw. Ymddengys fod y diffynydd wedi cymeryd lie pori i dri o anifeiliaid o Mai i Calan gauaf am 30s gan Mr David Davies, a chymerai Ie gan yr hawlyddes i bori anifeiliaid, a thalodd y swm hwnw i Davies ond ymddengys i'r farlen fwrw ciw yn ystod yn amser ac iddynt gael eu troi i Ie Mrs Williams, ao i 10s gael eu dychwelyd i'r diffynydd gan Davies o'r swm a dal- odd. Dadleuai y diffynydd ar yr ochr arall mai tir cyd-rhwng Davies a Williams (yr hawlyddes) oedd yr oil, ac na bu iddo gytuno o gwbl a Wil- liams am y lie. Talodd y swm y cytunodd am dano i Davies.—Y Barnwr: Yr oedd yn amlwg nad oedd cytundeb rhwng Griffith a Mrs Wil- liams ond a Davies. Aeth ei ferlen a'i chiw i Ie yr hawlyddes, a rhaid oedd talu am hyny y swm rhesymol a ofynid a'r costau.
[No title]
Bu i Dr. Macdonald, meddyg adnabyddus mewn ymarferiad yn Oefnmawr, ger Rhiwibon, gyfarfod a damwain, ddydd Sul, barodd niweidiau arswydus iddo wrbh ddreifio yn nghymydogaeth Actfefair. Dychrynodd y ceffvl e rhedodd ymaith, gyda'r canlyniad i'r meddyg a'r gyrhd- ydd gael eu hyrddio i'r llawr. Niwcidiwyd y gyriedydd yn ddrwg iawn, ond y mae niwjidrw J y doctor o natur fwy axswydus fyth.
I Esgob Newydd Bangor.
Esgob Newydd Bangor. EI GONFFIRMIO YN LLUNDAIN. Am ddeuddeg o'r gloch ddydd Mawrth cymer- odd y seremoni o gadarnhau etholiad Deon Llan- elwy fel Esgob Bangor le yn Eglwys St. Mary-le- Bow, Llundain. Cymerodd rhan gyntaf y gwas- anaeth le yn yt festri, yn mlia le y rhoddodd yr Esgob etholedig ei gydsyniad i'w etholiad. Wedi i'r Litani gael ei ddweyd yn yr EghYJs gan y Ficcr, ffurfiodd y Prif-ficer ei lys, a gofyn- odd Mr Moore, fel proctor Deon a Glwysgor Ban- gor, am. gadarnhad i'w peiiodiie 0 Dr. Williams fel Esgob. Darllenwyd y Wys Frenhinol yn hyglyw gan Syr John Hansard, a chafodd yr Es- gob newydd, ar yr hwn yr oedd y Canghellydd Tristram, a chaplan yn gweini, ei "gyflwyno yn swyddogoi." Yna Syr John Hanham, Bar., a ofynodd a oedd gwrthwynehiacU Ar unwaith neidiodd Mr John Kensit—gyda'r hwn yr oedd ei wraig, ei fab, a'i ferch, a nifer o ddily nv.'yr.fel gvvelwyd wedyn— ar ei draed a dechreuodd ddarllen protest. "Yr wyf fi, John Kensit." Ataliwyd ef ar unwaith gan Syr John Hanham, gan ddweyd- wrtho am fyned i siarad gyda'r Prif-ficer. Yr oedd hyn yn beth newydd. Nid oedd modd clywed Dr. Deane, yr hwn sydd yn bur wan, yn eglur, ond sylwodd yr hyn ddywedodd oedd gofyn pa un a oedd gwrthwynebiad Mr Kensit i ffurf yr -etholiad gan y Deon a'r Glwysgor ? I hyn yr oedd yr atebiad yn y nacaol. Yna dilynodd nifer o ffurfiau cyfreithiol dyryslyd iawn i'r meddwl cyffredin, ond i'r swyddogion Eglwysig presenol oeddynt y gweithrediadau mwyaf naturiol ac ar- feredig. Pan y galwyd ar y gwrthwynebAvyr yr ail waith caniatawyd i Mr Kensit ddarllen ei bro- test. "Yr wyf fi, John Kensit, wedi fy medyddio, fy nghonffirmio, a'm derbyn yn aelod o Eglwys Loegr,, trwy hyn yn dymuno protestio yn erbyn cadarnhad penodiad Dr. Wilhams yn Esgob Ban- gor." Yna aeth Mr Kensit yn mlaen i roddi rhesymau dros ei ymddygiad. Dywedai i Dr. Williams, "er y byddai raid iddo wrth ei ordeinio addaw yn ddifr:fol yn ngwasanaeth ei ordeiniad fod yn liyddlon i egwyddorion Eglwys Loegr, benodi yn gaplan arbrofol y Canon D. W. Thomas, ficer Caergybi, ac aelod o frawdoliaeth sydd yn gwneud pob ymdrech i ddwyn ein Heg- lwys a'n cenedl i ofergoeledd tywyll Eglwys Rhuf- ain, trwy adfer yn yr Eglwys hono offerynau (masses) tros y byw a'r meirw, a rhoddi y gyffes- gell ffiaidd ynddi. Enw'r frawdoliaeth yw Eng- lish Church Union. Y mae penodi aelod o frawd- oliaeth felly i holi gwyr ieuainc ar gyfcr y weini- dogaeth yn gwbl groes i'r llw a ofynir ar gysegr- iad esgobion, ac yn dangos yn amlwg fod Dr. Williams yn hollol anghymwys i'r swydd uchel o brif-fugail." # Yna dilynodd golygfa na welwyd ei chyffelyo yn yr eglwys er 1847, pan y bu i'r gwrthwyneb- iad hirgofiadwy i Dr. Hampden stopio trafnid- iaeth yn nghymydogaeth yr eglwys. Pan y gor- phenocld MT Kensit ddarllen, rhoddwyd cymer- adwyaeth uchel iddo gan ei ddilynwyr. Ni ddangosai y Prif-ficer unrhyw' arwydd o deimlad, er y deallid ei fod yn biniadu gofyn am sicrwydd am' gostau y gwrthwynebiad; yr oedd y prif- gofrestrvdd, Syr John Hassard, K.C.B., yn ddelw o urddas wedi ei dramgwyddo yr oedd agwedd Syr John Hanham yn un gyfunol o ddig- ter a difyrvvch; tra yr oedd yr Esgob newydd yn meddianu ei hun gydag urdijasolrwydd, a phe na byddai yr olygfa yn yr eglwys, buasid yn tybio y buasai ei"sense of humour" ef yn ei drechu. Wedi i'r Esgob gymeryd y llwon arferol, gollyng- odd y cynulliad o Gymry synedig a dilynwyr Mr Kensit, trwy iddo gyhoeddi y Fendith gan godi ei ddwylaw.
[No title]
YD. LLUNDAIN, Dydd Llun (Ohwefror 6ed).- Tawel oedd y fasnach mewn gwenith cartrefol a thra- mor ac yr oedd y prisiau 1/- y chwarter is na'r wyth- nos ddiweddaf Yr oedd blawd, hefyd, yn is 0 6c y sach. Haidd yn debyg yr un bris—haidd y Crimea 18/- ex-quay. Leirch yn raf. Y Libau du, 15/6; yr Americanaidd cymysgedig,16/- ex-quay a'r gwyn 17/3 y chwarter wedi ei lanio. Tawel oedd indrawn Yr Americanaidd cymysgedig, 18/9 ex-ship; a'r crwn bychan, 19/- ex-ship. LERPWL, Dydd Mawrth (Chwefror 7fed).—Tawel oedd y fasnach mewn gwenith yn Lerpwl heddyw. ond yr oed'd le y canpwys drutach na dydd Gwener eto, galw bychan oedd am dano. Y Califforniaidd yn gwerthu o 6/9 i 6/10 y canpwys. Ton y fasnach mewn blawd yn wanacli, Ceirch a blawd ceircIT yn araf, ond y prisiau yn sefydlog. Indrawn yn dawel: 1 1 4 r —yr Americanaidd cymysgedig, hen, o 3/9 i 3/84 '• eto, newydd, o 3/85 i 3/8 Cinquantina, o 4/7 i 4fl; Galatz ac Odessa, 4/- i 4/1; a phys, 5/10 y canpwys. Ffa Saidaidd, o 28/9 i 29/- y chwarter. ANIFEILIAID. LLUNDAIN (Smithfield), Dydd Llun (Chwefror 6ed).-Cyflenwad gweddol o wartheg yn y farchnad ond araf oedd y galw, a'r pjisiau braidd yn is. Biff 1 sgotaidd goreu, 4/4 i 4/6 yr wyth pwys. Cyflenwad gweddol o ddefaid, hefyd;' ond araf iawn oedd v fasnach. Y Downs goreu, 5/6 i 5/8 yr wyth pwys. LERPWL, Dydd Llun (Chwefror 6ed).-Yr oedd y cyflenwad o wartheg yn llawer iawn llai. Galw da am y rhai goreu, yn ol llawn brisiau yr wythnos ddiweddaf. Y rhai canolig ac is-raddol wedi gostwng. Nifer y defaid orftidd yn fwy. Galw araf yn ol oddeutu y prisiau diweddar am y matliau goreu: lotiau eraill yn is, ac yn anhawdd eu gwerthu. Riff, o 4c i 6ic v pwys; defaid, 4c i 8ic y pwys. 4 Yr oedd yn y farchnad —Gwartheg, 931; defaid. 4044. GWRECSAM. Dyddi Llun (Chwefror 6ed).-O herwydd gerwinder yr hin yn Ngwrecsam ddydd Llun, nid oedd y cyflenwad o ystoc mor fawr ag arfer; ond daeth y piyn-sryr yn mlaen yn dda, ac yr oedd pethau yn pasio yn bur foddhaol. Biff vn gwneud o 51c i 6jc myton, o 7c i 8c; a lloi, o 7c i 8c y pwys. Buchod llaeth vn gwerthu i fyny i 20p y pen, a lloi magu i fyny i 54/- y pen. Defaid a moch yn gwerthu yn weddol dda. BIRMINGHAM, Dydd Mawrth (Chwefror /fed). -Byehan oedd y cyflenwad o ystoc yn marchnad Birmingham heddyw, ond yr oedd v galw yn lied dda. Gwartheg Hereford goreu, o 6c i 6c y pwys 4 mathau eraill, o 4^c i 5fc mytor, o 8c i 84C am fyllt, ac o 5c i &.tc y pwys am famogaiv myherin. Moch bacwn, o 7/- i 7/10 yr ugain pwys tc, o 9/2 i 9/6 a hychod, i 6/3 i 6/6 yr ugain pwy: SALFORD, Dydd Mawrth (Chwefror 7fed).-Yr oedd lleihad o 370 yn nifer v gwartheg, a 780 -n nifer y defaid, rhagor yr wythnos ddiweddaf. Kifer yr ystoc a ddangos^vyd Gwartheg, 2501; defaid, 7339; lloi, 147; a moch, 55. Y prisiau -Bitf. o 4ic i 6-&c y pwys defaid. o Sc i 841 c lloi, o 5ic i 9c y pw^rs. Moch, o 7/6 i 8/- vr ugain pwys. GWAIR A GWELLT. LERPWL, Dydd Sadwrn (Chwefror 4ydd). — Hen wair, 2/10 i 4/- y canpwys (112 pwys): gwellt gwenith, 1/3 i 1/7; gwellt haidd, 1/2 i 1/4; gwellt ceirch, o 1/3 i 1/6 y 112 pwys. TATWS, MAIP, etc. LERPWL, Dydd Sadwrn (Chwefror 4ydd). Maip, o 19/- i 20/- y dunell. Pytatw:—Giants, o 2/2 i 2/4; main crops, 2/8 i 3/3; Bruce, o 2/4 i 2/9 y 112 pwys. Maip, o 6c i lOc v 12eg bwns. Sweds, o 1/2 i 1/6 y 112 pwys; carrots, o 2/9 i 3/4 y 112 pwys; wynwyn cartrefol, o 6/3 i 7/ eto, tramor, o 4/9 i 5/6 y 112 pwys. LLUNDAIN, Dydd Sadwrn (Chwefror 4ydd).- Yr oedd cyflenwadau cymedrol o bvtatws yn cael eu cynyg ar werth yn marchnadoedd y Borough a Spitalfields; ond araf oedd y galw, a'r prisiau yn wanaidd. Prisiau:—Abundance, o 65/- i 70/- y dunell; hebrons gwynion, 65/ Regents cynar. o 60/- i 65/ Reading giants, o 55/- i 70/ magnums, o 55/- i 65/ Bruce, 55/- i 70/ up-to-dates, 60/- i 75/- maincrops kidney, o 60/- i 70/ blacklands, o 55/- i 60/- a German. 55/- y dunell. YMENYN. CORK, Dydd Mawrth (Chwefror 7ied).-Firsts, 105/- y 112 pwys; seconds, 101/ thirds, 94/ Fine mild, 102/ Kegs, seconds, 94/- y 112 pwys. Yr oedd 26 o firkins yn y farchnad. GWLAN. BRADFORD, Dydd Llun (Chwefror 6ed).—Er nad yw prisiau gwlan yn is, nid oes llawer o fasnach yn cael ei gwneud, ac nid oes neb yn prynu ond ar gyfer anghenion presenol.
Marchnadoedd Cymreig, &c.
Marchnadoedd Cymreig, &c. BANGOR, Friday, 11 o'clock. MEAT, BUTTER, and EGGS.-Fresh butter, 1/6 per lb.; eggs, 12 for a shilling Irish, Danish, and Canadian butter, lOd to 1/- per lb. beef and mutton, 6d to lOd per lb. veal, 7d to lOd per lb. pork, 6d to 9d per lb. ham and bacon, 5d to 8d per lb. fat pigs, 5gd to 3^d per lb. FISH, POULTRY, and GAME.—Chickens, 3/- to 4/6 per couple; fowls, 3/- to 3/6 each; goslings, 5/- to 10/- each; ducklings, 216 to 3/6 each; hares, 3/- to 4/6 each rabbits, 2/- per couple pigeons, 1/4 per brace; pheasants, 5/6 per brace; partridges, 3/6 per brace; wild ducks, 5/- per brace; ducks, 2/6 to 3/6 each; geese, 5/- to 10/- each turkeys^ 4/- to 18/- each; soles, 1/4 to 1/8 per lb. turbot, 6d to 1/2 per lb. brill, 6d to lOd per lb. halibut. 6d to lOd eaoh; lemon soles, 8d to lOd per lb. plaice, 4d to 5d per lb. whiting, 4d to 6d per lb. dabs and hake, 4d per lb. gurnets, 3d ner lb. skate, 4d per lb. cod, 3d to 6d per lb. haddocks, 4d per lb. lobsters, 2/- each slirimps, 5d per pint. FRUIT and VEGETABLES.—Potatoes (new), d per lb. carrots, !d per lb. turnips, Id per bunch; parsnip". Id per lb. cabbages, 2d each cauliflowers, 4d each; celery, 2d to 4d per stick leeks, Id per bunch; grapes (English), 2/- to 4/- per lb.; do. (foreign), 6d to 8d per lb. tomatoes, 8d to 1/- per lb. apples, 3d to 4d per lb. pears, 4d to 6d per lb. AMLWCH, Saturday.—Butter, 1/3 per lb. eggs. 18 for 1/ beef, 7d to 9d per lb. mutton, 8d to 9d per lb. pork, 6d to 8d per lb. foreign beef, %d to 7d per lb. foreign mutton, 5d per lb. rabbits, lOd each; geese, 5/- to 6/- each; chickens, 3/6 per couple; ducks, 2/6 each; fowls, 1/6 each potatoes, 5/- to 5/6 a sack; cod, 2d to 3d per lb. apples, 3d per lb. honey (Welsh), 1/3 per lb. CARNARVON, Saturday.—Fresh butter. 1/4 to 1/5 per lb. fresh eggs, 16 to 17 for 1/ mutton, 7d to 9d per lb. lamb, 8d to 9d per lb. pork, 6d to 8d per lb. ham, 8d to 1/- per lb. potatoes (new), d per lb. cabbages. lid to 2d each cauliflowers. 3d to 3id each cucumbers, 4d, 5d, and 6d each tomatoes, 8d to lOd per lb. apples, 2 £ d to 3d per lb. pears, 2d to 3d each; rabbits, lOd, 1/ and 1/3 each soles, 1/- to 1/2 per lb. lemon soles, I/ 1/2, and 1/4 per lb. plaice, 4d, 5d,. and 6d per lb. cod, 4d to 6d per lb. haddocks, 4d. 5d, and 6d per lb. DENBIGH, Wednesday.—The market was well attended to-day, and the price of butter was main- tained. Wheat, 9/- to 9/3 barley, 9[- to 9/3; oats, 5/6 per hobbet; fowls, 3/6 to 5/- per couple ducks, 5/- to 5/6 fresh butter, 1/5 per lb. small pots. 1/2 ditto, large pots, lOd per lb. eggs, 13 to 14 for 1/ potatoes, 5/- to 6/- per hobbet; oatmeal. 2d per lb. HOLYHEAD, Saturday.—Fresh butter. 1/3 ner lb. fresh eggs, 12 for 1/- Irish, Danish, and Cana- dian butters, 7d to lOd per lb. beef. d to 8d per lb. mutton, 6d to 9d per lb. pork, 5d to 8d per lb. bacon, 8d per lb. fat pigs, 341 d per lb. por- kets, 12/- to 18/- each; potatoes, 5/- per 224 lbs. carrots, 9d per 12 bundles; turnips, 6/- per load; apples, 2d to 4d per lb. pears, 3d per lb. oranges, 50 for 1/ chickens, 3/8 per couple fowls, 1/6 eaoh ducklings, 3f- to 3/6 each; hares, 2/6 each: rab- bits, 1/- each pigeons, 8d per brace; pheasants. 5/- per brace; partridges, 3/- per brace; wild ducks. 2/6 per brace whiting, 2d ner lb. dabs. Id per 11). black oats, 14/6 white oats. 14/- hay, 50/- per ton. LLANGEFNI, Thursday.—Fresh butter, 1/6 per lb. fresh eggs. 14 for 1-; beef, 6d to 8d per lb. mutton, 7d to 9d per lb. veal, 7d to 8d per lb. pork, 6d to 7d per lb. ham, 8d to 1/- per lb. bacon, 5d to 8d per lb. fat pigs, 3d to 3jd per ib. porkets, 10/- to 15/- each; potatoes, 5/- to 6/- per sack oats, 14/6 to 15/- per qr. chickens, 3/6 to 4/- per lb. fowls, 1/3 to 1/4 each bares, 2/6 each rabbits, 9d each; wood pigeons, 8d per brace pliea- sants, 4/- per brace; partridges, 2/6 per brace; wild ducks, 3/- per brace ducks, 2/- to 2/6 each. PWLLHELI, Wednesday. —Fresh Butter, 1/3 per lb. fresh eggs, 16 for 1/- beef, 5d to 8d per lb. mutton, 7d to lOd per lb. pork. 6d to 8d per lb. fat pigs, 3d to 30 per lb. porkets. 12/- to 15/- eaoh; potatoes, id per lb. carrots, 1d per lb. turnips, 1d per lb. parsnips. Id per lb. cabbages, 1!d to 2d each; celery, 2d and 3d per stick toma- toes, 9d per lb. apples, d to 3d per lb. fowls, 1/6 and 1/9 each hares, 3/- each rabbits. lOd to 1/- each; pheasants, 4/6 per brace; partridges, 2/9 per brace; ducks, 2/6 each. RUTHIN, Monday.-Wheat, 9/- to 9/6 per hob. bet; barley, 81- to 10/ oats, 5/- to 6/ fresh but- ter 1/2 to 1/4 per lb. fowls, 3/- to 4/- per couple ;i ducks, 4/- to 5/- per oouple; eggs, 12 to 14 fojj
————I Principal Welsh Pairs.…
———— I Principal Welsh Pairs. ANGLESEY. Llangefni February 9., CARNARVONSHIRE. Bangor February 10. i Bethesda February 11.. Vrynkir February 18. Carnarvon February 11. Fourcrosses (near Pwllheli) February 20., Pwllheli February 18. Samfeillteyrn February 14. Tremadoo February 19., DENBIGHSHIRE. £ berSeIe Februaiy 15., Februaiy 2D., Cerrig-y-Druidion February 20., Denbigh February 14 and 15.. Lglwysbach Februarv 24., W rex ham February ó, 13, 20, and 27., t Llangollen Februaiy 28. Llansitntffraid-Glan-Conway February 14.; Ruabon February 24., Chirk February 10.; FLINTSHIRE. Chirk February 10.; FLINTSHIRE. Caerwys February 28.. nt February I DIIYI February 28., MERIONETHSHIRE. February 11., j February 21. 1 Dolgelley February 20. Llanbedr February 18.. Llandrillo February 25.: Llanfihangel-Glyn-Myfyr February 16., | Maentwrog February 9. Towyn Februaiy 25. MONTGOMERYSHIRE. Berriew February 17. Llanbrynmair (Wynnstay Arms) February 27. Llanfyllin February 23. Lianidloes. February 45., Meifod February 4. Welshpool February 6 and 20. N ewtown February 28. NOTE. -We have oarefully compiled the above dates,; but We ,are in no way responsible for any inac- I curacies 7»;hich may happen.
Local Tide Table
Local Tide Table- FEBRUARY. i Morn. Even. Heights I, h. m. h. jn. ft. in.. 9 Thursday 1022 10 50 113 8 10 Friday 1115 11 37 19 9 11 Saturday 0 1 21 0 12 Sunday" 0 25 0 44 21 3 13 Monday 1 4 1 25 21 3 14 Tuesday 1 46 2 4 19 10 15 Wednesday 2 24 2 42 18 2 16 Thursday 3 3 3 24 16 3 17 Friday 3 44 4 11 16 II 18 Saturday 4 46 5 20 11 10 19 Sunday 6 9 6 57 11 2 20 Monday 7 41 8 21 11 10 21 Tuesday 8 56 9 22 12 10 22 Wednesday 9 45 10 6 13 11 23 Thursday 10 25 10 41 15 4 24 Friday 10 57 11 14 16 .f: 25 Saturday 11 29 11 44 11 4 26 Sunday 11 59 27 Mondzly 0 15 0 29 18 8 28 Tuesday 0 44 1 0 18 7. N.B.—The above Tide Table is computed for the Port of Liverpool; for Bangor the time of High Water is twenty-five minutes earlier for Beaumaris twenty-seven minutes earlier; for Carnarvon two hours and five minutes earlier for Llandudno twenty minutes earlier for Rhyl twenty minutes earlier.
Family Notices
Genedigaeth^a, Priodssan, Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Jones.-Ionawr 26, yn Penlan, Tanygrisiau, priod Mr Owen Jones, ar ferch. Jones. -Ion-twr 31, yn 54. BIantyre-road, Lerpwl, priod T. Morris Jones, ar ferch. Jones.—Ionawr 29. yn 3, Graig-terrace, Dinbycb, j priod Mr David Jones, gof yn Chwarei y | Graig, ar fab. I Parry.—-Chwefror 1, yn Cremlyn, Beaumaris. priod Mr Parry, ar ferCIL Phillips.-Iona.wr 29, priod Mr R. W. Phillips, Wyddgrug (mab Mr John Phillips, grocer, Hen- 11a n), ar ferch. PRIODASAU. j Jones—Jones.—Ionawr 28, yn swyddfa'r cofrestrydd, Caernarfon, gan Mr T. G. Jones, Griffith Jones, Menai-street.ag Emma Jones,Penygrisiau-y ddau o Porthdinorwig. Jorss—Williams.—Chwefror 1, yn Eglwys Crist, Llanfairfechan, gan y Parch E. J. Owen, Henry A. F. Jorss, unig fab y diweddar Henry F. Jorss, o Leeds, a Mary A. Williams, merch hynaf Mr Moses Williams, Victoria Inn, Llanfairfechan. Roberts—Jones.—Chwefror 7, yn swyddfa y cofres- trydd, Llanerchymedd, gan y Parch R. Thomas, Mr Rowland Roberts, Bodafon Dulas, a Miss Ann Jones, Vigin Fawr, Llanallgo. Roberts- -Roberts.-loiiitwr 28, O. Caerwyn Roberts, Lerpwl. ag Annie, ail ferch Griffith. Roberts, Ulyn- dwr, Cwmyglo. ,.WUlian.u-Nl-uminery.-Iona.-vvT 26, yn jswvddfa'r eofrestiydd, Bangor, gan Mr LewisM orris, Hugh Williams, Llwynon, Talybont. Bangor, a Mary Mummery, Railway Cottage, Llangaffo, Sir Fon. i Willia.ms-Holt.-Ionawr 30, vn Eglwys Crist,Caer- narfon. gan y Parch J. W. Wynne Jones, M.A. ficer, Mr Richard Williams, ironmonger, mab ieuengaf Mr David Williams, 2, Eleanor-street, a Miss Martha Hilda Holt, merch ieuengaf Mr John Holt, 5, Constantine-terrace—y ddau o uaer- narfon. MARWOLAETHAF. Eva,us.-Ion,twr 28. yn 26 mlwydd oed, Thomas R. Evans. 24, Fell-street, Lerpwl. j Jones.—Ionawr 28, William Samuel, mab hynaf Jane 1 Jones, 19, Preston Grove, Lerpwl. jones.—Ionawr 28, yn 47 mlwydd oed, David Jones, 49, Hendre-street, Caernarfon, mab-yn-nghyfraith y diweddar Mr Griffith. Williams, Morfa. Jones.-loiia-wr 29, yn 32, Luton Grove, Lerpwl, yn 69 mlwydd oed, William H. Jones. jones.—Chwefror 5, yn 46, Ambrose-street, Hirael, Bangor, Mrs oj ones priod Cadben R. Jones yn 56 mlwydd oed. Lewis.—Ionawr 28, yn ei breswylfod. 4, Jew-street, Caergybi, yn 16 mlwydd oed, Thomas Lewis. Owen.—Chwefror 2. yn Rhosbodrual, ger Caernar- fon, Mr Hugh Owen, gynt o Cae Phillip, ger Cae- athraw. Williams.-Chwefror 6. vn 23 mlwydd oed. William Henry Williams, mab William a Mary Williams, Club-street, Hirael, Bangor. Dioddefodd ei gys- tudd yn dawel, ac yr oedd vn ddyn ieuanc hynaws a charedig. Bu yn y swyddfa hon am saith mlyn- edd fel egwyddorwas, ac yr oedd yn fawr ei barcbi yn mhlith ei luaws gydweithwyr. Heddwch i'w, lweh. Argraphwyd a Chyhoeddwyd dros y North Wales Chronicle Company, Limited, gau David Williams*: yn y "North Wales Chronicle" a'r "Gwalia Primfc- ing Works, Caxton House, High-street, B-g-, yrJ. Mhlwyf Bangor, yn Sir Gaernarfon ac yn Swyød- fa y "Clorianydd," Bridge-street, i^angefni. y* Mhlwyf Llangefni. Sir Fon. gan John Williua* Dydd Iau, Chwefror 9, 1899.