Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

i Agcriad y Senedd. '

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

i Agcriad y Senedd. Dydd Mawrth agorwyd y pumed tjmhor o 14eg Sonndd ei Mawrhydi trwy Ddirprwyaeth Fren- hinol. Yr Arglwydd-ddirprwywyr oeddynt yr Arglwydd Ganghellydd, Iarll Hopetoun, larll Coventry, Arglwydd Balfour, ac Arglwydd James o Hereford. Yr oodd aelodau Seneddol wedi dychwelyd i "Westminster i ail ymaflyd yn eu gwaith. Y cyn- taf i groesi trot hwy'r ty ydoedd Mr J. C. Macdona, Ceidwadwr, ac aelod dros Rotherhithe, aeth i mewn am un o'r gloc-h y boreu, a'r nesaf ydoedd Mr Ascroft, aelod dros Oldham. Mr Asoroft, mae'n debyg, fu yn dal yr anrhydedd o fod y cyntaf i fewn am rai blynyddau. 0 un i lID chwy ddwyd y nifer, ac erbyn deg y boreu yr oedd 26 o gefnogwyr y Prif Weinidog, a 20 o'r W rtli- blaid yn eu &eddau yn barod i ddeohreu gweithio. Affn han-er awr wedi de- aeth y Sergeant-at- Arms, a nifer o'r Beefeaters, i lawr i ystafelloecid isaf y ty, er mwyn dwyn allan i oleuni dydd rai 0 ddisgynyddion bechgyn Brad y Powdwr Gwn. Oddiar amser y Brad y mae yr archwiliad hwn yn caoi ei wneud, ond ilit givybod nad oedd neb o ach Guy Fawkes yn ymguddio yno. Erbyn canol dydd lroie(id oddeutu 100 o. aelodau wedi sicrhau eu hoff seddau. Am chwarter i ddau daeth y Llefarydd i mewn a chymerodd ei sedd. Darllenwyd y gweddiau, ac yna. cafwyd ymdaith o'r aelodau heabio i sedd y Llefarydd a bu yno ysgwyd (twy- law. Wedi'r ysgwyd dwylaw, daeth cludvdd r "Wialen Ddu i orchymyn presenoldeb pawb yn Nliv Tr Arsrlwvddi. Wedi ychydig seibiant, gwnaeth y Llefarydd, yn oael ei ddilyn gan v Rhingyll Arfau, a nifer liosog o aclodau y Ty Isaf,eu hymddangosiad wrth y Wedi hyny, hysbys»dd yr Arglwydd Ganghell- ydd, yn y ffurf arferol, nad oedd hi yn gyfleus i'w Mawrhydi fod yn bresenol ar yr achlysur hwnw, i a bod dirprwyaeth wedi cael ei phenodi o dan y I Sel Fawr yn awdurdodi Tywysog Oymru, a phen- defigion eraill, i wneud pob peth oedd yn aingen- rheidiol yn ei henw hi i agor y Senedd. Yna darllenodd yr Arglwydd Ganghellydd Arareth y Frenhines, yr hon sydd fel y canlyn — Fy Arglwyddi a Boneddigion, Y mae fy nghysylltiadau a Galluoedd eraill yn psrhau i fod yn gyfeillgar. Diweddodd yr ymgyrch yn erbyn y Derfisiaid, yr hon a gar- iwyd allan gyda medrusrwydd anghyffredin gan I Syr H. Kitchener, a'r swyddogion a weithredent o dano, yn nghwymp Omderman, ac yn Uwyr ddarostyngiad y tiriogaethau oedd wedi dyfod o I dan Lywodraeth y Khalifa. Yr wyf yn teimlo yn falch i gydnabcd y gwroldeb anghymharol ae ymddygiad y corphluoedd Prydeinig ac Aipht- aidd a enillaeant y fuddugoliaeth hon. Y ma.e fy swyddogion wedi ymgymeryd a'r gwaith, mewn cysylltiad ag eiddo ei Uchelder Brenhinol y Khedive, i sefydlu trefn yn y tiriogaethau sydd wedi eu gorchfyrru. Y mae y Galluoedd sydd wedi bod yn per- chenogi Creta wedi trosglwyddo yr awdurdod angenrheidiol er llywodraethiad yr Ynys i'w Uchelder Brenhinol v Tywysog George o Groeg. Y mae yr adferiad o heddwch a threfn sydd wedi dilyn sefydliad ei Uchelder Bren- hinol wedi c&el derbyniad croesawus gan y Oretiaid o'r ddau fath o grefyddau. Y imo ei Uchelder Ymherodrol, Ymher- awdwr Rwssia, wedi gwysio cynhadledd er ystyried y posibilrwydd o gyfyngu yr arfau enfawr, pa rai sydd yn faich mor gostus ar bob tenedL Yr wyf fi yn barod wedi amlygu fy tuharodrwydd i gymeryd rhan yn i ymgynghor- iadau. ^Vchoswyd argraph dwfn trwy v y trosedd dy- chrynllyd a amddifadodd bobl Awstria-Hungary o'u hymherodres anwyl. Oafodd Cynhadledd, yn mha un yr oedd fy nghynrychiolwyr yn brewnol, ei chynal yn Rhuf- ain, er ystyried peryglon brad-gynlluniau yr Anawhiaid. Nid oeddwn yn alluog i gydolygu a'r holl gynygion yn y gynhadledd. Ymddengys yn angenrheidiol wrth rai gwelliantau* yn nghyf- reithiau presenol y deyrnas ar y pwnc hwn a bydd iddynt gael eu gosod oliin eich ystyriaeth. Ymwelwyd a rhai o'm Trefedigaethau yn ^s gorllewinbarth India a chorwynt oedd o fifyrnig- rwydd anghyffredin. gan achosi colledion mewn bywydau, a dirystr mawr ar dai ac eiddo eraill. Estynwyd cynorthwy dioed i'r trigolion tlotaf, mewn canlyniad i'r cyfyngder hwn, mor bell ag yr oedd hyny yn bosibl, trwy ymdiechion egnial yr awdurdodau lleol, yn cael eu cynorthwyo trwy danysgrifiadau o drefedigaethau eraill, ac o'r Deyrnas Gyfunol. Yr wyf wedi cael ar ddeall, a hyny gyda liawer o foddhad, fod Senedd Penrhyn Gobaith Da wecli cydna.bod yr egwyddor o gyfrifoldeb cyffredin o amddiffyniad llyngesol fy ymherodraeth, trwy ddaxpai-u tanysgrifiad blyny-ddol parhaus tuag at yr amcan hwn. Y mae'n ofidus gcnyf ddweyd fod y pla yn par- hau mewn rhanau o'm Hymherodraeth Indiaidd ao er ei fod wedi lliniaru mewn rhai lleoedd, y mae wedi. ymledu i leoedd newydd yn y rhanau deheuol a gogleddol o India. Parheir i arddangos ymdrechion dibaid i estyn ymwared i rai sydd yn dioddef oddiwrth yr afiechyd, i atal ei ymled- aeniad yn India, ac i atal ei drosglwyddiad i w lodydd eraill Y u-iadn dda gtenyf fod yn alluog i'ch hysbysu fod cynhauafau y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn un toreithiog, a bod masnach a chyllid y wlad wedi cael ei hadfer gyda chyflymder, ac mor drwyadl ag oedd yn myned tuhwnt i bob dis- gvryliad. Fonoddigion Ty y Cyff-redin,- Geaodir yr amacangyfrifon am y flwyddyn ger eiah bron ac y maent wedi eu tynu allan gyda'r oynildeb mwyaf y mae yr amgylchiadau presenol yn ei ganiatau. Fy Arglwyddi a Boneddigion,- Bydd i Fesur er ymwneud mewn modd mwy 11 awn a Llywodraethiad y Brifddinas gael ei osod o dan eich ystyriaeth ofalus. Bydd i Fesnr er sefydlu Bwrdd Gweinyddol i Y sgolion Elfenol, Ailraddlol, a Ohelfyddol, yn Iloegr a Ohymru, gael eu gosod eto o'ch blaen. Yr ydych eisoes wedi bod yn ystyried darpar- iaethau er gwneud gweithredisid deddfwriaeth breifat yn YsgjoWand yn fwy syml. Bydd idd- ynt gael eu gosod erer eich bron eto. Bydd i Fesur gael ei osod ger eich bron er gall- uogi awdurdodau lleol i gynorthwyo y rhai sydd yn dal aneddau bychain i brynu eu tai. Oyflwynir memirau hefyd er cefnogi amaeth- ydiddaeth ac addysgiaeth amaethyddol yn yr I worddon, ac er estyn cynorthwy i'r rhai sydd yn talu degwm yn y wlad hono. Hefyd, i ddar- paru dosbarthiad mwy cyfiawn ar y cyflenwad o ddwfr mown achosion o gyfyngder yn y brifddinas, er rheoleiddio owmniau cyfyngedig gyda'r amcan o atal Uygriad nwyddau ymborth, i reoleiddio y cytundebau a wneir gan echwynwyr arian gwella DedMau y Ffactris mewn cyfeiriadau neillduol, a diwygio y ddeddf sydd yn dal perbhynas a dal- iadau amaethyddol. Gweddiaf am i Dduw Hollalluog eich cymeryd i'w gadwraeth, ac arwain eich ymgynghoriadau er lies fy1 mhobl. Yn union wedi i'r araeth gael ei darllen, ym- neillduoctd y Dirprwywyr a'r Oyffrediniaid, a go- Mriwyd yr eisteddiad. Pan yr ail gyfarfyddodd y Ty am chwarter i bedwar, yr oedd y Ty yn Uawn, ac arweinwyr y ddwy blaid yn eu llooedd. w Oymerodd Syr Henry Hawkins y llw, etc., ar ;el ddyrchafiad i fod yn 'bendefig o dan y teitl o Farwn Brampton o Brampton. Aeth Arglwydd Glanusk (Syr J. Bailey) ac Arglwydd Cranworth XMr R. T. Gurdon) trwy yr un ffurfiau ar eu dyrchafiad i fod yn aelodau o'r bendefigaeth. Oynygiwyd yr Anerchiad mewn atebiad i'r Araeth Frenhinol gan y Due o Bedford ac wrth wneud hyny, llongyfarchai y Llywodraeth ar eu gwladlywiaeth dramor. Oefnogwyd yr Anerchiad gan Iarll Oawdor; a dadganodd ei gydymdeimlad a'i Mawrhydi air teuln brenhinol yn ngwyneh| y golled oedd wedi eu goddiweddyd a chymeradwyai yn fawr raglen y Llywodraeth. Arglwydd Kimberley, wedi cyfeirio gyda phleftei at yr hysbysrwydd a roddid yn yr Araeth Frenhinol o'n cysylltiad a galluoedd tramor, a siaradodd ar y sefyllfai yn y Soudan. Nid oedd efe yn cytuno a'r frawddeg hono yn yr Araeth Frenhinol ein bod wedi "darostwng" yr holl dir- iogaeth oedd wedi bod o dan lywodraeth y Khali- fa ac aeth yn mlaen i alw sylw at y modd yr oedd yn cael ei hysbysu fod y Soudan wedi cael cymeiyd meddiant o honi zan y Frenhines a'r rhaglaw. Yn ol fel yr oekd efe yn ei ddarllen, golygai, nid fod y Soudan yn cael ei osod o dan v rhaglaw, gyda chynorthwy ao mewn cyngrair a'r Frenhines, and ei fod i gael ei oood o dan y Frwnltines ei hun. Modd bynasj. byddai ef yn I berffaith gywir wrth ddweyd ein bod wedi ym- ( gymeryd a chyfrifoldeb y Soudan, ao yr oedd hyny yn golygti eyfrifoldeb o natur bwysig iawn, yn neillduol felly gyda golwg ar y corphluoedd oedd yn ofynol yn y diriogaeth hono. Yr oedd yna beryglon anwahanadwy o berchenogiad y dir- iogaeth enfawr hono, yr hon oedd yn cael ei phreswylio gan: bobl o'r ffydd Fahometanaidd, a chan gorphiuoedd oeddynt eu hunain yn Fahom- etania.d. gallent gael dyogolwch parhaus oddi- eithr fad ganiidynt gorph digonol o gorphiuoedd gwynion, yr hyn a olygai ein bod yn cadw galiu llua-rocach yn barhaus yn yr AiphL Ond yr oedd yn rhaid eu bod yn gwybod am y ff eithiau-yn gyntaf, nad oedd y fyddin, er cyfarfod a'r dyled- swyddau presenol, yn un lluosog mewn un modd ac yn ail, ei fod yn hynod o amheus pa un a allent hwy, heb ymgyrneiyd a mesurau nad oedd neb o honynt yn eu dymuno, sicrhau adfilwyr i'r fyddin i wasanaethu yn y fath hinsawdd a'r Sou- dan am dymor maith. Yr oedd 6fe yn gosod yr ystyriaethau hyn ger bron, gan y gallai owniil yn ei thrachwant o fuddugoliaeth gael ei harwain yn hawdd i esgeuluso edrych ar yr ochr arall i'r darlun, a pheidio ystyried yn briodol y peryglon terfynol, a'r anhawsderau y dichon y gorfodid hwy i'w gwynebu. Wedi cyfeirio, mown modd cydymdeimladol, at genadwri Ymherawdwr Rwssia, cyfeiriodd Arglwydd Kimberley "at yr hyn oedd yn cael ei alw yn y newyddiaduron yn gytundeb a'r Almaen," a gofynodd am hysbys- t rwydd ar hyny. Yna, cwynodd oherwydd yr oediad oedd yn cymeryd lie gyda golwg ar ddwyn I: pethau i derfyniad yn Creta. Wedi cyfeirio at achosion trefedigaethol, trodd at y ddedafwri.e gartrefol y cyfeirid ati yn yr Araeth, ac amlyg- odd ei gydolygiad cyffredinol a hi, er, hwyrach, nas gallai gytuno a'r modd a fabwysiedid gan y Llywodraeth ereu cario i weithrediad. Arglwydd Salisbury, wrth ateb, a ddatganai fod y Soudan wedi cael ei "darostwng," yn yr ystyr eu bod hwy wedi gorchfygu y gallu gwleid- J yddol o dan ba un yr oedd y tiriogaethau hyn yn cael eu dal gynt, eu bod wedi cymeryd meddiant o'r brifddinas, a'u bod yn gweinyddu achosion y wlad hono. Gwadai ef fod dim yn yr iaith oedd- ynt hwy wedi ei ddefnyddio a wnai gyfiawnhau y mynegiad fod y Soudan wedi dyfod yn diriogaeth i'r Frenhines. Yr oeddynt yn dal tiriogaethau y Khalifa o dan ddau deitl. Yr oeddynt yn eu dal, yn ddi-oa, fel yr oeddynt yn rhan o berciien- ogiada.u yr Aipht, ond yr oeddynt yn eu dal hefyd o dan deitlllawer llai cymysejedig, llawer hynach, ac un oedd yn cael ei ddeall yn llawer gwell-teitl o oresgynwyr. Gorehfygwyd y tiriogaethau gan y corphluoedd Prydeinig ac Aiphtaidd, ac yr oedd efe wedi cymeryd gofal yn ei ohebiaeth gyntaf a Llywodraeth Ffrainc i osod eu teitl hwythau ar sylfeini gorc-hfygiad, am ei fod yn credu ei fod yn fwy defnyddiol, syml, ac iachus, o'r ddau. Ond ymwrfchodai, mewn modd difrifol, ag unrhyw gasgliad a dynid eu bod yn bwriadu cyflawni un- rhyw anghyiiawnder tuag at raglaw yr Aipht. Yr oeddynt wedi cydnabod yn llawn ei afle ef. Mewn perthynas i'r gweinyddiad yn y Soudan, yr oeddynt wedi cael cyfleusderau anarferol yn y llineU o ffordd haiarn a wnaed mewn modd mor hynod gan Arglwydd Kitchener ac yr oedd efe yn gobeithio y chwanegai gwneuthuriad llinell arall o ffordd haiarn—ond yr hon rad oedd yn cael ei gwneud mor gyflym ag y dymunai—yr hon oedd yn dyfod o'r deheu, lawer at sefydliad y sef- yllfa -hono ar bethau y dymunent eu gweled wedi eu hadfer. Amddiffynai yr ymgyroh i'r Soudan ar y tir eu bod yn cael eu gorfodi trwy weithred- iad y Khalifa. Gyda golwg ar yr anhawsderau i'r corphluoedd, cyfarwyddid ef na byddai yr ym- drech yn un lem o gwbl i'r milwyr Prydeinig. Wrth ateb cwestiynau Arglwydd Kimberley mewn cysylltiad a'r Almaen, dywedodd Arglwydd Salisbury fod y cytundeb oedd wedi pasio rhwng yr Almaen a Phrydain Fawr wedi bod o nodwedd ffafriol i gyfeillgarwch y ddwy genedl, ao i hawl- iau pawb oedd yn dwyn perthynas a hwy, ac a heddwch y byd. Nid oedd yn ystyried y eyflawn- ai ei ddyled'swydd wrth roddi gwybodaeth bellach ar hyn yn bresenol. Wedi cyfeirio at sefyllfa pethau yn y Dwyrain Pell, ac agwedd y Llyw- odraeth, amddiffynodd Arglwydd Salisbury y Galluoedd yn erbyn y cyhuddiad o ormod o oed- iad yn nglyn a Ohreta. Cyfeiriodd, wrth der- fynu, at lythyr Ymherawdwr Rwssia. Oydna- byddodd burdeb a mawredd ei amcanion, a dy- wedodd fod yn rhaid fod pawb yn dymuno aan, i'w ddyfaliadau gael eu sylweddoli. Nid oedd yn meddwl ei fod yn ddyogel myned yn mhellach na hyny. Yr oedd yna lawer o anhawsderau ar y ffordd a boddlonid ef yn bersonol, 09 diweddai y gynhadledd mewn helaethiad ar ddefnyddiad yr egwyddor o gyflafareddiad, a lleihad yn nychryn- feydd rhyfel pan y cymerai rhyfel le. Rhaid i ni ddilyn eaiampl cenhedloedd eraill; a thra yr oedd y gweithrediadau hyn o heddwch yn cael eu cario yn mlaen, yr oedd yn rhaid i ni fod yn barod i ryfel. Wedi i Arglwydd Stanmore ddweyd ychydig eiriau, cytunwyd ar yr anerchiad. Oododd eu harglwyddi aim ddeng munud wedi chwech. TY Y OYFFREDIN. Ail ymgyfarfyddodd aelodau Ty y Cyffredin dydd Mawrth. Cymerodd y Llefarydd y gadair am chwarter i ddau ac wedi hyny, aethant i Dy yr Arglwyddi i wrandaw Araeth y Frenhines yn cael ei dar- llen. Wedi iddynt ddychwelyd, gohiriwyd yr eis- teddiad. Pan ail ymgyfarfyddwyd am bedwar o'r gloeh, yr oedd y Ty yn llawn. Rhyw ychydig wedi pedwar o'r gloch, daeth arweinydd y Ty (Mr Balfour) i mewn, a derbyn- iwyd ef gyda chymeradwyaeth gan ei gefnogwyr a dilynwyd ef, yn union, gan Syr H. Campboil- Bannemman, a rhoddwyd iddol dderbyniad brwà- frydig iawn. Y PENDEFIGION A'R ETHOLIADAU. Wedi i'r archebion mewn perthynas i ragor- freintiau y Ty gael eu darllen, cynygiodd 0 Mr James Lowther ar fod rhan o'r archeb a ddatganai y byddai pendefig a ymgymerai ag ethoGad aelodau Seneadol yn troseddu ar ryddid y Ty yn cael ei adael allan. Oefnogwyd y penderfyniad gan Syr Wilfrid Lawson. Mr A. J. Balfour a ddywedodd, pe cawsai apel difrifol ei gwneud ato gan arweinydd yr Wrth- blaid, na theimlasai yn rhwym i wneud gwrthsaf- iad pwysig yn erbyn hyny. Ar yr un pryd, nid oedd yn gweled fod un amcan mawr yn cael ei enill trwy y cynygiad chwyldroadol hwn. Ymranodd y Ty. Dros welliant Mr Lowther, 90 yn erbyn, 359; mwyafrif, 269. Wedi hyny, cytunwyd ar yr archeb. RHYBUDDION AM BENDERFYNIADAU. Rhoddodd Mr Balfour rybudd o'r penderfyn- iad arferol mewn perthynaa i ddygiad mesurau yn mlaen, a'r balot. Rhoddodd rybudd, hefyd, y byddai iddo, ar y cyfleusdra cyntaf, ddwyn mesur i mewn er gwneud gwell darpariaeth ar gyfer llywodraeth leol yn Llundain. Rhoddodd Mr Chaplin rybudd am fesur i allu- ogi owmniau y brif ddinas gyflenwi y naill y llall a dwfr mewn achosion o gyfer. Rhoddodd yr Arglwydd Ddadleuydd rybudd o fesur er ymwneud a deddfwriaeth breifat yn Ys- gotland. .J Gerald Balfour a roddodd rybudd am fesur i sefydlu Bwrdd Amaethyddol a diwydianau eraill yn yr Iwerddon. I Rhoddodd Mr Long rybudd am fesur yn ymr wneud a llygriad mathau neillduol o ymborth. h edi i'r Llefarydd ddarllen Araeth y Frenhin- es, cododd Y Cadben Bagot i gynyg yr Anerchiad mewn atebiad i'r Araeth Frenhinol.i Mr W. F. Smith a gefnogodd y penderfyniad. Syr H. Campbell-Bannerman, yr hwn a dder- byniwyd gyda chymeradwyaeth mawr ar bob ochr i'r Ty, a gyfeiriodd at farwolaeth gynamserol wyr y Frenhines-y Tywysog Alfred o Saxe-Coburg— a dywedodd ei fod yn aicr y gallasai ei Mawrhydi ymorphwys ar gydymdcimlad parchus y Ty hwnw a'i holl ddeiliaid. Wrth edrych ar ddigwyddiad- au y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd yna un yn sefyll ar dir uwch na'r trafodaebhau cyffredin oedd yn tynu sylw llysgenhadaethau—yr oedd efe yn cyfeirio at gonadwri Ymherawdwr Rwssia. Nis gallai neb oedd yn gydnabyddus a sefyllfa Ewrop a'r cysylltiad oedd rhwng y Galluoedd a'u gilydd, ac a ddalient mewn cof nodweddion cynhenid y natur ddynol, lai na gweled pa mor enfawr oedd yr anhawsderau ar y ffordd i gyrhaedd yr hyn 1 ddymunid. Ond nid oedd hyny yn un rheswm dros syrthio i anobaith a digaloni. Os na enill :d pobpeth, gellid enill rhywbeth, o leiaf. Llawn- ychai ef oherwydd y sicrwydd a roddid fod ein cysylltiad a Galluoedd eraill yn un q- feillgar, a bod y sicrwydd hwnw yn bynod o bwysig yn ei gysylltiad a Ffraino. Yr oedd ein perthynaa a'r wlad hono wedi gwella er digwyddiad Fashoda, a'r hyn a ddymunai ef wasgu' ar y Llywoilraeth ydoedd, fod y fanfcais lawnaf yn I cael ei chyineryd o'r ffaith hono er symud o'r ffordd hen anhawsderau, mewn unrhyw ran o'r byd, y rhai y gellid eu gosod mewn trefn trwy ymdrafod- aeth gyfeillgar. Nid oedd efe yn coleddu unrhyw amheuaeth o berthynas i'r achos o'r gwelliant hynod oedd wedi cymeryd lie yn y berthynas rhwng y adwy wlad. Rhyw dri mia yn ol, gwnaed arddangosiad o deimla.d, yn mha. un yr oedd pob plaid wleidyddol yn ymuno, a synodd y byd, a'r hwn fel yr oedd efe yn credu, a gyfnewidiodd y golygiad a gymerwyd yn mhob llys yn Ewrop o wir aliu r- wlad hon. Nid oedd yn arddangosiad yn erbyn Ffrainc o gwbl, ond gwrthdystiad yn erbyn y dull yr oedd y Llywodraeth wedi oario ein perthynas dramor yn mlaen yn ystod y ddwy neu dair blynedd diweddaf. Cafwyd fod y Llywodraeth yn gweithredu yn gadarn ac yn gyson yn yr un ac'.ios hwn, a chododd yr holl wlad i'w chefnogi, --i- dangos fod yna achlysuron pan y gallai y wlad y:.iLino, ac y cefnogid y Llywodraeth pan yn gweithredu yn sefydlog a ohadarn. Gofynodd am hysbysrwydd o berthynas i'r trefniad newydd a'r Almaen, a pha gwrs oedd y Llywodraeth wedi ei gymeryd er sicrhau gwell dealltwriaeth a Rwssia. Gofynodd, hefyd, am ryw awgrymiad o berthynas i'n gwladlywiaeth ddyfodol yn y Soudan a gwnaeth ddatganiad nad oedd y buddugoliaethau milwrol ar- dderchog a gafwyd yn ddiweddar wedi symud yr amheHon y rhoddwyd datganiad iddynt gan y Rhydd- frydwyr rhyw dair blynedd yn ol. Wrth droi at ddeddfwriaetli gartrefol, gwnaeth sylwadau ar safle oedd y darpariaethau er ymwneud ag amaethydd- iaeth yn ei gael yn yr Araeth Frenhinol, ac ar absen- oldeb pob oyfeiriad at y cwestiwn o flwydd-daliadau i bobl oedranus. Mr Balfour, yr hwn a atebodd yn ddioed, a gyfeir- iodd nad oedd Mesur Daliad Tiroedd Amaethyddol, a'r mesurau eraill a enwid yn yr Araeth, yn cael eu henwi yn y drefn y byddai iddynt, o angenrheid- rwydd, gael eu cymeryd i fyny. Mewn perthynas i'r blwydd' daliadau i bobl oedranus, nid oedd cyflawn- iadau Senedd i gael eu barnu trwy v rhaglen a ddygid yn mlaen ar ddechreu unrhyw dymhor ond os deuai y Senedd hon i derfyniad heb fod y Llywodraeth yn alluog i gario allan ei bwriadau ar y pwnc, yna byddai gan y boneddwr anrhydeddus destyn rhagorol i'w areithiau yn yr etlioliad cvffredinol nesaf. Mewn porthynas i lythyr Ymherawdwr Rwssia, di- gwyddai ei fod ef yn cymeryd gofal y Swyddfa Dra- mor ar yr adeg y cafodd ei gylioeddi; ac ni ddarfu iddo golli un awr heb anion yn ol, mown iaith wresog, y syniadau a deimlai ef, a pha rai yr oedd efe yn sicr oedd ei gyd-aelodau yn deimlo ar y cwestiwn o heddwch. Yr oedd y boneddwr anrhy- deddus wedi siarad am y Soudan ac yr oedd efe (Mr Balfour) yn cytuno y dylid tori lawr i'r oyfyng- iad Heia.f oedd yn bosibl y nifer o filwyr oedd yn gwasanaethu y tuhwnt i lanau y wlad hon, a thymheredd pa rai oedd heb fod yn gyfadda.s iawn i Ewropiaid. Nid oedd dim, modd bynag, wedi dyfod o fewn cylch ei wybodaeth ef ag oedd yn gosod allan fod y nifer o gorphluoedd gwynion a fyddai yn ofynol yn y Soudan yn un mawr iawn ac yr oedd efe yn meddu gobeithion nad oedd y peryglon y galwyd sylw atynt yn debyg o fod o nodwedd bwysig, nao yn debyg o brofi yn rhy lym a phwysig, mewn dynion nao arian, i'r wlad hon nao i'r Aipht. Tra yn siarad ar bynciau tramor, tybiai y byddai yn gyfleus crybwyll ei fod ef yn bwriadu dweyd wrth vr is- yagrifenydd am beidio ateb cwestiynau heb fod rhy- buddion wedi cael eu rhoddi yn flaenorol; ond nid oedd y cyfnewidiad hwn yn cael ei wneud mewn un modd er lleihau yr hysbysrwydd yr oedd y Llywodr- aeth yn dymuno roddi. Cariwyd y ddadl yn mlaen gan Syr J. J. Lubbock, Mr Channing. Syr C. E. H. Vincent, Syr C. Dilke, ac amryw eraill Mr Brodrick, wrth ateb rhai o'r beirniadaethau oedd wedi cael eu pasio, a ddywedodd na fyddai yn ddoeth datguddio yn bresenol noli gwrs y cytundeb rhwng y wlad hon a'r Almaen ond gallai fyned mor bell a sicrhau y Ty fod y cytundeb wedi cadarnhau yn fawr ein perthynas gyfeillgar a'r Almaen ac mai ei amca.n yn y dyfodol ydoedd, sicrhau rhag unrhyw wrthdar-awiad posibl mewn barn. Gohiriwyd y ddadl ychydig cyn hanner noa, a chododd y Ty. BILIAU AELODAU PREIF AT. Yn Nhy y Oyffredin dydd Gwener, cym- erwyd dros awr i aelodau preifat ddwyn biliau i mewn. Cafodd y rhai canlynol yn mysg eraill eu darllen am y tro cyntaf, a'r dyddiad a enwir ei benodi i'w hail ddarllen:— Mr David Maciver, er arfer gwell disgyblaeth yn Eglwys Lloegr, Mai lOfed. Syr John Willox, i wella deddf athrod, Ebrill 26ain. Mr Warr, i alluogi byrddau ysgolion mewn bwrdeisdrefi neillduol i gynorthwyo yn arianol ysgolion gwirfoddol teilwng. Mr CShanning, i wella y ddeddf o berthynas i ddaliadaeth tir amaethyddol yn Lloegr, Ebrill 26ain. Mr Ellis J. Griffith, i alluogi meddianwyr a thenantiaid yn Nghymru i gael rhoolaeth etfeith- iol dros y fasnach feddwol, Ebrill 26ain. Mr Brynmor Jones, i gyfyngu oriau gweithio dan y ddaear i wyth awr y dydd. Syr Francis Powell, mesur i wneud darpariaeth fwy effeithiol er atal llygriad afonydd a ffrydiau, Mawrth 8fed. Syr James Rankin, i sefydlu cyfundrefn o flwydd-daliadau i hen bobl. Mr Robson, i wella y ddrodf o berthynas i waith ao addysg plant ieuainc, Mawrth laf. Mr Dillon, i ddiddymu deddf troseddau yr Iwerddon, 1887. Mr Michael Austin, i wella deddf addysg gel- fyddydol, 1889. Mr Holland, i wella d-eddf iawn i weithwyr, 1897. Mr T. D. Sullivan, i atal rhoddi hysbysleni ILl y Uawr ar wyneb yr heolydd yn yr Iwerddon. Syr A. Hickman, i wella deddfau iechyd cy- hoeddua. Mr J. W. Sidebotham, i reoleiddio defnyddiad urddau colegawl neillduol yn y Deyrnas Gyfunol a'r Iwerddon. Mr Woods, o berthynas i gerbydresi rhad i weithwyr. Mr Crombie, i wella deddf rheoleiddiad pysgot- feydd yn Ysgotland, 1895. Mr Rothschild, i gyfreithloni priodasau trefed- igaethol neillduol. Mr Billson, i alluogi prydlesddalwyr i ddod yn rhydd-ddalwyr. Mr J. B. Balfour, i hyrwyddo disgyblaeth merched fel byd-wragedd ac i reoleiddio eu gwaith. I Mr Cornwallis, i wella y ddeddf oberbhynas i gyflenwad dwfr gan gwmniau a chyrph eraill a phersonau. Mr C. H. Wilson, i rwystro gwerthiant diodydd meddwol ax y Sabboth. Mr Faithful Begg, i wella deddf y cwmniau. Mr Jacoby, i lywodraethu a rheoleiddio twrw yn yr heolydd. Mr Price, i wella y ddeddf o berthynas i dai gweithwyT. Mr Strachey, i wella y ddeddf o berthynas i drethiant eiddo yn cynwys peirianau. Mr IYMalley, i ddarparu er cael eu lleoedd yn 01 i'r rhai a drowyd allan yn yr Iwerddon. Mr Reckitt, i wella y Petroleum Act, 1879, Mawrth 15fed. Syr Blundell Maple, i gael gwelliant o berth- ynas i bleidlais gwasanaethyddion. Syr Fortescue Flannery, i ddarpar ar gyfer rhoddi blwydd-daliadau i hen bobl gan y Oyng- horau SiroL Syr J. A. Pease, i roddi hawl i ddarpar tai i hen bobl haeddianol. Mr Pym, i hyrwyddo effeithiolrwydd peirianau diffodd tan. Mr Herbert Whiteley, i sefydlu cyfundrefn genedlaethol o flwydd-daliadau, Ebrill 19eg, Mr Gordon, i wella y ddeddf o berthynas i bris- iad eiddo eglwysig yn Ysgotland. Mr Colville, i alluogi ethalwyr i gael rheolaeth effeithiol dros v fasnaeh feddwol yn eu gwahanol etholaethau yn Ysgotland. Mr Fenwick, i ddarpar ar gyfer archwiliad. a chofrestriad berwedyddion. Mr Bartley, i ddarpar blwydd-daliadau mewn hen ddyddiau i'r tlawd darbodus. Mr W. Ambrose, i wella deddf Uofruddiaeth o berthynas i fwriad gweithredol neu gymwysiad- wy. Syr Wilfrid Lawson, i alluogi rhanbarthau trwy ddewisiad lleol i rwystro rhoddiad trwyddedau er gwerthiant diodydd meddwol. Syr T. Lee, i wella y ddeddf o berthynas i werthiant diodydd meddwol yn yr Iwerddon ar y Sadwrn a'r Sul, a phethau eraill cysylltiol. Syr J. Lubbock, i ddarpar ar gyfer cau siopau yn gynarach. Syr Walter Foster, i ddarpar ar gyfer hen bobl dlodion, droo 65 mlwydd oed. Mr Patrick O'Brien, i wneud i ffwrdd a'r rhwys- trau o berthynas i Babyddion yn y Deyrn&s Gyf- unol. Syr 0. Dilke, i wella deddfau rheoleiddiad pyll- au glo. Syr 0. Dilke, i sefydlu un bleidlais yn mhob etholiad, ac felly ddiddymu cymyohiolaeth y prif- ysgolion a'r rhwystrau ar ffordd memhed. 1 Mr Hatch, i roddi blwydd-daliadau i hen bobL Mr Bartley, i wneud i ffwrdd a'r hawl i atafaelu ar y tenant gan y tirfeddianwr, ao i sefydlu cyfun- drefn well a mwy syml i gael meddiant o dir, dal- iadau, etc., pan fo rhent yn ddyledus. i Mr Bartley, i alluogi i denantiaid tai a lleoedd busnes i brynu eu daliadau. Mr Bartley, i walla y ddeddf o bc-rthynas i gyn- orthwy allanol mewn gwaeledd a gw&ddwdod i dlodion darbotlus. Mr Pickersgill, i gael llys i droseddwyr apelio, etc., iddo. f

-__-----------Yr ^i^ei iyddiaeth…

Frisian Cymhariaethol Ymborth…

Y Dadforion o Synyrch Amaethyddol

[No title]

Advertising

Llifogydd yn Ngogledd Cymru.…

Aelwyd y Gan.

[No title]

-------. Prif Farahnadoedd…

Marchnadoedd Cymreig, &c.

Principal Welsh Pairs,

- I Local Tide Table.

I -Shipping.

Family Notices

The Chase.